Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 6011
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.
Cofnodion: Dywedwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.
Cofnodion: Derbyniwyd yr ymddiheuriadau dilynol am absenoldeb:-
Cynghorydd M. Cross Cynghorydd H. Trollope Cynghorydd C. Meredith
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Derbyn unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a wnaed.
Cofnodion: Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant. |
|
Pwyllgor Craffu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus PDF 221 KB Ystyried cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Rhagfyr 2021.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ym mis Rhagfyr 2021.
Mewn ymateb i gais am ddiweddariad ar y cynllun peilot Blynyddoedd Cynnar a thystiolaeth i gefnogi o’r cynllun peilot a gynhaliwyd yn Cwm, dywedwyd y cysylltir â’r swyddog perthnasol i roi diweddariad ar y ddalen weithredu ar gyfer y cyfarfod nesaf.
CYTUNODD y Pwyllgor i weithredu fel hyn.
CYTUNODD y Pwyllgor, yn amodol ar yr uchod, i gadarnhau’r cofnodion.
|
|
Asesiad Llesiant Rhanbarthol Gwent PDF 509 KB Ystyried yr adroddiad.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Polisi a Phartneriaethau.
Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth, Polisi a Phartneriaethau fod yr adroddiad yn amlinellu drafft ymgynghori Asesiad Llesiant Rhanbarthol Gwent yn unol ag amserlenni statudol a hysbysodd Aelodau am y broses ymgynghori a’r camau nesaf ar gyfer y drafft Asesiad Llesiant Lleol Gwent. Esboniodd y Rheolwr Gwasanaeth y darperir trosolwg o’r adroddiad ynghyd â’r asesiad a fanylir yn yr atodiad i’r adroddiad.
Ar y pwynt hwn, rhoddodd y Swyddog Polisi drosolwg i’r Pwyllgor o’r cwmpas a’r cefndir a fanylir yn yr adroddiad.
Ychwanegodd y Rheolwr Gwasanaeth fod y ddogfen a gyflwynwyd yn fersiwn drafft, felly bod bylchau i’w llenwi cyn cwblhau’r asesiad.
Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth, Polisi a Phartneriaethau drosolwg fanwl o ddrafft Asesiad Llesiant Gwent ac amlinellu’r gwaith a wnaed ar draws partneriaethau’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a thynnodd sylw at y meysydd allweddol o effaith, fel sy’n dilyn:-
Llesiant Cymdeithasol – Amddifadedd Llesiant Cymdeithasol – Tai Llesiant Cymdeithasol – Iechyd Llesiant Cymdeithasol – Diogelwch y Gymuned Llesiant Cymdeithasol – Addysg Llesiant Cymdeithasol – Trafnidiaeth
Ar y pwynt hwn gwahoddodd y Cadeirydd gwestiynau gan Aelodau.
Cododd Aelod bryder ynghylch trafnidiaeth gyhoeddus a theimlai y dylai mynediad i drafnidiaeth gyhoeddus fod yn flaenllaw yn yr asesiad hwn. Nododd y Rheolwr Gwasanaeth fod yr wybodaeth a gyflwynwyd yn ddetholiad o faterion o bob rhan o’r rhanbarth ac os y teimlai’r Pwyllgor fod angen ystyried hyn fel ymateb i’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Rhanbarthol fel rhan o’r asesiadau terfynol.
Dywedodd yr Aelod fod trafnidiaeth yn bwysig tu hwnt yn ein cymunedau a chytunodd fod yr ardal a’r problemau’n gysylltiedig â thrafnidiaeth yn her fawr i bobl. Mae angen i’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Rhanbarthol sicrhau fod gwaith yn mynd rhagddo gyda byrddau trafnidiaeth eraill i gydweithio er mwyn datrys y problemau lleol hyn ac ymchwilio cyfleoedd. Ychwanegodd y Rheolwr Gwasanaeth fod meddwl cydlynus yng nghyswllt trafnidiaeth yn hollbwysig a chytunodd i nodi’r sylwadau fel rhan o’r sgwrs gan y Pwyllgor.
Ychwanegodd y Swyddog Polisi fod y sleidiau yn rhoi trosolwg lefel uchel a dywedodd fod trafnidiaeth yn rhan o benodau llesiant cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol yr asesiad, felly cytunodd fod angen dull gweithredu cydlynus i daclo’r materion.
Aeth y Rheolwr Gwasanaeth ymlaen gyda throsolwg o’r drafft asesiad, fel sy’n dilyn:-
Llesiant Economaidd – Incwm Llesiant Economaidd – Cyflogaeth
Ni chodwyd unrhyw gwestiynau ar y pwynt hwn, felly symudodd y Rheolwr Gwasanaeth i’r adran nesaf fel sy’n dilyn:
Llesiant Economaidd – Cynefinoedd Llesiant Economaidd – Newid Hinsawdd a Risg Llesiant Economaidd – Sero-net a Byw Un Blaned
Ni chodwyd unrhyw gwestiynau ar y pwynt hwn, felly aeth y Rheolwr Gwasanaeth ymlaen i’r adran nesaf fel sy’n dilyn:
Llesiant Diwylliannol
Daeth y Rheolwr Gwasanaeth â’r trosolwg o’r drafft asesiad i ben a nododd yr heriau. Cafodd yr amserlenni eu hamlinellu ymhellach yn nhermau’r broses ymgynghori a dywedwyd y byddai’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Rhanbarthol yn ystyried canlyniadau’r ymgynghoriad ym mis Chwefror cyn eu cytuno a’u cyhoeddi erbyn 5 Mai 2022.
Croesawodd Aelod y drafft Asesiad a chytunodd gyda’r pryderon yng ... view the full Cofnodion text for item 5. |