Agenda item

Strategaeth Rheoli Gwastraff ac Ailgylchu 2018-25

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Cymdogaeth

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Amgylchedd.

 

Siaradodd y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol am yr adroddiad sy'n cyflwyno'r drafft Strategaeth Rheoli Gwastraff ac Ailgylchu i aelodau'r Pwyllgor Gweithredol. Dywedodd y Swyddog y datblygwyd y Strategaeth mewn dau ran gyda'r Strategaeth yn amlinellu'r weledigaeth, cyd-destun, amcanion a dulliau cyflenwi a'r Cynllun Gweithredu yn rhoi'r manylion a'r amserlenni sy'n adlewyrchu'r amcanion a gofynion cyflenwi.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol fod y Strategaeth yn nodi'r weledigaeth hirdymor ar gyfer gwasanaethau rheoli gwastraff ac ailgylchu. Aiff y Strategaeth tu hwnt i dargedau Llywodraeth Cymru gan ddynodi un strategaeth integredig sy'n nodi sut y byddai Blaenau Gwent yn cyflawni ei gweledigaeth, yn gweithio gydag eraill, yn ymgysylltu gyda phreswylwyr a gosod nodau a ffyrdd o weithio Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol wrth galon popeth a wnaiff. Cafodd y weledigaeth ar gyfer gwastraff ac ailgylchu ei hamlinellu ymhellach fel y nodir yn yr adroddiad.

 

Ychwanegodd y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol fod y Pwyllgor Craffu yn cefnogi'r polisi drafft gyda'r argymhelliad y dylai unrhyw newidiadau gwasanaeth yn y dyfodol ddychwelyd i'r Pwyllgor Craffu i gael eu hystyried  cyn eu gweithredu.

 

Nododd y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol y goblygiadau ariannol a'r effaith bosibl ar ofynion cyllid refeniw a hefyd gyllid cyfalaf yn gysylltiedig gyda datblygu a gweithredu'r strategaeth. Dywedodd y Swyddog y byddid yn dod â'r materion cysylltiedig hyn ymlaen wrth benderfynu ar newidiadau gwasanaeth yn y dyfodol.

 

Ar y pwynt hwn rhoddodd yr Arweinydd wahoddiad i Gadeirydd Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol roi sylwadau'r Pwyllgor Craffu. Dywedodd y Cadeirydd y cafodd y ddrafft strategaeth ei hystyried gan y Pwyllgor Craffu ac ategodd yr argymhelliad a wnaed yn nhermau bod unrhyw newidiadau gwasanaeth yn y dyfodol yn cael eu hystyried gan y Pwyllgor Craffu cyn eu gweithredu.

 

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Cymunedol hefyd y bu cais i swyddogion ymchwilio ffyrdd i gasglu gwastraff anifeiliaid anwes.

 

Dywedodd yr Arweinydd iddo eistedd yn yr oriel gyhoeddus adeg y Pwyllgor Craffu ac y bu'n gyfarfod da iawn a gafodd ei gadeirio'n dda gyda'r Cynghorydd Wilkins a gadwodd yr Aelodau ar y trywydd yn dda iawn. Nododd yr Arweinydd y materion a godwyd yng nghyswllt gwastraff anifeiliaid anwes a dywedodd fod hyn yn fater a nodwyd yn Sesiynau Ymgysylltu Golwg Strydoedd. Nodwyd fod y Cyngor yn rhedeg casgliad glanweithdra llwyddiannus felly gellid ymchwilio'r un broses ar gyfer gwastraff anifeiliaid anwes.

 

Cefnogodd y Dirprwy Arweinydd/Aelod Gweithredol Amgylchedd y polisi a fyddai'n helpu mynd i'r afael â chyfraddau ailgylchu i osgoi'r Awdurdod rhag gorfod talu cosbau. Teimlai'r Dirprwy Arweinydd y byddai'n well gwario'r arian a ddefnyddir ar gyfer unrhyw gosbau posibl ar wasanaethau eraill.

 

Cytunodd y Dirprwy Arweinydd ymhellach gyda'r awgrym i ymchwilio casgliadau gwastraff anifeiliaid anwes. Teimlai nad oedd hynny'n dasg amhosibl gan y gellir cyflwyno casgliad tebyg i wastraff glanweithdra.

 

Cytunodd yr Aelodau Gweithredol gyda'r ymchwiliadau i drin gwastraff anifeiliaid anwes ac felly cytunwyd ychwanegu hynny at yr argymhelliad y dylid llunio adroddiad i'w ystyried gan y Pwyllgor Craffu a'r Pwyllgor Gweithredol. Ychwanegodd yr Arweinydd y byddai goblygiad cost, fodd bynnag yn yr achos hwn byddai'n gost gwerth ei ystyried.

 

PENDERFYNWYD yn unol â hynny.

 

PENDERFYNWYD YMHELLACH, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a chadarnhau Opsiwn 1, sef cymeradwyo'r Strategaeth ddrafft ar Reoli Gwastraff ac Ailgylchu. Hefyd, bod adroddiad yn cael ei lunio i ddatblygu gwasanaeth casglu gwastraff anifeiliaid anwes a'i gyflwyno i Bwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol a'r Pwyllgor Gweithredol i gael ei ystyried.

 

 

Dogfennau ategol: