Agenda item

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol

Derbyn cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Safonaul a gynhaliwyd are 29 Ionawr 2020.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 29 Ionawr 2020.

 

Materion yn Codi

 

Codi ymwybyddiaeth fod goddefebau ar gael

 

Dywedodd y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithol a Chorfforaethol, yn dilyn trafodaethau blaenorol am argaeledd goddefebau, y bwriedir cryfhau’r broses ar gyfer goddefebau drwy’r hyfforddiant arferol ar God Ymddygiad Aelodau. Fodd bynnag, cafodd y rhaglen hyfforddiant ei gohirio fel rhan o’r ymateb i COVID-19 ond rhoddodd y Swyddog sicrwydd y caiff ei gynnwys yn y rhaglen hyfforddiant pan mae busnes y Cyngor yn ôl i’r arferol.

 

Ystyriaeth i enghreifftiau o Lyfr Gwaith yr Ombwdsmon

 

Dywedodd y Cadeirydd y cytunwyd yn y cyfarfod diwethaf y byddai hyn yn dod yn eitem safonol ar yr agenda a gofynnodd i’r Swyddog os oedd unrhyw ddiweddariad i’w adrodd.

 

Atebodd y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol na fedrai roi diweddariad gan fod yr ymateb i COVID-19 wedi effeithio ar hyn hefyd ac y caiff ei godi yn y cyfarfod nesaf. Cafodd llawer o waith yr Ombwdsmon hefyd ei oedi felly mae’n annhebyg y byddai llawer i adrodd arno, fodd bynnag yn y cyfamser gall Aelodau edrych ar wefan yr Ombwdsmon.

 

Dywedodd yr Aelod fod yr adnoddau ar wefan yr Ombwdsmon yn ddefnyddiol iawn wrth roi’r wybodaeth ddiweddaraf ar faterion sy’n berthnasol i’r Pwyllgor Safonau.

 

Gohrio gweddarlledu cyfarfodydd

 

Mewn ymateb i gwestiwn dywedodd y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithol a Chorfforaethol y cafodd llawer o’r materion yn ymwneud â gweddarlledu eu disodli gan ymateb y Cyngor i COVID-19. Mae’r Cyngor bellach wedi symud i sefyllfa lle mae cyfarfodydd democrataidd wedi cael eu hailgyflwyno’n raddol yn defnyddo technoleg Teams sy’n ei gwneud yn bosibl i recordio cyfarfodydd a’u rhoi yn y parth cyhoeddus, felly mae cyfarfodydd mewn gwirionedd yn cael eu gweddarlledu er mewn ffurf wahanol. Dywedodd y Swyddog y byddai’r Cyngor, fel llawer o sefydliadau eraill, yn edrych ar gymryd rhai o fanteision hyn i’r tymor hwy i gynllunio ar gyfer atal lledaeniad COVID-19, ond edrych hefyd ar y buddion yn nhermau effeithiolrwydd. Caiff hyn ei ystyried gan Dîm Arweinyddiaeth Gorfforaethol y Cyngor wrth symd ymlaen.

 

Gofynion Hyfforddiant

 

Gofynnodd y Cadeirydd os yw’n dal yn fwriad i gynnal sesiwn hyfforddiant ym mis Medi o gofio am ganllawiau presennol y Llywodraeth ac os y gellid cyflwyno hyn gyda thechnoleg Teams.

 

Dywedodd y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol y byddai’r sesiwn hyfforddiant arferol yn cynnwys hyfforddiant i Aelodau newydd a hyfforddiant gloywi ar gyfer Aelodau presennol, fodd bynnag bydai’n rhaid diweddaru hyn yn awr i ffurf rithiol a gofynnodd am awgrymiadau gan Aelodau am sut yr hoffent dderbyn hyfforddiant.

 

Dywedodd Aelod fod hyfforddiant yn hanfodol i bob Aelod ac y byddai’n croesawu unrhyw fath o hyfforddiant. Soniodd fod hyfforddiant ar y cyd gydag awdurdodau lleol eraill yn fanteisiol, ond ei bod yn bwysig derbyn hyfforddiant gloywi neu fel arall.

 

Cadarnhaodd y Swyddog y caiff opsiynau eu hystyried a’u cylchredeg i Aelodau ar gyfer trafodaeth bellach.

 

Mesur Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru)

 

Gofynnodd y Cadeirydd os cafodd y crynodeb o brif ddarpariaethau’r Bil eu cylchredeg i Aelodau.

 

Mewn ymateb, dywedodd y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol nad yw’r wybodaeth wedi ei chylchredeg hyd yma. Hyd yma cafodd y Bil ei gylchredeg i awdurdodau lleol ar gyfer ymgynghoriad. Un elfen sy’n berthnasol i Bwyllgorau Safonoau oedd cynnig y byddai gan Arweinwyr Grwpiau Gwleidyddol gyfrifoldeb ac y byddent â rhan mewn materion ymddygiad o fewn eu grwpiau. Dealltwriaeth y Swyddog yw y caiff crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad ei gylchredeg bryd hynny. Fodd bynnag, yn dilyn ymchwiliad dywedodd y Swyddog nad oedd yr ymateb i’r ymgynghoriad ar gyfer ei gyhoeddi ymhellach ar y pryd, a disgwylir gwybod pryd y gellir ei rannu.

 

Dywedodd y Swyddog y cafodd rhai o elfennau allweddol y Bil eu pasio ond y cafodd y gweddill eu gohirio oherwydd amgylchiadau presennol. Dywedodd y byddai’n cylchredeg Rhan 4 y Bil, perthnasol ar gyfer dibenion Pwyllgorau Safonau, ac yn holi os yw’n awr yn briodol i rannu ymateb Cymdeitas Llywodraeth Leol Cymru i’r ymgynghoriad.

 

CYTUNWYD, yn amodol ar yr uchod, i gadarnhau’r cofnodion.

 

Dogfennau ategol: