Agenda item

Cofrestr Ffioedd a Chostau Corfforaethol 2020/2021

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Masnachol.

 

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd P. Edwards fuddiant yn yr eitem hon (yn benodol ffioedd a thaliadau gwastraff masnach a marchnadoedd) gan ei fod yn Gadeirydd Fforwm Busnes Glynebwy ond arhosodd yn y cyfarfod tra cafodd yr eitem ei hystyried.

 

Ystyriodd aelodau adroddiad y Prif Swyddog Masnachol.

 

Ar wahoddiad y Cadeirydd, siaradodd y Prif Swyddog Adnoddau am yr adroddiad a gyflwynwyd i Aelodau i gymeradwyo’r ffioedd a thaliadau i gael eu gweithredu ar gyfer blwyddyn ariannol 2020/2021, yn cynnwys y ffioedd craidd a’r taliadau a gaiff eu gweithredu gan Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin.

 

Nodwyd fod rhaglen Pontio’r Bwlch wedi cynnwys Adolygiad Busnes Strategol ar Ffioedd a Thaliadau i sicrhau fod y Cyngor yn cynyddu ei incwm i’r eithaf drwy sicrhau y caiff y ffioedd a’r taliadau eu gosod ar lefel sy’n cynnwys costau darparu’r nwyddau a gwasanaethau y mae’n eu darparu lle’n briodol.

 

Mae ffioedd a thaliadau’n cynhyrchu tua £14m y flwyddyn mewn incwm ac yn cyfrannu tuag at ariannu cost darparu gwasanaethau Cyngor, gyda £2m yn cyfeirio at wasanaethau masnachol. Mae hyn wedi helpu cydnerthedd ariannol y Cyngor a chaiff y Gofrestr Ffioedd a Thaliadau ei hadolygu yn rheolaidd yn unol â’r polisi incwm a’r Strategaeth Ariannol Tymor Canol a gytunwyd gan y Cyngor.

 

Diwygiad

 

Gwnaed y diwygiad dilynol i’r Ffioedd a Thaliadau yn cyfeirio at Brydau Ysgol a roddir ar dudalen 43 yr adroddiad. Cafodd y taliadau eu gostwng a dylent ddarllen fel sy’n dilyn:

 

Addysg – Prydau Ysgol – Oedolion fesul Pryd Bwyd. Ffi gweithredol o fis Medi

 

Staff - £3.43           

Myfyrwyr - £3.43

 

Addysg – Prydau Ysgol - Plant

Plant Oedran Uwchradd (Blynyddoedd 7 i 11) a Phlant Oedran Cynradd (Meithrin i Flwyddyn 6). Ffi gweithredol o fis Medi. Ffi fesul pryd bwyd.

 

Uwchradd - £2.60        

Cynradd – £2.34

 

 

 

Taliadau Gwastraff Masnach

 

Dywedodd y Prif Swyddog Adnoddau fod angen gwneud mwy o waith ar ffurf adolygiad busnes yng nghyswllt taliadau am wastraff masnach yn yr ychydig wythnosau nesaf. Unwaith y cwblhawyd y gwaith hwn, byddid yn cyflwyno adroddiad i’r Cyngor ei ystyried yng nghyfarfod mis Mawrth.

 

Hysbyswyd Aelodau y cafodd y ffioedd a thaliadau cyfredol eu hadolygu i:

 

ØSicrhau fod yr holl ffioedd a thaliadau a gynhwyswyd ar y gofrestr yn berthnasol ar gyfer 2020/2021.

ØAdlewyrchu newidiadau mewn polisi a thaliadau lleol a chenedlaethol.

ØAdlewyrchu isafswm cynnydd ymgodiad o 2% yn unol â’r Strategaeth Ariannol Tymor Canol.

ØYstyried os gellid cynyddu ffioedd a thaliadau yn unol ag egwyddorion yr Adolygiad Busnes Strategol, a bod hyn yn cynnwys ystyried ymgodiad blynyddol o 5.5% lle’n berthnasol.

 

Effaith ar y Gyllideb

 

ØMae’r Strategaeth Ariannol Tymor Canol a chyllideb 2020/2021 yn tybio ymgodiad chwyddiant o 2% y flwyddyn ar gyfer ffioedd a thaliadau ac mae’r Adolygiad Busnes Strategol yn tybio y cyflawnir amcangyfrif o £200,000 ar gyfer 2020/2021 ac amgyfrifir y cyflawni £95,000 o hynny drwy gynyddu ffioedd ar ddisgresiwn gan 5.5% lle mae cwmpas o fewn y farchnad heb gael effaith sylweddol ar y galw.

 

ØMae’r gofrestr ffioedd a thaliadau yn cynnig ymgodiad o 2.%, 5.5% ar gyfer ystod o ffioedd a fanylir ym Mharagraff 5.1.3 (a) a (b) yr adroddiad ynghyd â’r ffioedd eraill a gynigir ym Mharagraff 5.1.3(c):

 

Cafodd aelodau wedyn gyfle i godi cwestiynau a rhoi sylwadau ar yr adroddiad.

 

 

 

Ffioedd a Thaliadau – Casgliad Marchnadoedd/Gwastraff Swmpus

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, yr un pryd ac y cynhaliwyd adolygiad o’r taliadau Gwastraff Masnach, y cynhelir adolygiad tebyg ar gyfer y ffioedd a thaliadau ar gyfer Marchnadoedd. Yn ychwanegol, eglurodd y dylai’r cynnydd a gynigiwyd o 5.5% ar gyfer Casgliad Gwastraff Swmpus gael ei dynnu (o baragraff 5.1.3(b)), oherwydd y byddai’r taliad am y gwasanaeth hwn yn parhau ar brisiau 2019/2020 fel yr amlinellir ym mharagraff 5.1.3(c).

 

PENDERFYNWYD yn unol â hynny.

 

Addysg – Taliadau ar gyfer lleoliadau o’r tu allan i’r sir o fewn yr Ysgol Arbennig

 

Dywedodd Aelod iddo ddod i wybod yn ystod ymweliad diweddar i’r ysgol neilltuol yma am faterion capasiti. Gofynnodd felly am warant fod plant o Flaenau Gwent yn cael blaenoriaeth cyn y caiff unrhyw leoedd gwag eu llenwi gan leoliadau o’r tu allan i’r sir.

 

Cadarnhaodd y Prif Swyddog Adnoddau y rhoddir blaenoriaeth i blant Blaenau Gwent a dim ond os oes lleoedd gwag yn dal i fod o fewn y sefydliad y caiff y rhain wedyn eu llenwi gan leoliadau o’r tu allan i’r sir.

 

Ffioedd a Thaliadau Cerbydau Hacni/Hurio Preifat

 

Cyfeiriwyd at baragraff 5.1.4 yr adroddiad sy’n dweud y cynhaliwyd ymgynghoriad ar ffioedd Trwyddedu ac y daeth y broses i ben ar 13 Chwefror 2020. Gofynnodd Aelod i bob Aelod o’r Cyngor gael copi o adroddiad yr ymgynghoriad sydd i’w gyflwyno i’r Pwyllgor Trwyddedu a dywedodd y dymunai siarad yn y Pwyllgor hwn cyn i Aelodau wneud penderfyniadau yng nghyswllt ffioedd a thaliadau Cerbydau Hacni/Hurio Preifat.

 

Nodwyd y cais yn unol â hynny.

 

Ffioedd Trwyddedu

 

Gofynnodd Aelod os y defnyddiwyd matrics i benderfynu ar lefel y cynnydd mewn ffioedd trwyddedu oherwydd y cynigir cynnydd sylweddol ar gyfer nifer o feysydd.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Cyffredinol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol i fodel adfer cost gael ei gymeradwyo’n genedlaethol gan bob Cyfarwyddwr Iechyd yr Amgylchedd ar draws Cymru ac mai hwn oedd y mesur safonol a ddefnyddiwyd ar draws yr holl daliadau.

 

Yng nghyswllt cwestiwn am swm y cyllid a gollwyd mewn blynyddoedd blaenorol drwy beidio defnyddio’r model, dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod elfen fasnachol gwasanaethau’n cael ei archwilio ymhellach i ddynodi costau a chafodd y model hwn wedi ei gymhwyso i adlewyrchu cost darpariaeth gwasanaeth.

 

Tiroedd a Meysydd Chwarae

 

Cyfeiriodd Aelod at y cynnydd a gynigir i £120 fesul gêm ar gyfer tiroedd a chaeau chwarae a gofynnodd am eglurhad os mai’r ffi yma neu ffi gwahanol y byddid yn ei godi os bu trosglwyddo ased cymunedol ar y tir i sefydliad arall.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor y gallai’r clybiau lle bu trosglwyddo asedau cymunedol yn medru gosod eu ffioedd tiroedd eu hunain.

 

Dywedodd Aelod arall y deallai fod ffioedd caeau chwarae yn berthnasol ar gyfer tiroedd lle na fu trosglwyddo ased cymunedol. Gofynnodd os mai’r Cyngor neu Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin yn cadw’r ffioedd ar gyfer caeau chwarae.

 

Atebodd Arweinydd y Cyngor mai ei ddealltwriaeth ef oedd bod y ffioedd yn cael eu gosod a’u cadw gan Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin yn neilltuol ar gyfer elfennau 3G a thiroedd/lleiniau.

 

Dytwdodd yr Aelod na chaiff ffioedd a thaliadau ar gyfere caeau chwarae eu rhestr o fewn ffioedd a thaliadau arfaethedig Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin a roddir yn atodiad 2. Gofynnodd am eglurhad ar pwy sy’n gyfrifol am gaeau chwarae, yn neilltuol gaeau chwarae ysgolion.

 

Cadarnhaodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol bod Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin yn cadw’r ffioedd ar gyfer lleiniau yr oeddent yn eu gweithredu. Fodd bynnag mae rhai meysydd o rannu cyfrifoldeb a dywedodd y byddai’n dilyn y mater ac yn adrodd yn ôl i Aelodau yn cynnwys eglurdeb am y cyfrifoldeb am y cae chwarae yn Ysgol Gyfun Tredegar.

 

PENDERFYNWYD yn unol â hynny.

 

Ffioedd a Thaliadau Gwasanaethau Cymdeithasol

 

Mynegodd Aelod ei bryder fod y Cyngor, fel awdurdod gofalgar, yn cynnig cynnydd uwch na chwyddiant ar gyfer y ffioedd a thaliadau am wasanaethau cymdeithasol. Mynegodd bryder neilltuol am y cynnydd o 7% a gynigir ar gyfer Taliadau Gofal Darparwyr Preifat a dywedodd y byddai hyn yn effeithio ar yr henoed ac aelodau mwy bregus y gymuned oedd angen y mathau hyn o wasanaethau.

 

O ran y Taliadau Gofal Darparwyr Preifat, esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol fod angen i’r gwasanaethau a gomisiynwyd roi ystyriaeth i’r cynnydd yn y Cyflog Byw Cenedlaethol o 6% a chyfraniadau pensiwn ar gyfer y flwyddyn ariannol i ddod, ac mae’n rheidrwydd ar y Cyngor i gyllido hyn. Fodd bynnag, rhoddodd sicrwydd i Aelodau y bydd angen i ddarparwyr gwasanaeth ddangos sut y defnyddid y cyllid hwn cyn y byddai unrhyw ffioedd yn cael eu cynyddu.

 

Ffioedd Trwyddedu – Rhag-benderfyniad

 

Cyfeiriodd Aelod y Gr?p Llafur at gwestiwn cynharach a godwyd am y potensial i Aelodau’r Pwyllgor Trwyddedu i rag-benderfynu ar y ffioedd trwyddedu ac awgrymodd y dylai Aelodau’r Pwyllgor Trwyddedu ymatal rhag pleidleisio ar y ffioedd a thaliadau (er mai argymhelliad gan y Cyngor i’r Pwyllgor Trwyddedu fyddai hynny) er mwyn iddynt fedru cymryd rhan lawn a gwneud penderfyniad yn y Pwyllgor Trwyddedu ar y mater hwn maes o law.

 

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu mai dim ond argymhelliad am lefel y ffioedd a thaliadau trwyddedu y gallai’r Pwyllgor Trwyddedu ei wneud. Rhoddwyd pwerau wedi eu dirprwyo i Gyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol (fel yr amlinellir yng Nghyfansoddiad y Cyngor) i wneud y penderfyniad terfynol yng nghyswllt y mater hwn.

 

Mewn ymateb i bryder arall a godwyd parthed Aelodau’n pleidleisio am y ffioedd a thaliadau ar gyfer Gwastraff Masnach a Marchnadoedd, dywedodd Arweinydd y Cyngor y cafodd y ffioedd a thaliadau’n gysylltiedig â’r meysydd hyn eu gohirio fel yr amlinellwyd yn gynharach ac y rhoddir adroddiad yn ôl i gyfarfod y Cyngor ym mis Mawrth ar gyfer ystyriaeth a chymeradwyo i’w gweithredu o 1 Ebrill 2020. Yng nghyswllt y ffioedd a thaliadau Trwyddedu, er mai’r Pwyllgor Trwyddedu oedd y corff statudol i benderfynu ar y taliadau hyn, ni welai unrhyw reswm pam na fedrai’r Cyngor wneud argymhelliad i’r Pwyllgor hwnnw.

 

Ar hynny cynigiodd Arweinydd y Cyngor y dylai’r adroddiad gael ei gymeradwyo gyda’r amodau a drafodwyd yn gynharach yn y cyfarfod yn nhermau Gwastraff Masnach, Marchnadoedd a Gwastraff Swmpus.

 

Eiliwyd y cynnig hwn.

 

Dywedodd Arweinydd y Gr?p Llafur y byddai holl Aelodau’r Gr?p Llafur yn ymatal rhag pleidleisio.

 

Mewn pleidlais a gymerwyd

 

PENDERFYNWYD YMHELLACH, yn amodol ar yr uchod i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef cymeradwyo’r Gofrestr Ffioedd a Thaliadau ar gyfer 2020/2021 sy’n cynnwys y cynnydd prisiau craidd ar gyfer Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin yn amodol ar:-

 

ØGohirio’r ffioedd a thaliadau yng nghyswllt Gwastraff Masnach a Marchnadoedd nes y cynhelir adolygiad pellach. Caiff canfyddiadau’r adolygiad eu cyflwyno i gyfarfod y Cyngor a drefnwyd ar gyfer 26 Mawrth 2020.

 

ØFfioedd a thaliadau Casgliad Gwastraff Swmpus i barhau ar brisiau 2019/2020.

 

PENDERFYNWYD YMHELLACH i argymell cytuno mewn egwyddor ar y ffioedd a thaliadau Trwyddedu a’u hargymell i’r Pwyllgor Trwyddedu i’w hystyried.

Dogfennau ategol: