Agenda item

Dalen Weithredu – 2 Rhagfyr 2019

Derbyn y Ddalen Weithredu.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd y ddalen weithredu yn deillio o gyfarfod y Cyd-bwyllgor Addysg & Dysgu a Gwasanaethau Cymdeithasol (Diogelu) a gynhaliwyd ar 2 Rhagfyr 2019, yn cynnwys:

 

COVID-19

 

Mynegodd Aelod siom na fu unrhyw drafodaeth gyda’r Cadeirydd a Swyddogion Arweiniol yn yr Awdurdod yng nghyswllt sefyllfa COVID-19 a’r sgil effaith yng nghyswllt y Gyfarwyddiaeth Addysg a theimlai y dylai Aelodau gael gwybodaeth lawn am y sefyllfa.

 

Profion ac Ansawdd D?r

 

Dywedodd Aelod y cynhelir cyfarfod ar y cyd rhwng y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol a’r Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu. Fel y Pwyllgor cynnal, dim ond Aelodau o’r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol fyddai â hawliau pleidleisio ond ni fyddai pleidlais gan Aelodau’r Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu. Teimlai’n gryf fod profion ac ansawdd d?r yn fater diogelu ac y dylai gael ei ystyried yn y Pwyllgor hwn.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Addysg y penderfynwyd cyfarfod cyd-bwyllgor rhwng y ddau Bwyllgor Craffu gan fod gan Gwasanaethau Cymunedol gyfrifoldebau Landlord Corfforaethol.

 

Dywedodd Aelod arall ei bod yn bwysig fod Aelodau, fel Pwyllgor Diogelu, yn gwybod am y sefyllfa yng nghyswllt sut a phwy sy’n gwneud penderfyniadau a bod y penderfyniadau cywir yn cael eu gwneud a’u dilyn yn gywir.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Addysg fod y mater ansawdd d?r wedi oedi ailagor rhai ysgolion ac y cynhaliwyd ymchwiliad annibynnol i adolygu prosesu. Cyflwynir adroddiad i’r Cyd-bwyllgor Craffu yn rhoi sylw i nifer o feysydd i gael eu datblygu a’u gwella wrth symud ymlaen.

 

Ailadroddodd yr Aelod ei siom am hawliau pleidleisio ar gyfer Aelodau Craffu Addysg a Dysgu. Teimlai’r Cadeirydd hefyd y dylai Aelodau’r Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu gael hawliau pleidleisio ar y mater hwn.

 

Dywedodd y Swyddog Democrataidd a Chraffu y byddai’n mynd â’r pwyntiau hyn yn ôl i’r Pennaeth Llywodraethiant a Phartneriaethau.

 

Teimlai’r Cadeirydd a’r Is-gadeirydd y dylid trafod cyfarfod gyda’r Rheolwr Gyfarwyddwr ac Arweinyddiaeth y Cyngor i drafod y mater hwn.

 

Cododd Aelod arall bryderon pellach am adroddiad Gwasanaethau Addysg Llywodraeth Leol a ysgrifennwyd ym Mehefin 2020 yng nghyswllt cyfrifoldebau diogelu. Teimlai fod materion o fewn ysgolion tebyg i iechyd a diogelwch, ansawdd d?r a COVID-19 i gyd yn faterion diogelu ac yn gyfrifoldeb y Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu, ac o’r herwydd y dylai Aelodau’r Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu gael rhan yn unrhyw benderfyniadau a wneir.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim mai prif gyfrifoldeb y Cyd-bwyllgor Diogelu yw diogelu plant. Yng nghyswllt profion d?r, byddai’r gweithdrefnau hyn yn dod dan y rheoliadau Iechyd a Diogelwch ac yn alinio gyda gwaith Gwasanaethau Technegol e.e. Legionella. Felly, bu angen trefnu Cyd-bwyllgor Craffu i ystyried trafodaethau gan Aelodau’r ddau Bwyllgor.

 

Teimlai’r Cadeirydd y dylid bod wedi trefnu Cyd-bwyllgor Craffu gyda hawliau pleidleisio llawn ar gyfer pob Aelod. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Addysg y byddai’n mynd â’r sylwadau hyn yn ôl i Gwasanaethau Democrataidd cyn cyfarfod y Cyd-bwyllgor Craffu.

 

CYTUNODD y Pwyllgor ar y llwybr gweithredu hwn.

 

Dywedodd Aelod na fu unrhyw blentyn mewn risg gan y bu system brofi drylwyr yn ei lle a bod ysgolion wedi parhau wedi ynysu nes y cafodd y profion eu cwblhau. Teimlai y cafodd gosodiadau addysgol dysgwyr wedi eu diogelu a byddai’n addas aros am ganfyddiadau’r adroddiad i gael trafodaeth mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i nodi’r ddalen gweithredu yma.

 

Dogfennau ategol: