Lleoliad: O Bell yn Defnyddio Microsoft Teams
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.
Cofnodion: Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.
Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr D. Woods ac L. Parsons. |
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Derbyn unrhyw ddatganiadau buddiant neu oddefebau.
Cofnodion: Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau..
|
|
Rhestr Ceisiadau ar gyfer Trwyddedau Cerbyd Hacni a Hur Preifat Ystyried adroddiad yr Uwch Swyddog Trwyddedu.
Cofnodion: Gan ystyried y farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol parthed y prawf budd cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.
PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra cynhelir yr eitem hon o fusnes gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).
Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Tîm Safonau Masnach a Thrwyddedu.
1.1 (a) – Adolygu trwydded gyrrwr Cerbyd Hacni/Hur Preifat
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth ynghylch unigolyn a bod y cais ar gyfer adolygu trwydded gyrrwr Cerbyd Hacni/Hur Preifat yn cael ei GADW.
|