Agenda item

Adroddiad Ceisiadau Cynllunio

Ystyried adroddiad Rheolwr Tîm Rheoli Datblygu

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Tîm Rheoli Datblygu.

 

Esboniodd y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau y ceisiadau cynllunio dilynol i Aelodau gyda chymorth sleidiau:-

 

Cais Rhif C/2019/0050 – Tir yn Heol Waun-y-Pound a Heol y Coleg, Glynebwy - Datblygiad Preswyl o 227 Uned yn cynnwys Gweithiau Cysylltiedig

 

Cyflwynwyd y cais gan y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau. Rhoddodd esboniad byr o'r cynllun a threfniadau mynediad. Cadarnhaodd y byddai cais cynllunio pellach ar gyfer y draeniad i'w weithredu gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol fel yr amlinellir yn Argymhelliad 2.

 

Dywedodd Aelod ei fod yn croesawu'r datblygiad ond mynegodd bryder fod y Cytundeb Adran 106 wedi'i gyfyngu i Ysgolion Cynradd Glyncoed a Threhelyg. Dywedodd y dylid cynnwys pob un o'r pedair ysgol gynradd yn yr ardal, sef Rhos-y-fedwen a Rhiw Beaufort, gan y gall plant o'r datblygiad fynychu'r ysgolion hynny.

 

Dywedodd y Swyddog i'r mater gael ei drafod gyda'r Adran Addysg ac mai'r rheswm pam y soniwyd am y ddwy ysgol oedd mai nhw oedd yr ysgolion dalgylch dynodedig ar gyfer y safle a'u bod yn rhagweld y byddai'r rhan fwyaf o'r plant o'r datblygiad yn mynychu'r ysgolion hynny. Fodd bynnag, maent yn cydnabod fod potensial am effaith ar Rhos-y-Fedwen ac y gallai buddsoddiad ddod o raglen gyfalaf y Cyngor. Maent yn ymchwilio'r mater hwn ar hyn o bryd.

 

Yng nghyswllt Cytundeb Adran 106, gofynnodd Aelod os oedd cwmpas i'r datblygydd ailnegodi'r swm a gytunwyd pe na byddai'r effaith ar Addysg yn cael ei wireddu.

 

Mewn ymateb cadarnhaodd y Swyddog y cafodd y rhestr taliadau ei chytuno gyda'r datblygydd ac yr oedd yn dderbyniol i'r Adran Addysg i ganiatáu lliniaru pan mae preswylwyr o'r safle yn dechrau effeithio ar wasanaethau addysg. Pe byddai amgylchiadau'n newid, byddai'n agored i gais i amrywio cyflwyno Adran 106 ond byddai angen i hyn gael ei gefnogi gyda thystiolaeth pe byddai'r Cyngor yn cytuno i unrhyw newid.

 

Mynegodd Aelod bryder fod yr Adran Addysg wedi cyfeirio at y 'dalgylch' pan mae proses dderbyn bresennol Blaenau Gwent yn caniatáu i rieni wneud cais i anfon eu plant i unrhyw ysgol.

 

Ymgymerodd y Swyddog i godi'r mater gyda'r Adran Addysg.

 

Dilynodd trafodaeth fer pan ddywedodd Aelod ei bod yn siomedig nad oes unrhyw fyngalos wedi eu cynnig ar gyfer y safle gan fod llawer o alw amdanynt ym mhob rhan o'r Fwrdeistref.

 

Cyfeiriodd Aelod arall hefyd at ddarparu 20% o unedau tai fforddiadwy a gofynnodd os y byddai darpariaeth ar gyfer cartrefi ar rent.

 

Mewn ymateb esboniodd y Swyddog y byddai trafodaeth bellach ar y manylion daliadaethau.

 

Mynegodd y Cadeirydd bryder am fynediad i'r safle oddi ar heol Waun-y-Pound a chadarnhaodd y Rheolwr Tîm Amgylchedd Adeiledig yr ystyriwyd fod lôn aros arbennig ar gyfer troi i'r dde yn addas ar gyfer datblygiad o'r math hwn a bod yr ymgeisydd wedi ailgynllunio'r mynediad i ddarparu ar gyfer hyn. Mae hefyd angen rhai gwelliannau i heol Waun-y-Pound a chaiff y rhain eu darparu drwy amod cynllunio.

 

PENDERFYNWYD y dylai fod yn ofynnol i'r datblygydd ymrwymo i ddyletswydd A106 yng nghyswllt cyfraniad i'r Adran Addysg i liniaru am yr effaith ar gyfer datblygu ysgolion cynradd lleol.

 

PENDERFYNWYD YMHELLACH, yn amodol ar yr uchod, i ROI caniatâd cynllunio, gyda'r amodau a amlinellir yn adroddiad y Rheolwr Tîm Rheoli Datblygu.

 

Cais Rhif C/2018/0323 – Tir ger Sunny Rise, Heol Merthyr, Tredegar, NP22 3AE – Annedd ar Wahân, Mynediad Cerbyd a Pharcio

 

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau y cais a argymhellwyd ar gyfer ei gymeradwyo, yn groes i argymhelliad y Swyddog, yn y Pwyllgor Cynllunio ar 3 Hydref 2019. Fodd bynnag, yn seiliedig ar benderfyniad y Pwyllgor i gymeradwyo'r cais, cynghorodd y Swyddog y dylid rhoi cymeradwyaeth gyda'r amodau a amlygir yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD RHOI caniatâd cynllunio, gyda'r amodau a amlinellir yn adroddiad y Rheolwr Tîm Rheoli Datblygu.

 

 

 

Cais Rhif C/2019/0225 – 5 Surgery Road, Heol Cwmcelyn, Blaenau, Abertyleri, NP13 3DD – Estyniad Deulawr Arfaethedig ar Ddrychiad Ochr ac Estyniad Un Llawr yng nghefn yr Annedd

 

Cafwyd trafodaeth fer parthed y polisi siarad cyhoeddus ar gyfer y Pwyllgor Cynllunio, pan esboniodd y Cyfreithiwr fod y polisi yn dweud fod yn rhaid i Aelodau Ward, pan fyddant yn bresennol i annerch y Pwyllgor, wneud hynny cyn y siaradwr cyhoeddus.

 

Anerchodd y Cynghorydd G. Collier y Pwyllgor a chyfeiriodd at y cynlluniau gwreiddiol am yr estyniad arfaethedig sy'n rhoi estyniad ochr deulawr ac ailddylunio'r safle i roi annedd gyda ffenestri y ddwy ochr i'r drws blaen. Mynegodd y Cynghorydd Collier yr ystyriwyd fod y cynlluniau hyn yn ormodol ac yn annerbyniol yn weledol ac yn annhebyg o gael eu hargymell ar gyfer cymeradwyaeth. Felly, cafodd cais cynllunio ei gyflwyno gyda chynlluniau diwygiedig, a olygai y caiff yr estyniad ei osod yn ôl o'r annedd flaenorol a hefyd ostwng uchder to yr estyniad. Dywedodd y credai y byddai hyn yn cael effaith niweidiol ar ymddangosiad cyffredinol yr annedd.

 

Mynegodd bryder hefyd fod y cynlluniau gwreiddiol yn cynnig estyniad o 4m, ac y caiff hyn hefyd ei ystyried yn ormodol. Mae'r cais yn awr yn cynnig estyniad 3.4m. Fodd bynnag, dywedodd na fyddai'r estyniad yn achosi unrhyw broblemau i adeiladau cyfagos ac ar y sail hwn gofynnodd i'r Pwyllgor rai caniatâd cynllunio.

 

Ar wahoddiad y Cadeirydd, anerchodd Mr. Terry Morgan, yr asiant sy'n gweithredu ar ran yr ymgeisydd, y Pwyllgor. Dywedodd fod yr estyniad arfaethedig wedi'i osod yn ôl o'r annedd wreiddiol a bod y to hefyd yn is, yn unol â'r Canllawiau Cynllunio Atodol. Dywedodd nad oedd unrhyw broblemau 'edrych dros' adeiladau cyfagos, a drwy ymestyn elfen ochr yr annedd, na fyddai unrhyw effaith ormodol ar y cymdogion, hefyd fel a argymhellir gan y Canllawiau Cynllunio Atodol.

 

Dywedodd fod gan yr annedd ardd ochr fawr ac felly na fyddai unrhyw ostyngiad sylweddol mewn gofod amwynder. Byddai'r holl ddeunyddiau a gorffenion a ddefnyddir yn adlewyrchu cymeriad yr eiddo ac yn cyfrannu at ansawdd yr ardal. Mae'r cynnig i drawsnewid y t? bychan hwn i gartref teulu cymedrol yn rhesymol a byddai'n welliant i'r ardal leol a hefyd yn cydymffurfio gyda'r Canllawiau Cynllunio Atodol. Felly gofynnodd i'r Pwyllgor ystyried y cais a gobeithio ddod i benderfyniad ffafriol.

 

Dywedodd Aelod ei bod yn llwyr gefnogi'r cais gan y byddai'r datblygiad arfaethedig yn cydymffurfio gydag arddulliau amrywiol presennol tai ar Surgery Road. Fodd bynnag, dywedodd ei bod hefyd yn teimlo y byddai ymddangosiad y datblygiad yn cael ei wella pe byddai blaen yr estyniad a'r to yn debyg i'r annedd bresennol. Daeth i ben drwy ddweud ei bod yn llwyr gefnogi'r cais a chynigiodd y dylid rhoi caniatâd cynllunio.

 

Cefnogodd Aelod arall y cynnig a hefyd gytuno y dylai'r estyniad gydymffurfio gyda'r annedd bresennol.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau, os yw Aelodau'n penderfynu cytuno i'r cais, y byddai hynny yn erbyn holl egwyddorion dylunio da a chanllawiau o fewn y Cynlluniau Cynllunio Atodol Deiliaid Tai. Cadarnhaodd hefyd y byddai unrhyw newidiadau i'r cynlluniau ac yn y blaen yn amodol ar gais pellach.

 

PENDERFYNWYD RHOI caniatâd cynllunio.

 

Cais Rhif C/2019/0160 – Canolfan Iechyd Tredegar ac Ysbyty Cyffredinol Tredegar, Park Row, Tredegar, NP22 3NG - Cais am ganiatâd Ardal Gadwraeth ar gyfer Dymchwel Rhannol Hen Adeilad Ysbyty Cyffredinol Tredegar a Dymchwel Llawn Canolfan Iechyd Tredegar

 

Cyflwynodd yr Arweinydd Tîm - Rheoli Datblygu y cais i Aelodau a thynnodd sylw at bwyntiau ynddo. Yn neilltuol, soniodd am y ffaith y caiff yr hen ysbyty cyffredinol ei gydnabod fel adeilad sy'n gwneud cyfraniad cadarnhaol i'r Ardal Gadwraeth ac felly bod tybiaeth o blaid cadw'r adeilad. Soniwyd hefyd am y gwrthwynebiadau a godwyd gan y Gymdeithas Fictorianaidd a Chymdeithas yr Ugeinfed Ganrif i ddymchwel estyniadau cynharach cyn-rhyfel yr ysbyty hefyd, ynghyd â'u pryderon am y dull dylunio a maint yr adeilad a gynigir yn ei le.

 

Dywedodd i'r cynnig am ddymchwel rhannol yr ysbyty cyffredinol gael ei asesu ar yr un meini prawf eang â'r cynigion i ddymchwel adeiladau rhestredig ac, o bwyso a mesur popeth, yr ystyrir fod cyfiawnhad dros y cynnig ac y byddid yn cadw cymeriad ac ymddangosiad yr Ardaloedd Cadwraeth yn amodol ar gymeradwyo'r manylion priodol ar gam faterion a gadwyd. Soniwyd hefyd am y rheidrwydd i osod amod sy'n atal gwaith dymchwel rhag cael ei wneud cyn i'r holl faterion a gadwyd ar gyfer y ganolfan iechyd a llesiant arfaethedig gael eu cymeradwyo a bod contract yn ei le ar gyfer y gwaith ailddatblygu.

 

Dywedodd hefyd y canfuwyd nifer o rywogaethau ystlumod o fewn yr adeilad ac y cadarnhawyd fod y mesurau lliniaru ystlumod arfaethedig yn dderbyniol. Gellid sicrhau'r mesurau lliniaru yn ddigonol drwy amod i atal unrhyw niwed i'r rhywogaeth ystlumod.

 

Dywedodd Aelod ei fod yn croesawu'r datblygiad ac iddo fynychu'r ymgynghoriadau cyhoeddus a gynhaliwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Mae'r datblygwyr wedi dangos cydymdeimlad gyda hanes y safle ac wedi gwrando ar bobl Tredegar.

 

PENDERFYNWYD RHOI caniatâd cynllunio, gyda'r amodau a amlinellir yn adroddiad y Rheolwr Tîm Rheoli Datblygu.

 

Cais Rhif C/2019/0237 – Ysbyty Cyffredinol Tredegar, Canolfan Iechyd Tredegar a Pharc Bedwellte, Park Row, Tredegar, NP22 3NG – Cais Amlinellol ar gyfer Dymchwel Canolfan Iechyd Tredegar, Dymchwel Rhannol Ysbyty Cyffredinol Tredegar a Chodi Canolfan Iechyd a Llesiant Dosbarth D1 newydd yn cynnwys Diwygio Mynediad, Parcio Ceir, Tirlunio a Gwaith Ategol (pob mater heblaw Mynediad yn rhai wedi'i cadw)

 

Cyflwynodd y Rheolwr Tîm - Rheoli Datblygu y cais i Aelodau a thynnu sylw at bwyntiau ynddo. Yn neilltuol, eglurodd mai dim ond egwyddor y datblygiad a mynediad sy'n cael eu hystyried fel rhan o'r cais amlinellol gyda phob mater arall yn ymwneud â chynllun, maint, ymddangosiad a thirlunio wedi'u cadw i'w hystyried yn y dyfodol.

 

Rhoddodd drosolwg o'r ymagwedd dylunio at y ganolfan iechyd a llesiant arfaethedig a thynnu sylw at y cynnig am fynediad cerbydau i'r safle, a ystyrir yn dderbyniol yn amodol ar leiniau gwelededd priodol. Soniwyd hefyd am bryderon Rheolwr Tîm Amgylchedd Adeiledig am y nifer dangosol o ofodau parcio car arfaethedig a dywedodd y gallai'r mater gael ei ystyried yn fanylach ar y cam materion a gadwyd.

 

Ar wahoddiad y Cadeirydd, anerchwyd y Pwyllgor gan Rhian Lees o Gr?p RPS, yn gweithredu ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Keir Construction.

 

Dywedodd fod y ceisiadau gerbron Aelodau hefyd yn cynnig dymchwel yr adeiladau presennol ar y safle a chodi canolfan iechyd a llesiant o'r math diweddaraf. Mae'r cynnig yn rhan o strategaeth ehangach Llywodraeth Cymru i wella mynediad i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a dod â nhw'n nes at gartrefi pobl. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn falch iawn i fod yn rhan o'r newid sylweddol hwn mewn darpariaeth gofal iechyd ac yn croesawu'r cyfle y mae'n ei gynnig i ddod â safle segur gofal iechyd yma'n ôl i ddefnydd buddiol, yn neilltuol o gofio am ei gyd-destun hanesyddol.

 

Fel tîm dylunio maent yn ymwybodol iawn o, ac yn sensitif i, falchder Tredegar yng nghysylltiad y dref gyda ffurfio'r GIG. Er mai cadw ac ailbwrpasu'r adeiladau presennol fyddai wedi bod y dewis cyntaf ar gyfer y prosiect, mae anghenion clinigol a chost o ddod â nhw i gyflwr 'addas i'r diben' wedi golygu na fu hyn yn bosibl.

 

Cyflwynwyd amlinelliad y cais i ailddatblygu'r safle ar y cam hwn i roi sicrwydd y bydd y cynllun a gynigir yn parchu ei gyd-destun o fewn dwy ardal gadwraeth a'i agosatrwydd ar Barc a Gerddi Bedwellte. Mae IBI, penseiri'r cynllun, wedi paratoi dyluniad manwl a fydd gobeithio yn lliniaru unrhyw bryderon am sut y bydd yr adeilad yn cydweddu â golwg y stryd. Mae'r dyluniad arfaethedig yn cadw rhan o adeilad ysbyty gwreiddiol 1904 a gobeithir y bydd hyn yn ffurfio'r mynediad i'r ganolfan ac yn dod yn amgueddfa fyw i Dredegar a'r GIG.

 

Bu'r Bwrdd Iechyd a'r tîm ehangach mewn cysylltiad gyda'r gymuned leol ers y Gwanwyn a gwyddom am rai o'r materion sydd o bryder i breswylwyr yn cynnwys parcio, ymyrryd drwy'r cam adeiladu a'r effaith ar fywyd gwyllt.

 

Yng nghyswllt parcio, mae 70 gofod yn cael eu cynnig ar hyn o bryd a bydd y rhain ar gyfer staff ac ymwelwyr fel ei gilydd. Bydd llawer o staff yn rhan-amser neu ddim ond yn defnyddio'r ganolfan yn achlysurol ac mae'r Bwrdd Iechyd yn hyderus fod nifer y lleoedd a gynigir yn ddigonol. Serch hynny, caiff parcio ei ystyried yn fanylach ar y cam materion a gadwyd drwy gymeradwyo cynllun y safle.

 

Yn ystod y cyfnod adeiladu bydd Kier yn defnyddio maes parcio Clwb Rygbi Tredegar fel eu lloc safle, i gynnwys parcio contractwyr a bydd hyn yn lleihau'n sylweddol yr effaith ar breswylwyr lleol.

 

Yng nghyswllt bywyd gwyllt, mae adeiladau presennol yr ysbyty yn gartref i nifer o rywogaethau ystlumod. Cyn ei ddymchwel, bydd mesurau lliniaru yn eu lle i sicrhau na fydd unryw effaith arnynt. Gofynnir hefyd am y trwyddedau angenrheidiol gan Cyfoeth Naturiol Cymru cyn y bydd unrhyw waith yn digwydd.

 

Yn gyffredinol, dywedodd ei bod yn falch iawn i nodi argymhellion cadarnhaol y Swyddogion ar gyfer y ddau gais ac ers cysylltu gyntaf gyda Swyddogion yn yr Adran Cynllunio ym mis Ionawr, maent wedi rhoi cyngor pragmatig, cryno a chlir ar y ffordd orau drwy'r broses ac yn gwerthfawrogi'n fawr y safiad agored a chadarnhaol a gymerwyd. Gobeithiai y gall yr Aelodau gefnogi'r argymhellion a chymeradwyo'r ceisiadau.

 

Dilynodd trafodaeth fer pan eglurodd yr Arweinwyr Tîm Priffyrdd a Datblygu bwyntiau a godwyd gan Aelod am y trefniadau parcio ar y safle.

 

Cefnogodd Aelodau y cais a

 

PHENDERFYNWYD RHOI caniatâd cynllunio, gyda'r amodau a amlinellir yn adroddiad y Rheolwr Tîm Rheoli Datblygu.

 

 

Dogfennau ategol: