Agenda item

Trefniadau Llywodraethiant Argyfwng yn ystod argyfwng Covid 19

Ystyried adroddiad y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol (Swyddog Monitro).

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol (Swyddog Monitro).

 

Ar wahoddiad y Cadeirydd, cyflwynwyd yr adroddiad gan y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol. Ei ddiben yw sefydlu trefniadau llywodraethiant argyfwng dros dro fel y gellir parhau i gymryd penderfyniadau i ohirio a lliniaru lledaeniad ac effaith Coronafeirws o fewn y gymuned tra’n gwarchod y gweithlu a phreswylwyr, yn arbennig y rhai sydd fwyaf agored i niwed.

 

Gan fod y feirws yn lledaenu’n gyflym, y mesurau a gymerwyd gan y Cyngor hyd yma fel rhan o’i ymateb argyfwng ymysg pethau eraill  oedd symud at ddarparu gwasanaethau hanfodol yn unig.

 

Yn nhermau’r broses benderfynu, mae angen ymateb yn gyflym i’r newidiadau hyn. Mae cynllun dirprwyo lleol Blaenau Gwent, a roddir yn Adran 13 y Cyfansoddiad, eisoes yn dirprwyo ystod eang o faterion gweithredol i swyddogion. Fodd bynnag, mae’r rhan fwyaf o benderfyniadau polisi a phenderfyniadau mawr sydd ag effaith ehangach wedi eu cadw i’r Pwyllgor Gweithredol eu penderfynu ond gan fod cyfarfodydd y Cyngor wedi eu canslo am y dyfodol rhagweladwy, mae angen rhoi camau argyfwng dros dro ar waith er mwyn ymateb yn effeithlon i effaith bosibl COVID 19 ac i barhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol a gwarchod cymunedau lleol a staff.

 

Felly, cynigiwyd y dylai’r Rheolwr Gyfarwyddwr neu ddirprwy a enwebir ganddi (sef unrhyw swyddog sy’n rhan o’r Tîm Arweinyddiaeth Gorfforaethol) gael p?er dirprwyedig dros dro i wneud penderfyniadau gweithredol ar ran y Cyngor. Yn ychwanegol, cynigiwyd sefydlu Pwyllgor Argyfwng dros dro er mwyn ystyried materion sylweddol a all godi ac a all ddod tu allan i bolisi neu fframwaith cyllideb a gytunwyd gan y Cyngor ar hyn o bryd. Byddai 5 Aelod ar y Pwyllgor hwn a phe byddai Aelod o’r Pwyllgor heb fod ar gael, medrir enwebu dirprwy. Caiff cylch gorchwyl y Pwyllgor ei fanylu ym mharagraff 3.1 yr adroddiad.

 

Nodwyd bod y p?er statudol i ganiatáu dirprwyad o’r fath wedi ei gynnwys o fewn adran 15(2) Deddf Llywodraeth Leol 2000, y mae ei darpariaethau yn galluogi’r Cyngor i drefnu i swyddogaethau’r Pwyllgor Gweithredol  gael eu cyflawni gan Bwyllgor neu swyddogion yr Awdurdod.

 

Daeth y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol i ben drwy argymell cymeradwyo Opsiwn 1.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor ei bod yn hollol hanfodol cefnogi’r adroddiad a’r argymhellion er mwyn sefydlu Pwyllgor Argyfwng. Byddid yn anfon enwau cynrychiolwyr i Gwasanaethau Democrataidd a’r Rheolwr Gyfarwyddwr yn dilyn y cyfarfod. Byddai hyblygrwydd ar gyfer dirprwyon yn sicrhau y presenoldeb mwyaf. Daeth i ben drwy ddweud y byddai’n cynnig cymeradwyo Opsiwn 1 ar y pwynt priodol.

 

Cefnogodd Arweinydd y Gr?p Llafur sylwadau’r Arweinydd a dywedodd y byddai hefyd yn cyflwyno enw cynrychiolydd yn dilyn y cyfarfod.

 

Felly, cynigiwyd a chefnogwyd yn unfrydol gymeradwyo Opsiwn 1.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef:

 

-      Yng nghyswllt gweithredu Swyddogaethau Gweithredol fel yr amlinellir yng Nghyfansoddiad y Cyngor, mae’r Cyngor dros dro wedi dirprwyo grym a chyfrifoldeb am weithredu swyddogaethau gweithredol (na chafodd eisoes eu dirprwyo yn sgil trefniadau presennol o fewn Cyfansoddiad y Cyngor) i’r Rheolwr Gyfarwyddwr (ac yn ei habsenoldeb neu anallu) i unrhyw un o’r dirprwyon a enwebir ganddi sef unrhyw swyddog o’r Tîm Arweinyddiaeth Gorfforaethol) i wneud penderfyniadau ac ymgymryd ag unrhyw gamau gweithredu sydd eu hangen i sicrhau bod gwasanaethau hanfodol yn parhau i weithredu yn seiliedig ar gynlluniau parhad busnes, er mwyn gwarchod y Cyngor a’i breswylwyr.

 

-      Er mwyn sicrhau fod ymgyfraniad priodol i Aelodau Etholedig, sefydlir (heb adroddiad pellach) Bwyllgor Argyfwng o Aelodau Etholedig yn cynnwys Arweinydd y Cyngor, Arweinydd y Gr?p Llafur, dau Aelod Etholedig Annibynnol ac un Aelod Etholedig Llafur, yr ymgynghorir â nhw ar benderfyniadau a all ddod tu allan i gyllideb neu fframwaith polisi bresennol y Cyngor. Mae’n rhaid gwneud unrhyw benderfyniadau brys sydd eu hangen sydd tu allan i fframwaith polisi a chyllideb cyfredol y Cyngor, yn unol â darpariaethau presennol paragraff 15.5 Cyfansoddiad y Cyngor, gyda’r amod ychwanegol fod yn rhaid ymgynghori â’r Pwyllgor Argyfwng cyn gwneud unrhyw benderfyniad o’r fath.

 

-      Yn ychwanegol, dylai’r Rheolwr Gyfarwyddwr (neu ddirprwy a enwebir ganddi) wneud pob ymdrech resymol i gysylltu â’r Arweinydd a/neu Aelodau eraill o’r Pwyllgor Argyfwng i’w hysbysu am yr amgylchiadau a’u penderfyniadau cyn gynted ag sy’n rhesymol ymarferol.

 

-      Os digwyddai nad yw Aelod o’r Pwyllgor Argyfwng ar gael, gallant enwebu dirprwy. Gall y Pwyllgor Argyfwng gynnal ei fusnes drwy e-bost, dros y ffôn neu’n defnyddio unrhyw ddulliau digidol sydd ar gael iddynt. Ni fwriadwyd cael isafswm ‘cworwm’ ar gyfer y Pwyllgor hwn. Gall manylion y trefniadau cyfathrebu gael eu cytuno rhwng y Rheolwr Gyfarwyddwr ac Arweinydd y Cyngor neu ddirprwyon a enwebir ganddynt. Byddai’r trefniadau yn parhau tan hysbysiad pellach.

 

-      Yn nhermau pwerau cyfredol a ddirprwywyd h.y. y rhai a ddirprwywyd i’r Cyfansoddiad i Gyfarwyddwyr/Uwch Swyddogion a enwyd, er mwyn osgoi amheuaeth, dylai’r Rheolwr Gyfarwyddwr fod â hawl i weithredu unrhyw swyddogaethau a gaiff fel arall eu dirprwyo i Brif Swyddog pe byddai’r swyddog dan sylw yn absennol neu’n analluog i weithredu pwerau dirprwyedig penodol, neu mewn argyfwng.

 

-      Dylai’r holl benderfyniadau a gymerwyd fel canlyniad i’r dirprwyad dros dro hwn gael eu cofnodi ar “Hysbysiad Penderfyniad” ac (os na ddyfarnwyd yn “Wybodaeth Eithriedig” gan Swyddog Monitro y Cyngor), eu harddangos ar gyfer dibenion mynediad i’r cyhoedd ar wefan y Cyngor, cyn gynted ag sy’n rhesymol ymarferol.

 

 

Dogfennau ategol: