Agenda item

Yr Achos Busnes Strategol - Datblygu Ail Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Cartrefi (HWRC) ym Mharc Busnes De Roseheyworth

Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol i gael ei ystyried.

 

Siaradodd y Rheolwr Gwasanaeth - Gwasanaethau Cymdogaeth am yr adroddiad ac amlinellu'r prif bwyntiau ynddo. Nododd y Rheolwr Gwasanaeth y gefnogaeth a gafwyd gan WRAP i ddatblygu'r Achos Busnes Strategol sy'n ffurfio rhan o'r cais i Lywodraeth Cymru. Roedd arweinwyr y Cyngor wedi cwrdd gyda'r Dirprwy Weinidog ym mis Gorffennaf i amlinellu'r achos busnes a chadarnhau ymrwymiad y Cyngor i gyrraedd y targedau ailgylchu 64% a 70%.

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau erbyn hyn y bu'r Cyngor yn llwyddiannus wrth gael y dyfarniad llawn o gyllid cyfalaf ar gyfer £2.8m a nododd amcangyfrif o gostau'r HWRC newydd sy'n cynnwys gosod goleuadau traffig ar yr A467. Croesawyd hynny gan Aelodau oherwydd nifer y damweiniau ar y gyffordd i Barc Busnes Roseheyworth.

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Gwasanaeth at yr opsiynau a dywedodd fod y Pwyllgor Craffu wedi codi pryderon am barhau digwyddiadau tipio anghyfreithlon pe byddid yn gostwng nifer y dyddiau y mae'r safle ar gael. Felly cytunwyd ar argymhelliad i adroddiad i'w gyflwyno yng nghyfarfod mis Ionawr roi ystyriaeth i gostau refeniw y safle'n bod ar agor ar 5, 6 a 7 diwrnod.

 

Er mwyn cynyddu ffrydiau ailgylchu y dyfodol, dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol y gellid cynnig ystod ehangach o wasanaethau yn yr ail HWRC yn y dyfodol wrth i ni symud tu hwnt i'r targed 70% a byddai'r safle a gynigir yn galluogi'r Cyngor i ddelio gyda'r cyfleoedd newydd hyn ac y byddid yn dod â'r rhain ymlaen ar yr amser priodol. Ychwanegodd y Rheolwr Gwasanaeth y bu trafodaethau am safle ail-ddefnyddio ar gyfer bric-a-brac a chelfi bach gan nad yw'r Cyngor yn cyflawni'n dda yn y maes hwn ar hyn o bryd. Roedd nifer o gyfleoedd i gael eu hymchwilio wrth i'r safle dyfu yn cynnwys canolfan addysg ac mae Hosbis y Cymoedd wedi datgan diddordeb mewn cydweithio yn y maes.

 

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol fod y Pwyllgor Craffu wedi croesawu'r adroddiad a nododd y codwyd pryderon yng nghyswllt costau refeniw ar yr oriau agor felly gofynnwyd am y adroddiad gael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Craffu nesaf i'w ystyried fel mater o frys.

 

Teimlai'r Dirprwy Arweinydd y byddai'r ail HWRC yn mynd i'r afael â phroblemau tipio anghyfreithlon yn ardal Ebwy Fach a thargedau Llywodraeth Cymru. Diolchodd y Dirprwy Arweinydd i WRAP am eu cefnogaeth ac i Lywodraeth Cymru am ddyfarnu'r grant i ddatblygu'r safle.

 

Cefnogodd yr Aelodau Gweithredol ddatblygu'r ail HWRC, sef y weledigaeth ar gyfer y Fwrdeistref, a chytunodd y byddai'n mynd i'r afael â phroblemau tipio anghyfreithlon yng nghwm Ebwy Fach. Byddai'r safle newydd hefyd yn cynorthwyo'r Awdurdod wrth gyrraedd targedau Llywodraeth Cymru.

 

Croesawodd yr Arweinydd ddyfarniad y grant llawn gan Lywodraeth Cymru sy'n adlewyrchu hyder Llywodraeth Cymru yng Nghyngor Blaenau Gwent yng nghyswllt gwastraff ac ailgylchu. Teimlai'r Arweinydd y bu cyfarfodydd diweddar gyda'r Gweinidog yn gadarnhaol iawn ac roedd yn dda cael cydnabyddiaeth am y gwaith a wnaed.

 

Dymunai'r Arweinydd hefyd ddiolch i'r Rheolwr Gwasanaeth - Gwasanaethau Cymdogaeth am y cyflwyniad rhagorol a roddwyd i'r Dirprwy Weinidog a'i chynghorwyr a roedd yr Arweinydd yn sicr y byddai'r Rheolwr Gyfarwyddwr yn cytuno ei fod yn gyflwyniad rhagorol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1 sef cymeradwyo'r Achos Busnes Strategol ar gyfer datblygu ail Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Cartrefi.

 

Dogfennau ategol: