Agenda item

Buddsoddiad mewn Darpariaeth Chwarae Plant

Ystyried adroddiad y Rheolwr Tîm Golwg Strydoedd.

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Tîm Golwg Strydoedd.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Tîm yr adroddiad sy’n rhoi diweddariad ar safleoedd ardaloedd chwarae plant a gofyn am gymeradwyaeth Aelodau i’r rhaglen waith bresennol ar gyfer gosod offer chwarae ar safleoedd, yn unol â’r blaenoriaethau a ddynodwyd fel rhan o’r adolygiad manwl o ardaloedd chwarae a gynhaliwyd ac a adroddwyd i’r Cyngor ym mis Rhagfyr 2018.

 

Siaradodd y Swyddog am yr adroddiad a thynnu sylw at bwyntiau ynddo. Dywedodd fod yr adroddiad yn amlinellu’r rhesymeg dros osod offer chwarae newydd a brynwyd yn dilyn derbyn cyllid o Grant Cyfleoedd Chwarae a gafwyd drwy Lywodraeth Cymru. Roedd y cyllid hwn wedi’i ddyrannu i ddechrau ar gyfer creu cyfleuster parc sblash ar safle Parc yr  ?yl, fodd bynnag ar y sail nad oedd perchnogion Parc yr ?yl bellach mewn sefyllfa i symud ymlaen â’r prosiect, cymerwyd penderfyniad dan awdurdod a ddirprwywyd i ailddyrannu’r cyllid hwn, gan fod yn rhaid i’r Cyngor hysbysu Llywodraeth Cymru erbyn diwedd mis Mawrth 2020 sut y byddai’r cyllid yn cael ei ddefnyddio neu byddai’r cyllid yn cael ei ddileu.

 

Mae Atodiad 1 yr adroddiad yn dynodi safleoedd chwarae lle caiff yr offer a brynwyd eu gosod, ynghyd â rhaglen dreigl ar gyfer y dyfodol pe byddai unrhyw gyllid pellach yn dod ar gael.

 

Daeth y Swyddog i ben drwy ddweud fod Parc Bryn Bach wedi manteisio’n ddiweddar o gyllid grant newydd gan Lywodraeth Cymru drwy Barciau Rhanbarthol y Cymoedd fel rhan o’r prosiect Porth Darganfod, a gosodwyd atyniad ymwelwyr newydd £185k (cyfleuster chwarae) yn y Parc  chafodd ei agor i’r cyhoedd yn ddiweddar yn dilyn cyfnod clo Covid a chafodd ei groesawu gan ymwelwyr i’r Parc.

 

Mynegodd Aelod bryder y cymerwyd y penderfyniad dan awdurdod a ddirprwywyd. Cyfeiriodd at gyfarfodydd blaenorol lle roedd Aelodau wedi gofyn i Swyddogion ddechrau ar drafodaethau pellach gydag Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin am bosibilrwydd cyfleuster parc sblash ym Mharc Bryn Bach. Fodd bynnag, dywedodd yr Aelod ei bod yn croesawu’r buddsoddiad ym Mharc Dyffryn ond byddai wedi hoffi cysylltu gyda phlant yn y gymuned ar y math o offer chwarae y byddent wedi ei hoffi ar gyfer y Parc.

 

Dywedodd y Swyddog mai £110k o gyllid oedd ar gael ar gyfer y parc sblash, fodd bynnag mae’r offer a’r costau gosod tua £250k a theimlai Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin nad oedd y prosiect yn ariannol hyfyw. Yn nhermau cyswllt gyda’r gymuned, cytunodd mai dyma’r ffordd orau o symud ymlaen bob amser, fodd bynnag roedd y dyddiad cau ar gyfer gwario’r cyllid sef 31 Mawrth yn gyfyng iawn, ond rhoddodd sicrwydd y bydd cysylltu’n digwydd yn y dyfodol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan yr Aelod, cadarnhaodd y Swyddog fod y Cyngor eisoes wedi derbyn y £110k yn 2017/18 ar gyfer cyfleuster parc sblash. Roedd hyn yngl?n ag ailbwrpasu’r cyllid yn unol â’r blaenoriaethau a ddynodwyd dan yr adolygiad o feysydd chwarae a gytunwyd gan y Cyngor.

 

Dywedodd Aelod arall ei fod yn croesawu’r buddsoddiad yn llawer o ardaloedd chwarae y Fwrdeistref, ond yn anffodus byddai rhai’n cael eu cau. Fodd bynnag, yn y dyfodol, a gobeithio gyda datblygiadau tai newydd yn mynd rhagddynt yn y Fwrdeistref, bydd darpariaeth cyfleusterau chwarae yn cynyddu i ateb y galw a fyddai’n dod yn sgil datblygiadau newydd.

 

Yn nhermau ymgynghoriad, dywedodd Aelod y gobeithiai y cynhelir ymgynghoriad priodol cyn y caiff unrhyw gyfleusterau eu cau. Dywedodd y byddai rhai o’r safleoedd y bwriedir eu cau yn golygu y byddai’n rhaid i blant groesi priffyrdd prysur, ac mae angen edrych ar hyn.

 

Cadarnhaodd y Cadeirydd y cynhelir trafodaethau gydag Aelodau Ward lleol.

 

Cyfeiriodd y Swyddog at yr ymgynghoriad helaeth a gynhaliwyd fel rhan o’r adolygiad o ardaloedd chwarae a hysbyswyd i’r Cyngor yn 2018 yn dangos yr holl ardaloedd chwarae ym Mlaenau Gwent a’r rhai oedd mewn risg o gael eu cau bryd hynny. Dywedodd mai’r argymhelliad oedd cynnal trafodaethau pellach gyda’r Aelodau lleol pan fyddai cylch oes yr ardaloedd chwarae hynny mewn risg yn dod i ben.

 

Dilynodd trafodaeth fer pan ddywedodd Aelod ei bod wedi codi pryderon am ddiogelwch yn flaenorol am gau posibl ardaloedd chwarae Glanystruth a Maeshafod, gan y byddai’n rhaid i blant groesi priffordd brysur iawn. Dywedodd Aelod y cytunai fod diogelwch plant yn hollbwysig, ond dywedodd mai rhieni sy’n gyfrifol am ddiogelwch eu plant yn ymweld ag ardaloedd chwarae.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyodd Aelodau y rhaglen waith bresennol ar gyfer gosod yr offer chwarae a brynwyd eisoes ar y safleoedd a ddynodir yn 2.14 yr adroddiad a chefnogodd ddialog pellach ar lefel Ward yng nghyswllt dyfodol ardaloedd chwarae plant fel y’u rhestrir yn 2.16 yr adroddiad, yn unol â’r “Adolygiad o Ardaloedd Chwarae” a gynhaliwyd ym mis Rhagfyr 2018 (Opsiwn 1).

 

Dogfennau ategol: