Agenda item

Datganiad Safleoliad ar system CCTV y Cyngor

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau, Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol a Phennaeth Llywodraethiant a Phartneriaethau.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau (SIRO ar gyfer CCTV) Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol a Phennaeth Llywodraethiant a Phartneriaethau a gyflwynwyd i roi datganiad safleoliad ar system CCTV agored newydd y Cyngor.

 

Siaradodd y Pennaeth Llywodraethiant a Phartneriaethau am yr adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddo sy’n cynnwys bod y Cyngor yn awr yn gweithredu system ‘recordio yn unig’.

 

Mewn ymateb i ymholiad gan Aelod am leoliad camerâu, dywedodd y Prif Swyddog Adnoddau y cynhaliwyd ymgynghoriad gyda Heddlu Gwent ar leoliad camerâu gyda ffocws ar ganol trefi yn seiliedig ar dystiolaeth o droseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol a byddai lleoliadau’n cael eu hadolygu’n flynyddol. Gellid symud camerâu os oes angen a byddai angen iddynt gael Asesiad Effaith ar Ddiogelu Data i ddangos fod angen y camera yng nghyswllt atal troseddau a byddai hefyd angen i arwyddion priodol fod yn amlwg.

 

Holodd Aelod am yr amserlen ar gyfer lawrlwytho data. Esboniodd y Rheolwr Gwasanaeth, Polisi a Phartneriaethau y byddai’r system newydd yn defnyddio technoleg ddigidol gyda camerâu diffiniad uchel yn defnyddio technoleg ddiwifr ac, hyd yma, ni fu unrhyw oedi sylweddol wrth lawrlwytho darnau o ffilm i ateb ceisiadau’r heddlu.

 

Gofynnodd Aelodau os oedd cynlluniau yn eu lle i Heddlu Gwent gael mynediad uniongyrchol i lawrlwytho darnau o ffilm. Dywedodd y Prif Swyddog fod trafodaethau’n mynd rhagddynt rhwng yr heddlu a phartneriaid SRS ond na wnaethpwyd unrhyw benderfyniad hyd yma.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am nifer y camerâu CCTV eglurodd y Pennaeth Llywodraethiant a Phartneriaethau fod 53 camera CCTV wedi eu gosod ledled y fwrdeistref sirol ar hyn o bryd gyda phedwar camera symudol i’w defnyddio ar gyfer y mannau gwaethaf ar gyfer troseddau. Nifer wreiddiol y camerâu a gytunwyd yn adroddiad y Cyngor yn 2018 oedd 32. Roedd y cynnydd oherwydd arolygon ar y safle a’r broses dylunio cyn-tendr a ddynododd gyfyngiadau technegol yn gysylltiedig gyda throsglwyddo diwifr, llinellau safle mewn mannau penodol a meysydd gweld camerâu i sicrhau gorchudd effeithlon.

 

Dywedodd Aelod fod CCTV yn helpu i ddynodi troseddu ac anrhefn ar draws ardaloedd lleol gan fod y delweddau o safon uchel.. Gofynnodd yr Aelod am i sesiwn wybodaeth i Aelodau gael ei chynnal i roi gwybodaeth bellach a gwahodd yr heddlu i fynychu i roi sylw i nifer yr erlyniadau a wnaed.

 

Roedd y Pennaeth Llywodraethiant a Phartneriaethau yn cefnogi’r farn hon gan ei bod yn bwysig cael ymgyfraniad yr heddlu yn y sesiwn wybodaeth oherwydd eu gwaith o fewn cymunedau Blaenau Gwent.

 

CYTUNODD  y Pwyllgor ar y llwybr gweithredu hwn.

 

Cadarnhaodd y Prif Swyddog Adnoddau wrth Aelodau yr ymgynghorwyd â’r heddlu am leoliad y camerâu ac y gellid cynnal adolygiad i wirio os yw lleoliadau’n dal i fod yn addas neu os oes angen symud rhai camerâu i gael gorchudd gwell i sicrhau y caiff cymunedau eu cadw’n ddiogel.

 

Holodd y Cadeirydd os derbyniwyd cyllid gan Heddlu Gwent. Dywedodd y Prif Swyddog Adnoddau na dderbyniwyd unrhyw gyllid hyd yma.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 2, sef bod y Pwyllgor wedi:

·         Ystyried a rhoi sylwadau ar y datganiad safleoli ar swyddogaeth CCTV agored;

·         Cynnwys y drafft Bolisi a Fframwaith Strategaeth ar gyfer CCTV ar eu blaenraglen gwaith cyn iddynt gael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith i’w cymeradwyo; a

·         Derbyn yr adroddiad monitro blynyddol.

 

 

Dogfennau ategol: