Agenda item

Cyllideb Refeniw 2020/2021 i 2024/2025

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Cyflwynodd y Prif Swyddog Adnoddau yr adroddiad sy’n rhoi diweddariad ar setliad llywodraeth leol darpariaethol cadarnhaol ar gyfer 2020/21 ac effaith hynny ar gyllideb y Cyngor. Cynigiodd yr adroddiad hefyd gyllideb fanwl ar gyfer 2020/21 a chyllideb ddangosol ar gyfer 2021/22; a chynigiodd lefel cynnydd y Dreth Gyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2020/21, yn unol â thybiaethau’r Strategaeth Ariannol Tymor Canol.

 

Aeth y Swyddog drwy’r adroddiad a thynnu sylw at bwyntiau ynddo. Dywedodd fod y setliad darpariaethol cadarnhaol a’r cyfleoedd a ddynodwyd yn rhaglen Pontio’r Bwlch yn golygu y gallai’r Cyngor fuddsoddi mewn blaenoriaethau allweddol, osgoi toriadau i wasanaethau a chynyddu ei gadernid ariannol ar gyfer y dyfodol. Fodd bynnag, cyhoeddir manylion pellach y grantiau penodol ar gyfer llywodraeth leol ynghyd â setliad terfynol y Grant Cefnogi Refeniw ym mis Chwefror 2020.

 

Canmolodd Aelod y Swyddogion ar yr adroddiad cadarnhaol. Dywedodd fod hyn yn rhan bwysig iawn o’r broses gosod cyllideb a mynegodd bryder nad oedd unrhyw aelodau Llafur yn bresennol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am y pwysau cost ar gyfer adolygiad o’r Cynllun Datblygu Lleol, esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol er y cytunwyd ar strategaeth adolygu’r Cynllun Datblygu Lleol, fod gwahanol gamau eraill i gael eu cymryd a bod y rhain yn debygol o barhau am 2 flynedd arall.

 

Dywedodd Aelod Cyfetholedig fod y setliad cadarnhaol i Flaenau Gwent yn newyddion da iawn, yn arbennig y cynnydd mewn cyllid addysg a’r ffaith fod nifer disgyblion cynradd wedi cynyddu. Credai fod yr adroddiad yn ymddangos i awgrymu fod Blaenau Gwent yn sicrhau adferiad o’i ddirywiad economaidd.

 

Fodd bynnag, er bod y cynnydd yn y boblogaeth disgyblion yn gadarnhaol, gobeithiai y caiff hyn ei gefnogi’n ariannol. Cyfeiriodd hefyd at y diffyg yng nghyflogau a phensiynau athrawon a’r effaith bosibl ar gyllidebau ysgolion unigol. Dywedodd y byddai’n fanteisiol cael rhestr o ysgolion yn dangos y rhai sydd mewn sefyllfa gwarged/diffyg er mwyn ei chraffu gan Aelodau.

 

Wedyn cyfeiriodd yr Aelod Cyfetholedig at gymhlethdod cyllid ysgolion a dywedodd ei bod yn anodd cynllunio ar gyfer y flwyddyn i ddod a gosod cyllidebau manwl gywir gyda nifer o grantiau’n cael eu dosbarthu drwy gydol y flwyddyn.

 

Cadarnhaodd y Prif Swyddog Adnoddau y nodir y sylwadau yng nghyswllt cyflogau a phensiynau athrawon. Fodd bynnag, os yw Aelodau o’r Cyngor yn cytuno i gyllido’r pwysau cost ar gyfer cyflogau a phensiynau athrawon am y 5 mis gweddilliol, byddai hyn yn arwain at gynnydd o tua 5% yng nghyllidebau ysgolion unigol.

 

Fe wnaeth y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg hefyd gadarnhau fod yr awdurdod lleol ac EAS wedi codi mater y ffaith na fedrir rhagweld faint o gyllid grant a ddyrennir gyda Llywodraeth Cymru.

 

Dilynodd trafodaeth fer parthed rhaglen Pontio’r Bwlch pan gadarnhaodd y Rheolwr Gyfarwyddwr fod dal ati gyda’r ffrydiau gwaith yn gymhelliant clir i’r Tîm Rheoli Corfforaethol. Fodd bynnag, byddai’n gall defnyddio unrhyw gyflwyniad yn fwy na’r gofyniad cyllideb mewn ffordd tebycach i fusnes, yn hytrach na gorfod gwneud toriadau, ac er ei bod yn ddymunol gosod cyllideb ddangosol am y 2 flynedd nesaf, byddai blynyddoedd diwethaf y Strategaeth Ariannol Tymor Canol yn heriol os nad ydym yn cyflawni rhaglen Pontio’r Bwlch.

 

Dywedodd y Cadeirydd a’r Aelodau fod hwn yn adroddiad cadarnhaol iawn a chanmolodd y Swyddogion am eu gwaith a’u rheolaeth ariannol ddarbodus.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chefnogi Opsiwn 1, sef:

 

     i.        Bod Aelodau’n argymell cyllideb refeniw 2020/2021 a chyllideb ddangosol lefel uchel 2021/2022 (fel yn Atodiad 5 a phara 6.4.1) i’r Pwyllgor Gweithredol a’r Cyngor;

 

    ii.        Nodi’r potensial am newid pellach yn Setliad Terfynol y Grant Cefnogi Refeniw (paras 2.8 – 2.19);

 

  iii.        Nodi’r canlyniadau o fewn Setliad Grant Cefnogi Refeniw darpariaethol CBSBG a’i effaith ar y Strategaeth Ariannol Tymor Canol (paras 2.20  - 2.26);

 

  iv.        Argymell y pwysau cost ac eitemau twf diweddaraf (cyfanswm o £2m) a ddynodwyd yn Atodiad 3 (paras 5.1.6. – 5.1.8) i’r Pwyllgor Gweithredol a’r Cyngor ar gyfer eu cynnwys yng nghyllideb y Cyngor. Mae hyn yn cynnwys sefydlu cyllideb Trawsnewid drosfwaol o £500k i’w defnyddio ar gyfer cyfleoedd gweithredu ar gyfer Blaenau Gwent.

 

   v.        Argymell i’r Pwyllgor Gweithredol a’r Cyngor y dylid ‘pasportio’ gwariant o’r cyn grantiau penodol/cyllid ychwanegol hyn i gyllideb y Cyngor (paras 5.1.11 – 5.1.18);

 

  vi.        Argymell i’r Pwyllgor Gweithredol a’r Cyngor y dylid trosglwyddo unrhyw gyflawniad gan gynigion Pontio’r Bwlch sy’n fwy na’r gofyniad cyllideb o fewn y flwyddyn i gronfa gadw wrth gefn a glustnodwyd i gefnogi cynllunio ariannol tymor canol, yn benodol ar gyfer blynyddoedd diweddarach y Strategaeth Ariannol Tymor Canol (para 5.1.28);

 

 vii.        Argymell i’r Pwyllgor Gweithredol a’r Cyngor fod cynnydd o 4% yn y Dreth Gyngor ar gyfer 2020/21 (para 5.1.3) yn unol â thybiaethau’r Strategaeth Ariannol Tymor Canol.

 

Dogfennau ategol: