Agenda item

Paratoadau ar gyfer Gadael yr Undeb Ewropeaidd

Ystyried adroddiad y Swyddogion ar y cyd.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y cyd Swyddogion i gael eu hystyried.

 

Dechreuodd y Rheolwr Gyfarwyddwr drwy ddweud fod hwn yn bwnc cyfoes iawn ar hyn o bryd a bod yr adroddiad yn rhoi diweddariad i Aelodau ar y gwaith paratoi a wnaed yn y Cyngor i baratoi ar gyfer i'r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd.

 

Nodwyd y cafodd yr adroddiad hefyd ei ystyried yng nghyfarfod y Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol yn rhoi manylion y materion a chanlyniadau gadael yr Undeb Ewropeaidd ac yn ychwanegol cynhaliwyd sesiwn wybodaeth i Aelodau ar 16 Hydref a roddodd gyfle i Aelodau ymchwilio'r materion ymhellach. Nodwyd y cynhaliwyd sesiwn wybodaeth i Aelodau ym mis Ionawr 2019 pan mai'r diwrnod gadael a fwriadwyd bryd hynny oedd 31 Mawrth 2019.

 

Er bod y dyddiad a'r ffordd y bydd y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd yn ansicr iawn, cynhaliwyd asesiad effaith penodol ar Brexit ac mae'r gwaith yn parhau i sicrhau y gall y Cyngor a'r gymuned i ddelio gyda chanlyniad gadael.

 

Byddai gwaith paratoi yn awr yn parhau wedi'i alinio gyda dyddiad gadael o 31 Hydref 2019. Mae'r Cyngor hefyd yn gweithio mewn partneriaeth ac fel rhan o Rwydwaith Cymru gyfan. Mae gwaith hefyd yn parhau mewn cysylltiad â Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i sicrhau fod paratoadau yn gydlynus ar draws llywodraeth genedlaethol a llywodraeth leol.

 

Nodwyd fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynllun gweithredu ar gyfer Brexit heb gytundeb. Mae Blaenau Gwent wedi cynnal asesiad effaith lefel uchel sy'n dynodi sut y byddai'r risgiau hyn yn effeithio ar y gymuned a'r gwaith a wnaed i liniaru'r risgiau hynny. Roedd risgiau lefel uchel yn cynnwys colli cyllid yr Undeb Ewropeaidd ac ymyrryd ar gadwyni cyflenwi. Byddai hefyd effaith ar weithlu busnesau a chyflenwyr lleol. Felly, byddai angen cadw golwg barhaus ar y materion hyn o fewn y gymuned.

 

Gadawodd y Cynghorydd J. C. Morgan y cyfarfod ar y pwynt hwn.

 

Roedd gadael yr Undeb Ewropeaidd hefyd wedi ei ddynodi fel risg yn y gofrestr risg corfforaethol. Byddai Aelodau yn cofio y cynhaliwyd trafodaeth mewn cyfarfod diweddar i fonitro'r gyllideb lle soniwyd y gallai hefyd fod risg bosibl i gyllideb y Cyngor ei hun. Mae swyddogion hefyd yn gweithio gyda'r Fforwm Cydnerthedd Lleol i i fynd i'r afael ag unrhyw faterion argyfyngau sifil posibl ac roedd swyddogion yn rhan o drefniadau Operation Yellow Hammer. I sicrhau y caiff pob cam rhesymol eu cymryd er mwyn i'r Cyngor fod mor barod ag y gallai'n bosibl fod, caiff y trefniadau hyn eu cynyddu yn barod ar gyfer 31 Hydref.

 

Dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr ei bod yn gwerthfawrogi fod y sefyllfa'n parhau'n ansicr iawn - hyd yn oed pe byddai'r gadael yn digwydd ar 31 Hydref ni ddisgwylid unrhyw effaith dros nos - byddai hyn yn dod yn amlwg dros yr wythnosau a misoedd i ddod. Roedd hyn yn enghraifft dda o holl wasanaethau'r Cyngor yn cydweithio er mwyn ceisio lliniaru'r sefyllfa a allai ddigwydd yn y dyfodol. Daeth y Rheolwr Gyfarwyddwr i ben drwy ddweud, wrth i'r sefyllfa ddatblygu, y byddai cyfathrebu'n parhau gydag Aelodau ac y rhoddir gwybodaeth i'r cyhoedd ar faterion fel y deuant yn amlwg.

 

Gadawodd y Cynghorydd S. Thomas y cyfarfod ar y pwynt hwn.

 

Canmolodd Aelod yr adroddiad ond mynegodd ei bryder y gwyddai o wybodaeth a dderbyniwyd fod hefyd bosibilrwydd o brinder bwyd a allai effeithio ar y Cyngor e.e. prydau ysgol ac y gallai hefyd fod problem o ran parhad cyflenwadau meddygol.

 

Dychwelodd y Cynghorydd S. Thomas i'r cyfarfod ar y pwynt hwn.

 

Aeth yr Aelod ymlaen drwy ddweud fod astudiaethau cyllidol hefyd yn nodi'r posibilrwydd o ddiffyg £100bn yn yr Undeb Ewropeaidd a allai sbarduno llymder ac amddifadedd a allai gael effaith niweidiol ar Flaenau Gwent, ei phreswylwyr a Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Dychwelodd y Cynghorydd J. C. Morgan i'r cyfarfod ar y pwynt hwn.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ar Operation Yellow Hammer, cadarnhaodd y Rheolwr Gyfarwyddwr y dynodwyd y risgiau fel rhan o fanylion yr adroddiad. Dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr yng nghyswllt:-

 

-      Cyflenwadau bwyd - mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio'n agos gyda chyflenwyr ond nad oedd unrhyw broblemau disgwyliedig yn cael eu hamlygu ar hyn o bryd.

-      Mae'r trefniadau ar gyfer tanwydd yn cael eu trin drwy argyfyngau sifil posibl a derbyniwyd sicrwydd y gallai tanwydd gael ei reoli ar lefel Cymru gyfan.

-      Mae Gwasanaethau Cymdeithasol yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr mewn Iechyd - roedd parhad cyflenwadau meddygol yn broblem allweddol a amlygwyd.

-      Cyllideb y Cyngor - byddai adroddiadau chwarterol yn monitro'r gyllideb yn dangos unrhyw risgiau posibl fel y gallant effeithio yn y dyfodol ac y byddai'n rhaid rhoi ystyriaeth i'r risgiau hyn yn Strategaeth Ariannol Tymor Canol y Cyngor. 

 

Dywedodd y Swyddog Polisi fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig hefyd wedi cyhoeddi Adroddiad Parodrwydd sy'n cynnwys camau paratoi pwysig ar gyfer awdurdodau lleol, busnesau a chyrff trydydd sector.

 

Cydlyniaeth Gymunedol - Cyfeiriodd Aelod at gydlyniaeth gymunedol a dywedodd y gwnaed gwaith gwych yng nghyswllt y Rhaglen Ailsefydlu. Mae angen i swyddogion fod yn ymwybodol o'r rhaglen hon i sicrhau nad yw Brexit yn effeithio arnynt.

 

Dechreuodd yr Aelod drwy ddweud ei fod yn ymwybodol:-

-      fod nifer sylweddol o ddinasyddion Ewropeaidd yn gweithio i'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a meddygon teulu

-      y gall fod mewnlif o ddinasyddion Prydeinig yn dychwelyd o'r Undeb Ewropeaidd i'r Deyrnas Unedig a Blaenau Gwent yn neilltuol a bod angen cydlynu gyda landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a all fod ag eiddo gwag ar gael i letya'r mewnlif hwn o bobl; a

-      bod y rhan fwyaf o insiwlin yn cyrraedd o Ewrop ac y gallai hyn o bosib arwain at brinder insiwlin.

 

Dywedodd y Swyddog Polisi fod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn cyfathrebu ar hyn o bryd gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gael gwell dealltwriaeth o ddinasyddion y Deyrnas Unedig sy'n preswylio yn Ewrop.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol fod mater cyflenwadau meddygol yn broblem sy'n wynebu'r Deyrnas Unedig i gyd a bod Gwasanaethau Cymdeithasol yn gweithio gyda chydweithwyr mewn Iechyd oedd wedi pentyrru meddyginiaeth am gyfnod o 6 mis. Nodwyd y medrid pentyrru 95% o feddyginiaethau ond bod 5% o feddyginiaethau (yn cynnwys inswlin) na fedrid cyrchu cyfeintiau digonol ohonynt. Mae meddygon teulu yn ceisio lliniaru a mynd i'r afael â'r broblem drwy argymell newid meddyginiaeth ar gyfer rhai cleifion ond mae gwaith yn parhau o fewn Iechyd i drin y mater hwn.

 

Dywedodd Aelod fod y cyflenwad o wrthfiotegau hefyd yn achosi pryder.

 

Gadawodd y Cynghorydd J. P. Morgan y cyfarfod ar y pwynt hwn.

 

Canmolodd Aelod arall yr adroddiad ardderchog a dywedodd ei fod yn hyderus dan yr amgylchiadau fod Blaenau Gwent mor barod ag y gallai fod. Gofynnodd i'r Rheolwr Gyfarwyddwr gyfleu'r sylwadau hyn i'r swyddogion dan sylw.

 

Gadawodd y Cynghorydd P. Edwards y cyfarfod ar y pwynt hwn.

 

Mewn pleidlais unfrydol

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a nodi'r gwaith paratoi sy'n mynd rhagddo i baratoi ar gyfer i'r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd.

 

Gadawodd y Cynghorydd J. P. Morgan y cyfarfod ar y pwynt hwn. 

 

Dogfennau ategol: