Lleoliad: Ar MS Teams
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.
Cofnodion: Nodwyd na chafwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.
Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr J. Gardner a J. Thomas.
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Derbyn unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau.
Cofnodion: Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.
|
|
Meysydd ar gyfer Sesiynau Gwybodaeth a Hyfforddiant Aelodau Trafod unrhyw feysydd ar gyfer sesiynau gwybodaeth a hyfforddiant aelodau.
Cofnodion: Caiff hyfforddiant i aelodau ar Gytundebau Adran 106 ei drefnu yn y dyfodol agos.
|
|
Adroddiad Ceisiadau Cynllunio PDF 2 MB Ystyried adroddiad y Rheolwr Tîm Rheoli Datblygu.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Tîm Rheoli Datblygu.
Cais Rhif C/2022/0281 44 Stryd Fasnachol, Tredegar, NP22 3DJ Newid defnydd llawr daear Tecawê (A3) a ffenestri newydd ar y drychiad blaen
Mewn pleidlais a gynhaliwyd,
PENDERFYNWYD yn unfrydol RHOI caniatâd cynllunio, gyda’r amodau a fanylir yn yr adroddiad.
Cais Rhif C/2022/0347 16 Stryd y Farchnad, Glynebwy Blaen siop a chaead rholer newydd, estyniad 4 llawr yn y cefn, creu 5 fflat a darparu salon lliw haul ar y llawr daear isaf mewn cysylltiad gyda’r siop barber bresennol ar y llawr daear (lefel stryd).
Mewn pleidlais a gynhaliwyd,
PENDERFYNWYD yn unfrydol RHOI caniatâd cynllunio, gyda’r amodau a fanylir yn yr adroddiad.
Cais Rhif C/2022/0250 Tir ger KFC, Heol Waun-y-Pound, Glynebwy, NP23 6LE Codi becws gyrru trwodd (defnydd Dosbarth A1/A3) a datblygiad cysylltiedig
Yn dilyn trafodaeth faith a chynnal pleidlais,
PENDERFYNWYD yn unfrydol RHOI caniatâd cynllunio, gyda’r amodau a fanylir yn yr adroddiad.
Cais Rhif C/2022/0332 Brookfield Heol Hawthorn Beaufort Glynebwy NP23 5HS Cadw newid defnydd tir i’w gynnwys fel cwrtil preswy yn cynnwys triniaethau terfyn.
Mewn pleidlais a gynhaliwyd,
PENDERFYNWYD yn unfrydol RHOI caniatâd cynllunio, gyda’r amodau a fanylir yn yr adroddiad.
|
|
ADRODDIAD EFFAITH LLEOL PDF 785 KB Ystyried yr Adroddiad Effaith Lleol.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i’r Adroddiad Effaith Lleol.
Yn dilyn trafodaeth faith a chynnal pleidlais,
PENDERFYNWYD yn unfrydol RHOI pwerau dirprwyedig i Swyddogion Cynlluno i ddiweddaru a thanlinellu rhai rhannau o’r adroddiad yng ngoleuni pryderon a sylwadau Aelodau. Gellir wedyn anfon yr Adroddiad Effaith Lleol at PEDW, gan amlygu effeithiau disgwyliedig y datblygiad arfaethedig ar yr ardal.
|
|
Apeliadau, Ymgynghoriadau a Diweddariad DNS Chwefror 2023 PDF 529 KB Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.
|
|
Ystyried adroddiad y Swyddog Cymorth Busnes.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad yr Uwch Swyddog Cymorth Busnes.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.
|