Agenda item

Diweddariad Cronfa Gofal Integredig (ICF) 2019/20

Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion.

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion a gyflwynwyd i roi trosolwg ar y dyraniad presennol o gyllid ar gyfer prosiectau a gaiff eu monitro gan yr adran Gwasanaethau Cymdeithasol ac a gyllidir drwy Gronfa Gofal Integredig (ICF) Llywodraeth Cymru fel ym mis Tachwedd 2020.

 

Siaradodd y Pennaeth Gwasanaethau Cymdeithasol am yr adroddiad a hysbysodd Aelodau fod Llywodraeth Cymru wedi rhoi diweddariad llafar am ymestyn y gronfa ymhellach ar gyfer y flwyddyn bontio (2021/22), fodd bynnag ni chafwyd cadarnhad swyddogol hyd yma o’r union ddyraniad. Pedwar maes allweddol yr ICF yw:

 

·       Pobl h?n gydag anghenion cymhleth a chyflyrau hirdymor yn cynnwys dementia

·       Pobl gydag anableddau dysgu

·       Plant gydag anghenion cymhleth oherwydd anabledd neu salwch

·       Gofalwyr, yn cynnwys gofalwyr ifanc

 

Yng nghyswllt prosiectau a nodwyd fel blaenoriaeth uchel/critigol, holodd y Cadeirydd os yw’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol a phartneriaid rhanbarthol wedi gwneud ymdrechion cadarn i godi pryderon gyda Llywodraeth Cymru am yr effaith niweidiol y byddai dileu’r cyllid yn ei gael ar y prosiectau hyn. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion fod Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a hefyd yr Aelod Gweithredol Gwasanaethau Cymdeithasol fel cynrychiolwyr ar y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol wedi tynnu sylw’n barhaus at y pryderon dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae graddiad risg y prosiectau wedi rhoi dealltwriaeth glir o’r effaith o hyn ymlaen a rhoddwyd yr adroddiad terfynol i’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol ar y graddiad risg a’r pwysau ariannol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am sut y gallai effaith staff yn gadael effeithio ar redeg y gwasanaethau, dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion y bu hyn yn her drwy gydol y prosiectau ICF, ond gyda sicrwydd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cyllid am y flwyddyn ychwanegol, nid oedd nifer sylweddol o staff wedi gadael ond mae hyn yn risg uchel yn gysylltiedig ag unrhyw raglen cyllid grant.

 

Yng nghyswllt swyddi, holodd Aelod am y gwahaniaeth rhwng swyddi wte (cyfwerth ag amser cyflawn) a swyddi cyfwerth ag amser llawn. Eglurodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion y gwahaniaeth rhwng y ddau; mae nifer o swyddi yn rhai rhan-amser a gall rhai staff sydd â swyddi parhaol rhan-amser o fewn yr awdurdod lleol fod yn gweithio’n llawn-amser drwy wneud yr oriau lan yn defnyddio cyllid ICF.

 

Gofynnodd Aelod am ddiweddariad ar yr estyniad a gynigir i T? Augusta, Glynebwy. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion y bu oedi i ddechrau oherwydd y pandemig ond y cafodd cynlluniau eu hadolygu a’u bod wedi mynd yn ôl i Cynllunio. Mae gwaith ymchwilio yng nghyswllt y gwaith daear eisoes yn mynd rhagddo.

 

Mewn ymateb i gwestiwn Aelod am ddyraniad cyllid Blaenau Gwent ar gyfer Gwasanaethau Oedolion a Gwasanaethau Plant, esboniodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion y gall y broses ddyrannu a chynnig fod yn gymhleth gan fod ffrydiau cyllid refeniw a hefyd gyfalaf o fewn cynllun buddsoddiad yr ICF. Ers 2014 bu cylchoedd cynnig bob blwyddyn, os oedd prosiect oedd yn addas ar gyfer ICF ac yn gydnaws â blaenoriaethau strategol yr awdurdod lleol, yna cyflwynir cynnig i’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol. Mae rhai prosiectau yn rhanbarthol felly byddai cyfran Blaenau Gwent o arian grant yn llai, gan y gallai gael ei rannu bum ffordd. Yng nghyswllt Gwasanaethau Plant a’r niferoedd critigol o blant y maent yn eu cefnogi, gellid cyfrannu peth o’r arian grant a ddyrannwyd i gefnogi prosiectau ehangach yng Ngwent.

 

Esboniodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol pan ddechreuodd y Gronfa Gofal Integredig gyntaf, ei fod yn ymwneud ag oedolion h?n, daeth cyllid ar gyfer plant cymhleth i fodolaeth o 2016 ymlaen, yn hanesyddol mae llawer o’r cyllid wedi mynd i bobl h?n a gwasanaethau oedolion, dim ond yn ddiweddar y gallodd yr Awdurdod wneud cais am gyllid plant a gallai hyn fod yn rhan o’r rheswm am y gwahaniaeth yn y dyraniad cyllid.

 

Yng nghyswllt yr argymhellion, holodd Aelodau os oes gan awdurdodau cyfagos ddulliau gwaith eraill. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion nad oedd awdurdodau cyfagos wedi sôn am ddulliau gweithredu gwahanol, pe byddai Blaenau Gwent eisiau gwneud rhywbeth sylweddol wahanol yna byddai hynny’n caei ei gyflwyno i’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol ei drafod.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef cymeradwyo’r camau gweithredu sy’n mynd rhagddynt ar hyn o bryd i werthuso effaith dod â swyddi a gwasanaethau a gyllidir gan ICF i ben yn y dyfodol.

 

Dogfennau ategol: