Agenda item

Strategaeth Trafnidiaeth

Ystyried adroddiad y Pennaeth Adfywio. 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Adfywio.

 

Cyflwynodd y Pennaeth Adfywio yr adroddiad dechreuol sy'n gofyn am farn Aelodau ar gynnwys a chwmpas y strategaeth trafnidiaeth arfaethedig ar gyfer Blaenau Gwent. Esboniodd y swyddog fod prosiectau pellach yng nghyswllt Metro Plus ar fin cael eu datblygu ac y byddai gwaith trafnidiaeth rhanbarthol gydag awdurdodau cyfagos yn dod i fwcl yn y dyfodol agor. Felly, roedd hwn yn amser addas i ddatblygu strategaeth leol ar gyfer y 5 mlynedd nesaf.

 

Wedyn siaradodd y Pennaeth Adfywio yn fanwl am y paragraffau dilynol yn yr adroddiad sy'n amlinellu:

 

Paragraff 2.2 - cwmpas y strategaeth a'r elfennau a ddylai gael eu cynnwys

Paragraff 2.3 - bod angen ystyried y prif argymhellion strategol o amgylch datblygu gweledigaeth hirdymor ar gyfer y strategaeth sy'n ymrwymo i gynllunio hirdymor

Paragraff 2.4 - gwelliannau gweithredol a chyfleoedd newydd y gellid eu hymchwilio a'u defnyddio.

 

Nodwyd yr ymgynghorir hefyd â rhanddeiliaid perthnasol fel rhan o'r broses. Tanlinellodd y Pennaeth Adfywio y byddai'r strategaeth yn cyfeirio at gysylltedd ar gyfer trenau ond hefyd yn cynnwys bysus, tacsis a chludiant cymunedol - h.y. amrywio symudiadau cerbyd a'r meysydd/gwasanaethau sydd angen gwell mynediad e.e. mae angen cysylltiadau gyda Stadau Diwydiannol Rasa a Thafarnaubach, meddygfeydd teulu. Byddai'n rhaid hefyd gynnal trafodaethau gyda sefydliadau trydydd parti e.e. GAVO er mwyn llenwi unrhyw fylchau yn y rhwydwaith.

 

Daeth y Pennaeth Adfywio i ben drwy ofyn am i drafodaethau ganolbwyntio'n bennaf ar baragraff 2.2 h.y. cwmpas y strategaeth a'r elfennau y dylid eu cynnwys.

 

Wedyn, gwnaeth sylwadau fel sy'n dilyn:

ØPwysigrwydd cysylltiadau i gludo pobl i'r gwaith.

ØMae angen cysylltiadau trafnidiaeth i gartrefi pobl fel mater o frys gan fod pobl yn byw yn y gosodiadau gofal hynny'n teimlo'n ynysig. Soniwyd yn arbennig am Gartref Nyrsio Red Rose lle mae'r gwasanaeth bws agosaf y tu allan i'r ysbyty.

ØDylai darparu llwybrau bws fod yn flaenoriaeth,

 

Dywedodd y Pennaeth Adfywio nad yw llwybrau bws masnachol ar gael bob amser felly mae angen ymchwilio dulliau gwahanol o drafnidiaeth ac opsiynau, er enghraifft gwasanaeth 'bwcio bws' GAVO ar gyfer teithiau arbenigol nad ydynt o reidrwydd yn hyfyw yn fasnachol. Mae nifer o safleoedd digidol ar gael sy'n rhoi gwybodaeth ar y gwahanol fathau o gludiant sydd ar gael ond mae angen gwneud hyn yn haws i bobl ei ddefnyddio.

 

ØMynegodd Aelod ei bryder am agwedd ddigidol archebu wasanaeth a dywedodd nad oes gan rai pobl h?n fynediad i gyfleusterau technoleg gwybodaeth nac yn eu defnyddio.

 

Awgrymodd Aelod arall y dylid gwneud ymholiadau gyda chwmnïau bws lleol i ofyn os allent newid eu llwybrau i gynnwys cartrefi gofal gan y dylai fod llwybrau bws uniongyrchol i'r cyfleusterau hyn.

 

Dywedodd y Pennaeth Adfywio y byddai'n codi'r mater gyda'r Adran Trafnidiaeth.

 

ØDylid bod yn rhagweithiol er mwyn cael data gan gwmnïau cludiant sy'n derbyn cymhorthdal.

 

ØGan fod pobl ifanc yn dilyn prentisiaethau yn cael anhawster yn cyrraedd lleoliadau swydd, yn arbennig oherwydd mynediad a chost, gofynnwyd os oes  system ar gael lle gallai pobl h?n yn wirfoddol roi eu pas bws i berson ifanc sy'n dilyn prentisiaeth er mwyn rhoi cyfle iddynt gael mynediad i'w lleoliad.

 

Dywedodd y Pennaeth Adfywio y gobeithiai y gellid annog y cynllun hwn. Caiff Stadau Diwydiannol Rasa a Thafarnaubach eu cyfrif fel 'Ardaloedd Gwella Busnes' a byddid yn edrych ar yr holl gynlluniau hyn i'w gwneud yn rhwyddach i bobl a phobl ifanc gyrraedd gwaith yn rhwyddach yn cynnwys 'bwcio bws' ar gyfer pobl sy'n gweithio shifftiau. 

 

ØMynegodd Aelod ei bryder fod diffyg trafnidiaeth gyhoeddus yn effeithio ar recriwtio (yn arbennig bobl ifanc) ar gyfer busnesau o fewn coridor Blaenau'r Cymoedd.

 

Aeth ymlaen drwy gyfeirio at yr adroddiad a gynhwysir ym mhecyn gwybodaeth 'Awdurdod Trafnidiaeth Rhanbarthol Dinas Caerdydd' a'r gwaith a wneir fel rhan o'r trefniadau hyn a dywedodd, gan fod hyn yn cyfeirio at y Strategaeth Trafnidiaeth, y dylid bod wedi darparu crynodeb o'r adroddiad i Aelodau.

 

Mynegodd ei bryder fod yr adroddiad gwybodaeth yn cyfleu mai'r prif brosiect oedd cangen Abertyleri ar gyfer y rheilffordd. Fodd bynnag, dylid bod wedi darparu cynllun cynhwysfawr ar gyfer y Bwrdeistref Sirol i gyd a ddylai gynnwys darpariaeth rheilffordd ysgol o Lanhiledd i Frynmawr, cysylltiadau o fewn y Fwrdeistref Sirol o'r dwyrain i'r gorllewin a'r gorllewin i'r dwyrain. Hefyd cysylltiadau i ac o'r Fenni i Hirwaun a chludiant  ac o'r stadau diwydiannol. Daeth yr Aelod i ben drwy awgrymu sefydlu Gr?p Gorchwyl a Gorffen i gynnal darn o waith yng nghyswllt y ddarpariaeth trafnidiaeth gan bod nifer fawr o syniadau y medrid dod â nhw ynghyd gyda gwybodaeth leol Aelodau.

 

Dywedodd y Cadeirydd fod cyfarfod o Gr?p Gorchwyl a Gorffen Canol Trefi ar fin cychwyn ac y gellid cynnwys pwnc trafnidiaeth fel rhan o'r agenda. Fodd bynnag, os teimlir yn dilyn hynny fod angen Gr?p Gorchwyl a Gorffen unigol yng nghyswllt trafnidiaeth, y rhoddir adroddiad hyn i gyfarfod nesaf y Pwyllgor.

 

Dywedodd y Pennaeth Adfywio fod yr adroddiad yn yr wybodaeth yn grynodeb o gyfarfodydd yr Awdurdod Trafnidiaeth Rhanbarthol a gynhaliwyd .

 

ØWrth baratoi'r Strategaeth Trafnidiaeth Leol, dywedodd Aelod y dylai swyddogion roi ystyriaeth i'r gwaith a phrosiectau y mae awdurdodau lleol yn ei ddilyn yn ogystal â gofynion y Fwrdeistref Sirol .

ØAil-agorwyd Rheilffordd Cwm Ebwy yn 2008 a bryd hynny y bwriad oedd y byddai rheilffordd Abertyleri i Gasnewydd. Fodd bynnag, gan fod amser wedi symud ymlaen, gofynnodd Aelod os byddai hynny'n gwneud mwy o niwed nag o les i'r dref. Holodd os yw swyddogion wedi edrych ar y canlyniadau pe byddid yn darparu Cangen Abertyleri?

 

Dywedodd y Pennaeth Adfywio y bydd arbenigwyr yn paratoi adroddiad a fyddai'n asesu elfennau tebyg i agweddau economaidd-gymdeithasol ac amgylcheddol y cynllun.

 

Yng nghyswllt Abertyleri mae angen gwneud y dref yn lle bywiog lle mae pobl eisiau byw ynddi ac annog pobl i ddefnyddio rhenti is y tu allan i Gaerdydd a hefyd i ddenu busnesau. 

 

ØAwgrymodd Aelod y dylid gwneud mwy o waith i hyrwyddo'r ardal ac awgrymodd y gallai swyddogion twristiaeth ddarparu taflenni yng Ngorsaf Ganolog Caerdydd er mwyn hyrwyddo manteision Blaenau Gwent. Awgrymwyd hefyd y dylai man gwybodaeth i ymwelwyr fod ar fan uchaf Blaenau'r Cymoedd ac ym Mharc Bryn Bach, gan mai dyna'r lleoliad agosaf at Ffordd Blaenau'r Cymoedd.

 

ØDywedodd Aelod y ailgyflwyno'r rheilffordd yn llwyddiannus iawn ac wedi rhagori ar bob disgwyliad. Fodd bynnag, mynegodd ei bryder am oblygiadau cost darparu milltir ychwanegol o drac rheilffordd i Abertyleri a gobeithiai na fyddai hyn yn niweidiol i'r strategaeth gyffredinol - felly mae angen edrych ar y darlun mwy.

 

Aeth ymlaen drwy gyfeirio at adfywio canol tref Tredegar ac y cafodd ei phroffil ei godi gan ymweliad Gweinidog y diwrnod hwnnw i'r dref ac yn neilltuol i'r Ganolfan TA. Canmolodd y swyddogion sy'n ymwneud â'r prosiectau adfywio a gofynnodd i'r swyddogion drosglwyddo llon gyrchiadau a gwerthfawrogiad i Nick Landers a'i dîm am y gwaith a wnaed.

 

ØMynegwyd pryder nad oedd cysylltiad trafnidiaeth o fewn cwm Tredegar a gofynnodd os gellid gwneud gwaith ar y cyd gyda Chyngor Caerffili i roi cysylltiad rheilffordd i Barc Bryn Bach.

 

ØAwgrymwyd cynnal ymchwiliadau i p'un a allai pobl sydd â chardiau teithio rhatach hefyd fanteisio o ddulliau eraill o gludiant tebyg i dacsis.

 

Dywedodd y Pennaeth Adfywio fod Trafnidiaeth Cymru yn cyflwyno system ddigidol ar gyfer tocynnau a ddylai ei gwneud yn haws i gynllunio teithiau.

 

ØCyfeiriwyd at yr hen dri twnnel sy'n cysylltu Sirhywi gyda Glynebwy a bod un mynedfa twnnel tu ôl i'r maes parcio yn safle'r Gweithfeydd ac awgrymodd y dylid hanes ac arteffactau gael eu cynnwys fel rhan o'r strategaeth.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod trafnidiaeth yn bwnc pwysig yn genedlaethol ar hyn o bryd ac mai un o'r rhesymau pam fod angen y strategaeth hon oedd fel y gallai'r Cyngor wneud cais am gyllid i ddarparu cysylltedd fforddiadwy a lleol ledled y Fwrdeistref Sirol.

 

Mewn pleidlais unfrydol,

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell, yn amodol ar yr uchod, y dylai'r adroddiad gael ei dderbyn a chymeradwyo Opsiwn 1, sef dechrau ar y Strategaeth Trafnidiaeth Leol yn 2020 yn dilyn cyhoeddi'r cyfeiriad ar gyfer teithio rheilffordd lleol a'i glymu gyda Strategaeth Trafnidiaeth Cymru a Strategaeth Trafnidiaeth Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn y dyfodol.

 

 

Dogfennau ategol: