Agenda item

Canlyniad yr Adolygiad Hamdden a Monitro Perfformiad Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Addysg.

 

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorwyr Wayne Hodgins a Lee Parsons fuddiant yn yr eitem ddilynol.

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Addysg a gyflwynwyd i roi diweddariad i Aelodau ar ganlyniad yr adolygiad o’r Ymddiriedolaeth Hamdden.

 

Siaradodd y Rheolwr Gwasanaethau Ieuenctid am yr adroddiad a thynnodd sylw at y prif bwyntiau ynddo. Hysbysodd Aelodau am ganlyniad yr adolygiad o’r Ymddiriedolaeth Hamdden ac egluro bod y swyddogaeth cleient yn awr wedi’i halinio o fewn y portffolio Addysg. Mae hefyd gyfle i Aelodau graffu ar y trefniadau monitro a gynigir ar gyfer y dyfodol i Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin.

 

Gadawodd y Cynghorydd Clive Meredith y cyfarfod ar y pwynt hwn.

 

Holodd y Cadeirydd am drosglwyddo asedau i Theatr Metropole yn Abertyleri. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Ieuenctid y cafodd y broses ei gohirio oherwydd y pandemig ac y disgwylir y byddai’n digwydd erbyn mis Ebrill 2021.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am y Metropole, dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Ieuenctid ei fod ar hyn o bryd mewn sefyllfa ddal gan yr Ymddiriedolaeth. Roeddent wedi gwneud cais llwyddiannus i Gyngor y Celfyddydau, sy’n awr yn ariannu’r holl weithlu yn y Metropole tan ddiwedd mis Mawrth.

 

Holodd Aelod os caiff unrhyw gyfleusterau y bwriedir eu cau yn y dyfodol eu hadrodd i’r Pwyllgor, dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Addysg y byddid yn cyflwyno adroddiad cynnydd misol i’r Pwyllgor hwn fel rhan o’r argymhelliad ac y byddai’n cynnwys unrhyw oblygiadau yn gysylltiedig gyda COVID-19 ar ddarpariaeth hamdden ar draws y Fwrdeistref Sirol. Bu goblygiadau ariannol yn gysylltiedig gyda cholli incwm, fodd bynnag mae’r Ymddiriedolaeth Hamdden yn adrodd ac yn rheoli eu colled incwm drwy ostwng gwriant yn gysylltiedig gyda goblygiadau staffio a ffyrlo ac yn y blaen. Teimlai nad oedd unrhyw reswm ar hyn o bryd i fod yn trafod posibilrwydd colli gwasanaethau.

 

Cyfeiriodd Aelod at weithgorau a grwpiau gorchwyl a gorffen blaenorol ar lyfrgelloedd lle mai un o’r argymhellion oedd defnyddio’r llyfrgelloedd fel hybiau cymunedol a holodd os y gwnaethpwyd hynny. Dywedodd y Cyfarwyddwr Interim Addysg fod darparu hybiau cymunedol ar draws y Fwrdeistref Sirol yn bendant iawn yn rhan o’r agenda strategol allweddol. Byddai manteision o safbwynt defnyddwyr a hefyd safbwynt y llyfrgell i sicrhau y caiff y ddarpariaeth ei diogelu yn y dyfodol. Mae llyfrgelloedd ar gael yng nghanol y rhan fwyaf o’r trefi ac yn cefnogi anghenion y gymuned, mae hefyd botensial ar gyfer datblygiadau digidol a defnyddio setiau sgiliau staff tebyg i gefnogi pobl yng nghyswllt darparu ceisiadau Refeniw a Budd-daliadau ac yn y blaen. Teimlai mai dyma’r dull gweithredu cywir a hysbysodd Aelodau fod gwaith yn mynd rhagddo i fanteisio ar y gosodiadau cymunedol hynny.

 

Cytunodd y Rheolwr Gwasanaethau Ieuenctid gyda sylwadau’r Cyfarwyddwr a dywedodd fod yr Ymddiriedolaeth yn cwrdd bob bythefnos gyda’r Cyngor i ddatblygu’r dull gweithredu hwn a bod pob llyfrgell yn cael ei ystyried.

 

Dywedodd Aelod fod darpariaeth swyddfa’r post unwaith yr wythnos yn y llyfrgell yn ei Ward. Dywedodd y Cyfarwyddwr Interim Addysg fod hyn yn enghraifft wych o sut y gallai hyb cymunedol weithio pan mae wedi’i gyd-leoli gyda darpariaeth llyfrgell.

 

Holodd y Cadeirydd am drefniadau adrodd. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Interim Addysg, ynghyd ag adroddiadau cynnydd 6 misol, y gall adroddiadau eraill gael eu cyflwyno drwy eithriad i’r Pwyllgor drwy gydol y flwyddyn.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef  derbyn diweddariad yr adroddiad a chynigion ar drefniadau adrodd y dyfodol.

 

Dogfennau ategol: