Agenda item

Baddonau Pen Pwll Llahiledd

Ystyried adroddiad Rheolwyr Gwasanaeth Busnes ac Adfywio.

 

Cofnodion:

Gan roi ystyriaeth i’r farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol am y prawf cyhoeddus, o bwyso a mesur pethau fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.

 

PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra bod yr eitem hon o fusnes yn cael ei thrafod gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel a ddiffinnir ym Mharagraff 14, Atodlen 12 Deddf Llywodraeth Cymru, 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Busnes ac Adfywio.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio ac Amgylchedd fod yr adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth ar ffordd ymlaen arfaethedig ar gyfer datblygu Baddonau Pen y Pwll, Llanhiledd. Roedd y safle mewn lleoliad amlwg yn y gymuned ac yn cael effaith negyddol barhaus ar yr ardal leol oherwydd ei gyflwr diffaith. Roedd y Cyngor hefyd wedi derbyn nifer o gwynion am strwythur peryglus gan bobl leol sydd wedi arwain at i swyddogion ymweld â’r safle ar nifer o achlysuron.

 

Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y cyflwynwyd adroddiadau’n flaenorol gyda golwg ar fynd â’r safle rhagddo ar gyfer ailddatblygu. Fodd bynnag, oherwydd diffyg cyllid a’r perchnogaeth tir cymhleth, nid oedd y Cyngor wedi symud ymlaen gyda ailddatblygiad. Ystyriwyd nifer o opsiynau ar gyfer y safle ac yn dilyn asesiad dynodwyd mai’r datblygiad preswyl fyddai’r gorau. Os cytunid ar yr opsiwn hwn byddai swyddogion wedyn yn symud ymlaen gydag ymgynghoriad pellach ar y cynnig gyda phobl leol ac aelodau yn ogystal â gwaith paratoi i ganfod costau a phrosesau ar gyfer Achos Busnes ffurfiol.

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol wedyn drosolwg o’r trafodaethau a gynhaliwyd yn y Pwyllgor Craffu Adfywio a chynghorodd dderbyn yr opsiwn a ffafrir.

 

Cydnabu Aelod Gweithredol Datblygu Economaidd ac Adfywio y bu’r safle yn ddolur llygad i breswylwyr Llanhiledd am nifer o flynyddoedd a dymunai ddiolch i swyddogion am eu gwaith yn paratoi’r adroddiad. Dywedodd yr Aelod Gweithredol ein bod yn ymroddedig i drin meysydd o gonsyrn parhaus. Croesawodd yr Aelod Gweithredol yr adroddiad sy’n galluogi’r Cyngor i gytuno i’r cam nesaf i ganfod beth y gellid ei gyflawni.

 

Roedd yr Aelod Gweithredol Addysg yn cefnogi’r adroddiad a dywedodd ei bod yn ymwybodol iawn o’r problemau yr oedd y safle wedi ei achosi i breswylwyr, yn ogystal â’i fod yn fan gwael am dipio anghyfreithlon. Dywedodd yr Aelod Gweithredol ei bod yn hen bryd cael buddsoddiad yn yr adroddiad a chroesawodd yr adroddiad.

 

Cyfeiriodd yr Aelod Gweithredol Addysg at y broses ymgynghori a nododd bwysigrwydd ymgysylltu lleol er mwyn trafod unrhyw bryderon  a godwyd gan breswylwyr.

 

Croesawodd yr Arweinydd yr adroddiad a chytunodd fod ymgynghoriad yn hanfodol ac allweddol, yn arbennig yn yr ardal ei hun. Awgrymodd yr Arweinydd bod y Pwyllgor Gweithredol ynghyd â swyddogion o’r Timau Cyfathrebu, Ymgysylltu ac Adfywio yn cydweithio i sicrhau ymgynghoriad trwyadl. Teimlai’r Arweinydd ei bod hefyd yn bwysig i gynnwys cymdeithasau tenantiaid a phreswylwyr yn ogystal â chlybiau neu sefydliadau eraill.

 

Ychwanegodd yr Arweinydd mai ein dymuniad yw datrys problemau hirsefydlog sy’n achos consyrn i’r cyhoedd.

 

Cytunodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio ac Amgylchedd gyda’r cais yn nhermau’r ymgynghoriad.

 

Tanlinellodd Aelod Gweithredol Datblygu Economaidd ac Adfywio yr angen i symud ymlaen gyda brys er mwyn dechrau gwaith a chynigiodd Opsiwn 2, eiliwyd y cynnig hwn a

 

PHENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad sy’n cynnwys gwybodaeth yn cyfeirio at faterion ariannol/busnes personau heblaw’r Awdurdod a chymeradwyo Opsiwn 2 fel y’i cynhwysir yn yr adroddiad.