Agenda item

Parc yr Ŵyl, Glynebwy

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Cofnodion:

Gan ystyried yr farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol am y prawf budd cyhoeddus sef o bwyso a mesur popeth fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.

 

PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra caiff yr eitem hon o fusnes ei chynnal gan ei bod yn debyg y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14, Atodlen 12 Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

Ar ddechrau’r cyfarfod, dywedodd Aelod iddi dderbyn gwybodaeth newydd a ddaeth i law yn hwyr y noson flaenorol, a fedrai gael effaith sylweddol ar yr adroddiad. Ni chafodd yr wybodaeth ei rhannu gydag Aelodau a swyddogion cyn dechrau’r cyfarfod.

 

Awgrymodd y Cadeirydd y dylai’r Aelod godi’r mater ar ôl i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol gyflwyno’r adroddiad.

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol

 

Ar wahoddiad y Cadeirydd, siaradodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol yn fanwl am yr adroddiad a thynnodd sylw at bwyntiau perthnasol ynddo. Rhoddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fanylion o ran:

 

·         Cwmpas a chefndir yr adroddiad sy’n dangos y cynhaliwyd trafodaethau yng nghyfarfod y Cyngor ym mis Gorffennaf 2020 a gytunodd y dylai negodiadau manwl ddechrau gyda pherchnogion presennol Parc Siopa yr ?yl gyda golwg ar gytuno ar benawdau telerau ar gyfer caffael y safle ar gyfer ailwampio/ailddatblygu a pharatoi achos busnes ar gyfer caffael a defnydd yn y dyfodol.

 

·         Roedd negodiadau masnachol wedi dechrau yn dilyn cymeradwyaeth yr adroddiad ym mis Gorffennaf ac yn mynd rhagddynt ar hyn o bryd. Cafodd achos busnes ei ddatblygu gan ymgynghorwyr allanol mewn cysylltiad â swyddogion i gyd-fynd gyda’r negodiadau hyn.

 

·         Mae trafodaethau yng nghyswllt opsiynau a chymorth cyllid yn parhau gyda Llywodraeth Cymru.

 

·         Ynghyd â datblygu’r achos busnes dros gaffael Parc Siopa yr ?yl a’r tir parc, gwnaed cynnydd da yng nghyswllt sefydlu hybiau cymunedol. Nodwyd nad oedd y darn hwn o waith wedi ei seilio ar gaffael y safle ac y cafodd costau cyfalaf a refeniw ar gyfer elfen hon y prosiect eu cynnwys yn yr achos busnes.

 

Wedyn rhoddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fanylion yr opsiynau a gyflwynwyd yn yr achos busnes ynghyd â chost gysylltiedig pob opsiwn.

-       Opsiwn 1 – Caffael Canolfan Siopa Parc yr  ?yl neu’r opsiwn ‘Gwneud y Lleiafswm’ (opsiwn a ffafrir)

-       Opsiwn 0 – Busnes fel Arfer neu’r opsiwn ‘Gwneud Dim’

-       Opsiwn 2 – Codi adeilad gweinyddiaeth newydd i gymryd lle’r Ganolfan Ddinesig.

 

Yn nhermau’r Cynllun Corfforaethol, nodwyd y byddai’r opsiwn a ffafrir yn dod o fewn nodau blaenoriaeth y cynllun sef:

 

-       cynyddu’r gyfradd sefydlu busnes, cadw a thwf busnesau lleol a denu mewnfuddsoddiad newydd; a

-       gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu gweledigaeth newydd ar gyfer ein canol trefi a sicrhau eu dyfodol hirdymor.

 

Mae adran 4.2 yr adroddiad yn rhoi manylion gweithgareddau a nodau pellach a fyddai’n cael eu cefnogi a’u gwireddu pe cymeradwyir yr opsiwn a ffafrir. Daeth y Cyfarwyddwr Corfforaethol i ben drwy ddweud fod y cynnig hwn hefyd yn cysylltu’n uniongyrchol gyda nifer o adolygiadau busnes strategol, yn benodol yr Adroddiad Eiddo a Thir, a ddatblygwyd wrth ochr y Strategaeth Ariannol Tymor Canol i drin y bylchau rhwng y cyllid a’r gwariant disgwyliedig gyda’r nod o feithrin cydnerthedd ariannol ac ymateb i’r her ariannol a wynebir dros y pum mlynedd nesaf.

 

Ar y pwynt hwn, rhoddodd y Prif Swyddog Adnoddau y manylion dilynol:

 

-       y gost a’r goblygiadau refeniw ariannol (cyn benthyca) dros gyfnod o 25 mlynedd ar gyfer pob un o’r opsiynau;

 

-       y trafodion gwasgaru a fedrid o bosibl eu gwireddu; a

 

-       y buddion economaidd ehangach o fedrid o bosibl eu cyflawni pe cymeradwyid yr opsiwn a ffafrir.

 

Wedyn gofynnwyd am farn Aelodau (crynodeb islaw) gyda’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol yn ymateb iddynt:

 

·         Mewn ateb i gwestiwn, dywedodd Aelodau oherwydd y fethodoleg llyfr gwyrdd y bu’n rhaid ei ddefnyddio i ddatblygu’r achos busnes a pha mor gyflym y bu’n rhaid cynhyrchu, cafodd y ddogfen gynhwysfawr ei chynhyrchu gan ymgynghorwyr allanol mewn cysylltiad agos gyda swyddogion y Cyngor.

 

·         Dywedodd yr Aelod a gododd y mater ynghynt yn y cyfarfod unwaith eto ei bod wedi derbyn gwybodaeth newydd a fedrai gael effaith sylweddol ar yr adroddiad a rhoddodd fanylion y wybodaeth a gafodd. Dywedodd yr Aelod y gallai o bosibl fod partïon credadwy eraill â diddordeb mewn datblygu’r safle (roedd un datblygydd wedi cysylltu â hi’n flaenorol i ofyn am gyngor ac roedd wedi eu hatgyfeirio at yr Aelod Gweithredol). Daeth i ben drwy fynegi ei phryder y dywedwyd wrthi fod y Cyngor yn gwybod y gallai datblygwyr eraill fod mewn trafodaethau ac nad oedd wedi datgan y sefyllfa hon. Ar hynny, rhoddodd yr Aelod yr wybodaeth newydd yma i’r Swyddog Monitro iddi ei ystyried.

 

Dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr fod Aelodau a swyddogion dan anfantais gan nad oeddent wedi gweld yr wybodaeth y cyfeirir ati. Galwyd y cyfarfod i ystyried yr achos busnes a ddatblygwyd ar gais Aelodau ac i Aelodau roi cyfeiriad clir ar gyfer y dyfodol i Aelodau. Os caiff yr opsiwn a ffafrir ei gytuno, dywedwyd y byddai hyn yn amodol ar nifer o ffactorau a fyddai’n cynnwys negodiadau masnachol llwyddiannus a sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru. Mater i’r cwmni sy’n berchen y safle fyddai p’un ai symud ymlaen gyda’r gwerthiant – dim ond os yw’r cwmni yn cytuno i werthu’r safle i’r Cyngor y gellid symud ymlaen gyda’r opsiwn a ffafrir (os caiff ei gymeradwyo).

 

Dywedodd Arweinydd y Gr?p Llafur fod ei gyd-aelod wedi anfon yr wybodaeth ato a chytunodd gyda’r materion a godwyd. Dywedodd fod yn rhaid i’r holl wybodaeth gael ei chynnwys o fewn yr adroddiad ar gyfer ystyriaeth Aelodau ac y codwyd cwestiynau ar nifer fawr o achlysuron yn flaenorol am brynwyr posibl eraill a’r unig arwydd a gafwyd ym mis Mehefin oedd mai dim ond un datganiad diddordeb a gafwyd ond bod y parti â diddordeb wedi methu cwblhau. Cododd bryder hefyd am ddarparu pwerau dirprwyedig i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol a’r Arweinydd a’r Dirprwy Arweinydd yng nghyswllt cwblhau’r trefniadau prynu a holodd pam y cafodd hyn ei gynnwys gan y gallai o bosibl fod cynigion yn cystadlu am y safle.

 

Daeth Arweinydd y Gr?p Llafur i ben drwy ddweud fod ganddo bryderon difrifol ac ategodd y dylid bod wedi cynnwys yr holl wybodaeth berthnasol o fewn yr adroddiad a chynigiodd ohirio’r adroddiad nes ceir eglurhad yng nghyswllt yr wybodaeth newydd a gyflwynwyd.

 

Er eglurhad, dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr mai’r bwriad yw cyflwyno adroddiad pellach i’r Cyngor cyn cwblhau’r trafodaethau masnachol. Dywedodd Arweinydd y Gr?p Llafur y dylai’r wybodaeth hon fod wedi cael ei chynnwys yn benodol o fewn yr adroddiad.

 

Rhoddodd y Rheolwr Gyfarwyddwr sicrwydd fod swyddogion yn bwriadu cyflwyno achos busnes dilys i Aelodau ei ystyried a rhoi llyw ar sut i symud ymlaen.

 

Cefnogodd yr Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd sylwadau’r Rheolwr Gyfarwyddwr a dywedodd y byddai yn y pen draw yn benderfyniad i’r Cyngor p’un ai i brynu’r safle ac mai’r unig fater a gaiff ei drafod a’i ystyried gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol, Arweinydd a Dirprwy Arweinydd fyddai’r pris prynu. Dywedodd na wnaed unrhyw gynnig pendant i’r cwmni ond y byddai angen cynnwys ffigur fel rhan o’r achos busnes dros yr opsiwn a ffafrir. Daeth i ben drwy ddweud ei fod yn ymddiheuro os nad yw’r wybodaeth hon yn glir o fewn yr adroddiad ond na chaiff y trafodaethau terfynol eu cwblhau nes y byddai’r Cyngor Llawn wedi dod i benderfyniad.

 

Er eglurhad, dywedodd yr Aelod Gweithredol fod yr unigolyn a gafodd ei roi mewn cysylltiad ag ef wedi gwneud hynny gryn amser yn ôl cyn i’r busnes achos gael ei ddatblygu, ac wedi ei atgyfeirio at y swyddogion perthnasol ac na fu ganddo unrhyw gysylltiad gydag unrhyw un o’r cwmnïau y soniodd yr Aelod amdanynt fel rhan o’r wybodaeth newydd.

 

Dywedodd Arweinydd y Gr?p Llafur, gan y cyflwynir adroddiad pellach i’r Cyngor Llawn i ystyried y manylion yng nghyswllt y trafodaethau terfynol, nad oedd unrhyw ofyniad i ddirprwyo pwerau i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol a’r Arweinydd a’r Dirprwy Arweinydd gan y gellid galw cyfarfod yn gyflym i ddelio gyda’r mater.

 

Eiliodd Aelod y gwelliant i ohirio’r adroddiad a gofynnodd am eglurhad gan y Swyddog Monitro am fater dirprwyo pwerau.

 

Dywedodd y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol (Swyddog Monitro) y byddai pwerau dirprwyedig yn galluogi’r swyddogion ynghyd â’r Arweinydd/Dirprwy Arweinydd i symud ymlaen gyda thrafodaethau ond cadarnhaodd y byddai adroddiad yn cael ei ystyried gan y Cyngor Llawn cyn cwblhau’r trafodaethau masnachol.

.

·         Mewn ateb i gwestiwn am niferoedd staff cyn-Covid, dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod y modelu ar gyfer yr achos busnes wedi ei seilio ar 322 o staff yn y Ganolfan Ddinesig a 221 yn Llys Einion. Fodd bynnag, cafodd nifer y mannau gwaith a ddarparwyd yn y lleoliadau hyn ei gyfrif ar gymhareb o 7:10 (7 desg/10 staff) a ddefnyddiwyd yn flaenorol fel rhan o’r rhaglen trawsnewid gweithlu ac roedd hyn yn gyfwerth â 284 desg yn y Ganolfan Ddinesig a 208 yn Llys Einion.

 

Dywedodd Aelod fod Llywodraeth Cymru yn rhagweld gostyngiad o 30% mewn staff yn defnyddio swyddfeydd yn dilyn Covid a gofynnodd sut y cafodd nifer y gofodau desg ei gyfrif ar gyfer safle Parc yr ?yl pan nad yw’n hysbys ar hyn o bryd faint fyddai ei angen yn y dyfodol.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol nad yw cyfaint gofod desgiau wedi ei drafod hyd yma ond y gweithredid y gymhareb pe gwneir penderfyniad i symud ymlaen. Cafodd hyn ei fodelu ym mhob opsiwn ar sail ‘tebyg am debyg’. Pe byddai angen llai o ofod swyddfa, byddai cyfleoedd a hyblygrwydd i gynyddu defnydd masnachol yn y safle i gynhyrchu incwm.

 

·         Er eglurhad, nodwyd y rhoddir crynodeb o’r risiau allweddol yn yr adroddiad ategol ar gyfer Aelodau ond y cafodd risgiau ehangach eu dynodi fel rhan o’r prosiect – cafodd pob risg eu cynnwys o fewn yr achos busnes.

 

·         Mynegodd Aelod ei phryder dybryd am y ffigurau am y gost dymchwel a gynhwyswyd yn yr achos busnes a chyfeiriodd at y treuliau cyfredol a gafwyd oherwydd tynnu asbestos ar gyfer adeilad a gafodd ei ddymchwel yn flaenorol.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Cyffredinol y dysgwyd gwersi o’r gorffennol ac y cynhelir gwaith arolwg pellach cyn unrhyw ddymchwel ac y cafodd cyllid ychwanegol ei gynnwys fel rhan o’r achos busnes ar gyfer yr agwedd hon. Nodwyd fod yn sylweddol mwy o wybodaeth ar gael ar gyfer adeilad y Ganolfan Ddinesig, fel bod swyddogion yn fwy gwybodus ac y cyflwynwyd y gynrychiolaeth deg hwn yn yr achos busnes.

 

·         Gofynnodd Aelod pam y rhoddwyd cymeradwyaeth i ddarparu Parc Sblash yn y safle ddim ond 18 mis yn flaenorol (pan y gallai fod wedi ei ddyrannu i safle arall pan oedd yn hysbys y bu’r cwmni yn ceisio gwerthu’r safle) am nifer o flynyddoedd. Mynegodd ei bryder hefyd am gyflwr presennol y tir parc a dywedodd y byddai angen cryn dipyn o waith i gynnal a chadw a gwella’r safle.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y bu’r safle ar y farchnad am gyfnod sylweddol a bod perchennog y safle troi’r safle o amgylch ers peth amser ond iddo ddod i’r casgliad nad oedd yn hyfyw. Mae’r Cyngor wedi cwrdd gyda pherchennog y safle a’r adeg honno (mis Mawrth) roedd prynwr posibl oedd â diddordeb yn y safle wedi methu cwblhau. Dywedodd mai mater iddyn nhw oedd pe byddai perchennog y safle yn dewis gweithio gyda phartïon eraill sydd â diddordeb er mwyn cael y pris gorau.

 

Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod y tir parc hefyd yn ystyriaeth sylweddol ac y byddai’r trefniadau cynnal a chadw yn un o’r meysydd fyddai’n ffurfio rhan o’r gwaith manwl. Byddid hefyd yn rhoi ystyriaeth i weithio gyda grwpiau cymunedol am yr agwedd hon o’r prosiect.

 

·         Gan fod hwn yn newid sylweddol ac er budd tryloywder, dywedodd Aelod fod angen gwneud mwy o waith i roi’r union ffigurau, yn neilltuol yng nghyswllt opsiwn 2 oherwydd fod peth o’r wybodaeth a roddwyd yn seiliedig ar amcanestyniadau a gallai hyn fod â sgil-effeithiau yn yr hinsawdd presennol.

 

·         Dywedodd Aelod arall fod nifer o bryderon a risgiau yn gysylltiedig a theimlai fod yr adroddiad yn ceisio ‘lladd dau aderyn gydag un garreg’. Cyfeiriodd at ddefnydd matrics a ddefnyddiwyd i asesu safleoedd ar gyfer dibenion eraill a holodd pam na ddefnyddiwyd dull tebyg ar gyfer y safle hwn. Cyfeiriodd hefyd at lefelau tan-ddefnyddio yn y Ganolfan Ddinesig a hefyd Lys Einion a dywedodd pe cymeradwyid yr opsiwn a ffafrir, y byddai hyn yn arwain at gynyddu’r bwlch cyllid (a ddynodwyd mewn adroddiad ym mis Rhagfyr 2019) a gallai o bosibl arwain at gynnydd mewn lefelau treth gyngor i gyllido’r bwlch. Daeth yr Aelod i ben drwy ddweud na fedrai gefnogi’r adroddiad.

 

·         Dywedwyd fod y Swyddfeydd Cyffredinol yn allweddol a bod angen opsiwn sylweddol pellach o amgylch yr adeilad hwn.

 

·         Cyfeiriodd Aelod at Gynllun Datblygu Lleol y Cyngor ac yn arbennig, ddatblygiad tai a gofynnwyd sut y gallai swyddogion ystyried y gellid gwerthu safleoedd yng Nglynebwy pan oedd gwerthiannau tai yn gyffredinol isel ledled y Fwrdeistref Sirol a bod eisoes ormod o safleoedd yn ardal Glynebwy. Cytunodd gyda sylwadau ei gyd-aelod am ailwampio ac ailadeiladu’r Swyddfeydd Cyffredinol gan y byddai hyn yn fwy buddiol i’r Cyngor wrth symud ymlaen.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod yr ardal wedi ei chael yn anodd yn hanesyddol i gyrraedd targedau tai dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf ond bod momentwm cynyddol o safleoedd da fel rhan o’r Prosbectws Tai – fodd bynnag roedd y ffaith fod safleoedd yn y Fwrdeistref Sirol yn eithaf bach yn un her. Fodd bynnag, credai pe mai safleoedd o’r maint cywir ar gael, y gallai datblygwyr sicrhau arbedion maint. Roedd sbardunau a gwybodaeth y farchnad yn awgrymu bod llawer o ddiddordeb yn y safleoedd hyn.

 

Pe byddai’r opsiwn a ffafrir yn cael ei gymeradwyo, medrid dod â Choridor Gogleddol Glynebwy a ddynodwyd fel rhan o’r ffin trefol a ddiffiniwyd yn parhau yn y Cynllun Datblygu Lleol a’r cynllun hwn yr oedd y Cyngor wedi ei gydnabod yn flaenorol ar gyfer ei ddatblygu. Ni chredai fod y cyfrifoldebau’n ymwneud â’r Cynllun yn cael eù diystyru – roedd gwybodaeth y farchnad yn awgrymu fod gan ddatblygwyr ddiddordeb yn y safleoedd hyn.

 

Cynigiodd yr Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd fod Opsiwn 1 yn cael ei gymeradwyo gan nad oedd angen oediad gan y byddai pryniant yn fater i berchnogion y safle a phartïon â diddordeb. Eiliwyd y cynnig.

 

Cynigiodd Aelod o Gr?p Llafur y gwelliant dilynol, sef gohirio’r adroddiad nes ceir eglurhad pellach am yr wybodaeth newydd a gyflwynwyd ac unwaith y cafwyd hynny y dylid cyflwyno adroddiad manwl yn cynnwys canlyniad yr ymchwiliadau hyn i’r Cyngor ei ystyried.

 

Gofynnwyd am bleidlais wedi’i chofnodi.

 

O blaid y gwelliant – Cynghorwyr P. Baldwin, D. Bevan, M. Cross, K. Hayden, H. McCarthy, J. Millard, J. C. Morgan, K. Pritchard, T. Sharrem, T. Smith, S. Thomas, H. Trollope, D. Wilkshire, L. Winnett

 

Yn erbyn y gwelliant – Cynghorwyr J. Collins, M. Cook, N. Daniels, D. Davies, G. A. Davies, G. L. Davies, D. Hancock, S. Healy, J. Hill, W. Hodgins, J. Holt, J. Mason, C. Meredith, M. Moore, L. Parsons, K. Rowson, B. Summers, B. Thomas, G. Thomas, J. Wilkins

 

Ymatal – Cynghorydd P. Edwards

Ni chariwyd y bleidlais ar y gwelliant.

 

Wedyn, cynigiodd Arweinydd y Gr?p Llafur y dylid cefnogi ‘Opsiwn 0 – Busnes fel Arfer neu’r Opsiwn ‘Gwneud Dim’ am y rhesymau dilynol:

 

Ar ôl ystyried yr adroddiad yn fanwl, nid oedd y Gr?p Llafur o blaid cefnogi’r opsiwn a ffafrir gan y Cyngor h.y. Opsiwn 1. Gwnaed y penderfyniad hwn oherwydd teimlwyd:

 

  1. Bod y prosiect yn ormod o risg ac nad oedd yn flaenoriaeth yn yr hinsawdd ariannol bresennol ac y byddai’n anochel yn arwain at ddirywiad ariannol yn dilyn Covid-19.
  2. Roedd y Gr?p yn gwrthwynebu’n gryf y diffyg ymgynghoriad lleol gyda’r cyhoedd ar ymgymeriad mor sylweddol.
  3. Roedd y prosiect ei hun wedi ei seilio ar ormod o dybiaethau a chyfeiriwyd at dudalen 20 atodiad 1 yr adroddiad ‘Gall rhai o’r tybiaethau ariannol sy’n sail i’r achos busnes hwn fod yn anghywir, gan arwain at i’r union gostau fod yn uwch na’r amcanestyniad neu y byddai incwm o fenter sector preifat yn is na’r rhagolwg.”
  4. Ni fedrai’r Gr?p gefnogi dirprwyo i’r Arweinydd/Dirprwy Arweinydd a’r Cyfarwyddwr yn ymwneud â chwblhau trefniadau prynu.
  5. Gellid datrys mater cylch oes y Ganolfan Ddinesig gyda gwelliannau tymor byr cyn symudiad wedi’i reoli i’r Swyddfeydd Cyffredinol (yng ngoleuni gostyngiad 30% yn nifer staff yn defnyddio swyddfeydd yn dilyn Covid-19 fel yr awgrymwyd gan Lywodraeth Cymru)
  6. Dengys yr wybodaeth a gyflenwyd i Aelod o’r Cyngor na chafodd yr holl ddogfennau perthnasol eu cyflwyno i Aelodau.
  7. Byddai baich annheg ar y rhai sy’n talu’r dreth gyngor.

 

Felly gofnodwyd am bleidlais wedi’i chofnodi.

 

O blaid Opsiwn 0 – Cynghorwyr P. Baldwin, D. Bevan, M. Cross, K. Hayden, H. McCarthy, J. Millard, J. C. Morgan, K. Pritchard, T. Sharrem, T. Smith, S. Thomas, H. Trollope, D. Wilkshire, L. Winnett

 

Yn erbyn Opsiwn 0 – Cynghorwyr J. Collins, M. Cook, N. Daniels, D. Davies, G. A. Davies, G. L. Davies, D. Hancock, S. Healy, J. Hill, W. Hodgins, J. Holt, J. Mason, C. Meredith, M. Moore, L. Parsons, K. Rowson, B. Summers, B. Thomas, G. Thomas, J. Wilkins

 

Ymatal – Cynghorydd P. Edwards

 

Ni chariwyd y bleidlais yng nghyswllt Opsiwn 0.

 

Cynigiodd yr Aelod Gweithredol – Adfywio a Datblygu Economaidd y dylid cymeradwyo Opsiwn 1, yn amodol ar adroddiad pellach yn ymwneud â chyflwyno’r trafodaethau masnachol i’r Cyngor cyn cwblhau unrhyw drefniadau pryniant.

 

PENDERFYNWYD yn unol â hynny.

 

Wedyn cymerwyd pleidlais wedi’i chofnodi yng nghyswllt Opsiwn 1 ‘Caffael Canolfan Siopa Parc yr ?yl’ neu’r Opsiwn ‘Gwneud y Lleiafswm’.

 

O blaid Opsiwn 1 – Cynghorwyr J. Collins, M. Cook, N. Daniels, D. Davies, G. A. Davies, G. L. Davies, D. Hancock, S. Healy, J. Hill, W. Hodgins, J. Holt, J. Mason, C. Meredith, M. Moore, L. Parsons, K. Rowson, B. Summers, B. Thomas, G. Thomas, J. Wilkins

 

Yn erbyn Opsiwn 1 – Councillors P. Baldwin, D. Bevan, M. Cross, K. Hayden, H. McCarthy, J. Millard, J. C. Morgan, K. Pritchard, T. Sharrem, T. Smith, S. Thomas, H. Trollope, D. Wilkshire, L. Winnett

 

Ymatal – Cynghorydd P. Edwards

 

Cariwyd y bleidlais yng nghyswllt Opsiwn 1.

 

Felly,

 

PENDERFYNWYD YMHELLACH, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad sy’n cyfeirio at faterion ariannol neu fusnes unrhyw berson neilltuol (yn cynnwys yr awdurdod) a chymeradwyo Opsiwn 1 – Caffael Canolfan Siopa Parc yr ?yl, sef:

 

-       cymeradwyo’r adroddiad gyda’r opsiwn a argymhellir fel y’i amlinellir yn yr achos busnes, yn amodol ar gymeradwyaeth cyllid gan Lywodraeth Cymru a chwblhau trefniadau prynu i’w ddirprwyo i Gyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol mewn ymgynghoriad gyda’r Arweinydd/Dirprwy Arweinydd;

 

-       bod y trefniadau rheoli prosiect a gynigir yn cael eu rhoi yn eu lle a bod gwaith yn dechrau ar gynllunio gweithredu’r prosiect; a

 

-       chyflwyno adroddiad pellach i’r Cyngor yn ymwneud â’r trafodaethau masnachol, cyn cwblhau unrhyw drefniadau prynu.

 

Mewn ateb i gwestiwn, dywedodd y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol na fedrai roi sylwadau ar hyn o bryd am yr wybodaeth newydd a gyflwynwyd a’r honiadau gan na chafodd gyfle i ystyried yr wybodaeth.

 

Mewn ateb i gwestiwn arall am gyhoeddi datganiad yn dilyn y cyfarfod, cadarnhaodd y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol y byddai unrhyw ddatganiad cyhoeddus a gynigir yn cael ei drafod yn fewnol gyda’r Tîm Cyfathrebu, yr Arweinydd, y Swyddog Monitro a’r Rheolwr Gyfarwyddwr cyn y gwneir unrhyw sylwadau ar y mater hwn, neu unrhyw adroddiad a eithriwyd.