Agenda item

Cynllun Datgarboneiddio 2020 – 2030

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gyfarwyddwr.

Cofnodion:

Ystyriodd Aelodau adroddiad y Rheolwr Gyfarwyddwr.

 

Siaradodd y Rheolwr Gyfarwyddwr yn fanwl am yr adroddiad a thynnu sylw at y pwyntiau perthnasol ynddo. Esboniodd fod adran gyntaf yr adroddiad yn cydnabod fod newid hinsawdd yn fater byd-eang o bwysigrwydd sylweddol a bod y cynllun yn gosod uchelgais a chyfeiriad clir i Flaenau Gwent ar sut y gallai ostwng newid hinsawdd a dod yn Gyngor carbon niwtral erbyn 2030. Mae’r cynllun hefyd yn bwriadu cefnogi cyflawni gweledigaeth Llywodraeth Cymru o Gymru garbon isel a galwodd am arweinyddiaeth sector cyhoeddus ac i’r holl sector cyhoeddus yng Nghymru ddod yn garbon niwtral erbyn 2030.

 

Hysbyswyd Aelodau fod y Cyngor eisoes yn gweithio ar gynlluniau ac yn gwneud buddsoddiadau i helpu gostwng ei ôl-troed carbon a rhoddir manylion hyn ym mharagraff 2.4 yr adroddiad. Felly, nid yw’r Cyngor yn cychwyn o safbwynt o ‘ddim gweithgaredd’ ac er y gwnaed gwaith da, mae cryn dipyn o waith i’w wneud yn y dyfodol. Mae enghreifftiau da o’r hyn a gyflawnwyd hyd yma yn cynnwys buddsoddi mewn Ysgolion 21ain Ganrif, gan ddarparu seilwaith/adeiladau ysgol mwy modern ac effeithiol; symud tuag at stad oleuadau stryd ynni o ran isel; rheoli gwastraff – gostwng swm y gwastraff a aeth i domen lanw a’r rhaglen Refit – gweithio gyda Llywodraeth Cymru yn ailosod adeiladau i’w gwneud yn fwy effeithiol o ran ynni. Rhoddir manylion y lefelau presennol o allyriadau carbon yn yr adroddiad i’r adroddiad.

 

Aeth y Rheolwr Gyfarwyddwr ymlaen drwy ddweud fod paragraff 2.7 yn nodi nifer o weithrediadau’r Cyngor lle gallai gweithredu wneud cyfraniad sylweddol tuag at yr uchelgais o fod yn garbon niwtral a phontio i gyflawni Cyngor mwy effeithol a charbon niwtral. Byddai angen gwneud gwaith pellach a chynnwys meysydd fel trafnidiaeth a theithio (yn cynnwys teithio i’r gwaith), caffael nwyddau a gwasanaethu, prynu a defnyddio ynni a gwresogi adeiladau a gwaith pellach am wastraff a chyfraddau ailgylchu cynyddol. Yn ychwanegol, mae gwaith pwysig a gweithgaredd mapio’n cael ei wneud ar hyn o bryd fyddai’n edrych sut y gellid defnyddio asedau/daliadau tir i wrthbwyso unrhyw allyriadau carbon – gelwir hyn yn ‘secwestriad’.

 

Pwysleisiodd y Rheolwr Gyfarwyddwr na ddylid gweld y Cynllun Datgarboneiddio fel menter neu gynllun newydd arall, roedd yn uchelgais am sut mae’r Cyngor yn dymuno gweithredu a byddai’n sylfaen i bob darpariaeth gwasanaeth a sut y caiff gwasanaethau eu cynllunio, eu datblygu a’u gwella yn y dyfodol. Byddai’n rhaid i aelodau a swyddogion fod yn ymwybodol o effaith gwneud penderfyniadau yn y dyfodol a’r effaith y byddai hyn yn ei gael ar yr awdurdod yn dod yn garbon niwtral.

 

Mae adran 6 yr adroddiad yn rhoi sylw i’r gwaith a’r dystiolaeth data sy’n cefnogi’r cynllun, yn cynnwys elfennau  ôl-troed carbon. Amcangyfrifwyd, bod y Cyngor  ar hyn o bryd yn cynhyrchu 71,330 tunnell fetrig o CO2 fel sefydliad yn darparu ei weithrediadau a gweithgareddau dydd i ddydd.

 

Mae’r adroddiad yn rhoi enghreifftiau o’r gweithgaredd hwn, gyda rhan fawr o’r allyriadau carbon yn ganlyniad teithio i’r gwaith a swyddogion yn gyrru o amgylch i gyflawni eu gweithgareddau dyddiol. Mae gwaith diweddar wedi gweld effaith sylweddol dros y 6 mis diwethaf, oherwydd newid mewn trefniadau gwaith lle nad yw swyddogion yn teithio i’r gwaith a heb fod yn teithio yn ystod eu dyletswyddau. Cyn y cyfnod clo dim ond 11% o deithiau posibl i’r gwaith oedd yn cael eu hosgoi oherwydd gweithio gartref ond mae hyn wedi cynyddu i 80% ers y cyfnod clo gan y galluogwyd staff i weithio gartref. Yn seiliedig ar amcangyfrif dangosol, mae hyn yn arbediad o 1,5000 tunnell o allyriadau carbon mewn blwyddyn gyfan.

 

Mae hyn yn dangos fod ffactor bwysig mewn dod yn awdurdod carbon niwtral yn ymwneud â newid ymddygiad a sut y cynhelir y busnes a sut y darperir gwasanaethau. Byddai ymwreiddio ac adeiladu ar yr ymddygiad cadarnhaol hwn yn y dyfodol yn gam sylweddol wrth gyflawni uchelgais y Cyngor i ddod yn awdurdod carbon niwtral.

 

Daeth y Rheolwr Gyfarwyddwr i ben drwy ddweud fod y Pwyllgor Craffu Adfywio wedi trafod y cynllun ac wedi cymeradwyo Opsiwn 1.

 

Wedyn cafodd aelodau gyfle i godi cwestiynau/rhoi sylwadau ar yr adroddiad.

 

Dywedodd Arweinydd y Gr?p Llafur fod hwn yn gynllun rhagorol ond rhybuddiodd, er fod gweithio gartref yn awr yn hanfodol, y byddai angen i amodau fod yn wahanol yn y dyfodol oherwydd rhaid sylweddoli fod gweithio gartref yn dod â’i broblemau ei hun, er enghraifft llesiant a hefyd yn cael sgil-effeithiau economaidd ar ganol trefi.

 

Roedd Aelod yn rhannu pryder tebyg am weithio gartref a’r anawsterau a gafodd y cyhoedd wrth gysylltu gyda’r Cyngor. Roedd hefyd effaith sylweddol ar ganol trefi gyda pherchnogion busnes yn colli busnes, yn arbennig gyda’r Ganolfan Ddinesig ar gau ar hyn o bryd. Cyfeiriodd yr Aelod hefyd at bosibilrwydd lleoli cyfleuster arall yng Nghwm Tawel a allai o bosibl gynyddu nifer y cerbydau yn ymweld â’r safle o’r tu allan i’r Fwrdeistref Sirol a gofynnodd pa effaith a goblygiadau a fyddai hyn ar gyfer i Flaenau Gwent ddod yn awdurdod carbon niwtral yn y dyfodol.

 

Dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr fod y Cyngor yn gweithredu mewn cyfnod rhyfedd a bod y Ganolfan Ddinesig ar gau a swyddogion yn gweithio gartref oherwydd ei bod yn amlwg mai hyn oedd cyngor Llywodraeth Cymru. Cydnabu fod trefniadau gwaith wedi mynd o un eithaf i’r llall h.y. o sefyllfa o staff yn bennaf yn seiliedig yn y swyddfa gyda gweithio gartref achlysurol i bawb yn gweithio gartref gyda defnydd swyddfa achlysurol. Fodd bynnag, fel rhan o’r uchelgais yma, ni fedrai’r Cyngor ddychwelyd i’r dull gweithredu blaenorol yn y dyfodol – byddai’n ddull gweithredu cytbwys rhwng swyddfa a gweithio gartref a allai atal rhai o anfanteision gweithio gartref unwaith fod y pandemig wedi llacio’n ddigonol. Mae gwaith yn mynd rhagddo i ganfod sut y gellid hwyluso hyn ond cafodd hyn ei ohirio ychydig oherwydd cyhoeddiadau diweddar Llywodraeth Cymru.

 

Yn nhermau uchelgais y Cyngor i ddod yn garbon niwtral, i gyflawni hyn byddai angen i bob prosiect a ddatblygir neu unrhyw welliannau neu newidiadau a wnaed i ddarpariaeth gwasanaeth roi ystyriaeth i effaith allyriadau carbon yn y dyfodol h.y. roedd angen i hyn gael ei ystyried fel rhan o bopeth a wnaiff y Cyngor.

 

Cyfeiriodd Aelod arall at y seilwaith o fewn Siambr y Cyngor a dywedodd iddi gael sicrwydd gan yr Arweinydd cyn Covid-19 y byddid yn gwella’r seilwaith yn y Siambr i alluogi Aelodau i fedru defnyddio eu gliniaduron yn y safle ond ni wnaethpwyd hyn hyd yma. Mae’r safle yn dal i fod heb socedau trydanol ac mae problemau gyda chael mynediad i Wi-Fi. Hefyd, fel rhan o unrhyw drefniadau yn y dyfodol, mae angen darpariaeth i Aelodau fedru mynychu cyfarfod o bell, os oes angen hynny. Mynegodd ei phryder y gwariwyd swm sylweddol arian ar foderneiddio swyddfeydd ond cafodd y Siambr ei gadael ar ôl ac roedd yn dal i fod yn y un cyflwr â phan adeiladwyd y Ganolfan Ddinesig gyntaf.

 

Dywedodd Aelod y byddai’r cynllun hirdymor hwn ynghyd â’r Cynllun Datblygu Lleol yn un o’r conglfeini yr adeiledir y Fwrdeistref Sirol arno yn y dyfodol. Mynegodd ei ddiolch i’r Rheolwr Gyfarwyddwr am y gwaith a wnaed hyd yma a chanmolodd y cynnydd a wnaed.

 

Cytunodd Aelod arall gyda’r pwyntiau a wnaed am weithio gartref fod angen dull cyfunol o weithio gartref a swyddfa (tebyg i’r ffordd mae addysg yn gweithredu ar hyn o bryd) oherwydd ei fod yn bryderus fod gan weithio gartref sgil-effeithiau posibl ac yn tarfu ar yr aelwyd gyfan. Dywedodd fod staff y dywedwyd iddynt weithio gartref hawl i lwfans o £6 yr wythnos i dalu am dreuliau cyffredinol megis biliau cyfleustod.

 

Adleisiodd yr Aelod Gweithredol – Adfywio a Datblygu Economaidd y sylwadau wnaed y gwnaed llawer iawn o waith eisoes ond mae’n gynllun sy’n datblygu a byddai’n newid dros gyfnod. Cytunodd gyda’r dull cyfunol y cyfeiriwyd ato a bod trafodaethau eisoes yn digwydd gyda’r undebau llafur ar hyn  a byddai gwaith hefyd yn cael ei wneud gyda phartneriaid i sicrhau fod y dull gweithredu yn gywir ar gyfer y dyfodol. Roedd hyn yn darged heriol iawn ond medrid gwireddu hyn dros gyfnod gyda chymeradwyo’r cynllun.

 

Felly cynigiodd i gymeradwyo Opsiwn 1 gydag adendwm fod y Cyngor yn datgan argyfwng hinsawdd. Nodwyd fod Llywodraeth Cymru yn arwain ar y cynllun hwn ac roedd wedi gofyn i awdurdodau lleol ystyried hynny.

 

PENDERFYNWYD, yn unfrydol, yn amodol ar yr uchod i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef cymeradwyo Cynllun Datgarboneiddio 2020-2030.

 

PENDERFYNWYD YMHELLACH bod y Cyngor yn datgan argyfwng hinsawdd.

 

Dogfennau ategol: