Agenda item

Cynllun Datblygu Strategol - Ardal Prifddinas-Ranbarth Caerdydd

Ystyried adroddiad y Swyddogion ar y cyd.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y cyd Swyddogion ar gyfer ei ystyried.

 

Siaradodd yr Aelod Gweithredol - Adfywio a Datblygu Economaidd yn fyr am yr adroddiad ac esboniodd fod datblygu cynllun datblygu strategol ar gyfer Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn brosiect allweddol. Er mwyn symud ymlaen gyda pharatoi'r cynllun yn rhanbarthol, cynigiwyd sefydlu Panel Cynllunio Strategol a fyddai'n cynnwys o leiaf un aelod o bob awdurdod. Dyrannwyd un Aelod ar y panel ac un bleidlais i Flaenau Gwent yn unol â'r dyraniad pleidleisio pwysedig.

 

Nodwyd na fyddai sefydlu'r Panel yn lleihau cylch gorchwyl y Pwyllgorau Cynllunio ym mhob bwrdeistref.

 

Byddai cost sefydlu a rhedeg y panel am y 5 mlynedd cyntaf yn £3m pro rata ar draws pob awdurdod ac i Flaenau Gwent byddai hyn yn £136,590 mewn camau dros 5 mlynedd fyddai'n gyfwerth â £25,318.

 

Mynegodd yr Aelod Gweithredol ei ddiolch i'r Rheolwr Tîm - Rheoli Adeiladu a Chynlluniau Datblygu a'i thîm am eu gwaith gwych ar y Cynllun Datblygu Lleol. Cynigwyd penodi'r Cynghorydd Mandy Moore yn rhinwedd ei swydd fel Is-gadeirydd y Pwyllgor Cynllunio i gynrychioli Blaenau Gwent ar y Panel Cynllunio Strategol.

 

Dywedodd Arweinydd y Gr?p Llafur ei fod yn frwd i hyrwyddo'r cysyniad hwn ac yn ei gefnogi. Cyfeiriodd at benodi'r Panel Cynllunio Strategol a dywedodd y byddid yn dirprwyo cyfrifoldeb i'r cynrychiolydd wneud penderfyniadau ar ran y Cyngor ac y teimlai y dylid bod wedi penodi Aelod Gweithredol i'r swydd. Daeth i ben drwy ofyn am y rhesymeg dros y penodiad ac eglurdeb yn nhermau lefel y gydnabyddiaeth ariannol.

 

Eglurodd yr Aelod Gweithredol - Adfywio a Datblygu Economaidd i'r penodiadau i'r Panel gael eu penderfynu gan yr Arweinydd ac i'r Aelod gael ei henwebu yn rhinwedd ei swydd fel Is-gadeirydd y Pwyllgor Cynllunio gan fod y Cynllun Datblygu Safonol o fewn cylch gorchwyl y portffolio hwn. Er na fedrai egluro penodiadau i'r Panel gan awdurdodau lleol eraill yn nhermau cydnabyddiaeth ariannol, ni fyddai unrhyw daliadau cyfrifoldeb uniongyrchol - dim ond treuliau teithio fyddai'n cael eu had-dalu.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor ei bod wedi cymryd peth amser ac wedi bod yn broses anodd i gyrraedd y sefyllfa hon ac y bu llawer o drafodaethau ar hyd y ffordd a chanmolodd y swyddogion am eu gwaith mawr.

 

Cadarnhaodd nad oedd y trefniadau apwyntiad yn wahanol i'r hyn y mae awdurdodau eraill yn ei awgrymu a'i bod yn hollol iawn bod symudiad cryf i sicrhau cydbwysedd rhwng y rhywiau ar y pwyllgor a'i fod yn bersonol falch y gellid cefnogi'r cais. Roedd hefyd ddadl gref i ledaenu profiad unigol a chynllunio olyniaeth. Cadarnhaodd fod yr adroddiad yn parhau'n dawel ar unrhyw beth heblaw costau teithio.

 

Mewn pleidlais unfrydol

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 2, sef paratoi Cynllun Datblygu Strategol ar gyfer Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a chytunwyd:-

 

-      Mai Bro Morgannwg fyddai'r Awdurdod Cyfrifol ar gyfer dibenion paratoi'r Cynllun Datblygu Strategol ar gyfer Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.

 

-      Awdurdodi'r Awdurdod Cyfrifol i gyflwyno'r cynnig am Gynllun Datblygu Strategol ar gyfer Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i'r Gweinidog ar ran y 10 Awdurdod Cynllunio Lleol yn y rhanbarth.

 

-      Bod yr ardal cynllunio strategol yn cynnwys y 10 ardal awdurdod cynllunio lleol o fewn Prifddinas-Ranbarth Caerdydd fel y'u dangosir ar y map ynghlwm yn atodiad A yr adroddiad.

 

-      Bod y swyddogion perthnasol yn ymgysylltu gyda Llywodraeth Cymru wrth lunio rheoliadau'r Cynllun Datblygu Strategol i gyflenwi'r trefniadau llywodraethiant ar gyfer y Cynllun Datblygu Strategol fel yr amlinellir yn yr adroddiad.

 

-      Cytuno ar sefydlu'r Panel Cynllunio Strategol Interim cyn sefydlu'r Panel Cynllunio Strategol yn ffurfiol. Yr Aelod a enwebwyd ar gyfer y Cynghorydd hwn yw'r Cynghorydd Mandy Moore (Is-gadeirydd y Pwyllgor Cynllunio) ar y Panel Strategol Interim. Dirprwywyd awdurdod i'r Cynghorydd i gymryd penderfyniad dechreuol ar baratoi'r Cynllun Datblygu Strategol (gyda phleidlais wedi'i phwysoli yn unol â'r tabl yn Argymhelliad 4(i)) ac wedyn ar y Panel Cynllunio Strategol.

 

-      Pe na byddai'r Aelod mwyach yn eistedd ar y Panel Cynllunio Strategol Interim, dirprwyo awdurdod i Arweinydd y Cyngor i enwebu Aelod newydd i gynrychioli'r Cyngor ar y Panel Cynllunio Strategol Interim a'r Panel Cynllunio Strategol.

 

-      Bod tîm Swyddogion Cynllun Datblygu Strategol rhanbarthol i symud ymlaen i baratoi'r Cynllun i'w benodi gan gynrychiolwyr y Panel Cynllunio Strategol Interim gyda chefnogaeth adnoddau dynol priodol gan yr Awdurdod Cyfrifol.  

 

 

Dogfennau ategol: