Agenda item

Diweddariad Parc yr Ŵyl

Ystyried adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Cofnodion:

Gan ystyried yr farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol am y prawf budd cyhoeddus sef o bwyso a mesur popeth fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.

 

PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra caiff yr eitem hon o fusnes ei chynnal gan ei bod yn debyg y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol i gael ei ystyried. Nodwyd fod yr eitem hon ar gyfer dibenion gwybodaeth yn unig.

 

Ar wahoddiad y Cadeirydd, siaradodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol am yr adroddiad, oedd â’r diben o ddiweddaru Aelodau gyda’r cynnydd a wnaed hyd yma yng nghyswllt cynnig Parc yr ?yl. Nodwyd y sefydlwyd Gweithgor Parc yr ?yl a chynhaliwyd nifer o gyfarfodydd i ystyried elfennau rhyng-gysylltiedig y prosiect cymhleth hwn. Mae’r gweithgor hefyd wedi cysylltu gyda rhanddeiliaid perthnasol fel rhan o’r proseict.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod y rhan fwyaf o’r gwaith a amlinellwyd ym mharagraff 2.5 yr adroddiad wedi ei gwblhau erbyn hyn a daeth i ben drwy amlinellu y tri opsiwn a gaiff eu manylu o fewn y cynllun busnes terfynol. Byddai’r cynllun hwn hefyd yn rhoi manylion manteision ac anfanteision pob opsiwn.

 

Gofynnwyd am farn Aelodau a rhoddir crynodeb ohonynt islaw ynghyd â’r atebion a gafwyd gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol:

 

-       Mynegwyd pryder y dylai’r trafodaethau fod wedi eu cynnal yn y Cyngor cyn gwneud cynnig i’r asiant. Yn ychwanegol, gofynnodd Aelodau am eglurdeb am werth y cynnig a wnaed a gofynnodd sut oedd y Cyngor yn bwriadu cyllido’r cynnig os caiff ei dderbyn.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol ei fod wedi bod yn gweithredu dan bwerau dirprwy a awdurdodwyd i ddatblygu’r trafodaethau ond gwyddai’r asiant yn iawn y byddai unrhyw gynigion a wneir yn amodol ar gymeradwyaeth y Cyngor a Llywodraeth Cymru. Soniodd am werth y cynnig ac ychwanegodd fod trafodaethau’n mynd rhagddynt ar hyn o bryd gyda Llywodraeth Cymru yng nghyswllt y dulliau cyllido ar hyn o bryd.

 

Gofynnodd y Gr?p Llafur fod y gost ynghyd â’r effaith ar flaenoriaethau ehangach yn y Gyfarwyddiaeth Adfywio yn cael ei gynnwys yn yr achos busnes. Gofynnod am sicrwydd, pe derbynnir yr achos busnes, na fyddai hyn yn cael ei gyllido o gyllideb yr adran ac na fyddai gweithgareddau eraill yn dioddef fel canlyniad.

 

Atebodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y byddai’r achos busnes yn canolbwyntio ar y tri opsiwn y cyfeiriwyd atynt yn gynharach ac na fyddent yn cyfeirio at unrhyw wasanaethau a gweithgareddau eraill y Cyngor. Dywedodd y gall yr achos busnes ddangos buddion ariannol hirdymor ond na fedrai roi mwy o sylwadau nes derbynnir yr achos busnes terfynol.

 

Dywedodd Aelod arall ei fod yn bryderus nad yw’r Cyngor mewn sefyllfa i symud ymlaen oherwydd y byddai’r Cyngor yn dibynnu ar fenthyciadau i’w gyllido pe derbynnid y cynnig. Dywedodd y dylai’r cynllun busnes fod wedi ei gymeradwyo cyn y gwnaed cynnig ffurfiol.

 

          Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y bu’r Cyngor yn agored a thryloyw yn ei drafodaethau gyda’r asiant a oedd yn llwyr ymwybodol o sefyllfa’r Cyngor h.y. y byddai’n rhaid i’r penderfyniad gael ei wneud gan y Cyngor llawn ac yn ychwanegol y byddai’n rhaid iddo gael ei ystyried gan Lywodraeth Cymru.

 

-       Mynegwyd pryder na roddwyd manylion yn yr adroddiad am y risgiau a ddynodwyd fel rhan o weithredu’r cynllun.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y byddai’r risgiau’n cael eu cynnwys fel rhan o’r achos busnes yn y dyfodol. Ychwanegodd i’r asiant hefyd gael gwybodaeth lawn am y risgiau cysylltiedig.

 

-       Dywedodd Aelod arall ei fod yn tybio bod y cyfanswm costau cyfredol ar gyfer yr ymgynghorwyr a’r arolwg adeiladu hyd yma yn ychwanegol at yr amcangyfrif gwreiddiol a amlinellwyd yn yr adroddiad i gyfarfod y Cyngor ym mis Gorffennaf.

 

Soniodd  Cyfarwyddwr Corfforaethol am gost yr ymgynghorwyr a’r arolygon adeiladu y bu’n rhaid eu cynnal fel rhan o’r broses diwydrwydd dyladwy. Byddid yn rhoi costau manwl fel rhan o’r achos busnes.

 

Mynegodd yr Aelod ei phryder fod y swm y cyfeirir ato yn ychwanegol at y swm a gytunwyd yng nghyfarfod y Cyngor ym mis Gorffennaf a gofynnodd pwy oedd wedi awdurdodi’r gwariant ychwanegol gan y teimlai nad oedd hyn yn dderbyniol.

 

Dywedodd y Cyfawryddwr Corfforaethol ei fod wedi defnyddio pwerau a ddirprwywyd iddo i awdurdodi’r gwariant fel rhan o’r broses diwydrwydd dyladwy.

 

-       Mewn ymateb i bryder a godwyd am ddatganiadau eraill o ddiddordeb a gwrthdaro buddiannau posibl, dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol na chafodd unrhyw gynigion eraill credadwy eu gwneud i’r cwmni ac felly bod y Cyngor wedi gwneud y penderfyniad i ymchwilio’r cyfle.

 

-       Er eglurhad, dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y cafodd yr asiant ei hysbysu na fyddai’r Cyngor yn bwriadu rhoi iawndal am y lesau sydd ar ôl ar y safle – caiff y safle ei brynu gyda meddiant gwag.

 

Dywedodd Aelod y dylai’r wybodaeth hon fod wedi ei chynnwys yn y cynllun busnes.

 

-       Dywedodd Aelod fod nifer o breswylwyr pryderus wedi cysylltu ag ef parthed y cynigion ar gyfer y safle a gofynnodd os y cynhelir ymgynghoriad gyda phreswylwyr  safle Parc yr ?yl. Dywedodd hefyd fod y Clwb Pysgota ar hyn o bryd yn gwagu’r biniau sbwriel sydd ar safle’r parc.

 

Atebodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y byddai’r trefniadau rheoli a chynnal a chadw yn un o’r meysydd a fyddai’n ffurfio rhan o’r gwaith manwl a gynhelir fel rhan o ddiwydrwydd dyladwy caffael y safle. Byddai mabwysiadu priffyrdd hefyd yn ffurfio rhan o’r ystyriaeth yma.

 

Yng nghyswllt ymgynghori ac ymgysylltu, ni chaiff hyn ei wneud ar y pwynt hwn nes y gwneir penderfyniad yng nghyswllt yr achos busnes terfynol.

 

-       Dywedodd Aelod arall fod amser yn ystyriaeth sylweddol a bod angen mynd â’r prosiect ymlaen a datrys y cymhlethdodau. Daeth i ben drwy gyfeirio at fuddion economaidd dod â’r safle yn ôl i berchnogaeth gyhoeddus.

 

Dywedodd yr Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd y gwnaed llawer iawn o waith mewn cyfnod byr ac y byddai’r achos busnes terfynol yn cael ei ystyried mewn cyfarfod arbennig o’r Cyngor ar 22 Hydref.

 

Mewn ymateb i bwynt a godwyd, dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod y pwnc a drafodir yn cynnwys gwybodaeth fasnachol gyfrinachol a barnwyd ei bod yn eitem eithriedig ac os caiff ei rhannu gallai niweidio perthynas y Cyngor gyda phartïon allanol. Anogodd Aelodau i beidio datgelu na rhannu dim o’r wybodaeth hon gyda phartïon tu allan i’r cyfarfod hwn.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol, yn amodol ar yr uchod, bod yr adroddiad sy’n cyfeirio at faterion ariannol neu fusnes unrhyw berson neilltuol (yn cynnwys yr awdurdod) yn cael ei dderbyn a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.