Agenda item

Polisi Diogelu Gwasanaethau Addysg Llywodraeth Leol

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Addysg.

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim a’r Rheolwr Diogelu mewn Addysg a gyflwynwyd i roi cyfle i Aelodau  graffu ar Bolisi Diogelu Gwasanaethau Addysg Llywodraeth Leol yn dilyn ei adolygiad blynyddol.

 

Siaradodd y Rheolwr Diogelu mewn Addysg am yr adroddiad a thynnu sylw at y diweddariadau dilynol i’r polisi:-

 

·         Cyfeirio at Weithdrefnau Diogelu Cymru 2019, sy’n disodli cyfeiriad blaenorol at Weithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru 2008;

·         Cynnwys polisi diogelu Gwasanaeth Ieuenctid Blaenau Gwent yn atodiad 3 y polisi;

·         Cynnwys y protocol casglu data diogelu; a

·         Chynnwys atodiad COVID-19 i adlewyrchu’r sefyllfa bresennol a gadarnhau’r gweithdrefnau ar gyfer rhoi adroddiad am bryderon. Gellir diweddaru’r atodiad hwn yn rheolaidd wrth i’r sefyllfa argyfwng ddatblygu a newid.

 

Cododd Aelod bryderon am y pwysau ar fywyd cartref megis problemau ariannol, colledion swydd ac yn y blaen a’r newid mewn deinameg mewn cartrefi gyda llawer o rieni yn gweithio gartref. Holodd sut y gellid casglu adborth o’r sefyllfaoedd hyn gan y gallai hyn arwain at gynnydd yn y dyfodol yn nifer y plant sy’n derbyn gofal. Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Plant sicrwydd yr ymatebir yn briodol i’r atgyfeiriadau hynny gyda phryderon am ddiogelu, h.y. amddiffyn plant, cam-drin neu esgeulustod, beth bynnag am bandemig COVID-19, ac ar gyfer y plant hynny oedd adref oherwydd diffyg darpariaeth ysgol, nid oedd dim wedi rhybuddio’r awdurdod leol am unrhyw bryderon diogelu.

 

Cyfeiriodd yr Aelod at oblygiadau ehangach diogelu a sut y byddai straen y gweithle yn mynd i’r cartref teuluol yn effeithio ar fywydau plant yn gyffredinol. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Gwasanaethau Plant y gwnaed cyllid ychwanegol drwy’r Gronfa Datblygu Plant ar gael ac mae wedi ei dargedu’n benodol at y plant hynny sydd wedi dioddef fel canlyniad i COVID-19, nail ai’n addysgol, yn emosiynol neu drwy lesiant holistig. Byddai’r Gyfarwyddiaeth yn edrych ar y carfannau hyn o blant mewn cysylltiad gyda Teuluoedd yn Cyntaf a Dechrau’n Deg. Byddai cyfle hefyd i edrych ar leoliadau statudol. Byddai’r cyllid ychwanegol yn helpu i ymchwilio pa gymorth arall fedrai fod ar gael ar gyfer y plant hynny a all fod wedi dioddef ar lefel is drwy beidio mynychu ysgol a thrwy’r ynysigrwydd cymdeithasol y gallant fod wedi eu brofi pan oedd yr ysgolion ar gau.

 

Cododd Aelod bryderon am gynnydd yng nghyfraddau COVID-19 ac amddiffyn staff ysgol. Mae rhai yn aros hyd at un wythnos ar gyfer canlyniadau, tra’u bod yn aros yn yr ysgol yn gofalu am ddisgyblion. Holodd os oedd ffordd i sicrhau fod staff ysgolion yn cael profion rheolaidd tebyg i staff mewn cartrefi gofal. Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymunedol fod y gyfradd wedi gostwng i 83 fesul 100,000 yn yr wythnos ddiwethaf felly mae cynnydd wrth ostwng y gyfradd mewn cymunedau.  Yng nghyswllt porth y Deyrnas Unedig, efallai na all pobl gael mynediad i brofion yn lleol ac mae trafodaethau’n mynd rhagddynt gyda Llywodraeth Cymru i ganfod datrysiad. Mae labordy pellach yn ardal Casnewydd i alluogi cynnal 20,000 o brofion ychwanegol yn cael ei ddatblygu i ddod ar waith ym mis Tachwedd. Byddai angen i lawer o bobl, nid dim ond mewn Addysg, ond ar draws y Cyngor i aros gartref tra’n disgwyl canlyniadau profion. Mae’r broblem hon yn bodoli ar draws y Deyrnas Unedig ac nes y gellir cael canlyniadau profion yn ôl o fewn y targed o 72 awr, yna byddai problemau drwy gydol cyfnod y gaeaf.

 

Gadawodd y Cynghorydd Tommy Smith y cyfarfod ar y pwynt hwn.

 

Dywedodd Aelod, er ei fod yn cefnogi’r polisi, fod ganddo bryderon am Atodiad COVID-19 yng nghyswllt y negeseuon cymysg a gafodd rhieni am ynysigrwydd plant gyda brodyr a chwiorydd sy’n mynychu ysgol wahanol. Holodd os y gellid cyfleu gwybodaeth glir i rieni i’w galluogi i wneud penderfyniadau i amddiffyn eu plant heb ofni ôl-effeithiau. Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol y bu dryswch am negeseuon cymysg ar draws y Deyrnas Unedig, eglurodd os yw plentyn yn profi’n bositif yna bod angen i’r plentyn hynny hunan-ynysu ac aros o’r ysgol ynghyd gydag unrhyw frodyr neu chwiorydd. Os bu plentyn mewn cysylltiad gyda rhywun yn yr ysgol sydd yn bositif, yna byddai’n rhaid i’r plentyn hynny hunanynysu ond ni fyddai’n rhaid i’w brodyr a chwiorydd wneud, felly nid oes angen i gyswllt cyswllt hunanynysu a gallai barhau i fynychu’r ysgol. Mae hyn yn gyngor ac arweiniad cenedlaethol fodd bynnag, derbyniodd benderfyniadau’r rhieni os oes gan rieni bryderon gyda’u plant yn mynychu’r ysgol yn ystod y pandemig.

 

Ailddywedodd yr Aelod y dylai’r Cyngor hysbysu rhieni y dylent weithredu heb ofni ôl-effeithiau os oes ganddynt unrhyw bryderon neu amheuon. Teimlai y byddai hyn yn rhoi elfen o hunan-ddewis i rieni. Dywedodd y Cyfarwyddwr Interim Addysg fod y Gyfarwyddiaeth yn cydlynu gyda chydweithwyr yn Iechyd yr Amgylchedd lle dynodwyd achos sensitif a rhoddir cyngor glir i’r teulu a chaiff hyn hefyd ei ddilyn gan yr elfen Profi, Olrhain a Diogelu. Yng nghyswllt diffyg mynychu ysgol oherwydd sefyllfa argyfwng COVID-19, nid oes unrhyw fwriad ar hyn o bryd i roi hysbysiadau cosb. Cyfeiriodd at y cyngor ac arweiniad cenedlaethol a dywedodd fod y Cyngor wedi cydymffurfio gyda’r trefniadau cenedlaethol.

 

Cododd Aelod bryderon am blant a ddylai fod yn hunanynysu yn cael eu gadael mas yn y gymuned gan eu rhieni tra’u bod yn disgwyl canlyniadau profion. Teimlai fod rhai rhieni yn peryglu iechyd plant drwy ganiatáu iddi fynd mas yn y gymuned. Gellid ystyried hyn fel esgeulustod a holodd os yw’r Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Heddlu, sydd â chyfrifoldeb am ddirwyon, yn edrych ar y mater hwn.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Plant y byddai’n tueddu i fod yn betrus pe bai Aelodau o blaid anfon neges gyffredinol at rieni yng nghyswllt y plant hynny a allai fod yn asymptomatig, symptomatig neu hyd yn oed wedi cael prawf positif sy’n cael mynd mas yn y gymuned. Dywedodd nad yr ysgol sy’n gyfrifol ar ôl dweud wrth blant i hunanynysu, penderfyniad y rhieni yw os ydynt yn bryderus am ddiogelwch eu plant. Byddai’n well cael dull cefnogol i annog rhieni i gadw eu plentyn a sôn am oblygiadau peidio dilyn canllawiau cenedlaethol. Os yw’r ymddygiad yn parhau gallai’r Gyfarwyddiaeth gydlynu gyda swyddogion lleol Ymgysylltu â’r Gymuned i gynghori ymhellach os y byddai’n ateb y maen prawf ar gyfer consyrn diogelu ac yn y pen draw, ymweliad ar y cyd gyda’r heddlu ond byddai hyn yn dibynnu ar ffactorau eraill.

 

Ychwanegodd y Rheolwr Gwasanaeth y byddai’n edrych yn ôl ar yr atgyfeiriadau o Chwarteri 1 a 2 i wirio os bu unrhyw blant a ddynodwyd mas yn y gymuned pan y dylent fod wedi bod yn hunanynysu. Byddai hefyd yn cydlynu gyda Teuluoedd yn Gyntaf, gwasanaethau ataliol haen is, i wirio os oeddent wedi derbyn unrhyw atgyfeiriadau o’r fath.

 

CYTUNODD y Pwyllgor ar y llwybr gweithredu yma.

 

Dywedodd Aelod, pa bynnag gamau a gymerir, y bydd bob amser eithriadau. Mae hon yn sefyllfa anodd gyda rhieni yn ansicr pa ddull gweithredu i’w gymryd.

 

Dywedodd y Rheolwr Strategol Addysg y byddai’n gweithio gyda chydweithwyr yn y Gwasanaethau Cymdeithasol i ddynodi mannau anodd pan y gallai digwyddiadau o’r fath ddigwydd pan nad yw plant yn yr ysgol.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef derbyn y drafft bolisi fel y’i cyflwynir yn Atodiad 1.

 

Dogfennau ategol: