Agenda item

Drafft Adroddiad Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol 2020/2021

Ystyried adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.

 

Ar wahoddiad y Cadeirydd, siaradodd y Rheolwr Datblygu Sefydliadol    am yr adroddiad a thynnu sylw at y pwyntiau perthnasol dilynol ynddo:-

 

ØMae'r adroddiad yn rhoi manylion prif benderfyniadau drafft adroddiad blynyddol 2020/21 Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ('y Panel').

 

ØCyfarfu Aelodau Panel gyda Phenaethiaid Gwasanaethau Democrataidd a Chadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd fel rhan o'r broses ymgynghori. Y safbwynt a fynegwyd yn gyffredinol gan swyddogion ac Aelodau oedd bod llwyth gwaith sylfaenol pob Aelod etholedig yn parhau'n sylweddol, yn neilltuol yng nghyd-destun llymder, ac yn fwy na 3 diwrnod yr wythnos.

 

ØWrth wneud penderfyniadau ariannol ar gyfer yr Adroddiad Blynyddol, penderfynodd y Panel y dylai fod cynnydd o £350 y flwyddyn i'r lefel cyflog sylfaenol yn 2020/2021, sy'n gyfwerth â 2.5%. 

 

ØNodwyd y dylai pob prif awdurdod yng Nghymru dalu cyflog sylfaenol o £14,218 o 1 Ebrill 2020 i bob un o'i Aelodau etholedig os nad yw Aelod unigol wedi dewis yn bersonol ac mewn ysgrifen i dderbyn swm is.

 

ØNi thelir unrhyw gynnydd ychwanegol i uwch ddeiliaid cyflog yn 2020/21 - byddai'r Aelodau hyn yn derbyn y cynnydd elfen cyflog sylfaenol.

 

ØNid oes unrhyw newid i ad-dalu costau gofal, sy'n parhau ar uchafswm o £403 y mis pan ddangosir derbynebau gan y gofalwr. Nodwyd fod y Panel yn cynnal adolygiad o'r ddarpariaeth ar hyn o bryd gyda golwg ar annog mwy o ddefnydd gan yr Aelodau hynny sydd â chyfrifoldeb gofalu.

 

ØYn flaenorol mater i bob prif Gyngor oedd penderfynu sut y cyhoeddir cost gofal. Fodd bynnag, ar gyfer 2020/2021 mae'r Panel wedi dileu'r opsiwn hwn ac wedi dweud ei fod wedi penderfynu mai dim ond y cyfanswm a ad-dalwyd yn ystod y flwyddyn y dylai'r awdurdodau perthnasol ei gyhoeddi.

 

Wedyn gofynnwyd am farn Aelodau am yr adroddiad.

 

ØAd-dalu Costau Gofal - canmolodd y Cadeirydd fod y cynigion drafft yn parhau i gynnwys ad-dalu costau gofal ar gyfer yr Aelodau hynny sydd â chyfrifoldebau gofalu.

 

Dywedodd y Pennaeth Llywodraethiant a Phartneriaethau (Pennaeth Statudol Gwasanaethau Democrataidd) y cafodd y mater hwn ei drafod yn faith yn nigwyddiad ymgynghori'r Panel. Nodwyd fod y defnydd yn gyffredinol isel yng Nghymru ar gyfer ad-dalu costau gofal ac mae'r Panel, fel yr amlinellir uchod, yn cynnal adolygiad o'r ddarpariaeth gyda golwg ar annog mwy o ddefnydd gan yr Aelodau hynny sydd â chyfrifoldebau gofalu.

 

Caiff yr Aelodau hynny sy'n teimlo eu bod angen y gefnogaeth hon eu hannog i gysylltu â'r Pennaeth Llywodraethiant a Phartneriaethau (Pennaeth Statudol Gwasanaethau Democrataidd).

 

ØCefnogi Gwaith Aelodau Etholedig – cyfeiriodd Aelod at baragraff 2.9.1 yr adroddiad h.y. nad oedd y Panel yn ei hystyried yn briodol y dylai fod yn ofynnol i Aelodau dalu am wasanaethau rhyngrwyd i'w galluogi i gyflawni eu dyletswyddau cyngor a gofynnodd os y dylai fod terfyn uchaf ar gyfer y ddarpariaeth (er enghraifft £10-£15 y mis).

 

Dywedodd y Cadeirydd fod problemau o ran cysylltiad rhyngrwyd mewn rhai rhannau o Gymru ac awgrymodd y dylai'r pwynt perthnasol hwn gael ei drafod gydag aelodau'r Panel.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Llywodraethiant a Phartneriaethau fod rhai rhannau o Gymru yn cael problemau gyda mynediad i'r rhyngrwyd a chyflymder band eang. Fodd bynnag, nid oedd y Panel yn ei hystyried yn briodol fod Aelodau etholedig yn gorfod talu am wasanaethau rhyngrwyd i'w galluogi i gyflawni eu dyletswyddau cyngor a chaiff sylw'r Aelod ei godi fel rhan o'r broses ymgynghori ar y drafft gynigion.

 

CYTUNWYD ar y cam gweithredu hwn.

 

ØTaliadau i Aelodau Cynghorau Tref a Chymuned – mewn ymateb i gwestiwn a godwyd, dywedodd y Pennaeth Llywodraethiant a Phartneriaethau y byddai'r Cynghorau Tref a Chymuned yn gwybod am yr agwedd yma o'r adroddiad ac y byddent yn cael cyfle i roi sylwadau i'r Panel ar y drafft gynigion.

 

Nodwyd fod y Panel yn awyddus i gwrdd â chynrychiolwyr Cynghorau Tref a Chymuned drwy gyfarfod Cydlynu'r Cyngor ac y gwneir trefniadau i'r cynrychiolwyr fynychu Cyfarfod Cydlynu yn y dyfodol.

 

Mewn pleidlais unfrydol,

 

CYTUNODD y Cyngor i argymell i'r Cyngor, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef nodi'r penderfyniadau a nodir yn adroddiad drafft Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.

Dogfennau ategol: