Ystyried adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg..
Cofnodion:
Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a gyflwynwyd i roi cyfle i Aelodau graffu ar ganfyddiadau prosesau hunan-arfarnu parhaus i graffu ar ganfyddiadau’r prosesau hunan-arfarnu parhaus a gynhaliwyd yn y Gyfarwyddiaeth Addysg, gyda phartneriaid ac ar draws y Cyngor.
Siaradodd y Cyfarwyddwr Addysg am yr adroddiad a thynnodd sylw at y prif bwyntiau ynddo.
Cyfeiriodd Aelodau at Atodiad 1 a’r sleid ar lesiant disgyblion a gofynnodd os oedd unrhyw arfarniad ar effaith i gefnogi’r datganiadau. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg fod llawer o wybodaeth wedi ei chasglu ynghyd ag astudiaethau achos dienw yn cyfeirio at wasanaethau cwnsela ysgolion. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau fod llesiant wedi gwella ac y caiff yr wybodaeth ei rhoi mewn adroddiadau blynyddol i Lywodraeth Cymru ac yn FADES, fodd bynnag ni ellir dangos data gwaharddiadau gan ei bod yn gyfrinachol. Fe wnaeth gwasanaethau cwnsela gysylltu gyda dros 7,000 o ddisgyblion ac mae’r nifer yn cynyddu, mae’r ffeithiau a ffigurau a adroddwyd yn dangos sut y caiff cymorth ei deilwra a’i addasu fel sydd angen. Roedd Aelodau’n deall y cyfoeth o wybodaeth tu ôl i’r ffigurau ond teimlent fod angen troednodiadau ar wybodaeth gefndir. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Ieuenctid y gellid rhannu data’r Gwasanaeth Cwnsela gydag Aelodau.
Yng nghyswllt lefelau uwch o gaffael iaith mewn plant ifanc iawn yn y Blynyddoedd Cynnar, dywedodd Aelod y byddai’n hoffi gweld tystiolaeth fod y rhai sy’n defnyddio gwasanaethau Dechrau’n Deg yn cael y ‘dechrau gorau mewn bywyd’ o gymharu â phlant heb fod mewn ardaloedd Dechrau’n Deg. Dywedodd y Cyfarwyddwr mai dim ond traean o blant sy’n medru cael mynediad i leoliad Dechrau’n Deg ond bod pryderon am y plant hynny rhwng 3-5 oed nad ydynt yn mynychu safle Dechrau’n Deg a heb gael unrhyw baratoi ar gyfer yr ysgol neu gaffael iaith.
Holodd Aelod am y gwelliant mewn lefelau mynychu ysgol ac effaith teuluoedd yn mynd â disgyblion ar wyliau yn ystod y tymor ysgol. Dywedodd y Cyfarwyddwr fod mynychu’r ysgol yn un o’r dolenni allweddol i gyflawniad ond y caiff rhoi caniatâd am absenoldeb disgybl ei adael i ddisgresiwn pennaeth yr ysgol, fodd bynnag byddai’r Awdurdod Lleol yn gwrthannog absenoldeb yn ystod y tymor. Mae’r Gwasanaeth Lles Addysg a’r Awdurdod Lleol yn gwybod pa ysgolion unigol sydd angen cymorth ychwanegol yn y maes hwn ac yn gweithio i fynd i’r afael â’r mater.
Holodd y Cadeirydd os oedd canlyniadau absenoldeb disgyblion yn ystod y tymor yn cael ei gynnwys yn y cylchlythyr staff ac os y rhoddwyd unrhyw ddirwyon. Dywedodd y Cyfarwyddwr fod graffiau yn y cylchlythyr yn dangos y cysylltiad rhwng y gostyngiad mewn mynychiad â chyflawniad a’i fod hefyd yn rhan o brosiect Callio a gellir adfywio hyn. Cadarnhaodd y cafodd rhai hysbysiadau cosb sefydlog eu cyhoeddi a byddai’n hysbysu’r Aelodau am nifer y dirwyon.
Gadawodd y Cynghorydd Derrick Bevan y cyfarfod ar y pwynt hwn.
Cyfeiriodd Aelod at gyfraddau uchel Addysg Ddewisol yn y Cartref. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg fod cynllun gweithredu yn ei le ar gyfer y disgyblion unigol sydd angen cymorth ychwanegol. Mae ymrwymiad gan benaethiaid ysgol i weithio gyda’r Adran i ddynodi disgyblion sydd ar fin derbyn Addysg Ddewisol yn y Cartref.
Gofynnodd Aelod os yw rhieni’n disgwyl Addysg Ddewisol yn y Cartref i osgoi dirwyon trwm am beidio mynychu’r ysgol a gofynnodd am i sesiwn wybodaeth i Aelodau gael ei chynnal ar fynychu ysgolion. Byddai’r sesiwn wybodaeth i Aelodau yn cynnwys gwybodaeth ar gyfanswm nifer y dirwyon a roddir i rieni.
CYTUNODD y Pwyllgor ar y llwybr gweithredu hwn.
CYTUNODD y Pwyllgor i argymell, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef cyflwyno’r adroddiad fel y’i cyflwynwyd.
Dogfennau ategol: