Agenda item

Eitem Monitro ar y Cyd – Portffolios Addysg ac Amgylchedd: Ansawdd y Cyflenwad Dŵr mewn Ysgolion

Ystyried adroddiad y cyd swyddogion.

 

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i’r adroddiad ar y cyd gan Gyfarwyddwr Corfforaethol yr Amgylchedd ac Adfywio a Chyfarwyddwr Corfforaethol Interim Addysg.

 

Ar wahoddiad Arweinydd y Cyngor, cyflwynodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Addysg yr adroddiad sy’n diweddaru’r Pwyllgor Gweithredol ar sefyllfa bresennol y problemau ansawdd cyflenwad d?r mewn ysgolion, yn dilyn y cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru y byddai ysgolion yn ail-agor ar 29 Mehefin 2020.

 

Dywedodd mai diogelwch ein plant a staff yw’r flaenoriaeth a’r pwysigrwydd pennaf wrth ddelio gyda materion cyflenwad d?r ysgolion, ac y dylid hefyd gydnabod fod mwyafrif canlyniadau’r profion ar ansawdd d?r ysgolion wedi dangos lefelau isel o halogiad lleol ac y cafodd hyn ei drin yn effeithlon ac wedi galluogi cyfran fawr o ysgolion i agor fel y bwriadwyd.

 

Roedd canllawiau cenedlaethol yng nghyswllt COVID-19 wedi arwain at i ysgolion fod ar gau o ddydd Llun 23 Mawrth, fodd bynnag arhosodd rhai ysgolion o fewn y Fwrdeistref ar agor fel hybiau gofal plant ar gyfer gweithwyr allweddol a dysgwyr bregus. Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ar 3 Mehefin bod ysgolion i ail-agor ar 29 Mehefin, dynodwyd risgiau i’r cyflenwadau d?r o’r cyfnod digynsail y bu ysgolion ar gau, ynghyd â defnydd isel ar dd?r o fewn ysgolion. Cyflwynwyd system profion hylendid d?r ar unwaith i wirio ansawdd y d?r mewn ysgolion cyn caniatáu i’r ysgolion ailagor. Gan gofio am amseriad cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ar 3 Mehefin, roedd hynny’n golygu fod gan y Cyngor yn ymarferol dair wythnos i baratoi ysgolion i ail-agor. Roedd yr amserlen hon yn heriol iawn gan fod angen profi’r systemau d?r ar gyfer lefelau o Cyfanswm Cyfrif Hyfyw (TVC) bacteria a/neu halogiad Legionella.

 

Dywedodd Adran 2.2 yr adroddiad fod y Cyngor wedi cymryd ymagwedd ragweithiol a chyfrifol iawn at ailagor ysgolion o safbwynt iechyd a diogelwch, yn cynnwys profion d?r. Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ar 3 Mehefin fod ysgolion i ail-agor ar 29 Mehefin, defnyddiwyd adnoddau’r Cyngor ar unwaith. Sefydlwyd cynllun a dechreuodd contractwyr samplo/brofi ar 9 Mehefin. Cytunwyd ar raglen o samplo/profion gyda chontractwr hylendid d?r y Cyngor i ymweld â phob ysgol cyn gynted ag oedd modd, a chasglwyd y samplau ysgol terfynol ar 18 Mehefin.

 

O’r 29 safle ysgol a gafodd eu samplo/profi, dynododd mwyafrif helaeth y safleoedd wahanol lefelau uwch o halogiad bacteria TVC, yn amrywio o halogiad lleol i halogiad system lawn. Gellid trin halogiad lleol e.e. safle tap drwy fflysio diheintydd a pasteureiddio, ac roedd angen clorineiddio ar halogiad system lawn. Dynodwyd bod gan chwech ysgol halogiad TVC system lawn, a nodir y rhain yn Adran 2.4.1 yr adroddiad.

 

Roedd angen clorineiddio systemau d?r yr ysgolion hyn ac er mwyn lliniaru’r sefyllfa, prynwyd 26 uned gludadwy golchi dwylo a darparwyd d?r yfed ar gyfer dibenion yfed, ac fe wnaeth y gweithredu rhagweithiol hwn alluogi’r ysgolion i ail-agor fel y bwriadwyd ddydd Llun 29 Mehefin.

 

Ar 25 Mehefin, cafwyd hysbysiad fod canlyniadau profion 3 ysgol yn bositif ar gyfer halogiad Legionella, a nodir yr ysgolion hyn yn adran 2.4.3 yr adroddiad. Yn dilyn trafodaethau gyda’r Aelod Gweithredol a phenaethiaid ysgolion ar 26 Mehefin, gwnaed y penderfyniad i gau’r ysgolion hyn. Cafodd yr ysgolion hyn glorineiddio system lawn ac yn dilyn ail brawf, ni fyddent yn medru agor am 12 diwrnod pellach nes y cafwyd canlyniad prawf Legionella hollol glir.

 

Yna aeth y Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim yn fanwl drwy Adran 2.4 yr adroddiad a thynnu sylw at bwyntiau ynddo. Dywedodd fod yr adroddiad yn cynnwys y ffaith fod y mesurau lliniaru a roddwyd ar waith h.y. unedau cludadwy i olchi dwylo a darparu d?r potel wedi galluogi ysgolion i ail-agor.

 

Dywedodd ei bod hefyd yn bwysig i ddweud y bu cyfathrebu gyda Llywodraeth Cymru ar 27 Mehefin ac fel canlyniad mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn am gadarnhad gwiriadau iechyd a diogelwch boddhaol, yn cynnwys profion cyflenwad d?r, gan bob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru. Mae hefyd yn bwysig nodi fod cydweithwyr yn yr adrannau Iechyd a Diogelwch ac Iechyd yr Amgylchedd yn fodlon gyda’r trefniadau dros dro a weithredir ar hyn o bryd yn yr ysgolion yr effeithiwyd arnynt.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim ei fod yn falch i ddiweddaru y byddai holl ysgolion Blaenau Gwent ar agor o’r w/c 13 Gorffennaf, sy’n gryn gamp o gofio’r heriau a wynebwyd. Dywedodd y bu’r ymateb corfforaethol yn rhagorol a bod y Cyngor wedi cymryd ymagwedd gyfrifol at ailagor ysgolion a olygai fod tua 3,400 o ddisgyblion wedi medru mynychu sesiynau ailgydio, ac y bwriedir cynyddu’r ffigur hwn yr wythnos hon yn unol â’r sefyllfa bresennol.

 

Ychwanegodd fod y Cyngor wedi sicrhau deilliannau cadarnhaol wrth gyflenwi’r lefel o ddarpariaeth ysgol mewn amgylchiadau na welwyd erioed eu tebyg, fodd bynnag mae gwersi i’w dysgu ac felly cynhelir adolygiad a byddid yn rhoi adroddiad i’r Pwyllgor Gweithredol a’r Pwyllgorau Craffu priodol maes o law ar y canlyniadau.

 

Diolchodd yr Aelod Gweithredol Addysg i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim am ei drosolwg cynhwysfawr. Dymunai nodi y cymerwyd pob penderfyniad gan roi ystyriaeth i ddiogelwch plant a staff ac yn anffodus fod hyn yn golygu na fedrai rhai o’n hysgolion agor ar 29 Mehefin. Fodd bynnag, roeddent yn dal i fod wedi cael parhad dysgu yn ddigidol a bu hynny ar waith ers mis Mawrth, a gwnaed llawer iawn o waith caled i sicrhau fod ysgolion ar agor yr wythnos nesaf i roi cyfle i bob disgybl ailgydio a dal i fyny.

 

Dywedodd yr Aelod Gweithredol, cyn gynted ag y dynodwyd y problemau gyda’r cyflenwad d?r, bod y Cyngor wedi hysbysu Llywodraeth Cymru am y sefyllfa ac fel canlyniad i’r Cyngor fod yn agored a thryloyw, mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i bob awdurdod lleol yng Nghymru gadarnhau statws eu gwiriadau iechyd a diogelwch, yn cynnwys profion cyflenwadau d?r. Yn dilyn hyn daeth yn amlwg nad dim ond problem ym Mlaenau Gwent oedd hyn, a’n bod wedi bod yn un o’r awdurdodau lleol mwyaf rhagweithiol cyn i ysgolion ail-agor, ac na chafodd y dull gweithredu hwn ei ddefnyddio’n gyson ar draws awdurdodau lleol. Gan ddilyn ein dull gweithredu, roedd y Cyngor wedi medru dynodi a mynd i’r afael â’r problemau ac o gofio am yr amserlen heriol iawn o 3  wythnos o rybudd i ail-agor ysgolion, teimlai fod y Cyngor wedi cymryd pob mesur priodol ac wedi bod yn agored a thryloyw yn ei ddull gweithredu.

 

Hefyd roedd sicrhau ailagor 26 allan o 29 ysgol, gyda’r ysgolion eraill yn ailagor yr wythnos  nesaf, yn gamp enfawr o gofio am yr heriau a wynebwyd a diolchodd i bawb oedd yn gysylltiedig am eu gwaith caled yn sicrhau canlyniad cadarnhaol.

 

Daeth yr Aelod Gweithredol i ben drwy ddweud, oherwydd natur ddigynsail y sefyllfa, fod gwersi i’w dysgu a chadarnhaodd fod mesurau eisoes yn eu lle i alluogi diwylliant dysgu pe byddem yn canfod ein hunain mewn sefyllfa debyg yng nghyswllt cyfnod estynedig o gau ysgolion, medrai’r Cyngor roi’r gwersi a ddysgwyd ar waith.

 

Dywedodd yr Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd fod y gwaith a wnaethpwyd yn enghraifft ardderchog o ddull gweithredu ‘Un Cyngor’ ac mai diogelwch ein plant oedd yr ystyriaeth bennaf ar bob cam o’r ffordd. Diolchodd i Swyddogion ac Aelodau Gweithredol y portffolio Addysg a hefyd bortffolio yr Amgylchedd. Er bod gwersi i’w dysgu, dywedodd fod hyn yn dasg enfawr ac yn rhywbeth nad yw erioed wedi digwydd o’r blaen.

 

Cytunodd yr Aelod Gweithredol Gwasanaethau Cymdeithasol gyda’r sylwadau hyn a diolchodd hefyd i bawb oedd yn gysylltiedig am eu gwaith caled. Dywedodd iddo gael galwadau ffôn gan rieni yn canmol y Cyngor am eu hymateb.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor mai iechyd a diogelwch plant oedd yr ystyriaeth bwysicaf oll drwy gydol y digwyddiadau hyn. Yna cyfeiriodd at adran 7.3.3 sy’n sôn am gyfathrebu, a dywedodd y bu’r Cyngor yn dda iawn dros y 3 blynedd ddiwethaf wrth reoli cyfathrebu. Fodd bynnag, ymddengys nad yw’r adroddiad yn cynnwys ystyriaeth o’r dull cyfathrebu gyda rhieni, a gofynnodd i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim esbonio sut y gwnaed hynny ac os y bu unrhyw bryderon gan rieni neu broffesiynol am lefel yr ymgysylltu a fu.

 

Mewn ymateb dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim y bu’r dull cyfathrebu’n effeithlon iawn a diolchodd i gydweithwyr o fewn y tîm Cyfathrebu Corfforaethol am eu cefnogaeth. Dywedodd bod unrhyw gyfathrebiadau a anfonwyd at staff, rhieni a disgyblion wedi cael eu llunio ar y cyd gydag ysgolion, ac wedi’u cymryd fel cyfrifoldeb a rennir wrth lunio’r sylwadau hyn. Y peth pwysig oedd y cafodd unrhyw ohebiaeth ei gytuno mewn ffordd a gafodd ei lunio ar y cyd a bod y berthynas rhwng y Cyngor ac ysgolion yn gryf yn nhermau cael negeseuon allan yn gyson i randdeiiaid ar draws y bwrdd.

 

Ar wahoddiad yr Arweinydd, dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Datblygu Economaidd y derbyniwyd canllawiau diwygiedig ar wahanol faterion cyn y cyfnod clo, yn cynnwys delio gydag achosion o Legionella mewn ysgolion felly o’r cychwyn cyntaf bu’r Cyngor yn gweithredu cod ymarfer cymeradwy yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ac wedi cynnal ystod estynedig o fflysio ac yn y blaen drwy gydol y cyfnod clo.

 

Ar 3 Mehefin, pan gyhoeddwyd y byddai ysgolion yn ail-agor, ystyriwyd pob agwedd dechnegol o ailagor ac oherwydd y bu’r ysgolion ar gau am y cyfnod hiraf a gyda thymheredd uchel iawn yn ystod y cyfnod hwnnw, dynodwyd fod ansawdd d?r yn risg bosibl. Fel canlyniad penodwyd contractwyr a wnaeth ddechrau profion ar 9 Mehefin a chwblhau ar 18 Mehefin, oedd yn gamp enfawr. Rhoddir manylion y broses profion a samplo yn Adran 2.2 yr adroddiad.

 

Roedd rhaglen dreigl o ganlyniadau yn dod i mewn, a chyn gynted â bod yr wybodaeth honno gennym roeddem wedi medru cymryd y camau angenrheidiol a chynnal ail brofion, a gweithredu mesurau lliniaru i alluogi ysgolion i ail-agor.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol bod cydweithwyr o fewn Addysg, Gwasanaethau Technegol a’r Amgylchedd wedi cydweithio i ddatblygu trefniadau dros dro eraill i alluogi ysgolion i ailagor. Cafodd y rhain eu herio’n gadarn gan Iechyd a Diogelwch, ac roeddent yn fodlon gyda’r trefniadau dros dro.

 

Dywedodd fod yr Aelod Gweithredol Addysg wedi cyfeirio at gais Llywodraeth Cymru i bob awdurdod lleol gadarnhau eu statws iechyd a diogelwch, a’i fod hefyd wedi ymestyn mas i’r rhwydwaith Gwasanaethau Technegol i holi beth fu eraill yn ei wneud, ac er mai ymateb cyfyngedig a gafwyd, roedd yn gwybod am ddau awdurdod lleol arall lle na agorodd ysgolion oherwydd heriau tebyg, felly nid oedd y sefyllfa hon yn unigryw i Flaenau Gwent.

 

Diolchodd Aelod Gweithredol yr Amgylchedd i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol am ei ddiweddariad a hefyd i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Addysg ac Aelod Gweithredol Addysg. Dywedodd ei bod yn glir y cafodd canllawiau iechyd a diogelwch eu dilyn yn drwyadl ar draws adrannau.

 

Soniodd fod y cyfarfod wedi dechrau drwy sôn am y difrod a achoswyd gan lifogydd, ac yna wedi symud ymlaen i bandemig COVID-19. Dywedodd na wyddom yn llawn eto beth fydd effaith COVID-19 arnom i gyd, ac mae posibilrwydd brig arall yn real, fodd bynnag roedd yn croesawu’r adolygiad o’r gwersi a ddysgwyd er mwyn paratoi pe byddai hynny’n digwydd. Yn nhermau edrych i’r dyfodol, nid dim ond mater o ysgolion yw hi ond hefyd yr adeiladau eraill y mae’r cyngor yn eu rheoli ac eraill, ac mae gwaith yn mynd rhagddo gyda hynny.

 

Mae’n ddi-os y bydd y gwersi a ddysgwyd yn dangos arfer da, ac yn rhoi sylw i nid yn unig beth fedrid bod wedi ei wneud yn well, ond hefyd y deilliannau cadarnhaol a rhoi trosolwg cytbwys. Daeth i ben drwy ddweud fod cyfathrebu yn hanfodol a chroesawodd y diweddariad a roddwyd gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim ar y mater hwnnw.

 

Dywedodd yr Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd fod nifer y profion a gymerwyd yn sylweddol a dywedodd fod y ganolfan brofion hefyd yn cynnal profion ar gyfer awdurdodau lleol eraill, felly roedd oedi bychan sydd hefyd wedi achosi problemau.

 

Mewn ymateb, dywedodd yr Arweinydd iddo glywed sylwadau am ba mor amserol y dechreuwyd profion, ond roedd yn fodlon gyda’r esboniad.

 

Canmolodd y Rheolwr Gyfarwyddwr hefyd waith Swyddogion ar draws y Cyngor, ysgolion a hefyd Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin dros yr ychydig wythnosau diwethaf. Dywedodd ei fod yn bendant iawn yn waith tîm wrth drin llawer o broblemau er mwyn ailagor ein hysgolion yn ddiogel. Roedd 26 o’n 29 ysgol wedi medru ailagor a byddai’r rhai hynny nad oedd wedi agor, er am reswm da, yn ailagor yr wythnos nesaf fel y byddai pob disgybl yn cael cyfle i ailgydio cyn gwyliau’r Haf.

 

Dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr ei bod yn credu’n gadarn fod y penderfyniad i beidio agor yr ysgolion hynny yn un anodd, ond mai dyna’r penderfyniad cywir yn seiliedig ar ddiogelwch ein disgyblion a staff, ac mae’r undebau llafur yn llwyr gefnogol i’r penderfyniad.

 

Fodd bynnag, wrth edrych i’r dyfodol mae angen i ni fod yn sefydliad sy’n dysgu a dynodi arfer da, a hefyd i ddeall beth ddigwyddodd dros y cyfnod 3 mis hwn a pham y gwnaeth ein gweithdrefnau a’n harferion gwaith ein rhoi yn y sefyllfa honno ddechrau mis Mehefin. Fel canlyniad, bwriedir cynnal adolygiad o’r gwersi a ddysgwyd i gasglu meysydd arfer da, ac y dylai hyn gael ei gwneud gan sefydliad annibynnol gyda’r arbenigedd angenrheidiol i gynghori’r Cyngor lle mae angen gwelliannau. Nid yw adolygiadau o’r fath yn anarferol ac maent wedi profi’n fanteisiol iawn i’r Cyngor yn y gorffennol. Fodd bynnag, dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr fod angen symud ymlaen yn gyflym ar hyn gan y byddai ysgolion yn cau ar 17 Gorffennaf am gyfnod yr Haf, ac mae angen i ni fod wedi paratoi a chael gweithdrefnau cadarn yn eu lle pe byddai angen trefniadau ar gyfer cyfnod clo pellach. Bydd gwaith ar hyn yn dechrau yn y dyfodol agos a chaiff y canlyniadau eu hadrodd i’r Pwyllgor Gweithredol a’r broses Craffu.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor y byddai’n hoffi adleisio’r sylwadau a wnaed. Yn nhermau’r adolygiad o’r gwersi a ddysgwyd, mynegodd bryder y soniwyd am y gwaith ‘ymchwiliad’ Dywedodd fod defnyddio’r gair hwn yn niweidiol i ysbryd staff. Dywedodd y bu adolygiadau yn fater cyffredin dros y 3 blynedd diwethaf i bwyso a mesur yr hyn a wnaethom, er mwyn gwella pob agwedd o waith y Cyngor yn barhaus. Dywedodd fod staff y Cyngor rhyngddynt wedi bod yn rhyfeddol ar draws y Cyngor wrth ddelio gyda hyn, a faint o waith a wnaethpwyd mewn cyfnod mor fyr. Mae ail-agor 26 ysgol i tua 3,400 o ddisgybl yn gryn gamp, ac nid yw’r ffaith y cynhelir adolygiad yn adlewyrchu dim ar y gwaith rhagorol hwn. Mae’r adolygiad yn gyfle i barhau i wella a phe byddai ail don o COVID-19, dywedodd fod gan y Cyngor ddyletswydd gofal i sicrhau bod y gweithdrefnau sydd gennym yn eu lle a’u gweithredu y rhai cywir, neu os oes angen addasu ychydig arnynt.

 

Dywedodd fod yr adroddiad yn gynhwysfawr iawn ac y bu’r Cyngor yn agored a thryloyw drwy gydol y cyfnod. Rhoddodd sicrwydd y rhoddir adroddiad ar ganlyniadau’r adolygiad drwy’r broses wleidyddol a byddai pawb yn gweld fod y camau a gymerwyd er budd gorau ein plant a staff.

 

Daeth i ben drwy ofyn i’r Rheolwr Gyfarwyddwr gyfleu sylwadau’r Pwyllgor Gweithredol i’r staff, gan ei bod yn bwysig iddynt wybod bod y Pwyllgor Gweithredol yn llwyr gefnogol iddynt, ac yn gwerthfawrogi’r gwaith a wnaethpwyd.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y Pwyllgor Gweithredol yn cymeradwyo Opsiwn 2, sef rheoli’r risgiau halogiad, gweithredu mesurau lliniaru, a rheoli’r risgiau o fewn rheoliadau a chanllawiau iechyd a diogelwch.

 

Dogfennau ategol: