Agenda item

Diweddariad Apêl Cynllunio: Newid defnydd adeilad stabl (adeilad 4), adeilad allanol a chynwysyddion ar gyfer dibenion storio, a newid defnydd stabl (adeilad 1) i genel bridio cŵn yng Nghaeau’r Seren, ger Heol y Mynydd, Glynebwy

Ystyried adroddiad yr Arweinydd Tîm Rheoli Datblygu.

 

Cofnodion:

Ystyriodd Aelodau adroddiad yr Arweinydd Tîm Rheoli Datblygu.

 

Siaradodd y Rheolwr Gwasanaeth – Datblygu a Stadau yn fyr am yr adroddiad ac esboniodd fod y Pwyllgor Cynllunio blaenorol wedi gwrthod caniatâd i’r cynnig uchod ar y seiliau fod y prif adeilad yn nodwedd fawr ac amlwg a’i fod wedi’i leoli o fewn Ardal Tirlun Arbennig.

Fodd bynnag, roedd yr Arolygydd wedi cydnabod ar ôl i Hysbysiad Penderfyniad am wrthodiad gael ei gyhoeddi, fod y Cyngor wedi cyhoeddi Tystysgrif Cyfreithlondeb Defnydd Presennol o Ddatblygiad (CLEUD) yng nghyswllt safle’r apêl sy’n cadarnhau cyfreithlondeb y chwech strwythur a gafodd eu cwblhau’n sylweddol ar y safle ond nad oedd yn ymestyn i ddefnydd cyfreithlon o’r adeiladau.

 

Felly, nododd yr Arolygydd fod dyfarnu CLEUD yn cynrychioli newid sylweddol mewn amgylchiadau ers y penderfynwyd ar y cais cynllunio a bod yn rhaid iddo roi ystyriaeth iddo.  Roedd hyn wedi cyfeirio’r Arolygydd i ganiatáu’r apêl ac er bod yr Arolygydd wedi nodi fod rhai o’r strwythurau ar y safle yn edrych yn anniben, gan y cyhoeddwyd CLEUD dywedodd, pe byddai’n gwrthod yr apêl, fod y strwythurau yn debygol o barhau yno.

 

Yng nghyswllt y cais ar wahân am gostau, roedd yr Arolygydd Cynllunio wedi cydnabod na chafodd cyfreithlondeb y strwythurau ei wirio pan y gwnaed y penderfyniad i wrthod y cais cynllunio ac er iddo ganfod nad oedd yr adeiladau’n niweidio’r Ardal Tirlun Arbennig, roedd yn cydnabod fod ganddynt effaith weledol o safbwyntiau cyhoeddus. Nid oedd y rheswm dros wrthod, felly, heb sylfaen ac mae’r Cyngor wedi rhoi tystiolaeth ddigonol i gadarnhau ei reswm dros wrthod a gwrthododd y cais am gostau.

 

Yng nghyswllt pryder a godwyd am leoliad y cynnig, cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaeth mai’r lleoliad oedd Heol y Mynydd, Glynebwy ac nid Heol y Mynydd, Rasa.

 

Mynegodd Aelod ei diolch i’r Pwyllgor Cynllunio am benderfynu pleidleisio yn erbyn y cynnig ac i’r sefydliadau oedd wedi rhoi amser i ysgrifennu at yr Adran Cynllunio a’r Arolygiaeth Cynllunio yn mynegi eu pryderon am y cynnig. Roedd hefyd yn cydnabod ac yn croesawu gweld safbwynt adroddiad yr Arolygydd y cafodd y seiliau dros wrthod eu cadarnhau’n rhesymol.

 

Dywedodd yr Aelod ei bod yn croesawu’r amodau i gyfyngu lefelau s?n ac amod yn gwahardd gwerthu a phrynu c?n yn y safle. Pan ddaeth Cyfraith Lucy i fodolaeth, dywedodd na fyddai’r apeliwr wedi medru defnyddio’r safle yn gyfreithiol ar gyfer y dibenion hyn – byddai’n rhaid gwerthu c?n bach o’r man lle cawsant eu bridio.

 

Aeth ymlaen drwy gyfeirio at Amod rhif 8 h.y. sef o fewn 2 fis o ddyddiad y llythyr penderfyniad (8 Ebrill 2020) bod angen cyflwyno Cynllun Rheoli Gwastraff ysgrifenedig yn nodi ym mha ddull y byddid yn cael gwared â’r holl wastraff a gynhyrchid a’i gyflwyno i’r awdurdod cynllunio lleol er cymeradwyaeth a holodd os oedd yr awdurdod cynllunio lleol wedi derbyn y ddogfen hon o fewn yr amserlen a nodwyd.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Tîm Rheoli Datblygu y cyflwynwyd dull o ohebiaeth ond y byddai angen iddi wirio os mai’r Cynllun Rheoli Gwastraff ei hun oedd hynny. Dywedodd y Rheolwr Tîm y byddai’n dilyn y mater hwn ac yn cysylltu â’r Aelod ar ôl y cyfarfod i gadarnhau os cafodd y Cynllun ei gymeradwyo a hefyd ei weithredu o fewn yr amserlen a nodwyd.

 

Er eglurhad, dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth – Datblygu a Stadau fod amod yr Arolygydd Cynllunio yn datgan pe na chymeradwyid Cynllun Rheoli Gwastraff o fewn 2 fis o ddyddiad y penderfyniad, y byddai defnydd y safle yn dod i ben nes y gweithredid y Cynllun Rheoli Gwastraff a gymeradwywyd gan yr awdurdod cynllunio lleol. Roedd hyn yn golygu y byddai rhoi caniatâd cynllunio yn parhau beth bynnag.

 

Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaeth fod y cais CLEUD yn fater hollol ar wahân ac na fu’r Cyngor mewn sefyllfa i ddal y cais hwn heb benderfyniad oherwydd bod y Dystysgrif Cyfreithlondeb yn dibynnu ar faterion o ffaith h.y. os gallai’r ymgeisydd brofi o bwyso a mesur tebygolrwydd y bu adeiladau ar y safle am gyfnod neilltuol, bod gan y Cyngor oblygiad i benderfynu ar y cais a’i bod yn ddyletswydd arno i roi tystysgrif.

 

Ar hynny,

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a nodi’r ddau benderfyniad apêl ar wahân yng nghyswllt cais cynllunio C/2019/0990, sef:-.

 

-      Caniatáu’r apêl a rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer newid defnydd stabl (adeilad 4), adeilad allanol a chynwysyddion ar gyfer dibenion storio; a newid defnydd stabl (adeilad 1) i genelau bridio c?n yng Nghaeau’r Seren, ger Heol y Mynydd, Cyfeirnod Grid 317718, 209001, Glynebwy yn unol â thelerau’r cais, Cyf C/2019/0090, dyddiedig 29 Mai 2019, gyda’r amodau a roddir yn atodlen y llythyr penderfyniad.

 

-      Gwrthod y cais am ddyfarnu costau.

 

 

Dogfennau ategol: