Agenda item

Rhestr Ceisiadau ar gyfer Trwyddedau Cerbyd Hacni a Hur Preifat

Ystyried adroddiad y Rheolwr Tîm Trwyddedu a Masnachol.

 

Cofnodion:

Gan roi ystyriaeth i'r farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol am y prawf budd cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na'r budd cyhoeddus mewn datgelu'r wybodaeth ac y dylai'r adroddiad gael ei eithrio.

PENDERFYNWYD y dylai'r cyhoedd gael ei eithrio pan gynhelir yr eitem hon o fusnes gan ei bod yn debyg y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel a diffinnir ym Mharagraff 12, Atodlen 12 Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i diwygiwyd).

 

Trefn yr Agenda - cytunwyd y dylai Cais Cyfeirnod 1.1(b) a 1.1(c) gael eu clywed ar y pwynt hwn yn y cyfarfod.

 

Cais am Drwydded Newydd Cyfeirnod 1.1 (b)

 

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod a gwnaed cyflwyniadau.

 

Dywedodd y Swyddog Gorfodaeth Trwyddedu y galwyd y cyfarfod i ystyried cais newydd a dderbyniwyd ar gyfer Trwydded Cerbyd Hacni a Cherbyd Hur Preifat. Rhoddodd y Swyddog wybodaeth i Aelodau am yr ymgeisydd a'r troseddau a gyflawnwyd a amlygwyd fel rhan o'r broses wirio DBS a dywedodd felly ei bod yn fater i'r Pwyllgor benderfynu os y dylid dyfarnu trwydded i'r ymgeisydd am y cyfnod llawn o 36 mis neu unrhyw gyfod arall a ystyriai'r Pwyllgor yn addas neu i wrthod y cais.

 

Yna gwahoddodd y Cadeirydd yr ymgeisydd i esbonio'r amgylchiadau am y troseddau a gyflawnwyd.

 

Mewn lliniariad am y troseddau, dywedodd yr Ymgeisydd iddynt gael eu cyflawni pan oedd yn llanc a'i fod yn awr yn gresynu'n fawr amdanynt. Ers hynny bu ganddo swydd lawn-amser - y 13 mlynedd diwethaf yn gweithio fel gyrrwr HGV ac roedd yn gwneud gwaith cymunedol yn ei ardal leol. Hysbysodd Aelodau ei fod yn angerddol am yrru a'i fod eisiau cyfle i helpu aelodau'r gymuned drwy gynorthwyo gyda darparu gwasanaethau tacsi.

 

Hysbysodd yr Ymgeisydd y Pwyllgor pe byddai'n cael trwydded y byddai'n cael ei gyflogi gyda chwmni tacsi lleol yn ardal Abertyleri.

 

Mewn ymateb i gwestiwn rhoddodd yr Ymgeisydd fanylion llawn y drosedd a gyflawnwyd yn ystod 2002.

 

Ar y pwynt hwn, darllenodd y Cyfreithiwr dystlythyrau cymeriad a dderbyniwyd i gefnogi'r Ymgeisydd.

 

Gadawodd yr Ymgeisydd a swyddogion yr Adran Trwyddedu y cyfarfod tra bod Aelodau yn ystyried y cais.

 

Yn dilyn ystyriaeth gan Aelodau gwahoddwyd yr Ymgeisydd i ail-ymuno â'r cyfarfod ac ar gais y Cadeirydd, cafodd penderfyniad unfrydol y Pwyllgor ei ddarllen yn uchel gan y cyfreithiwr fel sy'n dilyn:

 

Mae'r Pwyllgor wedi ystyried y dystiolaeth a roddwyd o'u blaenau ac wrth ddod i'w benderfyniad roedd y Pwyllgor hefyd wedi ystyried yr euogfarnau blaenorol, y sylwadau a wnaed gan yr Ymgeisydd, y Swyddogion Trwyddedu oedd yn bresennol yn y Pwyllgor, y tystlythyrau cymeriad ac wedi rhoi ystyriaeth i faterion a gynhwysir o fewn Llyfryn Gwybodaeth ac Arweiniad y Cyngor yn cynnwys amodau'n gysylltiedig â Thrwyddedau Gyrwyr Cerbydau Hacni a Thrwyddedau Cerbyd Hur Preifat.

 

Cytunodd y Pwyllgor yn unfrydol fod yr Ymgeisydd yn berson addas a phriodol i ddal Trwydded Gyrrwr Cerbyd Hacni ac felly dyfarnodd y Pwyllgor drwydded am gyfnod o 36 mis.

 

PENDERFYNWYD, yn amodol yr uchod, i DDYFARNU Trwydded Cerbyd Hacni/Cerbyd Hur Preifat.

 

Cais am Drwydded Newydd Cyfeirnod Rhif  1.1 (c)

 

Gwnaed y cais gerbron y Pwyllgor gan Ymgeisydd ar gyfer Trwydded Gyrrwr Cerbyd Hacni. Nid oedd yr Ymgeisydd wedi dal Trwydded Gyrrwr Cerbyd Hacni o'r blaen. Hysbyswyd Aelodau fod yr Ymgeisydd wedi methu mynychu cyfarfod diwethaf y Pwyllgor lle'r oedd y cais i gael ei ystyried ac felly roedd Aelodau wedi caniatáu gohirio'r cais i'r cyfarfod arferol nesaf ar 14 Ionawr 2020.

 

Roedd yr Ymgeisydd wedi methu mynychu'r cyfarfod hwnnw a phenderfynodd Aelodau'r Pwyllgor y dylai'r cais gael ei ddileu a gofyn i'r Swyddogion hysbysu'r ymgeisydd am eu penderfyniad.

 

Felly oherwydd diffyg presenoldeb yr ymgeisydd am yr ail dro,

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol y dylai'r cais gael ei DDILEU

 

Gadawodd y Cynghorydd B. Thomas y cyfarfod ar y pwynt hwn.

 

Egwyl - cafwyd egwyl rhwng 10.25 a.m. - 10.45 a.m.

 

Trwydded Bresennol Cyfeirnod 1.1(a) - HCD/PHVD Rhif 018; PHV Rhif 009 a PHVO Rhif 003

 

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod a gwnaed cyflwyniadau.

 

Anerchodd y Swyddog Gorfodaeth Trwyddedu yr Aelodau a'u hysbysu fod swyddog o Adran Contract Rhwng y Cartref a'r Ysgol y Cyngor wedi cysylltu â hi. Mae gan y Deiliad Trwydded gontract gyda'r Cyngor i gludo disgybl gydag anghenion addysgol arbennig i'r  ysgol ac oddi yno. Fodd bynnag, roedd wedi methu gwneud darpariaeth am lanw addas ar gyfer ei gontract tra'i fod ar wyliau ac mae hyn yn groes i delerau contract y Cyngor ac amodau ei drwydded.

 

Hysbyswyd y Pwyllgor fod y Deiliad Trwydded wedi caniatáu i yrrwr heb drwydded yrru'r plentyn i ysgol nad oedd wedi ei wirio yn unol â gofynion Datgelu a Gwahardd a honnwyd fod y gweithredoedd hyn hefyd wedi amharu ar ddiogelwch dysgwr gydag anghenon addysgol arbennig.

 

Nodwyd fod yn rhaid i bob gyrrwr fod â thrwydded briodol i yrru cerbyd hacni/hur preifat ar gyfer dibenion hurio neu wobr. Hefyd, cyn dechrau'r gwaith ar gyfer contractau a drefnwyd, mae'n rhaid i yrrwr/hebryngydd gwblhau gwiriad DBS uwch a chael ei glirio gan y Gyfarwyddiaeth Addysg. Mae Rheolwr Contract Cludiant Ysgol y Cyngor wedi siarad gyda'r person a yrrodd y cerbyd ar 11 Tachwedd 2019 oedd wedi cadarnhau i'r Swyddog Gorfodaeth Trwyddedu nad oedd gwiriad DBS cyfredol yn ei le ar gyfer y gyrrwr didrwydded.

 

Felly cafodd y Deiliad Trwydded ei gyfweld dan rybudd am gyflogi gyrrwr didrwydded. Yn ystod y cyfweliad hwn nid oedd y Deiliad Trwydded wedi gwadu'r drwydded ac roedd wedi rhoi esboniad manwl am amgylchiadau'r drwydded. Dywedodd y swyddog y cafodd y Deiliad y Trwydded ei rybuddio am y drosedd a gyflawnwyd, a'i fod wedi derbyn hynny. Nodwyd fod y Deiliad Trwydded wedi dal 3 trwydded (gyrrwr, gweithredwr a hur preifat) ers 2006 ac na chafodd unrhyw gwynion eu derbyn oedd angen eu trin ers y dyddiad hwnnw.

 

Dywedodd y Swyddog Gorfodaeth Trwyddedu wrth Aelodau y gallent:

 

1. Ddiddymu'r drwydded bresennol.

2. Peidio cymryd unrhyw gamau.

3. Caniatáu i'r Deiliad Trwydded gadw ei drwyddedau presennol ond rhoi rhybudd ysgrifenedig a fyddai'n parhau ar ffeil am gyfnod y trwyddedau.

 

Yna gwahoddodd y Cadeirydd yr Ymgeisydd i esbonio amgylchiadau y drosedd a gyflawnwyd.

 

Mewn lliniariad i'w weithredoedd, hysbysodd y Deiliad Trwydded nad oedd yn gwadu'r sylwadau a wnaed gan y Swyddog Gorfodaeth Trwyddedu. Roedd wedi hysbysebu am yrrwr arall ac roedd y gyrrwr hwn (gyrrwr y car y diwrnod hwnnw) wedi gwneud cais yn ddiweddar am wiriad DBS. Roedd wedi cwblhau ei brawf gwybodaeth a thystysgrif diogelu, fodd bynnag roedd yn dal i aros i'r gwiriad DBS gael ei ddychwelyd pan aeth y Deiliad Trwydded i ffwrdd ar wyliau - roedd wedi rhagweld y byddai'r gwiriad DBS wedi ei gwblhau cyn ei wyliau. Sylweddolodd ei fod wedi gwneud rhywbeth o'i le i gymryd siawns cyn i'r cais gael ei gwblhau'n ffurfiol ac nid oedd ganddo unrhyw esgus am ei weithredoedd. Nid oedd wedi meddwl am y canlyniadau oherwydd nad oedd wedi bod eisiau siomi'r teithwyr pan oedd ar ei wyliau. Hefyd, roedd aelod agos o'r teulu a oedd yn hebryngydd a benodwyd yn gywir ar y contract cartref i'r ysgol a gwyddai y byddai hi'n goruchwylio'r sefyllfa. Ymddiheurodd i'r Pwyllgor am ei weithredoedd.

 

Ar y cam hwn,  fe wnaeth y Cyfreithiwr ddarllen yn uchel dystlythyr cymeriad a dderbyniodd i gefnogi y Deiliad Trwydded.

 

Gadawodd yr Ymgeisydd a Swyddogion yr Adran Trwyddedu y cyfarfod tra bod Aelodau'n ystyried y cais.

 

Yn dilyn ystyriaeth gan aelodau, gwahoddwyd y Deiliad Trwydded i ail-ymuno â'r cyfeiriad ac ar gais y Cadeirydd, darllenodd y Cyfreithiwr benderfyniad unfrydol y pwyllgor fel sy'n dilyn.

 

Roedd y Pwyllgor wedi rhoi ystyriaeth i sylwadau a wnaed gan y Deiliad Trwydded a sylwadau'r Swyddog Gorfodaeth Trwyddedu a'r materion a gynhwysir yng ngwybodaeth ac arweiniad y Cyngor yn cynnwys amodau'n gysylltiedig â thrwyddedau gyrwyr Cerbydau Hacni a Cherbydau Hur Preifat ac wedi rhoi ystyriaeth briodol i'r tystlythyr cymeriad a gafwyd.

 

Cytunodd yr Aelodau yn unfrydol fod y Deiliad Trwydded yn parhau'n berson addas a chywir i ddal Trwydded Gyrrwr Cerbyd Preifat/Hacni, Trwydded Gweithredwr a Thrwydded Cerbyd, ond teimlai y bu gweithredoedd y Deiliad Trwydded yn anghyfrifol ac felly byddid yn rhoi rhybudd ysgrifenedig terfynol am ymddygiad yn y dyfodol. Byddai'r rhybudd hwn mewn grym drwy gydol cyfnod presennol ei drwydded a hysbysodd Aelodau y Deiliad Trwydded y gellid diddymu ei drwydded os yw'n cyflawni troseddau pellach neu fod unrhyw achos arall dros ddod ag ef gerbron y Pwyllgor yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, caniatáu i'r Deiliad Trwydded GADW ei drwyddedau presennol ond cyhoeddi rhybudd ysgrifenedig terfynol a fyddai mewn grym ac yn parhau ar ffeil drwy gydol cyfnod cyfredol y trwyddedau.