Agenda item

Achos Busnes Canolfan Data

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd W. Hodgins fuddiant yn yr eitem hon ond arhosodd yn y cyfarfod tra’r oedd yn cael ei thrafod.

 

Ystyriodd Aelodau adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Siaradodd y Prif Swyddog Adnoddau yn fanwl am yr adroddiad a thynnu sylw at y pwyntiau perthnasol ynddo. Diben yr adroddiad yw:

 

      i.        Cyflwyno’r Achos Busnes dros symud Canolfan Data SRS ym Mlaenafon i Next Generation Data (NGD) yng Nghasnewydd.

    ii.        Cytuno i drosglwyddiad data Blaenau Gwent (a gedwir ar hyn o bryd yn yr Ystafell Gyfrifiaduron yn y Ganolfan Ddinesig a Chanolfan Data Blaenafon) i NGD.

   iii.        Cytuno ar elfen Blaenau Gwent o’r buddsoddiad cyfalaf a refeniw sydd ei angen i fynd â’r prosiect yn ei flaen.

 

Esboniodd y Prif Swyddog Adnoddau y cafodd y ganolfan data ffisegol ym Mlaenafon ei sefydlu i letya’r serfwyr TG sydd eu hangen i gynnal y systemau meddalwedd ar gyfer partneriaid gwreiddiol SRS. Mae hefyd yn lletya Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru ar hyn o bryd, fodd bynnag byddai’r contract hwn yn dod i ben yn y dyfodol agos. Fodd bynnag, ar ôl i Flaenau Gwent a Chasnewydd ymuno â’r SRS, roedd yr achosion busnes ar gyfer Blaenau Gwent a hefyd Gasnewydd wedi cynnwys cytundeb y byddai pob serfiwr yn cael eu trosglwyddo i’r ganolfan data ym Mlaenafon ond cynnydd cyfyngedig a wnaethpwyd hyd yma.

 

Bu’r ganolfan data ffisegol ym Mlaenafon yn ased i SRS a phartneriaid am y 10 mlynedd diwethaf ond heb fuddsoddiad aseswyd bod y ganolfan data yn risg uchel iawn i holl bartneriaid SRS fel canlyniad i ffactorau amgylcheddol. Nodwyd fod angen buddsoddiad o £2.6m dros y 4 blynedd nesaf. Yn ychwanegol, nid yw’r ystafell gyfrifiaduron yn y Ganolfan Ddinesig wedi ei hadeiladu i safonau canolfan data ac ystyriwyd hefyd ei bod yn risg uchel iawn oherwydd pryderon am yr adeilad ac oedran yr offer (yn dod i ben ei oes ddefnyddiol) a byddai angen buddsoddiad i wella cadernid y ddarpariaeth i’r dyfodol. Ymhellach, mae’r Cyngor wrthi’n ystyried dyfodol y Ganolfan Ddinesig a all arwain at fod angen lleoliad(au) arall i letya seilwaith TG yn cefnogi holl wasanaethau Blaenau Gwent.

 

Ym mis Gorffennaf 2020 cytunodd Bwrdd Strategol SRS ar Strategaeth SRS tan 2026 gyda’r nod a gaiff ei rannu i sicrhau darpariaeth ‘cwmwl’ i ffwrdd o ganolfan data ar safle ac fel canlyniad disgwylid y byddai angen gostyngol ond cost gynyddol ar ddarpariaeth safle canolfan data, felly ymchwiliwyd darpariaeth arall ar gyfer y dyfodol.

 

Wedyn rhoddodd y Prif Swyddog Adnoddau fanylion y 4 opsiwn a amlinellir yn yr achos busnes ynghyd â’r costau refeniw/cyfalaf a chostau dadgomisiynu a threfniadau cyllido a briodolir i hynny. Y 4 opsiwn oedd:

 

-       Opsiwn 1 – Busnes fel arfer

-       Opsiwn 2 – Gwneud yr isafswm

-       Opsiwn 3 – Gostwng i un neuadd ym Mlaenafon

-       Opsiwn 4  (opsiwn a ffefrir) – Darpariaeth arall

 

Mae paragraffau 5.1.9 (tabl 1) yn crynhoi goblygiadau ariannol pob un o’r opsiynau. Roedd Bwrdd Strategol SRS a’r Cyllid a Llywodraethiant wedi ystyried yr achos busnes ac wedi argymell Opsiwn 4 oherwydd yr ystyriwyd bod yr opsiynau eraill yn rhy ddrud. Byddai opsiynau 3 a 4 ill dau yn golygu costau is, fodd bynnag mae’r buddsoddiad cyfalaf ar gyfer Opsiwn 4 yn sylweddol is.

 

Ar gyfer Blaenau Gwent, byddai hyn yn arwain at gynnydd bach ar gyfer Opsiwn 4 mewn costau refeniw o £11,000 am yr ychydig flynyddoedd nesaf – mae hyn yn seiliedig ar yr asesiad presennol o ofod rac ond wrth i wasanaethau symud i’r ‘cwmwl’ disgwylid y byddai’r gost hon yn gostwng dros gyfnod. Yn ychwanegol, byddai Opsiwn 4 angen buddsoddiad cyfalaf dechreuol o £361,000 o gymharu â £508,000 ar gyfer opsiwn 3.

 

Nodwyd fod y Cyngor wedi cytuno ar ddyraniad cyllid cyfalaf o £240,000 ym mis Hydref 2019 ar gyfer gwaith trydanol a TG yn y Ganolfan Ddinesig ac mae £209,000 yn dal i fod ar gael o fewn y dyraniad hwnnw ar hyn o bryd. Felly cynigiwyd ailbwrpasu’r dyraniad hwn a’i atodi gan £152,000 o’r gronfa wrth gefn cyfalaf i gyllido’r gofynion buddsoddiad dechreuol. Cynigiwyd hefyd er mwyn sicrhau bod y seilwaith creiddiol yn gynaliadwy, y dylid cynnwys £61,000 yn y rhaglen gyfalaf o hyn ymlaen i ganiatáu ar gyfer yr offer angenrheidiol newydd.

 

Wedyn gofynnwyd am farn Aelodau am yr achos busnes.

 

Cadarnhaodd y Prif Swyddog Adnoddau y cafodd yr achos busnes ei gymeradwyo gan bartneriaid eraill SRS.

 

Mewn ymateb i gwestiwn, dywedodd y Prif Swyddog Adnoddau ei bod yn  ansicr am gynlluniau Heddlu Gwent ar gyfer y dyfodol a dywedodd y cafodd yr achos busnes ei ddatblygu, gan drin partneriaid SRS a Heddlu Gwent ar wahân. Ni fyddai’r symudiad arfaethedig i NGD yn cael unrhyw effaith ar gostau’r dyfodol ar gyfer Blaenau Gwent a phartneriaid eraill fel canlyniad unrhyw newid i weithrediadau gan Heddlu Gwent oherwydd os cytunir a bod y symud i NGD yn digwydd, dim ond am y serfwyr y byddid yn eu defnyddio mewn gwirionedd y byddai’r awdurdod yn talu. Fodd bynnag, byddai’r sefyllfa yn wahanol pe byddai’r seilwaith yn aros ym Mlaenau Gwent a bod Heddlu Gwent yn symud oherwydd y byddai’n rhaid i bartneriaid ariannu cyfran ychwanegol o’r costau gweithredu sefydlog.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 4 – Darpariaeth Arall, sef symud y Ganolfan Ddata i NGD Casnewydd (yn cynnwys symud gwasanaethau presennol o’r Ganolfan Ddinesig) a’r buddsoddiad cysylltiedig sydd ei angen (cyfalaf a refeniw).

 

Dogfennau ategol: