Agenda item

Asesiad Perfformiad 2018/2019

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth - Perfformiad a Democrataidd.

 

 

Cofnodion:

 

Ystyriodd Aelodau adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth - Perfformiad a Democrataidd.

 

Mae'r Asesiad Perfformiad yn cyflawni'r goblygiadau statudol a ddodwyd ar y Cyngor fel rhan o ofynion Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 ac mae angen ei gyhoeddi erbyn 31 Hydref bob blwyddyn. Caiff yr adroddiad ei archwilio'n fewnol gan Swyddfa Archwilio Cymru.

 

Gadawodd y Cynghorydd J. Millard y cyfarfod ar y pwynt hwn.

 

Mae Atodiad 1 yr adroddiad yn rhoi manylion ac yn amlygu'r gweithgareddau allweddol a chynnydd a wnaed ar bob un o Amcanion Llesiant y Cyngor.

 

Addysg - Roedd Arweinydd y Gr?p Llafur yn cydnabod pwysigrwydd y ddogfen hon a'i bod yn gydnaws gyda Chynllun Corfforaethol y Cyngor. Fodd bynnag, mynegodd ei bryder y dylai'r wybodaeth ynddo fod wedi bod yn fwy manwl ac yn adlewyrchiad manwl gywir. Fel esboniad, dywedodd er y cofnodwyd fod canlyniadau TGAU mewn ysgolion uwchradd wedi gwella, ei fod wedi derbyn gwybodaeth i'r gwrthwyneb fod Estyn yn arolygu un o'r ysgolion ar hyn o bryd oherwydd ei pherfformiad a fod canlyniadau wedi gostwng mewn ysgolion eraill.

 

Esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg fod addysg yn cael ei ad-drefnu'n genedlaethol ar hyn o bryd ac fel rhan o'r broses bod y mesurau adrodd hefyd yn newid. Adeg paratoi'r ddogfen, y mesur adrodd oedd 'Lefel 2+' ac roedd perfformiad ar lefel TGAU yn ystod haf 2019 wedi cynyddu o 41.1% i 44.5%. Yn y dyfodol, y mesur adrodd cenedlaethol fyddai 'CAT 9'.

 

Unwaith eto mynegodd Arweinydd y Gr?p Llafur ei bryder fod yr wybodaeth a dderbynnir yn gwrthddweud ei hunan h.y. mae'r wybodaeth o fewn yr hunan-arfarnu yn dweud fod cynnydd da'n cael ei wneud ond mae Estyn yn arolygu ysgol oherwydd ei pherfformiad. Felly, dywedodd nad oedd yr hunan-asesiad yn rhoi darlun cywir.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg fod perfformiad wedi cynyddu o 41.1% i 44.5% ar gyfer mesur perfformiad cenedlaethol Lefel 2+ ar gyfer haf 2018. Mae'r perfformiad hwn yn cyfeirio at 5 TGAU yn cynnwys Saesneg a Mathemateg.

 

Mesurau Cenedlaethol Atebolrwydd Cyhoeddus - 21ain yng Nghymru ar gyfer clirio Tipio Anghyfreithlon - dywedodd Aelod fod Blaenau Gwent bellach yn 21ain yng Nghymru yn nghyswllt y mesur hwn a gofynnodd am esboniad pam fod yr amserlen gyfartalog ar gyfer clirio tipio anghyfreithlon ym Mlaenau Gwent bron deirgwaith uwch na chyfartaledd Cymru. Dywedodd mai Blaenau Gwent oedd yr awdurdod oedd yn perfformio orau dan y weinyddiaeth flaenorol.

 

Cydnabu'r Aelod Gweithredol - Amgylchedd fod angen i'r ystadegau hyn wella ond fod mesurau yn cael eu cyflwyno i fynd i'r afael â'r mater hwn sy'n cynnwys cynnig cyfalaf ar gyfer Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartrefi newydd ac y byddai yn cymryd camau gweithredu i erlyn unigolion am droseddau tipio anghyfreithlon.

 

Mewn ateb i gwestiwn pellach dywedodd yr Aelod Gweithredol - Amgylchedd y byddai mesurau a chamau gweithredu yn cael eu rhoi mewn lle yn y dyfodol agos i wella perfformiad a sefyllfa Blaenau Gwent yn genedlaethol yn nhermau'r mesur hwn.

 

Dywedodd Aelod y cafodd y Pwyllgor Craffu yr oedd ei gylch gorchwyl yn cynnwys hwn gael ei ganslo ac y dylai'r mater fod wedi cael ei ystyried yn y Pwyllgor hwnnw a sefydlu gweithgor i edrych ar y mater. Cadarnhaodd yr Aelod Gweithredol - Amgylchedd y cyflwynir unrhyw adroddiad i'r Pwyllgor Craffu perthnasol ei ystyried.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol mai Blaenau Gwent fu'r awdurdod gyda'r perfformiad gorau am un flwyddyn. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn edrych ar hyn o bryd sut y gaiff data ystadegol ei gymharu ar draws pob awdurdod gan fod awdurdodau yn adrodd yn wahanol ar y mesur 5 diwrnod. Er mwyn gwella perfformiad mae'r awdurdod yn edrych ar arfer gorau yn genedlaethol a bydd Llywodraeth Cymru yn cynghori ar y mesur adrodd yn y dyfodol.

 

22ain yng Nghymru am y canran o sefydliadau bwyd oedd yn fras yn cydymffurfio gyda Safonau Glanweithdra Bwyd - Mynegodd Aelod ei bryder mai Blaenau Gwent oedd yr awdurdod gyda'r perfformiad gwaethaf yng nghyswllt y mesur hwn a gofynnodd os oedd hyn oherwydd diffyg adnoddau. Cyfeiriodd at y geiriau 'yn fras yn cydymffurfio' a gofynnodd am sicrwydd fod safleoedd bwyd ym Mlaenau Gwent yn ddiogel i brynu bwyd ganddynt ac yn ddiogel i fwyta ynddynt gan fod angen rhoi sicrwydd i aelodau'r cyhoedd.

 

Cadarnhaodd yr Aelod Gweithredol - Amgylchedd nad oedd y sefyllfa yn foddhaol a dywedodd y cynhelir adolygiad manwl i wella perfformiad.

 

Ar bwynt o eglurhad, dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol fod y dangosydd sgorio yn fesur a briodolwyd ac yn berthnasol i'r sefydliad/person yn gweini'r bwyd ac nad oedd yn fesur i'r Cyngor yn nhermau cydymffurfiaeth gyda deddfwriaeth.

 

Felly nid oedd yn gwestiwn o berfformiad neu adnoddau'r Cyngor nac oherwydd nad yw'r Cyngor yn archwilio'r safleoedd - mae'r mesur hwn yn cyfeirio'n unig at y sefydliadau sy'n cydymffurfio gyda'r rheoliadau. Mae'r Cyngor yn bendant iawn yn cydymffurfio gyda deddfwriaeth Iechyd yr Amgylchedd i sicrhau fod bwyd yn ddiogel i'w brynu a'i fwyta.

 

Gadawodd y Cynghorydd L. Parsons y cyfarfod ar y pwynt hwn.

 

Cyfeiriodd Aelod at safleoedd bwyd-i-fynd a dywedodd, os oes nifer ddigonol o Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd, y gellid cynnal ymweliadau dychwel a chymryd camau priodol os nad yw busnesau yn cydymffurfio gyda'r rheoliadau.

 

Dychwelodd y Cynghorydd L. Parsons i'r cyfarfod ar y pwynt hwn.

 

Data Presenoldeb Ysgolion/Lefelau Cyrhaeddiad - mewn ateb i gwestiwn am ddata presenoldeb ysgolion, dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg mai dim ond ar rai adegau o'r flwyddyn y cyhoeddir data presenoldeb h.y. mis Mai a mis Hydref. Yng nghyswllt data presenoldeb 2017/18, roedd Blaenau Gwent yn ail yn ei deulu o awdurdodau lleol (Castell-nedd Port Talbot, Merthyr Tudful, Caerffili a Rhondda Cynon Taf) ar gyfer ysgolion cynradd ac yn drydydd ar gyfer ysgolion uwchradd. Yng nghyswllt absenoldeb heb awdurdod, mae Blaenau Gwent yn yr ail yn y teulu ar gyfer ysgolion cynradd ac yn gyntaf ar gyfer ysgolion uwchradd ac yng nghyswllt absenoldebau cyson, roedd Blaenau Gwent yn gydradd gyntaf yn y teulu ar gyfer ysgolion cynradd 1.7% ac am ysgolion uwchradd 4.1% - mae hyn yn is na chyfartaledd Cymru gyfan o 4.6% ar gyfer ysgolion uwchradd.

 

Cyfeiriodd yr Aelod at rai newidiadau sylweddol a ddigwyddodd mewn ysgolion uwchradd yn ystod 2018 a dywedodd ar y pryd fod bwlch sylweddol rhwng yr ysgolion sy'n perfformio orau a'r ysgolion sy'n perfformio waethaf. Er mwyn mynd i'r afael â'r mater rhoddwyd cryn dipyn o adnoddau i rai ysgolion i gau'r bwlch perfformiad a gofynnodd os oedd y newidiadau hyn wedi gwella lefelau perfformiad.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg y bu ad-drefnu cenedlaethol ar addysg ac y cyflwynwyd set newydd o adroddiadau mesur ar gyfer 2019 dan yr enw CAT 9 sy'n fesur seiliedig ar bwyntiau a ddyfernir i bob ysgol. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y cyflwynir adroddiad ar gyfer Rhanbarth Consortiwm De Ddwyrain Cymru i'r Pwyllgor Craffu (25 Hydref) ac wedyn i'r Pwyllgor Gweithredol sy'n rhoi manylion mesur adrodd newydd CAT 9. Mae pob ysgol wedi gwneud cynnydd yn nhermau perfformiad ar gyfer y flwyddyn academaidd hon. Nodwyd nad yw'r Lefel 2+ cyfredol yn fesur cenedlaethol a gaiff ei adrodd.

 

Dywedodd yr Aelod ei fod yn bryderus a'i fod eisiau sicrwydd fod y bwlch perfformiad rhwng yr ysgolion sy'n perfformio orau a'r ysgolion sy'n perfformio waethaf wedi gostwng. Dywedodd y Cadeirydd y caiff y mater ei drafod yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu.

 

Rheoliadau Mewnol ac Allanol - Cyfeiriodd Arweinydd y Gr?p Llafur ar dudalen 456 y ddogfen a chydnabu y cafodd rhai o'r prif benawdau a gafodd eu hadrodd. Fodd bynnag, mynegodd ei bryder fod Swyddfa Archwilio Cymru wedi cynnal gwaith yng nghyswllt yr Adolygiad o'r Gwasanaeth Hamdden ond na roddwyd peth o'r gwaith hwn a'r canfyddiadau i Aelodau.

 

Daeth i ben drwy ddweud y teimlai fod rhai agweddau o'r Hunan-asesiad hwn yn 'rhy gadarnhaol' ac nad yw rhai agweddau yn ddigon cywir ac y dylai asesiad perfformiad y flwyddyn nesaf fod wedi'i fesur yn well.

 

Mewn pleidlais unfrydol,

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a bod yr Asesiad Perfformiad 2018/19 yn cael ei gymeradwyo a'i gyhoeddi cyn 31 Hydref 2019.

 

Dogfennau ategol: