Agenda item

Perfformiad Absenoldeb Salwch Gweithlu Adfywio

Ystyried adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol a'r Pennaeth Datblygu Sefydliadol.

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i'r adroddiad ar y cyd gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol a'r Pennaeth Datblygu Sefydliadol.

 

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol yr adroddiad sy'n rhoi cyfle i Aelodau graffu a herio'r perfformiad absenoldeb salwch a'r camau gweithredu a gynigir ar gyfer gwella yn y gyfarwyddiaeth.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol mai hwn oedd yr adroddiad cyntaf fath i'w gyflwyno i'r Pwyllgor (byddai pob adran yn paratoi adroddiad tebyg i gael ei gyflwyno i'w pwyllgorau perthnasol) a chydnabuwyd fod yr adroddiad yn 'waith ar y gweill' gan fod angen gwneud gwaith pellach gyda chydweithwyr mewn Datblygu Sefydliadol i lunio a ffocysu'r adroddiad i sicrhau fod yr ystadegau a'r wybodaeth a gynhwysir ynddo yn cyfeirio at y Gwasanaeth Adfywio yn unig. Dywedwyd ar hyn o bryd fod yr wybodaeth yn cyfeirio at Gwasanaethau Cymunedol hefyd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

 

Siaradodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol yn fanwl am yr adroddiad a thynnu sylw at bwyntiau ynddo. Tanlinellodd fod gan fwyafrif helaeth gweithwyr y Cyngor lefelau presenoldeb ardderchog gan y dangosodd data fod 2463 o weithwyr wedi mynychu gwaith bob dydd yn ystod y cyfnod rhwng Ebrill a Mawrth 2019 gyda'r Cyngor â lefel presenoldeb o 94.3%. Y meysydd gwasanaeth rheng flaen sy'n profi lefelau uwch o absenoldeb.

 

Fel Cyfarwyddiaeth, trafodir absenoliaeth salwch ym mhob cyfarfod rheoli misol. Cynhaliwyd adolygiad annibynnol o'r deg absenoldeb uchaf sydd wedi cadarnhau fod rheolwyr yn cydymffurfio â ac yn gweithredu'r Polisi Rheoli Presenoldeb.

 

Aeth y Cyfarwyddwr Corfforaethol ymlaen drwy ddweud er bod tystiolaeth o weithredu gan reolwyr wrth reoli salwch, bod y Gwasanaeth Adfywio yn cydnabod fod angen defnyddio system iTrent yn well gan mai dim ond 16.48% o gyfarfodydd dychwelyd i'r gwaith sy'n cael eu cofnodi ar system iTrent ar hyn o bryd. Nodwyd nad oes gan bob adran fynediad i'r system hon, yn neilltuol reolwyr rheng flaen ac er y cynhelir cyfarfodydd dychwelyd i'r gwaith, ni fedrir eu cofnodi bob amser o reidrwydd. Felly mae angen gwaith i wella'r sefyllfa.

 

Cafodd Aelodau wedyn gyfle i godi sylwadau/cwestiynau am yr adroddiad.

 

Lefelau Presenoldeb - cyfeiriodd Aelod at y ffaith fod gan fwyafrif helaeth gweithwyr y Cyngor lefelau presenoldeb gan fod y data yn dangos fod 2463 o weithwyr yn mynychu gwaith bob dydd a dywedodd fod hyn i'w ganmol. Gofynnodd os yw'r aelodau hyn o staff yn cael eu canmol am eu lefelau presenoldeb ardderchog.

 

Cydnabu'r Cyfarwyddwr Corfforaethol fod hwn yn bwynt dilys a chytunodd y dylai lefelau presenoldeb ardderchog gael eu dathlu a dywedodd y byddai'n codir mater yn y cyfarfod rheoli adrannol a hefyd gyda'r Tîm Arweinyddiaeth Gorfforaethol.

 

Salwch Cronig - mewn ymateb i gwestiwn am 'salwch cronig', cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y caiff hyn ei briodoli fel arfer i straen. Dywedwyd fod y Cyngor wrthi'n ymestyn hyfforddiant iechyd meddwl ar gyfer rheolwyr er mwyn eu galluogi'n well i gael trafodaethau priodol gydag unigolion. Nodwyd fod iechyd meddwl a straen yn broblem sylweddol ar draws pob sefydliad.

 

System iTrent - mynegwyd pryder nad oedd gan bob rheolwr fynediad i'r system er mwyn cofnodi gwybodaeth salwch a dywedodd fod angen trin hyn fel mater o frys.

 

Cynnwys yr Adroddiad - fe wnaeth Aelod ganmol a llongyfarch swyddogion ar yr adroddiad a dweud ei fod yn fanteisiol y cafwyd costiadau manwl.

 

Fodd bynnag, mynegwyd pryder gan nad oedd y graffiau wedi eu hargraffu mewn lliw, na fedrai Aelodau ddeall yr wybodaeth yn glir.

 

Iechyd Meddwl - cyfeiriodd Aelod at y nifer (46) o weithwyr oedd wedi colli dyddiau gwaith oherwydd salwch iechyd meddwl a gan fod gan y Cyngor ddyletswydd gofal i'w weithwyr, gofynnodd os oedd gweithdrefn yn ei lle drwy iechyd galwedigaethol i helpu staff sy'n dioddef gyda phroblemau straen a phryder.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod y Cyngor wedi cynyddu ei raglen hyfforddiant yng nghyswllt iechyd meddwl ar gyfer ei reolwyr a bod yr hyfforddiant hefyd wedi tynnu sylw at 'sbardunau' posibl a fedrai arwain at absenoldeb o'r fath. Dywedodd fod y rhan fwyaf o staff sy'n dioddef gyda'r cyflwr eisiau mynychu gwaith a bod angen atgoffa cynghorwyr iechyd galwedigaethol am hyn. Mae angen i'r dull gweithredu a gymerir fod yn gydnaws ag anghenion busnes a hefyd yr unigolyn.

 

Anafiadau Cyhyrysgerbydol a Iechyd Meddwl cysylltiedig â gwaith/heb fod yn gysylltiedig â gwaith: gwnaed cais am gael gwybodaeth bellach yn y dyfodol yng nghyswllt anafiadau cyhyrysgerbydol a iechyd meddwl cysylltiedig â gwaith/heb fod yn gysylltiedig â gwaith.

 

Strategaethau Rheoli Presenoldeb - gofynnodd Aelod am wybodaeth bellach yng nghyswllt y strategaethau a weithredir er mwyn gostwng absenoldeb salwch.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y byddai'n dilyn y mater.

 

Mewn pleidlais unfrydol,

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell, yn amodol ar yr uchod - i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef bod yr wybodaeth ar berfformiad salwch absenoldeb a'r trefniadau arfaethedig i wella cyfraddau presenoldeb o fewn y Gyfarwyddiaeth Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol wedi eu craffu ac y dynodwyd meysydd pellach ar gyfer gwella er mwyn symud ymlaen gyda gwelliannau perfformiad.

 

Dogfennau ategol: