Agenda and minutes

Arbennig, Pwllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol - Dydd Llun, 24ain Ionawr, 2022 11.30 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  7788

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb ar gyfer y Cynghorwyr  C. Meredith, M. Cook, B. Summers, M. Cross a T. Sharrem.

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.

 

Cofnodion:

Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.

 

4.

Gorsaf Drosglwyddo Gwastraff a Chanolfan Ailgylchu Gwastraff Cartrefi

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gyfarwyddwr.

 

Cofnodion:

Gan roi ystyriaeth i’r farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol am y prawf budd cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth, fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth hon ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.

 

PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra bod yr eitem hon o fusnes yn cael ei thrin gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffiniwyd ym Mharagraff 14, Rhan 1, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

Rhoddwyd ystyriaeth i’r adroddiad ar y cyd gan y Rheolwr Gyfarwyddwr, Prif Swyddog Adnoddau a Phennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol.

 

Cyflwynodd yr Arweinydd Tîm Cyfleoedd Adfywio yr adroddiad sy’n rhoi diweddariad i aelodau ar y gwaith a gwblhawyd ers yr adroddiad diwethaf a ystyriwyd ym mis Rhagfyr 2019 ac yn gofyn am gymeradwyaeth ar y ffordd a ffafrir ymlaen.

 

Siaradodd y Swyddog am yr adroddiad a thynnu sylw at bwyntiau ynddo.

 

Dilynodd trafodaeth pan fynegodd Aelodau bryder am wahanol elfennau yn yr adroddiad, yn arbennig y diffyg manylion yng nghyswllt cynllun busnes y Cyngor, a theimlent y dylid gohirio’r adroddiad nes ceir cynllun busnes cadarn.

 

Esboniodd y Swyddog fod y manylion yn yr adroddiad yn ymwneud â threfniadau cynllunio pontio wrth symud ymlaen. Byddai’r pryderon a godwyd gan Aelodau yn ffurfio rhan o unrhyw waith yn y dyfodol i ddatblygu cynigion pellach.

 

Cafwyd trafodaeth bellach pan eglurodd y Prif Swyddog Adnoddau bwyntiau a wnaed gan Aelodau am gostau. Dywedodd y Swyddog na chafodd arbedion posibl cyfleoedd sy’n datblygu eu cynnwys yng nghynlluniau busnes y Cyngor, fodd bynnag rhagwelid y byddai’r pwysau cost yn gostwng dros amser gyda phosibilrwydd cynhyrchu incwm.

 

Mewn ymateb i’r pryderon a godwyd, dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr ei bod yn bwysig sicrhau fod unrhyw gynllun busnes yn gadarn ac yn dynodi lle’r oedd angen arbenigedd ychwanegol wrth ddatblygu cyfleoedd posibl. Soniodd hefyd am oblygiadau gohirio’r adroddiad.

 

 

Dilynodd trafodaeth pellach pan eglurodd Swyddogion y pwyntiau a gododd Aelodau.

 

Dywedodd Aelod arall fod hwn yn adroddiad cynhwysfawr sy’n dynodi cyfleoedd ar gyfer y Cyngor wrth symud ymlaen a chefnogodd Opsiwn 3.

 

Roedd nifer o Aelodau hefyd yn cefnogi Opsiwn 3.

 

Yn dilyn sylwadau pellach gan Aelodau, dywedodd y Prif Swyddog Adnoddau yr adroddir ar yr achos busnes ar gyfer pob cyfle datblygu yn y dyfodol i’r Pwyllgor ei ystyried.

 

Cynigiodd Aelod yr opsiwn arall dilynol:

 

‘Bod Cynllun Busnes y Cyngor gyda chostau llawn yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Craffu ei ystyried, cyn ei gyflwyno i’r Cyngor llawn er penderfyniad.’

 

Eiliwyd y cynnig.

 

Wedyn cynhaliwyd pleidlais wedi’i chofnodi ar yr opsiwn arall a gynigiwyd.

 

O blaid – Cynghorwyr P. Baldwin, P. Edwards, John C. Morgan, L. Winnett.

 

Yn erbyn  - Cynghorwyr M. Day, S. Healy, W. Hodgins, J. Hill, L. Parsons, J. Holt, G.A. Davies, John P. Morgan, M. Moore

 

Felly ni chariwyd y cynnig arall.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad sy’n cynnwys gwybodaeth yn ymwneud â materion ariannol/busnes personau heblaw’r Awdurdod a chymeradwyo Opsiwn  ...  view the full Cofnodion text for item 4.