Agenda and minutes

Pwllgor Craffu Addysg a Dysgu - Dydd Mawrth, 1af Chwefror, 2022 10.00 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  5100

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr H. Trollope (Cadeirydd), G. Collier a D. Wilkshire.

 

Aelod Cyfetholedig

T. Baxter

 

Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a wnaed.

Cofnodion:

Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.

 

DIWEDDARIAD AR SEFYLLFA COVID MEWN ADDYSG AC AR DRAWS Y STAD YSGOLION

 

Ar wahoddiad y Cadeirydd rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth Trawsnewid Addysg a Newid Busnes ddiweddariad llafar byr ar sefyllfa Covid mewn cysylltiad ag Addysg a’r stad ysgolion.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth fod nifer yr achosion ar draws y stad ysgolion yn 183 yn y pum diwrnod diwethaf, gyda’r cyfanswm o fewn y 28 diwrnod diwethaf yn 697 achos.

 

Mae cyfran uchel o achosion yn dal i fod ledled y stad ysgolion ac yn y ddwy wythnos diwethaf effeithiwyd ar 3 dosbarth meithrin ac 1 dosbarth anghenion arbennig, fodd bynnag ni chafodd unrhyw ddosbarthiadau eu cau ar hyn o bryd. Mae 54 achos staff ar draws ysgolion, o’r 45 achos a gadarnhawyd mae 7 yn gweithio gartref ac 1 yn hunanynysu oherwydd cyngor TTP. Mae cyfanswm absenoldeb ar draws ysgolion yn 103 sy’n cynnwys absenoldeb salwch tymor hir a thymor byr ac absenoldeb Covid, gyda 64 yn staff seiliedig mewn ysgol (heb gynnwys athrawon) a 39 o athrawon. Nid oes unrhyw ddosbarthiadau nac ysgolion wedi symud i ddysgu cyfunol ar hyn o bryd, fodd bynnag mae hon yn sefyllfa gyfnewidiol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod ynghylch staff yn dychwelyd i’r gwaith ar ôl ynysu, cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaeth fod staff yn dychwelyd cyn gynted â’u bod yn glir ac mae’r gostyngiad yn yr amserlen hunanynysu wedi cynorthwyo gyda hyn. Effeithiwyd hefyd ar lanw cyflenwi ac maent wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru ac EAS i edrych ar gefnogi ysgolion ar lefel genedlaethol yn ogystal â chymorth lleol i gael llanw fel a phan mae angen.

 

Dywedodd Aelod fod disgyblion yn paratoi ar gyfer arholiadau eleni a holodd faint o’r staff sydd ar absenoldeb salwch nad oedd yn ymwneud gyda dosbarthiadau adolygu. Atebodd y Rheolwr Gwasanaeth nad oedd yr wybodaeth honno ganddi gan eu bod ar hyn o bryd yn casglu gwybodaeth ar sail awdurdod lleol ac yn gweithio gydag ysgolion unigol lle mae pwysau. Ar hyn o bryd gellir cyflwyno’r holl ddosbarthiadau fel y maent ar yr amserlen ond byddai’n casglu dadansoddiad mwy manwl ar sail ysgolion unigol yn arbennig yng nghyswllt darpariaethau uwchradd ac yn rhoi adborth i Aelodau.

 

Soniodd Aelod y bu’r ddwy flynedd ddiwethaf yn heriol i ysgolion a gofynnodd i’r Rheolwr Gwasanaeth anfon llythyr gwerthfawrogiad at bob Pennaeth Ysgol a staff ar ran y Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu yn diolch iddynt am wneud gwaith rhagorol a’u hymdrech ddiflino yn ystod y pandemig i ddarparu addysg ym Mlaenau Gwent. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth y bu’n waith enfawr gan y staff a byddai’n llunio gohebiaeth ar ran y Pwyllgor Craffu yn ategu’r negeseuon cadarnhaol a wnaed eisoes am gadw darpariaeth yn ystod cyfnod heriol iawn drwy gydol y ddau sesiwn academaidd diwethaf.

 

Cymeradwyodd pob Aelod y sylwadau hyn ac ychwanegodd fod y Gyfarwyddiaeth Addysg wedi gwneud gwaith rhagorol yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf i gefnogi ysgolion drwy’r cyfnod heriol hwn.

 

4.

Cynnydd Band B Ysgolion yr 21ain Ganrif pdf icon PDF 639 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a’r Rheolwr Gwasanaeth – Trawsnewid Addysg a Newid Busnes a gyflwynwyd i roi trosolwg i’r Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu o Raglen Ysgolion 21ain Ganrif, ynghyd â’r cyfle i graffu ar gynnydd yn unol â chyflenwi Rhaglen Band B.

 

Siaradodd y Rheolwr Gwasanaeth – Trawsnewid Addysg a Newid Busnes am yr adroddiad a thynnodd sylw at y prif bwyntiau ynddo.

 

Yng nghyswllt datblygu ysgol gynradd 360 lle newydd i gymryd lle ysgol Gynradd Glyncoed, diolchodd Aelod i bob Adran am greu ardal codi a gollwng disgyblion ger Allotment Road a fyddai’n lliniaru tagfeydd traffig ac yn gwella mynediad i’r safle.

 

Holodd Aelod am ymestyn maes parcio safle ysgol Six Bells. Esboniodd y Rheolwr Gwasanaeth – Trawsnewid Addysg a Newid Busnes y cyflwynwyd cais ôl-weithredol am ddraeniad cynaliadwy wrth i ddeddfwriaeth ddod i rym ar ôl dechrau codi’r ysgol. Mae angen cynllun rheoli ecoleg ac maent yn gweithio gyda’r tîm Ecoleg tuag at adeiladu ar y safle yn unol gydag ymestyn cyfnod yr haf.

 

 

Dywedodd Aelod na fyddai’r £10m ar gyfer ailwampio a gwella ysgolion uwchradd yn mynd ymhell a holodd am y rhesymeg am yr amserlenni ar gyfer symud ymlaen gyda’r gwaith hwn. Esboniodd y Rheolwr Gwasanaeth eu bod yn edrych ar fuddsoddiad hirdymor mewn ailwampio ysgolion uwchradd, yn y dyfodol byddai bandiau yn y rhaglen ysgolion 21ain ganrif yn ystyried ailwampio. Mae’n weledigaeth hirdymor ar gyfer yr Awdurdod Lleol a fyddai’n anelu i ddyrannu cronfeydd ar sail anghenion pob ysgol. Lluniwyd yr amserlen gan fod rhai ysgolion angen ystyriaeth fwy manwl o’r opsiynau ynghylch prosiectau ailwampio. Cafodd amlinelliad o gyllideb ei dyrannu i bob ysgol uwchradd ar sail cyflwr, addasrwydd ac angen, maent wedyn yn gweithio gyda’r ysgol i gynhyrchu briff prosiect sy’n bwydo i ddatblygu achos busnes a’r amserlenni cysylltiedig.

 

Ychwanegodd y Rheolwr Gwasanaeth eu bod yn cymryd dull holistig yng nghyswllt cynnal a chadw mân weithiau a’r rhaglen gweithiau wedi’u cynllunio a chyllid cynnal a chadw cyfalaf Llywodraeth Cymru a ddyrannwyd i gefnogi ysgolion. Maent yn edrych ar fynd i’r afael â materion cyflwr ac addasrwydd i’r raddfa fwyaf bosibl drwy edrych ar rai o’r gweithiau sylfaenol yn gysylltiedig gyda chynnal a chadw adeiladau ysgol a fyddai wedyn yn effeithio ar y newidiadau sylweddol a ddaw yn sgil rhaglen ysgolion y 21ain ganrif.

 

Dywedodd yr Aelod eto na fyddai £10m ar gyfer ailwampio ysgolion uwchradd yn mynd ymhellach yn arbennig gyda faint o waith sydd ei angen i wella ysgolion a gafodd eu hadeiladu yn y 1970au. Ysgol Glanhywi fyddai’r ysgol hynaf ym Mlaenau Gwent ar ôl cwblhau rhaglen Band B a gofynnodd yr Aelod ym mha fand y byddai Glanhywi. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth nad yw’n hysbys eto ym mha fand fyddai Ysgol Glanhywi ond byddai’n edrych ar ddod â hyn ymlaen drwy’r rhaglen flaenoriaethu sy’n cael ei drafod ar gyfer Band C yn y dyfodol.

 

Gadawodd y Cynghorydd R. Summers y cyfarfod ar y pwynt hwn.

 

Cyfeiriodd Aelod at ysgol gynradd Rhos-y-Fedwen a holodd am waith sy’n  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Diweddariad Strategaeth a Phrosiect TGCh Addysg/Ysgolion Blaenau Gwent pdf icon PDF 642 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Rheolwr Gwasanaeth – Trawsnewid Addysg a Newid Busnes a gyflwynwyd i roi cyfle i’r Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu graffu ar gynnydd yng nghyswllt Strategaeth TGCh Addysg/Ysgolion Blaenau Gwent, ynghyd â phrosiectau cysylltiedig.

 

Siaradodd y Rheolwr Gwasanaeth Trawsnewid Addysg a Newid Busnes am yr adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddo.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am swyddog cyfrifol yr Awdurdod ar gyfer TGCh, dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth mai’r Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid sydd â’r prif gyfrifoldeb am y tîm Trawsnewid sy’n ymwneud gyda TGCh corfforaethol. Mae cydweithwyr Addysg yn gweithio’n agos gyda SRS am TGCh Addysg gan sicrhau aliniad rhwng agweddau corfforaethol ac addysg.

 

Dywedodd Aelod fod hon yn oes ddigidol a bod TGCh yng nghanol dysgu a holodd am gynlluniau Llywodraeth Cymru i sicrhau fod pob plentyn yn barod ar gyfer y dyfodol. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth fod rhaglen Technoleg Addysg Hwb wedi canolbwyntio ar ddarpariaeth dyfeisiau ar gyfer ysgolion yn ystod y pandemig ac y bu cyllid helaeth ar gael i gefnogi dysgwyr dan anfantais digidol i sicrhau na fyddai unrhyw ddysgwyr dan anfantais pe bai symud at ddysgu cyfunol. Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i awdurdodau lleol gymryd y prosiect hwnnw wrth symud ymlaen. Maent yn adeiladu ar hyn o bryd gyda monitro a rheoli dysgwyr dan anfantais digidol, yn unol â strategaeth Llywodraeth Cymru ar daith dysgwyr digidol i’r Strategaeth TGCh.

 

Ymunodd y Rheolwr Gwasanaeth Pobl Ifanc a Phartneriaethau â’r cyfarfod ar y pwynt hwn.

 

 Holodd Aelod os y byddai’r offer TG a ddosbarthwyd yn ystod y pandemig ar gyfer dysgu cyfunol yn cael ei alw’n ôl. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth eu bod yn gweithio gydag ysgolion i edrych ar ddyfeisiau i weld os ydynt yn addas ar gyfer defnydd parhaus ac ystyried gwneud unrhyw addasiadau angenrheidiol. Dim ond ar gyfer monitro technegol neu er mwyn adnewyddu trwyddedau y byddid yn dod â dyfeisiau yn ôl i ysgolion. Os dynodir fod teulu yn dal i fod angen eu dyfais, yna byddai’r ysgol a’r Awdurdod Lleol yn parhau i gefnogi hynny.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1; sef derbyn yr adroddiad.

 

6.

Blaenraglen Gwaith: 15 Mawrth 2022 pdf icon PDF 395 KB

Derbyn yr adroddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu sy’n cyflwyno’r Flaenraglen Gwaith ar gyfer y cyfarfod sydd ar y gweill ar gyfer 15 Mawrth 2022.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 2; sef cymeradwyo Blaenraglen Gwaith y Pwyllgor Craffu Addysg a dysgu ar gyfer y cyfarfod sydd ar y gweill ar gyfer 15 Mawrth 2022.