Agenda item

Rhaglen Cyfalaf - 2019/2020-2025/2026

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau i gael ei ystyried.

 

Ar wahoddiad y Cadeirydd, siaradodd y Prif Swyddog Adnoddau yn fanwl am yr adroddiad a gyflwynwyd i Aelodau i ystyried opsiynau i ddyrannu £9.9m o gyllid cyfalaf i'r rhaglen gyfalaf am y cyfnod 2025/26 yn seiliedig ar adolygiad o'r adnoddau cyfredol sydd ar gael a thybiaeth o gyllid cyfalaf gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2024/25 a 2025/26.

 

Ymunodd y Cynghorydd J. P. Morgan â'r cyfarfod ar y pwynt hwn.

 

Gan y dynodwyd swm sylweddol o brosiectau cyfalaf (cyfanswm o 27) am y cyfnod hwn, defnyddiwyd dull blaenoriaethu (yn defnyddio'r dull gweithredu dau gam a amlinellwyd ym mharagraff 2.8 yr adroddiad) fel modd o sicrhau y gallai'r prosiectau gyda blaenoriaeth uchaf symud ymlaen. Mae Atodiad 3 sydd ynghlwm â'r adroddiad yn rhoi crynodeb o'r holl brosiectau posibl ynghyd â'u sgorau cysylltiedig a safle yn seiliedig ar y broses dau gam.

 

Aeth y Prif Swyddog Adnoddau yn ei flaen drwy ddweud bod risg sylweddol i ddyrannu'r holl gyllid a ddynodwyd i'r rhaglen cyfalaf a phe byddai prosiectau eraill gyda blaenoriaeth uwch yn cael eu dynodi yn y dyfodol neu gynlluniau a gytunwyd yn fwy na'r gyllideb a gytunwyd, byddai angen i'r Cyngor ddynodi ffynonellau cyllid ychwanegol e.e. defnyddio cronfeydd wrth gefn, cyllid refeniw, ailflaenoriaethu prosiectau. Felly, i liniaru'r risg hwn, cynigwyd cadw cyllid wrth gefn a pheidio dyrannu'r holl adnoddau sydd ar gael ar hyn o bryd.

 

Wedyn amlinellwyd y tri opsiwn a dywedodd y swyddog mai Opsiwn 3 oedd yr opsiwn a ffafrir sy'n cynnwys cyfuniad o gwtogi'r cynlluniau yng nghyfnod 1 (2019/20 i 2023/24 y mae mwyaf o alw arno) gan 20% i ganiatáu'r cyllid hwn i ateb gofynion y nifer fwyaf bosibl o gynlluniau a dyrannu i'r prosiectau gyda sgôr uchaf, yng nghyfnodau 2 a 3, gan adael cyllid ar ôl ym mhob cyfnod ar gyfer dyrannu ar ddyddiad yn y dyfodol.

 

Nodwyd fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi'n ddiweddar y byddai nifer o grantiau cyfalaf uwch ar gyfer 2019 i 2021. Byddai'r Cyngor yn derbyn £410,000 yn 2019/2020 ar gyfer y Grant Adnewyddu Priffyrdd Cyhoeddus a grant cyfalaf yn gyfanswm o £444,465 i gefnogi ysgogiad economaidd o fewn awdurdodau lleol.

 

Daeth y Prif Swyddog Adnoddau i ben drwy ddweud, drwy gynyddu'r grantiau hyn a grantiau cyfalaf eraill, fod potensial i gynnal adolygiad pellach o ailddyrannu adnoddau cyfalaf yn yr amserlen hon.

 

Cafodd Aelodau wedyn gyfle i godi cwestiynau/rhoi sylwadau ar yr adroddiad.

 

Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref - Stad Ddiwydiannol Roseheyworth - Cyfeiriodd Arweinydd y Gr?p Llafur at y prosiect cyfalaf neilltuol hwn a dywedodd i nifer o Aelodau yn 2016 ofyn am sefydlu gweithgor i wirio dilysrwydd y dull gweithredu ac wedi cynnal darn o waith ar y cynnig hwn.

 

Nodwyd y cyflwynwyd cynnig i Lywodraeth Cymru am swm o £2.5 miliwn ar gyfer 2019/2020 a holodd am statws y cynnig hwnnw h.y. a gafodd y Cyngor ei hysbysu p'un ai a fu'n llwyddiannus ai peidio.

 

Cadarnhaodd Arweinydd y Cyngor y cyflwynwyd cynnig a'i fod ef, y Rheolwr Gyfarwyddwr a'r Rheolwr Gwasanaeth, wedi cwrdd â'r Dirprwy Weinidog ac uwch weision sifil cyn gwyliau mis Awst. Teimlai i hwn fod yn gyfarfod cadarnhaol iawn a bod y cwestiynau a ofynnwyd gan Lywodraeth Cymru wedi rhoi rhywfaint o optimistiaeth. Daeth i ben drwy ddweud ei fod yn ymwybodol y byddai angen gwario unrhyw gyllid o fewn y flwyddyn ariannol bresennol ac felly disgwylid y derbynnir cais yng nghyswllt y cynnig yn ystod mis Hydref 2019.

 

Aeth Arweinydd y Gr?p Llafur ymlaen drwy ddweud, fodd bynnag, nad oedd y cyllid wedi'i ddyfarnu ar hyn o bryd ac mai'r manylyn oedd yn achosi pryder yn yr adroddiad oedd y disgwylid i'r Awdurdod hefyd gyfrannu elfen o'i gyllid ei hun at y cynllun. Yn ychwanegol, os cymeradwyir y cynnig, byddai Llywodraeth Cymru yn edrych ar yr awdurdod i sicrhau fod cyfraddau ailgylchu yn cynyddu.

 

Fodd bynnag, roedd yn sioc fawr iddo fod yr adroddiad yn nodi y byddai un safle HWRC ar agor 3 diwrnod yr wythnos a'r llall ar agor am 4 diwrnod yr wythnos, a dywedodd na fedrai ddeall sut y gallai'r dull gweithredu hwn gynyddu cyfraddau ailgylchu. Roedd yr adroddiad dilynol Eitem Rhif 28 Asesiad o Berfformiad 2018/19 wedi dangos fod yr Awdurdod wedi rhagori ar darged ailgylchu Llywodraeth Cymru yn y flwyddyn flaenorol.

 

Daeth Arweinydd y Gr?p Llafur i ben drwy ddweud gan nad yw'r ddogfen yn cynnwys unrhyw dystiolaeth y byddai'r cais am gyllid yn llwyddiannus ac y byddai'r gyfradd ailgylchu yn cynyddu (yn arbennig yn seiliedig ar y dull gweithredu 3 a 4 diwrnod), na fedrai gefnogi'r prosiect cyfalaf hwn.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor y rhoddwyd blaenoriaeth i'r prosiect fel rhan o broses y Cyngor ac os yw'r cais am gyfalaf yn llwyddiannus, cyflwynir adroddiadau pellach i'r Cyngor i brofi'r opsiynau gorau ar gyfer defnyddio'r safle newydd a'r safle presennol ac y byddai'r adroddiad hwn yn cynnwys manylion y trefniadau gweithredu.

 

Cyfeiriodd Arweinydd y Gr?p Llafur ar y dull blaenoriaethu a ddefnyddiwyd fel ffordd o sicrhau y gallai'r prosiectau cyfalaf gyda'r flaenoriaeth uchaf fynd rhagddynt a thybiai fod yn sicr fod y cynllun wedi cael blaenoriaeth wleidyddol, gan ei fod yn amau y byddai swyddogion wedi cyflwyno prosiect fyddai'n cadw'r sefyllfa bresennol yn nhermau dyddiau gweithredu ac a fedrai o bosibl arwain at ostyngiad yn y gyfradd ailgylchu.

 

Gwelliant a Gynigiwyd:

Dywedodd Arweinydd y Gr?p Llafur y byddai'n cefnogi'r prosiect yn seiliedig ar y gwelliant dilynol h.y. os cymeradwyir y cais am gyllid Llywodraeth Cymru ac os cynhyrchir adroddiad yn amlinellu dull gweithredu'r Cyngor yn y dyfodol. Ychwanegodd, os darperir gwasanaeth i'r cyhoedd, bod  Aelodau yn pleidleisio ar y trefniadau gweithredol (h.y. oriau/dyddiau) ei fod yn dilysu'r cyfiawnhad dros yr ail Ganolfan Gwastraff Ailgylchu Cartrefi (HWRC). Os yw'r cais yn llwyddiannus byddai'n rhaid i'r Gweinidog deimlo fod y cyfleuster yn hanfodol i Flaenau Gwent barhau ei drywydd ar i fyny i gyflawni'r targed ailgylchu, cyflwynir adroddiad i'r Cyngor yng nghyswllt glo mân y cynnig.

 

Dywedodd Arweinydd y Gr?p Llafur fod yr wybodaeth y cyfeiriodd yr Aelod ato yn ffurfio rhan o'r ddogfen ac, felly, y dylid gwrthod y pwynt o drefn hwn.

 

Dywedodd yr Aelod na ddylai'r Arweinydd fod wedi codi pwynt o drefn pan fod yr wybodaeth a godwyd yn ddilys gan fod yr adroddiad yn dweud yn glir y byddai un HWRC ar agor am 3 diwrnod a'r HWRC arall ar agor am 4 diwrnod yr wythnos. Felly, byddai Aelodau yn pleidleisio ar yr wybodaeth a gynhwysir yn yr adroddiad.

 

Goblygiadau Refeniw - Dywedodd Aelod arall y teimlai y byddai'r trefniadau agor 3 a 4 diwrnod yn achosi peth dryswch a holodd yng nghyswllt y goblygiadau refeniw ar gyfer y cynllun hwn os yw'n symud yn ei flaen.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor y byddai'r goblygiadau refeniw yn cael eu mapio mas os yw'r cynnig yn llwyddiannus ac y caiff yr wybodaeth hon wedyn ei chyflwyno i'r Cyngor ei hystyried. Aeth ymlaen drwy ddweud fod y gwaith yng nghyswllt y cynnig wedi dechrau yn 2016 dan yr arweinyddiaeth flaenorol a gydnabu oedd wedi bod yn ddigon da i'w gynnwys ef a'r Dirprwy Arweinydd presennol fel rhan o'r trafodaethau. Fodd bynnag, pe byddai gwaith ar y cynllun hwn wedi dechrau yn 2016 ac y cyflwynwyd cynnig posibl, byddai wedi bod yn ddyletswydd ar y swyddogion perthnasol yn cynnwys swyddogion o fewn Cyfarwyddiaeth yr Amgylchedd ac Adnoddau i gynllunio ar gyfer unrhyw oblygiadau refeniw fyddai'n digwydd yn y dyfodol.

 

Adolygu Darpariaeth Chwarae - cyfeiriodd Aelod at y posibilrwydd i gynnig ar gyfer cyllid dan y cynllun Chwarae Newydd a lansir gan Lywodraeth Cymru. Dywedodd fod cryn dipyn o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cael ei brofi yn yr un ardal chwarae fach yn Ward Sirhywi ac i hyn gael ei waethygu gan ddatblygiad newydd diweddar ar hen safle Ysgol Rhoslan.

 

Aeth ymlaen drwy ddweud fod Aelodau yn gwybod o'r wasg am broblem gynyddol gordewdra mewn plant ifanc a dywedodd fod angen gwella darpariaeth chwarae i ganiatáu plant i ddod yn fwy egnïol. Wedyn gofynnodd yr Aelod yn ffurfiol am gynnal astudiaeth dichonolrwydd yn ardal Sirhywi gyda golwg ar wella'r cyfleusterau chwarae sydd ar gael ar hyn o bryd.

 

Adolygiad CCTV - dywedodd Aelod (oedd hefyd yn gynrychiolydd wedi'i benodi ar Banel Heddlu a Throseddu) iddi gael ei holi yng nghyfarfod diwethaf y Panel am y sefyllfa bresennol parthed CCTV ym Mlaenau Gwent. Dywedodd fod awdurdodau eraill wedi cael cynnal eu CCTV ym Mhencadlys yr Heddlu a bod yn awr angen ymateb gan Flaenau Gwent.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod y Cyngor yn trafod y rhaglen cyfalaf yn hytrach na CCTV a materion gweithredol.

 

Eglurodd y Rheolwr Gyfarwyddwr nad oedd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu wedi cynnig cyllid i alluogi Blaenau Gwent i ddefnyddio'r system y cyfeirir ato. Mae swyddogion o Heddlu Gwent yn gweithio ar achos busnes i gyflwyno hyn ond nid yw'r wybodaeth wedi'i derbyn hyd yma.

 

Mewn ymateb i gais i gysylltu â'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu oherwydd derbyn gwybodaeth sy'n gwrthddweud ei hun, dywedodd y Cadeirydd y byddai swyddogion yn dilyn y mater hwn.

 

Rhaglen Buddsoddi mewn Mynwentydd - croesawodd Aelod y buddsoddiad cyfalaf o £360,000 ar gyfer mynwentydd gan fod mawr angen hyn i wella'r ardaloedd ar draws Blaenau Gwent. Fodd bynnag, gan na fyddai £360,000 yn ddigon i wneud yr holl waith cynnal a chadw angenrheidiol o fewn mynwentydd, gofynnodd y dylai unrhyw arian pellach ar hap a dderbyniwyd gan Amlosgfa Gwent hefyd gael eu defnyddio fel rhan o'r rhaglen buddsoddi mewn mynwentydd.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod y prosiect hwn hefyd wedi derbyn mewnbwn gwleidyddol gan nad oedd mynwentydd wedi eu gosod o fewn y 12 prosiect uchaf o fewn y matrics sgorio. Cydnabu fod angen mwy o waith i drin cyflwr gwael y mynwentydd. Fodd bynnag, yng nghyswllt unrhyw ad-daliad gan Amlosgfa Gwent yn y dyfodol, mae'r Cyngor wedi cytuno ar bolisi y byddai unrhyw arian ar hap yn cael ei neilltuo i gronfeydd cyffredinol wrth gefn yn y lle cyntaf.

 

Aeth yr Arweinydd ymlaen drwy ddweud ei fod yn cydymdeimlo gyda'r Aelod ac eglurodd fod ymrwymiad gwleidyddol i adfer mynwentydd i fod yn ardaloedd urddasol.

 

Gwelliant a Gynigiwyd - Dywedodd Arweinydd y Gr?p Llafur nad oedd, yn anffodus, yn credu y byddai cyfraddau ailgylchu yn gwella gyda'r safleoedd ond ar agor am 3 a 4 diwrnod a chynigiodd y dylid cymeradwyo Opsiwn 3 gyda'r gwelliant dilynol h.y. nad oes gostyngiad yn nyddiau gweithredu'r Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Cartrefi arfaethedig yn Stad Ddiwydiannol Roseheyworth neu safle presennol Cwm Newydd ac y dylid cyflwyno achos busnes cadarn i'r Cyngor.

 

Eiliwyd y gwelliant.

 

Cynigiodd Arweinydd y Cyngor y dylid cymeradwyo Opsiwn 3 yn yr adroddiad a rhoddodd sicrwydd, os yw cynnig HWRC yn llwyddiannus, y byddai unrhyw broblemau am refeniw ac arferion gweithredol yn dod yn ôl i'r Cyngor am y drafodaeth lawnaf.

 

Gofynnwyd am bleidlais wedi'i chofnodi ac felly cafodd ei chynnal yng nghyswllt:

 

O blaid y Gwelliant (HWRC Canolfan Ddiwydiannol Roseheyworth, na ddylai fod unrhyw ostyngiad yn y dyddiau gweithredu yn y safle arfaethedig na'r safle bresennol ac y dylid cyflwyno achos busnes cadarn i'r Cyngor):-

 

Cynghorwyr D. Bevan, M. Cross, K. Hayden, H. McCarthy, J. C. Morgan, T. Sharrem, T. Smith, S. Thomas, H. Trollope, D. Wilkshire, B. Willis, L. Winnett.

 

O blaid Opsiwn 3 (Opsiwn a Ffafrir) – Cynghorwyr G. Collier, J. Collins, M. Cook, N. Daniels, D. Davies, M. Day, P. Edwards, S. Healy, J. Hill, J. Mason , C. Meredith, M. Moore, J. P. Morgan, L. Parsons, G. Paulsen, K. Rowson, B. Summers, B. Thomas, J. Wilkins.

 

Felly, ni chafodd y gwelliant a gynigiwyd ei gario.

 

Ymatalodd y Cynghorydd J. Milland ei bleidlais.

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 3, sef:-

 

Cyfuniad o gwtogi'r cynlluniau yng nghyfnod 1 (2019/22 i 2023/24 y mae mwyaf o alw arno) gan 20% i ganiatáu'r cyllid i ddiwallu gofynion y nifer fwyaf bosibl o gynlluniau i gwrdd â gofynion y nifer uchaf posibl o gynlluniau a dyrannu i'r prosiectau sgôr uchaf yng nghyfnodau 2 a 3 gan adael y cyllid ar ôl ym mhob cyfnod i'w ddyrannu ar ddyddiad yn y dyfodol.

 

Cynigiwyd yr eithriadau dilynol i'r cwtogi 20%:-

 

·        Prosiect Offer Cymunedol - mae Cytundeb Lefel Gwasanaeth yn ei le ar gyfer y swm contract.

 

·        HWRC – mae'r cais yn cynrychioli 20% o amcangyfrif y gost ac yn tybio 80% o gyllid Grant Cyfalaf Llywodraeth Cymru.

 

·        Prosiect Mynwentydd - £210,000 wedi'i gynnig gan y Pwyllgor Gweithredol dros 3 blynedd

 

·        Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl - wedi cwtogi gan £150,000 yn seiliedig ar y lefelau galw cyfredol.

 

Cymeradwywyd y Rhaglen Cyfalaf ddiwygiedig ar gyfer 2025/2026.

 

Dogfennau ategol: