Agenda item

Adolygiad i Ansawdd Cyflenwad Dŵr mewn Ysgolion

Oherwydd yr angen i ystyried yr eitem ddilynol fel mater o frys, mae Cadeirydd y Pwyllgor wedi cadarnhau y caiff y mater dilynol gael ei ystyried dan ddarpariaethau Paragraff 4(b), Adran 100(b) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

RHESWM AM Y BRYS

 

I’r Pwyllgor ystyried yr adolygiad a gweithredu newidiadau priodol i brosesau monitro.

 

Ystyried adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Addysg.

Cofnodion:

Oherwydd yr angen i ystyried yr eitem ddilynol fel mater o frys, cadarnhaodd Cadeirydd y Pwyllgor y gellid ystyried y mater dilynol dan ddarpariaethau Paragraff 4(b), Adran 100(b) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Rhoddwyd ystyriaeth ar y cyd i’r adroddiad ar y cyd gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol a Chyfarwyddwr Corfforaethol Interim Addysg.

 

Atgoffodd y Cadeirydd bawb y gwahoddwyd Aelodau’r Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu i’r cyfarfod fel sylwedyddion oherwydd natur drawsbynciol yr adroddiad ac felly yn unol â’r ymgynghoriad ni chaniateid i’r Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu bleidleisio.

 

Mewn ymateb, teimlai Aelod fod y penderfyniad i atal Aelodau’r Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu rhag medru pleidleisio ar yr adroddiad yn ddehongliad o reolau’r Cyfansoddiad. Credai’r Aelod ei fod yn gyfarwyddyd gan arweinwyr y Cyngor i atal Aelodau rhag pleidleisio.

 

Nododd y Cadeirydd y sylwadau a chynghorodd y dylid codi’r mater gydag arweinwyr y Cyngor.

 

Ar wahoddiad y Cadeirydd, dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymdeithasol mai diben yr adroddiad yw diweddaru Aelodau ar ganlyniad yr adolygiad a gynhaliwyd gan Integrated Water Services (IWS) oherwydd y problemau gydag ansawdd d?r a gafwyd yn ein hysgolion yn ystod cyfnod cau oherwydd COVID-19.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod y Cyngor wedi bod ag agwedd ragweithiol a chynhwysfawr at ailagor ysgolion o safbwynt iechyd a diogelwch, yn cynnwys profi d?r yn unol â’r Cod Ymarfer Cymeradwy (ACOP) L8 a chyngor penodol yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE). Mae diogelwch plant a staff ar bob safle ysgol yn flaenoriaeth i’r Cyngor.

 

Cau ysgolion yn ystod y cyfnod clo oedd y cyfnod hiraf erioed i ysgolion fod ar gau. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol mai dim ond am gyfnod o bump i chwe wythnos yn ystod gwyliau’r haf y mae ysgolion ar gau fel arfer. Mae’r cyfnod hwn o gau ysgolion yn ddigynsail a dysgwyd gwersi ar draws nifer o wasanaethau.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol mai cwmni Integrated Water Services (IWS) a benodwyd i gynnal yr adolygiad. Mae cwmpas yr adolygiad yn cynnwys dewis 12 safle ysgol o’r 29 safle ysgol yn y Fwrdeistref. Dywedwyd mai’r ysgolion a ddewiswyd oedd:-

 

1. Ysgol Gynradd Blaen-y-Cwm

2. Ysgol Gynradd Bryn Bach

3. Ysgol Sylfaen Brynmawr

4. Ysgol Canolfan yr Afon

5. Ysgol Gynradd Coed-y-Garn

6. Ysgol Gynradd Ebwy Fawr / Ysgol Arbennig Pen-y-Cwm

7. Ysgol Uwchradd Ebwy Fawr

8. Ysgol Gynradd Eglwys yng Nghymru Santes Fair

9. Ysgol Gynradd Sofrydd

10. Ysgol Gyfun Tredegar

11. Ysgol Gynradd Trehelyg

12. Ysgol Gynradd Ystruth

 

Rhoddir manylion crynodeb adolygiad IWS yn Atodiadau 1 a 2 yr adroddiad ac amlinellodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol yr argymhellion allweddol a ddynodwyd gan IWS fel sy’n dilyn:-

 

1)       Ymchwilio rhaglen fonitro addas ar-lein ar gyfer monitro legionella er mwyn caniatáu gwybodaeth data i gael ei chadw, cyrchu ac archwilio’n fwy effeithol.

2)       Cynnal hyfforddiant mwy trylwyr ar staff yn ymwneud â rhaglen profion monitro legionella, yn neilltuol ym maes fflysio system dd?r.

3)       Adolygu ein hasesiadau risg legionella i sicrhau eu bod yn ddigon cyfoes i gydymffurfio gyda’r ddeddfwriaeth.

4)       Dadansoddi gwybodaeth IWS a gweithredu meysydd arfer da.

5)       Ystyried addasrwydd polisi rheoli risg “arferol” legionella yng ngoleuni sefyllfa gyfredol Covid19, yn neilltuol ym maes fflysio systemau.

 

Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol mai’r argymhellion yw sail cynllun gweithredu a gaiff ei lunio.

 

Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol bod adolygiad IWS yn awgrymu na ddylai ysgolion gael eu cau oherwydd canlyniadau uchel TVC. Fodd bynnag teimlai’r Cyngor y gallai canlyniadau uchel o sampl TVC ddangos halogiad legionella ac felly cynhaliwyd ailsampio pellach nes y ceir canlyniadau profion legionella. Teimlai’r Cyfarwyddwr Corfforaethol fod y Cyngor wedi mynd ymhellach nag yr awgrymwyd ac mae angen cydnabod y caiff deddfwriaeth rheoli legionella ei gweithredu’n wahanol yn nhermau polisi penodol ymysg sefydliadau sy’n dal i gydymffurfio gyda’r ddeddfwriaeth .

 

Credai’r swyddogion Technegol, Iechyd a Diogelwch ac Iechyd yr Amgylchedd, mewn ymgynghoriad gyda chydweithwyr Addysg, y cafodd yr ymagwedd at ailagor ysgolion ei drin mewn ffordd effeithlon a diogel.

 

Serch hynny, cydnabu’r Cyfarwyddwr Cynorthwyol fod gwersi i gael eu dysgu o COVID-19, a fyddai’n cryfhau arferion a gweithdrefnau’r Cyngor o hyn ymlaen.

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol at yr opsiynau ar gyfer argymhelliad a nododd oblygiadau ariannol yr Opsiwn a ffefrir. Dywedodd y byddai angen sicrhau meddalwedd ac y gall hefyd fod angen adnoddau staff ychwanegol er mwyn sicrhau’r lefel uwch o fonitro a hyfforddiant a fyddai ei angen. Fodd bynnag, byddai’r rhain yn cael eu hadolygu a’u diwygio yn unol â hynny unwaith mae’r system yn ei lle. Byddai unrhyw gostau refeniw ychwanegol yn cael eu dynodi fel pwysau cost o fewn y gyllideb Landlord Corfforaethol, yn disgwyl ystyriaeth o ddyrannu cyllid refeniw ychwanegol ym mhroses adolygu cyllideb 2020/2021.

 

Cytunodd y Rheolwr Trawsnewid Addysg gyda sylwadau y Cyfarwyddwr Corfforaethol a dywedodd ei bod yn llwyr gefnogi’r ymateb i’r profion ysgol. Ychwanegodd y Rheolwr y gwnaed yr ymateb er budd gorau staff a disgyblion. Nodwyd y byddai cynllun gweithredu yn ei le o hyn ymlaen y byddai angen cydymffurfio ag ef a’i weithredu gan staff presennol a staff newydd.

 

Ar y pwynt hwn gwahoddodd y Cadeirydd gwestiynau/sylwadau gan Aelodau. Mewn ymateb i gwestiwn a wnaed yng nghyswllt gwahodd contractwyr i ymuno â’r cyfarfod hwn, cadarnhawyd na chawsant eu gwahodd.

 

Mynegodd Aelod bryder na chafodd yr adroddiad ei gyflwyno i’r Cyngor llawn gan ei fod yn effeithio ar bob Aelod Etholedig. Cododd yr Aelod hefyd bryderon am y canfyddiadau sylweddol a amlinellir yn yr atodiad yn Atodiad 1 a chredai fod y Cyngor wedi methu diogelu disgyblion a staff mewn ysgolion.

 

Cyfeiriodd yr Aelod ymhellach at broblemau mewn ysgol leol yng nghyswllt lleoliad bleindiau uwchben sinciau. Dywedwyd iddi y gallai lleoliad y ffenestr heb unrhyw orchudd arnynt gael effaith ar lefelau legionella yn y d?r a theimlai, er y byddai costau i drafod y broblem, ei bod yn bwysig i atal legionella pellach yn systemau ysgolion yn y dyfodol.

 

Atebodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim fod gwersi i gael eu dysgu, er bod hyn yn ymateb corfforaethol, roedd y Gyfarwyddiaeth Addysg wedi gweithredu’n gyflym i sicrhau fod ysgolion yn ddiogel o ran iechyd a diogelwch ar gyfer disgyblion a staff i fynychu.

 

Dywedodd y Rheolwr Trawsnewid Addysg y gwyddai o drafodaethau gyda swyddogion a deimlai y gallai’r gwres o’r ffenestr yn uniongyrchol ar y tapiau fod wedi cyfrannu at y lefelau uwch yn y d?r. Fodd bynnag, byddai hyn yn cael ei drin fel rhan o waith parhaus cynnal a chadw yr ysgol.

 

Diolchodd yr Aelod i’r Rheolwr am y diweddariad a dywedodd ei bod yn bwysig fod y Cyngor yn cydymffurfio gyda’r gweithdrefnau sydd yn eu lle. Bu’r mater hwn yn fethiant enfawr i’n plant a staff ac mae’n bwysig mynd i’r afael ag ef i atal problemau pellach yn y dyfodol.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol nad oedd unrhyw awgrym neu dystiolaeth yn yr adroddiad sy’n awgrymu fod y Cyngor wedi ‘methu’ neu fod ganddo ‘ddiffygion’. Roedd y Cyngor yn cymryd ymagwedd rhag ofn i sicrhau fod staff a disgyblion yn ddiogel. Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol nad oedd unrhyw ofyniad i’r Cynghorau gael polisi legionella gan fod polisi Iechyd a Diogelwch cyffredinol y Cyngor yn cynnwys legionella ynghyd ag ystod o faterion eraill ac mae’n bwysig sicrhau y caiff yr holl gofnodion a hyfforddiant eu cadw’n gyfredol.

 

Teimlai’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymdeithasol y dylid herio’r sylw ‘methu’ ac ategodd nad oedd disgyblion a staff erioed mewn risg. Mae’r Cyngor wedi dilyn y polisi corfforaethol ar Iechyd a Diogelwch ac mae’r Adolygiad wedi dynodi arferion da y teimlai y dylai’r Cyngor eu cymryd ar gyfer y dyfodol. Fodd bynnag, ategodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol nad oedd unrhyw dystiolaeth fod y Cyngor wedi siomi disgyblion a staff ysgolion.

 

Cododd Aelod bryder arall am yr adroddiad a theimlai fod y canfyddiadau’n dynodi bylchau sylweddol yn y cynlluniau rheoli ledled Blaenau Gwent yn nhermau prosesau profion a chofnodion legionella. Nododd yr Aelod ddatganiadau o’r adroddiad sy’n cynnwys na ddarparwyd y polisi cyfreithiol, bod asesiadau risg yn hen ac nad oedd unrhyw linellau clir o brosesau ar gyfer y gr?p neu ysgolion. Roedd ailagor ysgolion yn benawdau yn y newyddion ac roedd Prif Weinidog Cymru wedi ei gwneud yn flaenoriaeth glir ac oherwydd y cafodd y Cyngor dri mis i baratoi ar gyfer agor diogel, ni fedrai’r Aelod ddeall sut y gallai fod oedi. Cofiai’r Aelod i’r Aelod Gweithredol Addysg ddweud ar y pryd ei bod yn siomedig i ddisgyblion oedd wedi cynllunio i ddychwelyd i’r ysgolion, fodd bynnag y brif flaenoriaeth i’r Cyngor oedd diogelwch disgyblion a staff. Teimlai’r Aelod os oedd ailagor ysgolion yn brif flaenoriaeth, y dylai’r ysgolion fod wedi agor yn ôl y disgwyl yn dilyn y cyhoeddiad gan Brif Weinidog Cymru.

 

Ategodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Addysg y pwynt a wnaed gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol nad oedd gofyniad penodol i gael polisi penodol ar legionella. Caiff y broses ei chynnwys yn y polisi Iechyd a Diogelwch ac mae hyn yr un fath ag ym mwyafrif awdurdodau lleol.

 

Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim bod llawer iawn o ansicrwydd ym mis Mehefin am ailagor ysgolion a chafodd ysgolion eu hailbwrpasu ar gyfer teuluoedd gweithwyr allweddol a phlant bregus. Roedd cyfnod byr i sicrhau o safbwynt iechyd a diogelwch bod ysgolion yn ailagor yn effeithlon. Adeg y dechreuodd y Cyngor ar y gwaith profi, fodd bynnag, roedd nifer o awdurdodau lleol eraill yn cynnal profion tebyg oedd wedi dynodi rhai problemau gyda’r cyflenwad d?r mewn rhai ysgolion.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim nad oedd y 12 ysgol a ddynodwyd yn yr adroddiad yn sampl ar hap. Cafodd yr ysgolion hyn eu dynodi gyda chanlyniadau prawf cadarnhaol ar gyfer TVC neu legionella ac yn dilyn dialog gyda’r contractwr IWS, cafodd y gwaith ei wneud yn annibynnol.

 

Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim hefyd fod sylwadau’r Aelod Gweithredol Addysg yn y cyfathrebiad yn gywir, mae gofynion iechyd a diogelwch y Cyngor yn brif flaenoriaeth i’r Cyngor a dilynwyd dull gweithredu i sicrhau fod yr ysgolion yn ddiogel ar gyfer staff a dysgwyr. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim, er y bu oedi wrth agor rhai ysgolion, y cafodd y gwaith ei gyflawni a chredai swyddogion y cafodd y flaenoriaeth ei diwallu. Yn bwysig, ailagorodd yr holl ysgolion yn ystod tymor yr haf.

 

Mewn ymateb i bryderon pellach dywedwyd bod hwn yn gyfnod na fu erioed ei debyg ac nid oedd ysgolion wedi cau am gyfnodau mor hir. Roedd y Cyngor wedi gweithio’n agos gydag ysgolion a dilynwyd yr holl gyngor ac arweiniad, fodd bynnag oherwydd y cyfnod y bu’r ysgolion ar gau, nid oedd arferion arferol wedi bod yn ddigonol felly cafwyd canlyniadau prawf positif. Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim fod hon yn sefyllfa ddigynsail a bod y Cyngor wedi cydnabod fod gwersi i’w dysgu ac y byddir yn symud ymlaen gyda’r cynllun gweithredu i atal problemau tebyg yn y dyfodol.

 

Ychwanegodd y Rheolwr Trawsnewid Addysg y gwnaed llawer iawn o waith paratoi gydag ysgolion cyn mis Mehefin yn cynnwys cadw systemau fflysio ac roedd pob ysgol wedi rhoi tystiolaeth. Fodd bynnag, ategodd y Rheolwr na fyddai’r systemau hynny wedi bod yn ddigon oherwydd y cyfnod hir y bu ysgolion ar gau. Roedd argaeledd contractwyr yn gyfyngedig oherwydd bod staff ar ffyrlo ac mai dim ond gwaith blaenoriaeth oedd yn cael ei wneud oherwydd COVID-19. Byddai’r profion hynny wedi bod yn annilys pe byddent wedi eu cynnal cyn i ysgolion agor. Credai’r Rheolwr i’r Cyngor weithredu mor brydlon gan y gallai gan nad oedd neb eisiau gweld ysgolion ar gau. Roedd yr ysgolion wedi gwerthfawrogi’r gefnogaeth roedd y Cyngor wedi ei rhoi ar waith i sicrhau y gallent agor yn ddiogel.

 

Dywedodd Aelod y cafwyd ymateb cadarnhaol gan ysgolion am y gefnogaeth a gawsant. Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Addysg bod y cyfarfodydd o’r Gr?p Cynllunio a gynhaliwyd pan oedd ysgolion ar gau wedi parhau ar ôl iddynt agor a bod yr adborth o gyfarfodydd bob amser wedi bod yn gadarnhaol gan benaethiaid ysgolion. Cadarnhaodd y Rheolwr Trawsnewid Addysg ymhellach fod yr ysgolion wedi gwerthfawrogi’r gefnogaeth a chanlyniadau cyflym i’r materion.

 

Dywedodd y Rheolwr fod swyddogion o Addysg, Gwasanaethau Technegol ac Iechyd yr Amgylchedd wedi sicrhau fod y canfyddiadau’n cael eu hesbonio’n llawn a’r rhesymau am y camau gweithredu a gymerid.

 

Cododd Aelod arall bryderon am sylwadau gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol oedd yn ymddangos i fod yn wahanol i’r adroddiad a gyflwynwyd. Teimlai’r Aelod fod yr adroddiad yn dangos yn glir nad oedd y Cyngor wedi cyrraedd safonau.

 

Cyfeiriodd yr Aelod hefyd at y penderfyniad i beidio caniatáu i bob Aelod bleidleisio yn y cyfarfod hwn a nododd ei siom na chafodd ei gyflwyno i’r Cydbwyllgor Craffu ar Ddiogelu. Cafodd dyddiad y cyfarfod ei newid a dim ond 3 diwrnod o rybudd a gafodd Aelodau, yn cynnwys y penwythnos i ddarllen yr adroddiad cyn y Pwyllgor Craffu a bod Pwyllgor Gweithredol yn fuan wedyn i gymeradwyo’r adroddiad. Dywedodd yr Aelod fod legionella yn glefyd difrifol a’i bod yn hanfodol fod gan y Cyngor systemau profi digonol ar waith a gaiff eu dilyn.

 

Credai’r Aelod na chafodd yr holl adroddiad ei gyflwyno. Cytunodd Aelod arall a theimlai fod yr adroddiad a’r trafodaethau wedi eu trefnu i sicrhau bod yr adolygiad yn cael ei gyflwyno mewn ffordd gadarnhaol.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol fod yr adroddiad a dderbyniwyd gan y Cyngor wedi ei rannu’n llawn gydag Aelodau.

 

Dywedodd Aelod arall fod y materion a wynebwyd yn fater diogelu a cytunodd na chafodd yr adroddiad ei gyflwyno i’ gyfarfod diweddar y Cydbwyllgor Craffu ar Ddiogelu. Dywedodd yr Aelod fod ysgolion wedi derbyn cefnogaeth ardderchog, fodd bynnag ni chafodd y systemau a’r polisïau priodol eu dilyn a oedd wedi atal ysgolion rhag ailagor yn dilyn y cyhoeddiad gan Brif Weinidog Cymru.

 

Mewn ymateb i’r pryderon a godwyd dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol y cynhaliwyd system profion gadarn gyda dull gweithredu risg i sicrhau fod pob ysgol yn ddiogel ac yn gallu agor. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod monitro rheolaidd yn mynd rhagddo, fodd bynnag bu’r ysgolion ar gau am gyfnod maith. Ni wnaeth yr adolygiad ddynodi unrhyw ddiffygion yn nhermau’r system brofi na’r ymagwedd at ailagor er y tynnwyd sylw at broblemau am gadw cofnodion.

 

Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaethau Eiddo esboniad o’r prosesau sydd yn eu lle i wirio ansawdd dwr ac ategodd fod y cau ysgolion yn ddigynsail a heb ei gynllunio.

 

Teimlai Aelod fod angen bod yn realistig yn nhermau digwyddiadau diweddar gan fod cyfnod clo yn ei le ar draws y wlad, roedd llawer o staff ar ffyrlo, dim ond ar gyfer teithiau hanfodol y caniateid teithio ac roedd ysgolion ar gau am lawer mwy o wythnosau na’r gwyliau ysgol arferol. Dysgwyd gwersi o’r adolygiad a chafodd cynllun gweithredu ei ddatblygu. Dywedodd yr Aelod ei fod yn dangos diffyg parch at rai Aelodau deimlo ei bod yn addas cyfeirio at y gwaith fel ymgais i guddio pethau. Dilynwyd y gweithdrefnau cywir mewn cyfnod ansicr iawn. Roedd yr Aelod yn siomedig y teimlai Aelodau fod cwestiynau am yr adroddiad wedi ei drefnu ymlaen llaw gan na chafodd ei drafod cyn y cyfarfod.

 

Ni dderbyniai Aelod y cafodd y canfyddiadau eu cyflwyno yn llawn a theimlai fod Aelodau etholedig a hefyd y cyhoedd yn cael eu camarwain.

 

Roedd Aelod arall yn croesawu’r cyfle i graffu ar yr adroddiad a’r cynllun gweithredu. Fodd bynnag, cytunodd yr Aelod y dylai’r cynllun gweithredu gael ei ymestyn ar draws pob adeilad corfforaethol ac nid ysgolion yn unig. Credai’r Aelod fod iechyd a diogelwch yn fater corfforaethol ac y dylai felly gael ei drin yn gorfforaethol. Ychwanegodd yr Aelod ymhellach os oes angen y polisi i drin materion iechyd a diogelwch corfforaethol, ei fod yn awgrymu fod hynny’n cael ei graffu gan y Pwyllgor Craffu priodol a chyflwyno unrhyw ddiwygiadau i’r Cyngor eu cymeradwyo.

 

Teimlai Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol y byddai’n fuddiol i ymestyn y cynllun gweithredu ar draws pob adeilad corfforaethol ac mai dyna fwriad y Cynllun Gweithredu. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y byddai cyflwyno’r polisi i’r Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol os oes newidiadau i gynllun Iechyd a Diogelwch y Cyngor yn ei gyfanrwydd neu os oedd polisi ar wahân i gael ei baratoi.

 

Mewn ymateb i sylwadau a wnaed yng nghyswllt pryderon am ddiogelu, dywedodd Aelod nad materion diogelu oedd y rhain ond mater iechyd a diogelwch yn gysylltiedig â materion technegol.

 

Codwyd pwyntiau pellach yng nghyswllt yr adroddiad a’i ganfyddiadau ac er bod cynllun gweithredu clir i gael ei roi yn ei le yn y dyfodol, mae’r adroddiad yn niweidiol i’r Cyngor. Ategwyd y pryderon am amserlenni cyflwyno’r adroddiad i’r Pwyllgor Craffu ac wedyn i’w gymeradwyo gan y Pwyllgor Gweithredol. Teimlid fod hyn yn amhriodol gan fod angen cael amserlenni clir i sicrhau amser digonol i Aelodau ystyried materion mor bwysig.

 

Cyfeiriodd Aelod arall at y diweddariadau 6 misol i gael eu cyflwyno ac awgrymodd y dylid eu cyflwyno ar sail chwarterol. Cytunodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol y gellid gwneud hyn a theimlai’r Cadeirydd hi’n briodol i’w drafod yn y cyfarfod gosod agenda i’w gynnwys yn y Flaenraglen Gwaith.

 

Gofynnodd Aelod pryd nad oedd iechyd a diogelwch yn ein ysgolion ddim yn risg diogelu i blant. Dywedodd yr Aelod y byddai’n achosi risg diogelu os na chydymffurfir â gweithdrefnau neu bolisïau.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim mai prif gyfrifoldeb y Cydbwyllgor Craffu Diogelu oedd Amddiffyn Plant a bod y cyfrifoldebau Iechyd a Diogelwch yn gysylltiedig â phrofion d?r wedi alinio gyda’r Adran Gwasanaethau Technegol. Dywedodd fod y gwaith a wnaed yn ymateb corfforaethol a bod swyddogion wedi gweithio’n ddiflino i ymateb i’r sefyllfa. Roedd y timau perthnasol ar draws y Cyngor wedi cydweithio yn ystod yr ymateb argyfwng, yn cynnwys staff oedd wedi eu hadleoli o feysydd gwasanaeth eraill. Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim yr adroddiad sy’n rhoi manylion yr angen i feithrin capasiti a chryfhau adnoddau. Byddai’r gweithredoedd hyn yn sicrhau fod ein dull gweithredu ar gyfer profion d?r yn gwella o hyn ymlaen.

 

Ar hynny cynigiwyd bod y Cynllun Gweithredu a fanylir yn Atodiad 3 yn cael ei weithredu ar draws holl adeiladau’r Cyngor gan fod Iechyd a Diogelwch yn gyfrifoldeb corfforaethol a bod y polisi yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Craffu priodol i’w ystyried cyn i’r Cyngor llawn gymeradwyo unrhyw newidiadau.

 

CYTUNWYD ar y llwybr gweithredu hwn.

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a gweithredu Opsiwn 2, sef y newidiadau adolygu priodol, yn arbennig yng ngoleuni COVID-19 sy’n dal yn bresennol yn y wlad, ac y gallai cyfnodau clo lleol olygu y byddai ysgolion yn cael eu cau yn llawn neu’n rhannol, a allai arwain at fwy o broblemau gydag ansawdd d?r.

 

Dogfennau ategol: