Agenda item

Strategaeth Byw’n Annibynnol yn y 21ain Ganrif – Diweddariad Cynnydd Blynyddol 2019/20

Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion.

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion a gyflwynwyd i roi trosolwg ar strategaeth ‘Byw’n Annibynnol ym Mlaenau Gwent yn y 21ain Ganrif’.

 

Siaradodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion am yr adroddiad a rhoddodd ddiweddariad cynnydd manwl ar 8 blaenoriaeth y Strategaeth dros y 12 mis blaenorol.

 

Blaenoriaeth 1 Gofal Hirdymor:

 

Soniodd Aelod am y 24 gwely gwag mewn cartrefi gofal a gomisiynwyd gan yr Awdurdod a holodd am y cartref gofal newydd sy’n gweithredu yn Nhredegar. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion wrth Aelodau nad oedd hyn yn gartref nyrsio cofrestredig ond yn safle byw â chymorth.

 

Cododd Aelod bryderon am gau cartrefi gofal oherwydd nifer y gwelyau gwag. Sicrhaodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion yr Aelodau, er bod nifer o welyau gwag, nad oes unrhyw gartref gofal ar fin cau, fodd bynnag cedwir golwg ar y sefyllfa. Yng nghyswllt cau cartrefi gofal preifat, mae gan yr Awdurdod gontract gyda chyfnod hysbysu chwe mis am unrhyw gau a pe byddai digwyddiad megis methdaliad, byddai preswylwyr yn dal i gael eu cefnogi. Eglurodd y Swyddog fod gan yr Awdurdod gontract gyda'r Bwrdd Iechyd ac nid y cartref gofal ar gyfer dinasyddion gydag anghenion mwy cymhleth.

 

Blaenoriaeth 2 Gwasanaethau Ailalluogi/Galluogi:

 

Ni chododd Aelodau unrhyw sylwadau ar Flaenoriaeth 2.

 

Blaenoriaeth 3 Cyfleoedd dydd/Opsiynau Cymunedol:

 

Yng nghyswllt prosiect Green Shoots Opsiynau Cymunedol ym Mharc Bryn Bach, dywedodd Aelodau nad oedd rhai aelodau o’r cyhoedd wedi medru prynu eitemau e.e. basgedi blodau ac yn y blaen gan nad oedd unrhyw aelod o staff ar y safle. Awgrymodd Aelod hyrwyddo’r prosiect drwy farchnadoedd stryd yng nghanol trefi. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion fod staff yn gweithio rhwng 9.00am a 5.00pm a dim ar benwythnosau. Yng nghyswllt gwerthu cynnyrch teimlai’r Swyddog efallai y gellid sefydlu prosiect menter gymdeithasol.

 

Soniodd Aelod am y bartneriaeth gyda Growing Space, gr?p iechyd meddwl yn y trydydd sector, a holodd os y gellid trefnu ymweliadau ysgol i ddatblygu prosiect ystafell ddosbarth awyr agored. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth Oedolion fod Growing Space yn awyddus i weithio gydag ysgolion a byddai’n rhoi dolen cyswllt ar gyfer yr Aelod i gydlynu gyda Phennaeth Growing Space.

 

Blaenoriaeth 4 Technoleg Gynorthwyol: 

 

Holodd Aelod am gost technoleg gynorthwyol ar gyfer preswylwyr. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion fod cost cyfradd safonol o tua £5.20 ar gyfer pendant.

 

Yng nghyswllt therapi dementia a defnyddio doliau, cathod a ch?n, nid oedd cost gan eu bod yn cael eu benthyg i breswylwyr, fodd bynnag efallai y caiff adroddiad ar systemau codi tâl ei baratoi’r flwyddyn nesaf. Mae rhai technolegau cyffredin megis Amazon Echo a Google Home Hub yn gweithredu o linellau daear ffôn felly nid oes angen bob amser cael cysylltiad rhyngrwyd drud. Dywedodd Aelod y gofynnwyd am gysylltiad rhyngrwyd yn Nh? Parc ar gyfer defnydd preswylwyr a theimlai y gallai hyn gael ei ystyried a’i gynnwys mewn rhenti ac ati.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol wrth Aelodau y bu erthygl yn The Guardian am ddefnydd therapi dementia pâr: doliau, cathod a ch?n ac y byddai’n anfon y ddolen er gwybodaeth Aelodau.

 

Blaenoriaeth 5 Taliadau Uniongyrchol:

 

Mewn ymateb i sylw gan Aelod am Daliadau Uniongyrchol, dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion y caiff Taliadau Uniongyrchol eu cynnig i unigolion fel rhan o’r asesiad gofal a chymorth ac mai mater i’r unigolyn yw penderfynu os yw’r opsiwn yn addas ar gyfer eu hamgylchiadau.

 

Blaenoriaeth 6 Llety:

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am nifer y dinasyddion sy’n aros am gartrefi a addaswyd yn arbennig, dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion y caiff y lefel hon o fanylion ei roi yn y Strategaeth Tai ac y byddai’n anfon yr wybodaeth hon at aelodau.

 

Mae’r Gweithiwr Cefnogi Therapi Galwedigaethol yn parhau i weithio o fewn Tai Calon i ddynodi anheddau i ateb anghenion iechyd penodol a sicrhau y caiff anheddau a addaswyd eu dyrannu i unigolion neu deuluoedd a ddynodwyd yn briodol. Mae cofrestr o anheddau wedi eu haddasu ar draws Gwent yn cael ei ddatblygu. 

 

Blaenoriaeth 7 Gofalwyr:

 

Gofynnodd Aelod pa fesurau sydd yn eu lle i ddynodi gofalwyr ifanc mewn ysgolion. Esboniodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion y gwnaed llamer o waith mewn ysgolion tebyg i gemau bwrdd i alluogi pobl ifanc i uniaethu fel gofalwyr. Mae dynodi gofalwyr ifanc hefyd yn faen prawf allweddol yn fframwaith arolygu Estyn. Mae sesiynau Addysg Bersonol a Chymdeithasol mewn ysgolion hefyd yn helpu pobl ifanc i gydnabod eu rôl fel gofalwyr.

 

Blaenoriaeth 8 Gofal Cartref:

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am gynaliadwyedd a darpariaeth gofal yn y cartref, esboniodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion fod y Gyfarwyddiaeth yn edrych ar hyblygrwydd mewn contractau gofal cartref ac yn codi ymwybyddiaeth o fanteision gweithio yn y maes ac yn targedu grwpiau penodol e.e. cyn aelodau’r lluoedd arfog, pobl wedi ymddeol a mamau (contractau rhwng oriau ysgol). Awgrymwyd y dylid trefnu sesiwn wybodaeth i Aelodau i hysbysu Aelodau am y ffyrdd blaengar o gyflwyno gofal cartref.

 

CYTUNODD y Pwyllgor ar y llwybr gweithredu hwn.

 

Yng nghyswllt y cynnydd mewn darparwyr gofal cartref o 5 i 10  ar fframwaith Blaenau Gwent, dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion fod Blaenau Gwent a Chyngor Caerffili wedi cydweithio i sefydlu rhestr o ddarparwyr gwasanaeth cymeradwy gydag achrediad i ddarparu’r gwasanaeth cymorth yn y cartref. Mae rhai dinasyddion gydag anghenion cymhleth angen 2 neu 3 gofalwr ar y tro ac efallai y gallai un darparydd gofal yn gweithredu mewn awdurdod cyfagos fod hefyd â phresenoldeb ym Mlaenau Gwent. Mae hyn yn cynnwys hyblygrwydd a gorchudd mwy effeithiol ar leoliadau daearyddol.

 

Gadawodd y Cynghorydd Mandy Moore y cyfarfod ar y pwynt hwn.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am wiriadau ar ddarparwyr gofal, dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion fod contractau gofal yn cael eu monitro, bod gweithwyr cymdeithasol yn cynnal adolygiadau ac yr anfonir holiaduron at ddinasyddion sy’n defnyddio’r gwasanaeth i ddynodi unrhyw broblemau. Gallai contractau gael eu canslo pe dynodir unrhyw broblemau sylweddol. Mae’r Gyfarwyddiaeth hefyd yn gweithio gyda’r rheoleiddiwr, Arolygiaeth Gofal Cymru, yng nghyswllt cydymffurfiaeth â chontract.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol fod cynaliadwyedd gofal cartref yn broblem genedlaethol ac nid dim ond yn lleol gyda rhai awdurdodau lleol yn cael anawsterau recriwtio. Mewn rhai achosion, gall gofalu am ddinasyddion gydag anghenion cymhleth fod yn anodd a gallai staff ennill yr un cyflog mewn man arall ond heb bwysau gofalu am unigolyn.

 

Dywedodd Aelod nad yw gofalwyr yn cael cydnabyddiaeth addas am eu gwaith pwysig.

 

Atebodd y Pennaeth Gwasanaethau Cymdeithasol y cefnogir cofrestru’r gwasanaeth gofal yn y cartref fel proffesiwn. Gallai Gofal Cymdeithasol Cymru roi adroddiad diwedd y flwyddyn ar y risgiau yn gysylltiedig gyda rheoleiddio’r maes hwn o waith a’r effaith a gafodd rheoliadau ar y gwasanaeth neilltuol hwn.

 

Gofynnodd Aelod am gynnwys adroddiad cynnydd ar ofal yn y cartref yn y flaenraglen waith ar gyfer 2020/21.

 

CYTUNODD y Pwyllgor ar y llwybr gweithredu hwn/

 

CYTUNODD YMHELLACH i argymell, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr dyroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1; sef bod Aelodau’n cefnogi cynnydd yn y 8 maes blaenoriaeth a bod y Gyfarwyddiaeth yn parhau i roi diweddariad cynnydd yn flynyddol i’r Pwyllgor Craffu fel yr amlinellir yn yr adroddiad.

 

Gadawodd y Cynghorydd J.P. Morgan y cyfarfod ar y pwynt hwn.

Dogfennau ategol: