Lleoliad: O Bell yn Defnyddio Microsoft Teams
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais am hynny.
Cofnodion: Nodwyd na chafwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau,
Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.
Cofnodion: Gwnaed y datganiad buddiant dilynol:-
Eitem Rhif 6 – Diweddariad Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Cynghorydd W Hodgins – gall rhai o’i gleientiaid fod yn ddefnyddwyr gwasanaeth yn y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol.
|
|
Pwyllgor Craffu Partneriaethau PDF 268 KB Derbyn penderfyniadau’r Pwyllgor Craffu Partneriaeth a gynhaliwyd ar 22 Tachwedd 2022.
(Dylid nodi y cyflwynir y penderfyniadau er pwyntiau cywirdeb yn unig).
Cofnodion: Cyflwynwyd penderfyniadau’r Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar 22 Tachwedd 2022.
Dywedwyd na chafodd ymddiheuriadau’r Cynghorydd L. Parsons eu cynnwys.
CYTUNODD y Pwyllgor, yn amodol ar yr uchod, i gadarnhau’r penderfyniadau.
|
|
Derbyn dalen weithredu.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i’r Ddalen Weithredu.
CYTUNODD y Pwyllgor i nodi’r ddalen weithredu.
|
|
Diweddariad ar y Bartneriaeth Ranbarthol PDF 591 KB Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Gwasanaethau Cymdeithasol.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol.
CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn y adroddiad a chraffwyd a chefnogwyd rhaglen waith y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol (Opsiwn 1).
|
|
Blaenraglen Gwaith 28 Mawrth 2023 PDF 397 KB Derbyn y flaenraglen gwaith.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Swyddog Craffu a Democrataidd.
Cynigiwyd bod diweddariad y Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol yn cael ei gyflwyno i’r Powyllgor yn flynyddol. Eiliwyd y cynnig hwn.
CYTUNODD y Pwyllgor, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn y Flanraglen Gwaith ar gyfer 7 Chwefror (Opsiwn 1).
|