Agenda item

Grŵp Gorchwyl a Gorffen Canol Trefi ac Ymateb Economaidd yn dilyn Covid-19

Ystyried adroddiad y Rheolwr Tîm Cyfleoedd Adfywio.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Tîm Cyfleoedd Adfywio.

Ar wahoddiad y Cadeirydd, cyflwynodd y Rheolwr Tîm Cyfleoedd Adfywio sy’n rhoi diweddariad i Aelodau ar waith y Gr?p Gorchwyl a Gorffen a gofynnodd am gytundeb i ailsefydlu’r gr?p Gorchwyl a Gorffen i barhau eu gwaith ar Strategaeth Canol Trefi.

Dywedodd y Swyddog bod y Pwyllgor Craffu Adfywio ym mis Rhagfyr 2019 wedi cymeradwyo adroddiad y sefydlu Gr?p Gorchwyl a Gorffen Canol Trefi gyda’r wybodaeth ddilynol:

Cynghorydd Joanna Wilkins

Cynghorydd Keri Rowson

Cynghorydd Wayne Hodgins

Cynghorydd Phil Edwards

Cynghorydd John Morgan

Cynghorydd Lee Parsons

Cynghorydd John Hill

Roedd yr aelodaeth yn sicrhau bod cynrychiolaeth leol ar gyfer pob canol tref a chynhaliwyd dau gyfarfod o’r gr?p cyn y cyfnod clo Covid.

O ran aelodaeth y Gr?p o hyn ymlaen, dywedodd y Swyddog i’r Cynghorydd Joanna Wilkins gael ei phenodi’n Aelod Gweithredol yr Amgylchedd yn CCB y Cyngor ac fel canlyniad na fyddai mwyach yn aelod o’r Pwyllgor Craffu Adfywio.

Fodd bynnag, er hyn mae cynrychiolaeth ddigonol yn dal i fod ar gyfer y trefi ymysg gweddill Aelodau’r Gr?p Gorchwyl a Gorffen.

Dywedodd y Swyddog i’r Cyngor gael ei wahodd gan Ddirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Cymru ym mis Mai i gyflwyno cais i dderbyn cymorth cyllid refeniw, a gallodd pob awdurdod lleol ar draws Cymru gael mynediad i hyd at £25,000 drwy raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru. Cafodd yr arian ei glustnodi ar gyfer gwariant ar opsiynau posibl oedd yn cynnwys datblygu cynlluniau meistr; prosiectau a darpariaethau digidol; ymgysylltu cymunedol/rhanddeiliaid; gwaith eiddo gwag/gorfodaeth; archwiliad seilwaith gwyrdd; brandio lle.

Cynigiwyd felly i symud ymlaen â dull brandio lle ar gyfer Blaenau Gwent a gaiff ei gefnogi gan bob un o’r tri a’r ardaloedd y maent eisiau ‘gweiddi’ amdanynt. Caiff hyn hefyd ei gefnogi ymchwilio sut y gallai dull gweithredu digidol gefnogi’r masnachu ‘brics a morter’ traddodiadol. Yn ychwanegol at y gwaith brandio lle, byddid yn datblygu rhaglen a gytunwyd o farchnata a chyfathrebu i gefnogi’r canol trefi a’i roi ar waith, gyda chefnogaeth gan y Fforymau Canol Trefi.

Dywedodd y Swyddog hefyd y penodwyd Swyddog Datblygu Busnes Canol Trefi yn ddiweddar i ddechrau gwaith ar 1 Tachwedd 2020. Byddai’r swydd hon yn allweddol wrth symud ymlaen â gwaith y Gweithgor Gorchwyl a Gorffen a chyflwyno’r Strategaeth Canol Trefi a chefnogi busnesau canol trefi.

Wedyn aeth y Swyddog drwy’r opsiynau a amlygir yn yr adroddiad a chadarnhaodd y byddai Aelodau yn cael nodyn gwybodaeth ar drafodaethau blaenorol cyn cyfarfod cyntaf y Gr?p Gorchwyl a Gorffen, ynghyd â chyflwyniad byr ar ddechrau’r cyfarfod i adfywio trafodaethau blaenorol a chadarnhau’r camau nesaf. Byddai’r cyfarfod hwn hefyd yn cynnwys trafodaeth a chytundeb ar amserlenni ar gyfer y Gr?p Gorchwyl a Gorffen ac adrodd canlyniadau.

Dywedodd Aelod ei fod yn croesawu’r adroddiad a phenodi Swyddog Datblygu Canol Trefi. Yn nhermau aelodaeth o’r Gr?p dywedodd ei fod yn hapus i gynrychioli Abertyleri o hyn ymlaen, gyda chytundeb Aelodau.

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad ac ailsefydlu’r Gr?p Gorchwyl a Gorffen (gyda’r aelodaeth bresennol) ac ailddechrau eu hystyriaeth o’r Strategaeth Canol Trefi. Byddai’r Gr?p yn ailedrych ar feysydd blaenorol a ystyriwyd i sicrhau eu bod yn alinio gydag unrhyw addasiadau Covid-19 y gall fod eu hangen, ond byddai’r ffocws ar y meysydd eraill na chafodd eu trafod hyd yma gyda golwg tuag at gwblhau gwaith y Gr?p Gorchwyl a Gorffen cyn gynted ag sy’n bosibl. (Opsiwn 1)

 

Dogfennau ategol: