Agenda item

Public Protection Services - Discontinuation of Collaboration with Torfaen C.B.C.

Ystyriedadroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Cofnodion:

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Diogelu'r Cyhoedd y cyflwynwyd yr adroddiad yn dilyn cais a wnaed am wybodaeth yn gysylltiedig gyda diwedd y cydweithio gyda Torfaen a'r goblygiadau ar gyfer y Gwasanaeth Trwyddedu. Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth drosolwg o'r adroddiad yn rhoi manylion y rheswm dros greu'r cydweithio ynghyd â'r goblygiadau cyfredol a dyfodol ar gyfer y gyllideb yn ogystal â newidiadau dros dro i'r Tîm Trwyddedu ers i'r trefniant cydweithio ddod i ben ar gyfer Trwyddedu yn yr haf.

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Gwasanaeth yr Aelodaeth at y pwysau cost presennol fel canlyniad i ddiwedd y cydweithio oedd tua £35,000 a dywedodd y cafodd hyn ei ateb drwy ostwng oriau mewn swydd Safonau Masnach a ddaeth yn wag ac oedd yn gweithio ar draws y ddau dîm ym Mlaenau Gwent a Thorfaen.

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Gwasanaeth ymhellach at y pwysau cost ar gyfer 2020/2021 o £106,000 a dywedodd, er bod yr gostyngiad yn oriau'r swydd wedi cyflawni £18,000, bod angen i'r maes gwasanaeth ganfod gweddill y pwysau cost. Cyn trafod y pwysau cost, cafodd y Rheolwr Gwasanaeth y dasg o adolygu Front Line Enforcement Services ac mae hynny'n parhau. Byddai canlyniad yr adolygiad hwn yn helpu i lywio'r newid gwasanaeth angenrheidiol ac ailstrwythuro staff Diogelu'r Cyhoedd. Pe byddai nifer y staff yn gostwng, byddai hyn yn cael ei drin mewn ymgynghoriad llawn gyda staff, Datblygu Sefydliadol ac undebau llafur. Ychwanegodd y Rheolwr Gwasanaeth, er bod pwysau cyllideb, y byddid yn dal i ofyn i Wasanaeth Diogelu'r Cyhoedd am dwf gwasanaeth.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaeth pellach er y bu newidiadau dros dro yn rheolaeth y Tîm Trwyddedu na fu unrhyw newidiadau yn nifer y staff gweithredol yn y Gwasanaeth Trwyddedu fel canlyniad i derfynu'r cydweithio gyda Thorfaen.

 

Cyfeiriodd Aelod at yr adolygiad o staff rheng flaen a chododd bryderon am bosibilrwydd gostwng staff Diogelu'r Cyhoedd. Teimlai'r aelod y byddai gostwng staffio yn cael effaith niweidiol ar y gwasanaeth a ddarperir. Mae Tîm Diogelu'r Cyhoedd ar lawr gwlad yn hanfodol ac ni fyddai mor gryf pe byddai gostyngiad mewn staffio. Cyfeiriodd yr Aelod at euogfarnau diweddar am nwyddau ffug ac ategodd ei bryderon gan fod staff wedi gwneud gwaith ardderchog ac ni fyddai eisiau gweld pwysau ariannol yn gostwng y gwasanaeth rhagorol a ddarperir gan yr Awdurdod.

 

Cytunodd y Rheolwr Gwasanaeth Diogelu'r Cyhoedd gyda'r pryderon a godwyd ac roedd wedi gobeithio y byddai'r adolygiad yn lleihau'r effaith ar y gwasanaeth rheng flaen. Fodd bynnag, dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth bod y trefniadau cydweithio/rhannu rheolaeth gyda Torfaen yn ymarferol wedi diogelu'r gwasanaethau rheng flaen yn y 3-4 mlynedd ddiwethaf. Pe na byddai'r cydweithio wedi digwydd, byddai'r gwasanaethau rheng-flaen wedi gostwng yn sylweddol yn ystod y cyfnod 3-4 mlynedd yma.

 

Dywedodd Aelod arall o safbwynt cynrychiolwyr etholedig ei bod yn llawer mwy manteisiol cael arbenigedd Tîm Trwyddedu yn fewnol. Nododd y Rheolwr Gwasanaeth Diogelu'r Cyhoedd y pryderon a dywedodd y cafodd nifer o agweddau o waith Diogelu'r Cyhoedd eu hallanoli oherwydd pwysau cost cyllideb dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf (e.e. Iechyd Anifeiliaid a Rheoli Pla) ac felly os yw pwysau ar y gyllideb yn parhau yna gellid gorfod ystyried cydweithio yng nghyswllt Trwyddedu yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi'r wybodaeth a gynhwysir ynddo.

 

Dogfennau ategol: