Agenda item

Yr Economi – Adferiad Economaidd yn dilyn COVID-19

Ystyried adroddiad y Pennaeth Adfywio a Datblygu.

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd J. Wilkins fuddiant yn yr eitem hon, fodd bynnag arhosodd yn y cyfarfod yn ystod trafodaethau.

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Adfywio a Datblygu.

 

Croesawodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol yr adroddiad cadarnhaol sy’n nodi’r strategaeth arfaethedig y byddai Blaenau Gwent yn ei mabwysiadu mewn ymateb i COVID-19. Mae’r strategaeth yn cefnogi’r sectorau a’r busnesau yn y Fwrdeistref Sirol ac yn rhoi diweddariad cynnydd ar y gwaith sy’n mynd rhagddo’n lleol sy’n bwydo i’r cynlluniau rhanbarthol.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod pandemig a chyfnod clo COVID-19 wedi effeithio’n fawr ar lawer o fusnesau a chyflogaeth ar draws Cymru a’r Deyrnas Unedig. Cafodd masnachu’r rhan fwyaf o gwmnïau ei darfu gan achosi problemau tymor byr a hirdymor mewn llawer o sectorau. Edrychodd yr adroddiad at ddata a gasglwyd gan wahanol sefydliadau a gweithredu modelu i edrych ar y ffigurau diweithdra posibl ar gyfer Blaenau Gwent. Roedd hefyd yn ystyried busnesau sydd angen cymorth ac a fedrai hybu’r economi lleol yn y dyfodol. Rhoddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol drosolwg manwl o’r wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cafodd modelu diweithdra COVID ei weithredu ar draws gwahanol sectorau gan roi ffigurau gwirioneddol ar gyfer diweithdra yn y Fwrdeistref a nododd mai’r sefyllfa achos gwaethaf fyddai ychydig dros 4,200 o bobl ychwanegol yn ddi-waith gyda 1,700 o swyddi newydd yn cael eu disgwyl dros yr un cyfnod. Roedd hefyd nifer o dueddiadau a chamau gweithredu yn deillio o’r data a gallai gwaith ddechrau ar gynlluniau a all fod angen eu datblygu a fyddai’n galluogi busnesau Blaenau Gwent i addasu i’r ffyrdd newydd o weithio a amlinellwyd gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol.

 

Wedyn amlinellodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y camau gweithredu tymor byr a hirdymor i fynd rhagddynt ar draws y sectorau fel y manylir yn yr adroddiad.

Croesawodd yr Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd y gwaith a dywedodd fod yr adroddiad yn torri ar draws nifer o feysydd gwasanaeth. Adran fach yw'r Tîm Datblygu Economaidd a chawsant eu cefnogi gan Refeniw a Budd-daliadau i ddiogelu a chefnogi busnesau drwy gyllid grant. Cafodd y cysylltiad gyda busnesau ei gadw drwy gydol y cyfnod clo a dymunai ddiolch i’r staff am eu gwaith caled.

 

Ychwanegodd yr Aelod Gweithredol fod y pandemig wedi effeithio ar lawer iawn o swyddi a busnesau a bod yr her yn parhau gan nad oes unrhyw ddyddiad gorffen. Roedd yn hyderus fod y gefnogaeth yn ei lle i ddiogelu beth bynnag a fedrwn a pharhau i ddod â buddsoddiad i Flaenau Gwent.

 

Ategodd yr Arweinydd ymdrechion swyddogion yn ystod y cyfnod hwn a dywedodd fod unigolion wedi cysylltu ag ef yn canmol gwaith y Tîm Datblygu Economaidd i sicrhau eu bod yn goroesi. Mae staff Datblygu Economaidd yn rhagorol ac wedi rhoi cymorth gwych mewn cyfnod ansicr.

 

Ychwanegodd yr Arweinydd fod yr holl adroddiadau Adfywio a Datblygu Economaidd a ystyriwyd o safon rhagorol. Mae’n dangos ymrwymiad ac arbenigedd yn y maes dan arweiniad yr Aelod Gweithredol. Roedd y materion a ystyriwyd yn bwysig i’r cyhoedd, ac wedi bod yn anodd i’r holl awdurdodau ar draws Cymru, gan ddangos y gallai’r pryderon difrifol hyn gael eu trin. Roeddent yn her i wleidyddion profiadol a theimlai’r Arweinydd fod yr Awdurdod wedi safleoli ei hun yn dda i drin y materion hyn.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1 i barhau i weithio gyda phartneriaid i ganolbwyntio ar y cynlluniau a fyddai’n dod â’r budd mwyaf i Flaenau Gwent yn dilyn COVID, y rhai a fyddai’n gwella cyfleoedd cyflogaeth a chefnogi busnesau i sicrhau cynnydd gyda gwelliannau digidol a chymysgedd o weithio gartref, gweithio rhannol a gweithio rhannu gofod.

 

Dogfennau ategol: