Agenda item

Parc yr Ŵyl

Ystyried adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Cofnodion:

Ar ôl rhoi ystyriaeth i farn y Swyddog Priodol am y prawf cyhoeddus o bwyso a mesur popeth fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.

 

PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra bod yr eitem hon o fusnes yn cael ei chynnal gan ei bod yn debyg y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

Gwnaeth y Rheolwr Gyfarwyddwr y datganiad dilynol cyn ystyried yr adroddiad.

 

Byddai’r Cyngor yn gwybod am erthygl yn y South Wales Argus ddydd Gwener diwethaf am yr adroddiad hwn a’i argymhellion. Roedd hwn yn adroddiad eithriedig a chyfrinachol a roedd yn ymddangos o’r erthygl fod y newyddiadurwr wedi cael copi o’r adroddiad.

 

Roedd cyhoeddi cynnwys yr adroddiad yn awr wedi cyflwyno rhai risgiau ychwanegol sylweddol i’r Cyngor – nid yn lleiaf y gallu i negodi sefyllfa fasnachol dda a’r niwed i enw da’r Cyngor gyda’n partner, ac yn fwyaf arbennig Lywodraeth Cymru.

 

Fel Rheolwr Gyfarwyddwr roedd wedi ysgrifennu at Olygydd y South Wales Argus am y mater. Fe wnaeth hefyd atgoffa’r Cyngor fod Codau Ymddygiad Swyddogion ac Aelodau Etholedig ill dau yn gosod dyletswydd o gyfrinachedd ar bawb a bod datgelu’r adroddiad hwn yn doriad difrifol ar y ddyletswydd honno.

 

Wrth wneud y datganiad hwn heddiw, dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr ei bod yn pwysleisio ar y Cyngor effaith y weithred o rannu’r adroddiad gyda newyddiadurwr ac i atgoffa’n gadarn bod yn rhaid i adroddiadau eithriedig barhau’n gyfrinachol.

 

Cefnogodd Arweinydd y Cyngor ddatganiad y Rheolwr Gyfarwyddwr a dywedodd ei fod yn gwybod drosto’i hun drwy drafodaethau am lefel y siom a’r pryder a fu am y mater hwn. Nid oedd gan unrhyw unigolyn a allai wneud rhywbeth fel hyn gyda goblygiadau posibl masnachol ac i enw da fawr neu ddim parch at y Cyngor. Teimlai’n bersonol fod hyn yn dor-cyfrinach yn rhy bell ac y dylai bod rhyw fath o ymchwiliad i hyn mewn ymgais i ganfod o lle y daeth y toriad hwn .

 

Cytunodd Dirprwy Arweinydd y Cyngor gyda sylwadau’r Arweinydd a dywedodd y dylai pob Aelod a swyddog perthnasol sicrhau bod y dyfeisiau trydanol perthnasol ar gael fel rhan o’r broses ymchwilio.

Mynegodd Arweinydd y Gr?p Llafur ei bryder fod gan rai Aelodau wybodaeth gyfrinachol allanol ar eu dyfeisiau ac na fyddai’r sefydliad neilltuol dan sylw yn caniatáu cyrchu hyn fel rhan o’r rheoliadau GDPR.

 

Dywedodd Aelod arall y bu’r wybodaeth hon yn y parth cyhoeddus am hir cyn bod yr adroddiad wedi dod ar gael i Aelodau a swyddogion yr wythnos flaenorol. Yr oedd yr Aelod Seneddol hefyd yn gwybod am gynnwys yr adroddiad.

 

Dilynodd trafodaeth faith pan fynegwyd gwahanol sylwadau gydag un Aelod yn dweud ei fod yn cytuno fod angen i ymchwiliad ar hyn fynd mor bell yn ôl â mis Rhagfyr 2019 pan ddaeth pobl i wybod gyntaf am y sefyllfa.

 

Dywedodd y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol (Swyddog Monitro) fod datgelu adroddiad cyfrinachol i’r wasg yn torri Cod Ymddygiad Aelodau a hefyd God Ymddygiad Swyddogion a’i fod yn fater difrifol. Nododd y sylwadau a wnaed yng nghyswllt dyfeisiau trydanol tebyg i liniaduron a dywedodd mai dyfeisiau’r Cyngor oedd y rhain ac y byddai’n berffaith gywir ac mewn trefn i unrhyw ddyfeisiau o’r fath fod yn rhan o unrhyw ymchwiliad. Nodwyd y byddai cydymffurfiaeth a gofynion diogelu data yn cael eu hystyried fel rhan o unrhyw ymchwiliad.

 

Daeth y Cadeirydd i ben drwy ddweud y caiff unrhyw ymchwiliad ei adael ar ddisgresiwn y Rheolwr Gyfarwyddwr i’w gynnal.

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Siaradodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol yn fanwl am yr adroddiad a thynnu sylw at bwyntiau ynddo. Gofynnwyd am gymeradwyaeth i ddechrau ar drafodaethau Penawdau Telerau ar gyfer prynu rhydd-ddaliad Siopa’r ?yl a safleoedd cysylltiedig ac i ystyried derbyn ildiad prydles gan y perchnogion presennol. Yn ychwanegol, i ddatblygu cynllun busnes yn amlinellu defnyddiau a chostau’r datblygiad arfaethedig i gael ei ystyried a’i gytuno.

 

Dywedodd yr Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd fod hwn yn gyfle enfawr o ran adfywio a byddai datblygu achos busnes yn hanfodol i gyflawni hyn. Byddai cysylltiadau gyda phrosiectau eraill ar draws y Fwrdeistref Sirol ac mae cyfle i ailddiffinio ac ystyried darpariaeth gwasanaethau rheng flaen ac os a sut y gellid eu darparu’n fwy agos at y preswylwyr o fewn hybiau canol trefi. Byddai gweithio partneriaeth hefyd yn allweddol i gyflawni’r weledigaeth ac i symud ymlaen â gwasanaethau.

 

Cynigiodd yr Aelod Gweithredol y dylid sefydlu gweithgor yn cynnwys Aelod Gweithredol, Cadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor Craffu Adfywio a 2 Aelod o’r Gr?p Llafur i helpu datblygu’r achos busnes. Byddai ymgynghoriad gydag Aelodau eraill yn cynnwys Aelodau Ward yn digwydd ar y man priodol.

 

Wedyn gofynnwyd am farn Aelodau, a rhoddir crynodeb ohonynt islaw:

 

-       Derbyniwyd cwynion gan breswylwyr am alwadau diwahoddiad gan y Cyngor yn gofyn am wybodaeth am arferion siopa. Gofynnodd yr Aelod pwy oedd wedi awdurdodi hyn a gofynnodd am wybod am y goblygiadau cost.

 

-       Mae darlun ehangach sy’n rhaid ei ystyried yn cynnwys yr effaith ar yr economi lleol. Mae Blaenau Gwent yn derbyn nifer sylweddol o ymwelwyr sy’n gwario hyd at £55m y flwyddyn sy’n cyfrannu at yr economi lleol ac mae Parc yr ?yl yn un o’r prif resymau am ymweld â’r ardal. Byddai’r cynnig hwn yn cael effaith sylweddol ar safleoedd bwyd, diodydd a gwestai a mynegwyd pryder na fyddai’r lefel yma o refeniw ar gael os na fyddai unrhyw ymwelwyr. Gofynnodd yr Aelod y dylid rhoi ystyriaeth fel rhan o unrhyw drafodaethau i’r posibilrwydd o gadw elfen manwerthu fel rhan o’r cynnig er mwyn cefnogi’r masnachwyr ar y safle a hefyd y busnesau o amgylch sy’n dibynnu ar y safle i ddod â thwristiaeth i mewn i Flaenau Gwent.

 

-       Dylid ymchwilio pob llwybr yng nghyswllt y safle yn cynnwys y cyfyngiadau parcio ar y safle a chysylltiadau trafnidiaeth.

 

-       Mynegwyd pryder mai ychydig o wybodaeth ariannol sydd yn yr adroddiad.

 

-       Dywedodd Aelod mai ei brif bryder yw enw da’r Cyngor gan mai’r cynnig yw defnyddio rhan o’r safle ar gyfer gofod swyddfa. Er bod yr adroddiad yn dweud nad oedd unrhyw ddiddordeb yn y safle, ni chawsant unrhyw wybodaeth yn dweud sut y ceisiodd y Cyngor farchnata’r safle. Dywedwyd hefyd fod y Noddfa Tylluanod yn agos iawn at y safle.

 

-       Mynegwyd pryder y comisiynwyd ymgynghorwyr i gynnal y darn dechreuol o waith ond bod gan y Cyngor yr arbenigedd perthnasol yn fewnol i wneud y gwaith a allai fod wedi arbed arian.

 

Ymatebodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol fel sy’n dilyn:

 

-       Bydd yr achos busnes yn rhoi manylion pellach yng nghyswllt elfen ariannol y cynllun. Yn nhermau’r costau a amlinellir ym mharagraff 5.1.2, mae’n bosibl y gellid rhannu’r gost gyda Llywodraeth Cymru. Cafodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol bwerau dirprwyedig i gomisiynu’r arbenigwyr a enwir yn yr adroddiad ac i ddatblygu ac ymchwilio’r cyfle posibl. Gwnaed hyn mewn ymgynghoriad gyda’r Aelod Gweithredol.

 

-       Cydnabuwyd y berthynas rhwng twristiaeth a gwariant a byddai’r gwaith hwn yn cael ei gysylltu ac edrychir arno mewn cysylltiad â Pharc Rhanbarthol y Cymoedd. Byddai’r achos busnes hefyd yn cynnwys manylion dyfodol asedau twristiaeth yn y safle.

 

-       Caiff pob cyfle datblygu economaidd eu hymchwilio ac mae rheswm a dadl gref dros edrych ar yr adfywio fel cyfle gwirioneddol ac ni ddylai hyn fod yn gyfle a gollir. O ran enw da, byddai hyn yn cael ei gwestiynu pe byddai’r Cyngor wedi methu gweithredu. 

 

-       Cafodd cysylltiadau trafnidiaeth eu cynnwys yn yr adroddiad a chânt eu hymchwilio fel rhan o’r prif gynllun.

 

-       Cynhaliwyd trafodaethau gydag asiantau’r perchennog presennol a gadarnhaodd cyn cysylltu gyda’r Cyngor mai dim ond un datganiad diddordeb a gafwyd ond nid oedd y sawl â diddordeb wedi methu cwblhau.

 

-       Yn nhermau galw diwahoddiad ar breswylwyr, nid oedd y Cyfarwyddwr Corfforaethol yn gwybod am hyn ond dywedodd y byddai’n ymchwilio ac yn hysbysu’r Aelod yn unol â hynny.

 

Gofynnodd Arweinydd y Gr?p Llafur am atebion ysgrifenedig.

 

Dywedodd yr Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd fod mwy o gwestiynau nag atebion yn y sefyllfa bresennol a rhagwelir y byddai datblygu achos busnes yn mynd i’r afael â llawer o’r materion hyn. Felly cynigiodd gymeradwyo Opsiwn 2 gyda’r cynnig ychwanegol i sefydlu gweithgor i gynorthwyo gyda datblygu’r achos busnes yn y dyfodol. Caiff y busnes achos hwn wedyn ei gyflwyno i’w ystyried yng nghyfarfod y Cyngor ym mis Medi.

 

Mewn ymateb i gwestiwn am ymgyfraniad Aelodau Ward ar y gweithgor, dywedodd yr Aelod Gweithredol y byddai cyfleoedd i gyfethol Aelodau Ward ar y gweithgor wrth iddo fynd rhagddo.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad sy’n cyfeirio at faterion ariannol neu fusnes unrhyw berson neilltuol (yn cynnwys yr awdurdod) a chymeradwyo Opsiwn 2, sef cymeradwyo’r dilynol:

 

·         Symud ymlaen gydag Opsiwn Dau a dechrau trafodaethau manwl gyda pherchnogion presennol Parc Siopa’r ?yl gyda golwg at gytuno Penawdau Telerau ar gyfer caffael y safle ar gyfer ailwampio/ailddatblygu.

 

·         Paratoi Achos Busnes ar gyfer caffael a defnydd y dyfodol, i’w ystyried gan y Cyngor ym mis Medi 2020.

 

·         Dylai’r costau sy’n gysylltiedig gyda chomisiynu cyngor allanol arbenigol gael ei gyllido drwy Gronfa Trawsnewid y Cyngor.

 

·         Symud ymlaen gyda thrafodaethau gyda Llywodraeth Cymru am gyllido unrhyw gaffaeliad, ailwampio ac ailddatblygu’r safle.

 

PENDERFYNWYD YMHELLACH i

 

-       Sefydlu gweithgor yn cynnwys yr Aelodau Gweithredol, Cadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor Craffu Adfywio ynghyd â 2 Aelod o’r Gr?p Llafur i weithio ar yr achos busnes wrth ochr swyddogion.

 

-       Cynnal ymchwiliad mewnol i’r amgylchiadau yn ymwneud â chynnwys adroddiad cyfrinachol yn y parth cyhoeddus.