Agenda item

Perfformiad Gwastraff ac Ailgylchu 2019-20

Ystyried adroddiad Rheolwr Tîm Gwasanaethau Cymdogaeth.

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Tîm Gwasanaethau Cymdogaeth.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Tîm yr adroddiad sy’n rhoi diweddariad o ganlyniadau perfformiad gwastraff ac ailgylchu ar gyfer 2019/20.

 

Aeth y Swyddog drwy’r adroddiad a thynnu sylw at bwyntiau ynddo. Dywedodd fod y Cyngor wedi rhagori ar Darged Ailgylchu Statudol Llywodraeth Cymru am y tro cyntaf yn 2018/19. Adeiladwyd ar y llwyddiant hwn ac eleni (2019/20) mae’r Cyngor wedi rhagori ar y targed uwch newydd o 64%, gan sicrhau 65.31%. Cyflawnwyd hyn drwy waith caled ac ymroddiad y Tîm Gwastraff, mewn partneriaeth gyda WRAP, a gyda chefnogaeth gan y Tîm Cyfathrebu, y Tîm Perfformiad, Uwch Reolwyr a’r Arweinyddiaeth ac yn bwysicaf oll breswylwyr Blaenau Gwent. Dywedodd fod y llwyddiant flwyddyn ar flwyddyn yma wedi gweld Blaenau Gwent yn symud o’r 22ain safle yn 2017/18 i fod yn 11eg yn 2019/20 o gymharu gyda holl awdurdodau lleol eraill Cymru.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am gasgliadau gwastraff gardd, cadarnhaodd y Swyddog fod y ffigur yn cynnwys casgliad y cyfnod gaeaf estynedig, a gaiff ei gadw drwy’r gaeaf gydag un cerbyd. Fodd bynnag, mae’r cwmpas i gynyddu gwastraff gardd wedi ei gyfyngu oherwydd y nifer gyfyngedig o ofodau gwyrdd yn y Fwrdeistref a gerddi cymharol fach.

 

Yng nghyswllt HWRC (Aiilddefnyddio), dywedodd y Swyddog er mai elfen fach o ailgylchu yw hyn y bwriedir cynyddu’r elfen hon ac ymestyn y gwasanaeth yn y cyfleuster newydd yn Roseheyworth.

 

Dywedodd Aelod fod y gwelliant yn y ffigurau i’w groesawu, ond mynegodd bryder am safle’r Cyngor yn neilltuol gyda gwastraff gwyrdd. Gofynnodd hefyd os y cafwyd unrhyw hysbysiad gan Lywodraeth Cymru o ran y potensial ar gyfer dirwyon uwch ar gyfer 2020/21 oherwydd effaith Covid.

 

Mewn ymateb cadarnhaodd y Swyddog na chafwyd unrhyw wybodaeth gan Lywodraeth Cymru am gosbau. Er fod y targedau yn heriol, mae’r ffigur ailgylchu ar gyfer 2019/20 yn gadarnhaol, a gobeithio gyda chefnogaeth barhaus preswylwyr a gwaith caled y timau cysylltiedig, gwelir yr un tueddiad yn 2020/21.

 

Cyfeiriodd Aelod at y targed uwch o 70% dros y 4 blynedd nesaf a gofynnodd os oes gan y Cyngor y capasiti i gyflawni hyn.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Tîm Gwasanaethau Cymdogaeth fod swyddogion eisoes yn gweithio gyda chynghorwyr WRAP ar ffyrdd i gynyddu i 70% dros y 4 mlynedd nesaf. Gobeithir y bydd ymestyn ymgyrch Cadw lan gyda’r Teulu Jones ar draws y fwrdeistref yn effeithiol, ac mae cynlluniau eraill hefyd yn cael eu hystyried er mwyn cynyddu ailgylchu a chyflawni’r targed. Cedwir golwg agos ar y sefyllfa i sicrhau y caiff popeth ei wneud i gyflawni’r targed.

 

Cadarnhaodd hefyd y byddai’r arbedion a sicrhawyd drwy ostwng gwastraff gweddilliol yn mynd yn ôl i’r gwasanaeth i roi adnoddau ychwanegol i barhau gyda gorfodaeth gwastraff drws i ddrws, cynhwysyddion ailgylchu newydd a gweithredu cynlluniau i gynyddu ailgylchu.

 

Canmolodd Aelod yr Adran a llwyddiant y gwasanaeth casglu o ddrws i ddrws a theimlai fod hyn yn cyfiawnhau cyflwyno’r system yn 2015.

 

Holodd Aelod arall os yw’r gwastraff gwyrdd a gynhwyswyd yn cael ei gasglu gan ddarparwyr tai cymdeithasol y Fwrdeistref. Dywedodd y Swyddog y byddai’n ymchwilio hyn.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn nodi’r adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.

 

Dogfennau ategol: