Agenda item

Adroddiad Ceisiadau Cynllunio

Ystyried adroddiad y Rheolwr Tîm Rheoli Datblygu.

 

Cofnodion:

ADRODDIAD CYNLLUNIO

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Tîm Rheoli Datblygu.

 

Cais Rhif C/2020/0100

Plasgeller, Heol Ganolraddol, Brynmawr NP23 4SF

Dau estyniad un llawr i ddarparu uned gofal cymhleth i ochr ddwyreiniol (drychiad blaen) cartref gofal presennol ynghyd â chwympo 2 goeden sydd â Gorchymyn Cadwraeth Coed

 

Ar wahoddiad y Cadeirydd, amlinellodd y Swyddog Cynllunio y cais sy’n cyfeirio at y cynnig ar gyfer dau estyniad i ddarparu uned gofal cymhleth i’r safle ddwyreiniol Plasgeller, Heol Ganolraddol, Brynmawr. Mae’r safle datblygu yn un o bedwar adeilad dau lawr mawr ar wahân sy’n gweithredu fel cyfadeilad cartrefi gofal.

 

Gyda chymorth sleidiau, nododd y Swyddog Cynllunio y ddwy goeden Sycamorwydd aeddfed sydd wrth ochr y terfyn blaen, ger y briffordd. Mae’r coed hynny ynghyd â choed eraill ar y ffordd yn nodwedd yr ardal a chânt eu gwarchod gan Orchmynion Cadwraeth Coed. Dywedodd y Swyddog y gwrthodwyd caniatâd cynllunio dan bwerau dirprwyedig yn 2019 ar y sail y byddai colli coed sydd â Gorchymyn Cadwraeth Coed.

 

Ychwanegwyd na fu apêl yn erbyn y penderfyniad a bod yr amser ar gyfer apêl wedi dod i ben. Felly, dewisodd yr ymgeisydd ailgyflwyno’r cais, fodd bynnag mae’r cais hwn yn cynnig y byddai’r estyniadau tua 2m yn nes at flaen y stryd yn ogystal â chwympo’r coed.

 

Rhoddodd y Swyddog ymhellach drosolwg o’r cais sy’n amlinellu’r estyniadau arfaethedig, y cynlluniau datblygu a’r materion a dderbyniwyd o’r ymgynghoriad. Dywedwyd fod Alun Davies AS wedi rhoi cefnogaeth lawn i’r preswylwyr a wnaeth wrthwynebiadau.

 

Ategodd y Swyddog golli dwy goeden stryd bwysig sydd â gorchymyn cadwraeth coed oherwydd gwerth amwynder uchel. Mae’r coed sycamorwydd aeddfed yn iach ac wedi sefydlu’n dda ac nid ydynt yn dangos unrhyw dystiolaeth o bryderon iechyd a diogelwch. Oherwydd iechyd y coed a’u cyfraniad gwerthfawr i gymeriad ac ymddangosiad yr ardal, teimlai’r Swyddog nad oedd cyfiawnhad dros gwympo’r coed yn unig i hwyluso’r datblygiad. Roedd yr Ymgeisydd yn teimlo bod y coed yn golygu fod y cartref gofal yn y cysgod ac yn achosi risg iechyd a diogelwch i breswylwyr. Fodd bynnag, dywedodd y Swyddog na wnaed unrhyw gais i’r Cyngor i wneud gwaith i’r coed.

 

Teimlai’r Swyddog, er y byddai rhannau o’r safle angen gwaith tyllu oherwydd y llethr ar y tir, na fyddai’n amhosibl adeiladu yn yr ardaloedd hynny. Awgrymwyd y gellid gosod yr estyniad lapio o amgylch ar ochr arall i’r ystafell ddydd bresennol neu ei gysylltu gyda’r adeilad cyfagos o fewn y safle. Byddai’r gofod ychwanegol yn ddymunol a byddai’n fanteisiol i breswylwyr o fewn y cartref. Fodd bynnag, credai’r Swyddog nad oedd unrhyw reswm pam na fedrid gosod yr estyniadau mewn man arall o fewn y safle.

 

Ychwanegodd y Swyddog fod yr asiant wedi awgrymu heb yr estyniadau arfaethedig y byddai ansicrwydd am hyfywedd y busnes yn y dyfodol, fodd bynnag nodwyd nad oedd unrhyw dystiolaeth i gefnogi’r hawliad hwn. Nid oedd unrhyw amgylchiadau eithriadol a fyddai’n cyfiawnhau cefnogi cynllun oedd yn annerbyniol yn amgylcheddol ac yn weledol. Cydnabu’r Swyddog bod Gwasanaethau Cymdeithasol yn cefnogi cysyniad a dyheadau’r busnes i wella cyfleusterau a fyddai’n amodol ar sicrhau datrysiad dylunio boddhaol drwy’r broses cynllunio.

 

I gloi, y casgliad oedd bod y datblygiad yn methu cydymffurfio gyda pholisi cenedlaethol na pholisi lleol. Byddai cwympo coed a gaiff eu gwarchod yn cael effaith niweidiol ar gymeriad yr ardal a byddai’n dangos y safle’n llawn gan arwain at 2 estyniad a fyddai’n nodweddion annerbyniol o amlwg ar hyd y stryd.

 

Felly teimlai’r Swyddog y dylid gwrthod y cais am y rhesymau a amlinellir yn yr adroddiad.

 

Ar wahoddiad y Cadeirydd, anerchodd y Cynghorydd L. Elias (Aelod Ward) y Pwyllgor. Dywedodd yr Aelod Ward fod 5 coeden ar hyd Heol Ganolraddol sy’n ei gwneud yn ardal ddeniadol a hefyd yn llwybr cerdded i Ysgol Gynradd Santes Fair.

 

Esboniodd yr Aelod Ward iddo fod yn gysylltiedig gyda Plasgellar am 35 mlynedd. Mae’n cynnwys 3 cartref gyda 40 gwely a dros y blynyddoedd cafodd gwelyau eu symud i wneud gofod lolfa ar gyfer preswylwyr. Dywedodd yr Aelod Ward fod y cwmni wedi prynu 1 Heol Ganolraddol a’i adael yn wag am dros 15 mlynedd er y cafodd caniatâd cynllunio ei adnewyddu ar 3 achlysur ar gyfer yr adeilad hwn.

 

Nododd yr Aelod Ward ymhellach y problemau traffig yn Heol Ganolraddol a dywedodd y byddai unrhyw gynnydd mewn traffig yn achosi mwy o broblemau gan nad oes digon o leoedd parcio yn yr ardal.

 

Teimlid y byddai cwympo’r coed a lleoliad arfaethedig y datblygiad yn cynyddu lefelau s?n. Dywedodd yr Aelod Ward fod ffenestri’r cartref ar agor yn ystod y tywydd cynhesach a bod y lefelau s?n yn annioddefol. Oherwydd anghenion cymhleth cleifion, maent yn aml yn clywed preswylwyr yn gweiddi. Byddai cwympo’r coed a safle arfaethedig y datblygu yn cynyddu lefelau s?n ymhellach. Roedd yr Aelod Ward yn ymwybodol bod y safle ar lwybr ysgol ac felly y byddai plant ifanc yn pasio heibio bob dydd. Atgoffwyd Aelodau hefyd y cafodd y Cyngor ei ddirwyo’n flaenorol oherwydd cwympo coeden oedd wedi ei gwarchod.

 

Dymunai’r Aelod Ward wrthwynebu’r cais ac yn llwyr dderbyn argymhelliad y swyddog am wrthod.

 

Ar wahoddiad y Cadeirydd, rhoddodd y Siaradwr Cyhoeddus (Mr. S. Joshi, Ymgeisydd) anerchiad i’r Pwyllgor. Dywedodd Mr. Joshi wrth y Pwyllgor mai ef oedd Rheolwr Gyfarwyddwr Plasgellar sy’n gweithredu 4 cartref gofal ar y safle yn Heol Ganolraddol.

 

Cytunodd fod yr Aelod Ward, y Cynghorydd Elias wedi bod yn gysylltiedig gyda’r cartref; fodd bynnag dros y blynyddoedd roedd gwelyau wedi gostwng o 120 i 110 ac nid cynyddu. Dywedodd Mr. Joshi y bu angen gofod lolfa/cymunol ar gyfer cleifion dros y blynyddoedd, felly gostyngwyd nifer y gwelyau i ddarparu ar gyfer y gofyniad hwn.

 

Esboniodd Mr. Joshi ymhellach fod 140 o staff pan oedd y cartref yn llawn; fodd bynnag mae nifer preswylwyr yn gostwng ac yn y dyfodol mae gofod cymunol yn allweddol i lesiant cleifion. Dywedwyd y cafodd y cartref ei ymestyn 3 blynedd yn ôl i arbenigo mewn anghenion dementia cymhleth. Roedd y cynnig ar gyfer preswylwyr gydag anghenion cymhleth sydd angen uned arbenigol gydag uned fwy i gael eu hintegreiddio oherwydd anghenion gofal manyleb uchel. Dywedodd Mr Joshi y byddai’r estyniad yn cynnwys yr unig uned gofal arbenigol yng Ngwent. Ar hyn o bryd mae’r cartref yn mynd i’r afael â phandemig presennol Covid-19, er bod y cartref yn dal i fod â rhestri aros hir gyda 3 claf presennol yn lleol i Brynmawr. Dywedodd yr Ymgeisydd fod y gofal a ddarperir yn denu cleifion o bob ardal oherwydd y lleoliad arbenigol.

 

Cyfeiriodd Mr. Joshi at sylwadau Andrew Day o Gwasanaethau Cymdeithasol a gefnogodd y cais a dywedodd fod gofod byw yn allweddol i’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant a oedd yn ofyniad gan Lywodraeth Cymru a’r Awdurdod Lleol. Byddai’r gofod ychwanegol yn caniatáu gofal critigol a chymorth un i un a fyddai’n gwella’r cartref ac yn gwella ansawdd y gofal a ddarparwyd ar gyfer cleifion dementia.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau bod yr Awdurdod Lleol yn gefnogol i’r busnes, ond yn anffodus o safbwynt cynllunio ni fedrid derbyn y datblygiad gan na allai’r Awdurdod Cynllunio Lleol fod yn groes i’r olygfa stryd a’r cyngor Gorchmynion Cadwraeth Coed. Cafodd awgrym ar gyfer opsiynau eraill o fewn eu safle eu cyflwyno i gael eu hymchwilio.

 

Ar y pwynt hwn gwahoddodd y Cadeirydd sylwadau gan Aelodau’r Pwyllgor.

 

Dilynodd trafodaeth a mynegodd Aelodau gydymdeimlad gyda gofal cleifion dementia, fodd bynnag teimlid fod argymhelliad y swyddog yn dderbyniol.

 

Roedd Aelod yn llwyr gefnogi’r datblygiad a chynigiodd gytuno i’r cais. Teimlai’r Aelod y gellid plannu coed sycamorwydd newydd yn lle’r coed presennol, gan eu bod yn rhywogaeth sy’n tyfu’n gyflym. Teimlai’r Aelod y byddai’r datblygiad yn gwella bywydau cleifion oedd yn cynnwys etholwyr o Ward Brynmawr.

 

Nid oedd eilydd i’r cynnig a PHENDERFYNWYD GWRTHOD y caniatâd cynllunio, fel yr amlinellir yn adroddiad y Rheolwr Tîm Rheoli Datblygu.

 

Cais Rhif C/2020/0093

37 Heol Howy, Rasa, Glynebwy NP23 5TW

Newid annedd bresennol i fod yn gartref gofal plant 2 ystafell wely

 

Dywedodd yr Arweinydd Tîm Rheoli Datblygu fod y cais yn ceisio caniatâd cynllunio i newid defnydd t? pâr i fod yn gartref gofal preswyl 2 ystafell wely i blant. Ychwanegodd yr Arweinydd Tîm y byddai’r cartref gofal arfaethedig yn lletya uchafswm o 2 blentyn a fyddai’n derbyn gofal gan 2 aelod o staff heb fod yn breswyl yn gweithio patrwm shifft 24 awr. Byddai rheolwyr y cartref yn bresennol drwy gydol y dydd rhwng dydd Llun a dydd Gwener rhwng 9.00am – 5.00pm a 2 aelod o staff drwy gydol y nos.

 

Hysbyswyd ymhellach y byddai’r cartref gofal yn darparu ar gyfer plant rhwng 10-17 oed ar leoliad hirdymor. Amcan y cartref yw creu amgylchedd lle byddai’r plant yn byw gyda’r staff fel teulu.

 

Dywedodd yr Arweinydd Tîm ei fod yn llinell fain iawn os oedd angen caniatâd cynllunio ar gyfer y cynnig gan y byddai’r annedd yn cadw nifer o nodweddion sy’n debyg i’r defnydd preswyl presennol. Fodd bynnag, oherwydd y byddai Rheolwr Cartref yn bresennol ac nad oedd union nifer yr ymweliadau i’r cartref yn hysbys, daeth yr Arweinydd Tîm i’r farn fod angen y gweithgareddau yn symud yr annedd o ddefnydd C3(a) i C2 y mae angen caniatâd cynllunio ar ei gyfer.

 

Dywedodd yr Arweinydd Tîm, yn nhermau egwyddor y datblygiad, y byddai’r annedd yn parhau fel defnydd preswyl mewn ardal breswyl ac ystyriwyd ei fod yn gydnaws gyda’r ardaloedd preswyl o amgylch.

 

Nodwyd y derbyniwyd gwrthwynebiadau yng nghyswllt parcio. Esboniodd yr Arweinydd Tîm y rhoddwyd ystyriaeth ofalus i nifer y gofodau sydd eu hangen a’r nifer o symudiadau cerbyd a gynhyrchwyd ac ystyriwyd bod digon o ddarpariaeth parcio oddi ar y stryd ac ar y stryd i ddarparu ar gyfer y cynnig ac nad oedd y symudiadau cerbyd yn debygol o fod yn ormodol o gofio am nifer y staff. Nid oedd yr Awdurdod Priffyrdd wedi gwrthwynebu’r datblygiad yn amodol ar ddarparu gofodau parcio oddi ar y stryd a’u          cadw am byth bythoedd. Gallai hyn fod yn amod pe rhoddir caniatâd cynllunio.

 

Yng nghyswllt yr effaith ar amwynder cymdogion, esboniodd yr Arweinydd Tîm heblaw am bresenoldeb Rheolwr Cartref a chyfnewid staff, y byddai’r cartref yn gweithredu’n debyg iawn i gartref teulu cyffredin. Cafodd effeithiau posibl eu hystyried fodd bynnag o gofio am natur a lefel y defnydd arfaethedig, roedd y swyddog yn fodlon na fyddai’r cynnig yn cael effaith annerbyniol ar amwynder cymdogion.

 

Fodd bynnag, awgrymwyd amod i reoli defnydd a nifer y plant y gofalir amdanynt i sicrhau na fyddai’r datblygiad yn dod yn rhywbeth a allai fod ag effeithiau gwahanol, a fedrai fod yn annerbyniol. Yn nhermau cynllunio, dim ond newidiadau ffisegol cyfyngedig a gynigir i’r adeilad ac felly nid oes unrhyw bryderon am effaith weledol.

 

Mae’r ymgeisydd wedi nodi’n glir y byddai’r plant yn byw gyda’i gilydd fel un teulu. Cafodd y cynnig ei ystyried yn y cyd-destun hwn a chredai’r Arweinydd Tîm fod yr adeilad yn ddigon mawr i ddarparu ar gyfer 2 blentyn.

 

Byddai angen i’r cartref gofal arfaethedig hefyd gael ei gofrestru, arolygu a’i reoleiddio gan Arolygiaeth Gofal Cymru. Mater i’r corff rheoleiddiol hwn yw sicrhau fod y cartref gofal yn addas ar gyfer anghenion penodol y plant. Os rhoddir caniatâd cynllunio, ni fedrai’r cartref gofal arfaethedig symud ymlaen heb gael y mathau eraill o ganiatâd yn unol â’r cyrff rheoleiddio a nodir uchod.

 

Nodwyd ymhellach fod preswylwyr wedi codi pryderon y byddai’r plant yn achosi ymddygiad anghymdeithasol. Roedd y pryderon hyn yn seiliedig ar y tybiaethau na fyddai’r plant yn cael eu rheoli’n iawn. Mae’n anodd i’r broses cynllunio roi unrhyw bwysau sylweddol i ymddygiad posibl unigolion. Gallai’r cartref gofal arfaethedig gynhyrchu ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr un modd ag unrhyw annedd arall. Pe byddai ymddygiad gwrthgymdeithasol yn digwydd, mater i staff/rheolwyr y cartref gofal a’r heddlu fyddai hynny. Nododd y Swyddog nad oedd Heddlu Gwent wedi rhoi unrhyw sylwadau ar y cais ar gyfer y gofal cartref arfaethedig. Cafodd y drafodaeth ar bosibilrwydd ymddygiad gwrthgymdeithasol ei seilio ar dybiaethau am gartrefi gofal, er y teimlwyd y dylid bod yn ofalus wrth fynegi’r farn hon.

 

Cadarnhawyd nad yw gwrthwynebiadau eraill yn ymwneud â gostwng gwerth eiddo a’r ffaith nad yw’r ymgeisydd yn byw yn y Fwrdeistref yn ystyriaethau cynllunio sylweddol.

 

I gloi, nododd yr Arweinydd Tîm Rheoli Datblygu yr argymhellion a chynghorodd yr ystyriwyd fod y cartref gofal arfaethedig yn gydnaws gyda defnydd preswyl y gymdogaeth ac yn dderbyniol yn nhermau tir. Mae’r datblygiad yn annhebyg o arwain at unrhyw effaith annerbyniol ar hyweledd, amwynderau, parcio a’r briffordd a theimlai felly y dylid rhoi caniatâd cynllunio gyda’r amodau a amlinellir yn yr adroddiad.

 

Rhoddodd y Cynghorydd G. Davies (Aelod Ward) anerchiad i’r Pwyllgor ar wahoddiad y Cadeirydd. Dywedodd yr Aelod Ward nad oedd yn erbyn cysyniad cartref gofal, fodd bynnag teimlai y byddai’r datblygiad hwn yn cael effaith negyddol ar breswylwyr lleol.  Soniodd yr Aelod Ward fod nifer o breswylwyr wedi cysylltu ag ef gan godi pryderon yng nghyswllt addasrwydd yr ardal, y plant fyddai’n byw yn yr annedd a phryderon am draffig. Ychwanegodd fod un preswylydd wedi dioddef o bryder difrifol yn dilyn yr ymgynghoriad ar y datblygiad arfaethedig.

 

Byddai’r plant yn 10 oed a throsodd, fodd bynnag teimlai’r Aelod Ward mai ychydig iawn o ofod awyr agored oedd gan yr annedd yma lle gallai plant chwarae tu allan.

 

Cytunodd yr Aelod Ward gyda phryderon a godwyd gan breswylwyr yng nghyswllt parcio. Dywedodd fod Heol Howy yn heol ddwy-ffordd a bod un ochr yr heol bob amser yn llawn gyda cheir wedi parcio. Mewn rhai achosion mae cerbydau’n gorfod bacio ar hyd y ffordd i alluogi cerbydau eraill i basio’n ddiogel. Hyd yn oed gyda lleoedd parcio penodol, teimlai’r Aelod Ward y byddai cynnydd mewn traffig.

 

Ar wahoddiad y Cadeirydd, rhoddodd y Siaradwr Cyhoeddus (Mr. H. May) anerchiad i’r Pwyllgor. Dywedodd Mr. May yr ymwelwyd â phreswylwyr Heol Howy dros gyfnod 2-ddiwrnod gyda chyfarwyddwyr. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad i drin unrhryw gwestiynau neu bryderon y gallai’r preswylwyr fod â hwy am y cartref gofal arfaethedig. Roedd hefyd yn gyfle i hysbysu preswylwyr am y gwasanaeth a ddarperir.

 

Dywedodd Mr. May ei fod wedi gweithio mewn gwasanaethau gofal plant am rai blynyddoedd a dywedodd yr edrychwyd ar nifer o adeiladau ar gyfer y cyfleuster. Roedd yr adeilad yn Heol Howy yn cyflawni pob gofyniad statudol yn cynnwys lleoliad ac ardal gymunedol. Cynhaliwyd proses ddethol iawn i benderfynu ar y safle a dywedodd y ffafrir ardaloedd preswyl.

 

Nodwyd fod canfyddiad anffodus yng nghyswllt cartrefi plant. Mae’r cartrefi hyn yn aml yng nghefn gwlad i ffwrdd o ardaloedd preswyl ac mae’r gred yn parhau y gallai’r cartrefi hyn fod yn gysylltiedig gyda chynnydd mewn achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol. Byddai’r cartref yn Heol Howy yn cynnig ‘gosodiad teulu’ i blant a dywedodd Mr. May na fyddai plant gyda lefelau uchel o broblemau ymddygiad yn cael eu lleoli yn y safle hwn gan na fyddai’r rheolau yn caniatáu lleoliadau o’r fath. Anelir y cyfleuster at blant nad ydynt angen fawr o gefnogaeth ac mae’n wahanol i wasanaethau eraill a gynigir o fewn Blaenau Gwent.

 

Ar y pwynt hwn gwahoddodd y Cadeirydd sylwadau gan Aelodau o’r Pwyllgor.

 

Dymunai Aelod ddiolch i swyddogion am gyflwyno’r cais i’r Pwyllgor ei ystyried gan fod nifer o breswylwyr wedi cysylltu ag ef gan godi gwrthwynebiadau cryf. Ychwanegodd yr Aelod, er nad oedd yn bolisi cynllunio i roi ystyriaeth i farn preswylwyr lleol, teimlai y dylai pryderon preswylwyr gael eu hystyried ac amlinellodd bryderon preswylwyr:-

 

·         Posibilrwydd y byddai anheddau cyfagos yn golli gwerth

·         Cynnydd mewn parcio a thraffig

·         Gwaethygu cyflwr ffordd (tyllau yn y ffordd)

·         Mwy o sbwriel gan na allai cerbydau’r Cyngor fynd ar y ffordd oherwydd ceir wedi parcio

·         Datblygwyr heb fod yn dod o’r ardal felly heb fod yn gwybod am bryderon lleol

·         Ymddygiad gwrthgymdeithasol

·         Preswylwyr yn gymysgedd o oedrannau, gyda phreswylwyr h?n gyda phroblemau iechyd, cynyddu straen ar breswylwyr

·         Ni fyddai neb eisiau byw drws nesaf i gyfleuster o’r fath, byddai felly’n amhosibl gwerthu anheddau

·         Roedd yr ymgynghori gan yr ymgeisydd yn wael, ac wedi ei gynnal dros ?yl Banc

·         A yw’r cartref wedi cofrestru?

·         A fyddai’n lletya plant o Flaenau Gwent?

·         Pwy fyddai’n goruchwylio rhedeg a gweithrediad y safle?

·         Diffyg ardal chwarae awyr agored yn y safle

·         A gynhelir asesiadau risg ac a ellir cyflwyno’r rhain i’r Awdurdod?

 

Cododd Aelod arall bryderon a godwyd mewn cysylltiad â’r plant a dywedodd na chafwyd unrhyw wybodaeth bellach am y plant heblaw eu hoedran posibl. Fodd bynnag, ni fedrid ystyried caniatâd cynllunio yn seiliedig ar ymddygiad posibl plant. Mae safle tebyg yn Ward Badminton a fu’n weithredol ers peth amser heb unrhyw broblemau.

 

Soniodd Aelodau ymhellach am reolaeth y safle a chodwyd pryderon fod yr annedd yn d? pâr. Teimlid yr effeithid yn drwm ar breswylwyr yr annedd drws nesaf drwy gael cartref gofal yn rhannu muriau gyda’u hannedd nhw.

 

Nododd y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau y sylwadau a godwyd a dywedodd fod y broses cynllunio yn ystyried barn y cyhoedd, fodd bynnag mae’n rhaid i bryderon fod yn faterion cynllunio dilys. Roedd nifer o bryderon a godwyd yn cynnwys rheolaeth y plant heb fod o fewn cylch gorchwyl yr Awdurdod Cynllunio Lleol ac y caiff y safle arfaethedig ei reoleiddio gan Arolygiaeth Plant Cymru yn yr un modd â sefydliadau tebyg.

 

Yn nhermau pryderon am barcio, dywedwyd fod y Canllawiau Cynllunio Atodol yn pennu nifer y gofodau parcio ac yn yr achos hwn mae angen pedwar gofod. Felly, ni dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiadau gan yr Awdurdod Priffyrdd gan fod gofyniad gwirioneddol parcio yr un fath â’r cais arfaethedig.

 

Atebodd yr Arweinydd Tîm Rheoli Datblygu na fyddai nifer yr ymwelwyr i’r safle arfaethedig yn ddim gwahanol i’r rhai sy’n mynd i gartref teulu arferol. Yng nghyswllt diffyg gofod awyr agored, nododd yr Arweinydd Tîm fod gardd helaeth i flaen y t? a buarth yn y cefn.

 

Dywedodd Mr. May yr edrychwyd ar adeiladau yn Nhorfaen, Caerffili a Blaenau Gwent a bod y penderfyniad terfynol ar leoliad wedi ystyried nifer o ffactorau yn cynnwys prisiau tai. Arolygiaeth Gofal Cymru sy’n penderfynu ar ystod oedran y plant a gaiff eu lleoli mewn cartrefi ac er fod y plant yn 10-17 oed, teimlid y byddai’r plant Heol Howy rhwng 10-13 oed. Byddai agosatrwydd y t? at y gymuned yn ffactor allweddol yn ystod oedran y plant. Dywedodd Mr. May y byddai’r cwmni yn atebol yn gyfreithiol am y plant y tu mewn a hefyd y tu allan i’r cartref.

 

Codwyd pryderon eraill yng nghyswllt y cais a cynigiodd Aelod y dylid gwrthod y cais, eiliwyd y cynnig hwnnw.

 

Cynhaliwyd pleidlais gyda

 

4 Aelod yn cefnogi’r cynnig i wrthod y cais; a

 

6 Aelod yn cefnogi cymeradwyo’r cais.

 

Felly PENDERFYNWYD RHOI caniatâd cynllunio, gyda’r amodau a amlinellir yn adroddiad y Rheolwr Tîm Rheoli Datblygu.

 

Cais Rhif C/2019/0190

Tir yn Iard Cludiant Leyton Williams,

Garej Parkside, Heol Catholic, Brynmawr

Cynnig am Annedd

 

Datganodd y Cynghorydd W. Hodgins fuddiant yn y cais hwn.

 

Amlinellodd y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau y cais cynllunio am annedd ar dir yn Iard Cludiant Leyton Williams, Brynmawr.

 

Nododd y Swyddog y cafodd caniatâd cynllunio ei wrthod ar ddau sail yn flaenorol. Er mwyn trin y rhesymau blaenorol am wrthod, cyflwynwyd y cais gyda newidiadau yn y terfyn. Cynhaliwyd Asesiad Effaith S?n ac arolwg coed er mwyn sicrhau y caiff pryderon dilynol eu hystyried yn llawn.   Gan fod hwn yn gais cynllunio amlinellol, dywedodd y Swyddog y caiff pob mater ac eithrio mynediad ei gadw i’w ystyried yn y dyfodol. Hysbyswyd y dylai Aelodau ganolbwyntio ar y prif ddatblygiad preswyl a mynediad.

 

Amlinellodd y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau y cais ymhellach gyda chymorth sleidiau. Nododd y Swyddog y broses ymgynghori a rhoi trosolwg o’r ymatebion a gafwyd.

 

Nododd y Swyddog y cais blaenorol a wrthodwyd ar sail defnydd anghydnaws o dir, effaith gweledol ac effaith annerbyniol ar amwynder preswyl trigolion cyfagos. Byddai’r annedd o fewn iard cludiant weithredol ac ystyriwyd ei fod yn annerbyniol. Gallai gweithgareddau’r iard cludiant o ran s?n, tarthau a gweithgareddau ategol yn niweidiol i ddefnyddwyr yr annedd arfaethedig. Roedd yr Ymgeisydd wedi trin rhai o’r materion drwy ffensio rhwng y datblygiad arfaethedig a’r iard cludiant. Caiff yr ardal ei thirlunio ar hyd safle’r ffin gyda Heol Catholic. Cafodd y materion blaenorol hefyd eu trafod gydag Iechyd yr Amgylchedd a’r Swyddog Bioamrywiaeth.

 

Cydnabuwyd pryderon y gwrthwynebwyr, fodd bynnag nodwyd nad oedd y materion a godwyd yn rheswm dros wrthod. Yn nhermau mynediad, byddai’r llain arfaethedig drwy Heol Catholic gan greu mynedfa newydd i ochr ddwyreiniol y ffordd, gyferbyn â’r lôn bresennol i Rhif 4 Heol Catholic. Fel rhan o’r datblygiad byddai’r adran o Heol Catholic yn cael ei lledu a byddai llwybr troed 1.2m o led ar dir sydd ar hyn o bryd yn eiddo’r ymgeisydd.

 

Dywedodd y Swyddog yn dilyn nifer fawr o ymweliadau i’r ardal ei bod wedi gweld fod preswylwyr yn parcio ar y ffordd fel canlyniad i barcio cyfyngedig ar leiniau a bod cerbydau’n aml yn gorfod defnyddio lôn agored 4 Heol Catholic i droi. Cydnabu ymhellach y byddai pryderon y byddai’r llain arfaethedig yn cynyddu problemau parcio presennol, yn cynnwys mynediad i gerbydau argyfwng. Fodd bynnag, nid yw’r Awdurdod Priffyrdd wedi codi unrhyw wrthwynebiad i’r materion hyn a theimlid y byddai ehangu’r ffordd a’r llwybr troed o fudd i’r ardal a hefyd y preswylwyr.

 

Daeth y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau i ben drwy ddweud y teimlai y cafodd y materion yn gysylltiedig â’r cais blaenorol eu trin yn nhermau polisi cynllunio a chredai fod egwyddor un annedd ar y safle yn dderbyniol. Felly nododd yr argymhelliad i roi caniatâd cynllunio gyda’r amodau a nodir yn yr adroddiad.

 

Ar wahoddiad y Cadeirydd, rhoddodd Mrs. Allyson R. Barnes (Gwrthwynebydd) anerchiad i’r Pwyllgor. Dywedodd Mrs. Barnes fod llawer o bryder ymysg preswylwyr am y cais cynllunio. Mae hanes cynllunio hir a chymhleth o amgylch Lôn Catholic a theimlai’r preswylwyr fod yr Adroddiad Cynllunio yn anghytbwys iawn. Ychwanegodd Mrs. Barnes nad oedd yr adroddiad yn dangos y wir sefyllfa yn Heol Catholic a chredai fod y dyluniad a gyflwynwyd yn gamarweiniol.

 

Croesawodd Mrs. Barnes gyfarfod safle yn y lleoliad ar gyfer Aelodau i gael golwg ar y pryderon a godwyd gan breswylwyr. Teimlid fod gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent ddyletswydd gofal i breswylwyr a dywedodd mai eu diogelwch nhw ddylai fod eu hystyriaeth bennaf. Dywedodd Mrs. Barnes fod y Lôn yn rhy fach ar gyfer dau gerbyd ac y bu nifer o ddamweiniau agos yno dros y blynyddoedd. Roedd dealltwriaeth am ardal droi ar y Lon, fodd bynnag nes y byddid yn diddymu hyn byddai angen i gerbydau facio i lawr yr holl ffordd i adael y Lôn. Ychwanegwyd fod preswylwyr yn teimlo y byddai’r datblygiad ychwanegol yn yr ardal yn gwaethygu sefyllfa sydd eisoes yn ddrwg.

 

Nododd Mrs. Barnes hefyd nad oes palmant yn yr ardal ac y byddai lledu’r lôn yn creu mwy o beryglon i breswylwyr. Roedd hefyd bryderon am fynediad i gerbydau argyfwng.

 

Ar y pwynt hwn cafodd Terry Morgan (Asiant) wahoddiad gan y Cadeirydd i siarad gyda’r Pwyllgor. Dywedodd Mr. Morgan mai’r bwriad yw cynyddu lled y porth a rhoi llwybr troed gyda goleuadau stryd gwell. Byddai’r ardal o amgylch y mae’r ymgeisydd yn berchen arno yn cael ei gwella. Byddai’r hen Iard Cludiant yn cael ei dychwelyd i ddatblygiad gwreiddiol gydag annedd deniadol, gwell llwybr troed, coed ac amgylchedd llawer gwell. Teimlai Mr. Morgan y dylid gweld y datblygiad fel gwelliant i’r ardal.

 

Dywedodd y Rheolwr Tîm – Amgylchedd Adeiledig fod yr Awdurdod Priffordd wedi gofyn am wella priffyrdd i ddod â’r ffordd lan i safonau modern yn ogystal â llwybr troed.

 

Cytunodd yr Aelod Ward gyda’r pryderon a godwyd am barcio a mynediad i gerbydau. Nodwyd hefyd mai dim ond ar ran o’r ffordd y mae llwybr troed a theimlai y byddai’n fwy manteisiol defnyddio’r fynedfa ar dop Heol Catholic. Nododd yr Aelod hefyd golli coed sydd â Gorchymyn Cadwraeth Coed, a oedd yn dderbyniol ar gyfer y cais hwn, fodd bynnag cafodd cais ei wrthod yn flaenorol am y rheswm yma.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau fod y coed a fyddai’n cael eu cwympo fel rhan o’r cais hwn yn teneuo o gymharu â’r coed yn Heol Ganolraddol oedd yn iach.

 

Ar y pwynt hwn gwahoddodd y Cadeirydd sylwadau gan Aelodau’r Pwyllgor ac awgrymwyd y dylid cynnal cyfarfod safle i Aelodau weld yr ardal. Teimlai’r Cadeirydd, oherwydd y pandemig cyfredol, ei bod yn fwy priodol i’r busnes gael ei drin yn y cyfarfod hwn.

 

Cynigiodd yr Aelod Ward wrthod y cais er mwyn i’r fynedfa gael ei hailystyried. Eiliwyd y cynnig hwn a

 

Cynhaliwyd pleidlais

 

Cefnogodd 4 Aelod y cynnig i wrthod y cais; a

Cefnogodd 6 Aelod y cynnig i gymeradwyo’r cais.

 

Felly PENDERFYNWYD RHOI caniatâd cynllunio gyda’r amodau a amlinellir yn adroddiad y Rheolwr Tîm Rheoli Datblygu.

 

Cais Rhif C/2019/0333

Tir ger The Spirals, Heol Dukestown, Tredegar

Cadw Garej Domestig (Cynllun Diwygiedig)

 

Dywedodd y Rheolwr Tîm – Rheoli Datblygu y rhoddwyd caniatâd cynllunio ym mis Gorffennaf 2018 ar gyfer t? ar wahân a garej ar dir ger The Spirals, Heol Dukestown, Tredegar. Yn dilyn pryderon gan gymydog yng nghyswllt maint y garej ac ymweliad i’r safle, canfuwyd y cafodd y garej ei hadeiladu 0.5m yn uwch na’r hyn a gymeradwywyd yn wreiddiol. Cynigiwyd i ddechrau i gadw’r garej fel y cafodd ei hadeiladu fodd bynnag yn dilyn pryderon cafodd y cynllun ei newid gan gynnig sy’n gostwng uchder cyffredinol y garej gan 500mm i’r uchder a gymeradwywyd yn flaenorol.

 

Nododd y Swyddog yr ymatebion a gafwyd yn dilyn ymgynghoriad ac amlinellodd y cais ymhellach gyda chymorth sleidiau. Dywedodd iddi ymweld â’r safle i asesu’r effaith ac yn seiliedig ar y canfyddiadau, gofynnwyd i’r ymgeisydd newid ei gais a gostwng uchder y grib i do’r garej, i uchder y garej y cafodd caniatâd cynllunio ei gymeradwyo’n flaenorol.

 

Dywedodd y Swyddog y credai fod y cynnig yn ei ffurf bresennol yn dderbyniol. Cafodd y gostyngiad yn uchder y garej ei adeiladu i alinio gyda’r hyn a gymeradwywyd yn wreiddiol. Teimlid y byddai’n afresymol i’w gwneud yn ofynnol gostwng y garej ymhellach am y newidiadau cymharol fân i faint yr adeilad. Yn gyffredinol, dywedodd y Swyddog na fyddai’r garej gyda’r dimensiynau y ceisir caniatâd cynllunio ar eu cyfer yn awr yn cael effaith annerbyniol ar anheddau cyfagos. Felly nododd y Rheolwr Tîm – Rheoli Datblygu yr argymhelliad i roi caniatâd cynllunio gyda’r amodau a amlinellir yn yr adroddiad.

 

Ar y pwynt hwn gwahoddodd y Cadeirydd yr Aelodau Ward i annerch y Pwyllgor.

 

Dywedodd Aelod iddo ymweld â’r safle a theimlai y cafodd llawer iawn o waith ei wneud a chostau syleddol i’r Ymgeisydd i drin y newidiadau sydd eu hangen.

 

Dywedodd y Rheolwr Tîm – Rheoli Datblygu y cyflwynwyd cynllun diwygiedig yn cynnwys trafodaeth bellach gyda’r Ymgeisydd. Ychwanegodd y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau y cafodd y mater ei ymchwilio yn dilyn cwyn ac y gwnaed gwelliant gyda chydweithrediad yr ymgeisydd.

 

Yn dilyn trafodaeth bellach

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i ROI caniatâd cynllunio gyda’r amodau a amlinellir yn adroddiad y Rheolwr Tîm Rheoli Datblygu.

 

Cais Rhif C/2020/0111

Arnant, Heol Graig, Six Bells, Abertillery NP13 2LR

Cadw a chwblhau gwaith proffilio i arglawdd, ymestyn libart preswyl a gwaith cysylltiedig

 

Dywedodd y Rheolwr Tîm – Rheoli Datblygu bod y cais yn cyfeirio at annedd ar wahân gyda’r enw ‘Arnant’ yn Heol Graig, Six Bells.

 

Mae’r tai o fewn basin gyda’r tir o amgylch yn codi’n serth i ochrau a chefn yr annedd. Yn dilyn ymweliad safle arferol yn yr ardal adroddwyd bod coed wedi eu cwympo a bod gwaith ailbroffilio wedi eu gwneud. Er nad oedd angen caniatâd cynllunio ar gyfer cwympo’r coed, dywedodd y Swyddog fod y gwaith ailbroffilio yn ddigon sylweddol i fod angen cais cynllunio. Yn dilyn trafodaethau gyda’r ymgeisydd cafodd diben y gwaith ei gadarnhau a chafodd y cais ei gyflwyno i geisio cymeradwyaeth i gadw a chwblhau gwaith proffilio i’r arglawdd, ymestyn y libart preswyl a gwaith cysylltiedig.

 

Rhoddodd y Swyddog drosolwg o’r cais gyda chymorth sleidiau. Cyfeiriwyd Aelodau at yr ymatebion i’r ymgynghoriad cyhoeddus a meysydd allweddol eraill o adroddiad y Swyddogion Cynllunio. Nodwyd, yn seiliedig ar ganfyddiadau’r adroddiad, bod y Swyddog yn fodlon bod tystiolaeth sylweddol yn yr achos hwn i alluogi estyniadau i’r ardd bresennol.

 

I gloi, cydnabu’r Rheolwr Tîm – Rheolwr Datblygu fod y cynnig i ymestyn yr ardd yn ymadawiad o’r Cynllun Datblygu Lleol, fel yr amlinellir yn yr adroddiad, fodd bynnag o gofio am gyd-destun preswyl y safle hwn ni fyddai’n erydu’n weledol ar yr ardal wledig na’n niweidio cymeriad ac ymddangosiad yr ardal. Yng nghyswllt y gwaith ailbroffilio i’r arglawdd, teimlid na fyddai hyn yn cael effaith negyddol. Byddai’r plannu coed a thirlunio meddal y bwriedir ei wneud yn sicrhau fod y datblygiad yn rhoi ystyriaeth ddyledus i bolisi’r Cynllun Datblygu Lleol drwy wella ymddangosiad gweledol cyffredinol y safle. Felly, cyfeiriodd y Swyddog yr Aelodau at yr argymhelliad i roi caniatâd cynllunio.

 

Croesawodd y Cadeirydd y cais a theimlai y byddai’n gwella’r ardal. Mae’r tir yn cael ei ddefnyddio ar gyfer taflu sbwriel ar hyn o bryd, felly nid oedd ganddo unrhyw wrthwynebiad i’r cais.

 

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD yn unfrydol RHOI caniatâd cynllunio gyda’r amodau a amlinellir yn adroddiad y Rheolwr Tîm Rheoli Datblygu.

 

Dogfennau ategol: