Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 5100
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais. Cofnodion: Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau.
Cofnodion: Ni adroddwyd unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a wnaed. Cofnodion: Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.
|
|
Cofnodion Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol PDF 238 KB Derbyn cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol a gynhaliwyd ar 5 Tachwedd 2020.
(Dylid nodi y cyflwynir y cofnodion er pwyntiau cywirdeb yn unig).
Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol a gynhaliwyd ar 5 Tachwedd 2020.
CYTUNODD y Pwyllgor i gadarnhau’r cofnodion.
|
|
Diweddariad Cronfa Gofal Integredig (ICF) 2019/20 PDF 514 KB Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion a gyflwynwyd i roi trosolwg ar y dyraniad presennol o gyllid ar gyfer prosiectau a gaiff eu monitro gan yr adran Gwasanaethau Cymdeithasol ac a gyllidir drwy Gronfa Gofal Integredig (ICF) Llywodraeth Cymru fel ym mis Tachwedd 2020.
Siaradodd y Pennaeth Gwasanaethau Cymdeithasol am yr adroddiad a hysbysodd Aelodau fod Llywodraeth Cymru wedi rhoi diweddariad llafar am ymestyn y gronfa ymhellach ar gyfer y flwyddyn bontio (2021/22), fodd bynnag ni chafwyd cadarnhad swyddogol hyd yma o’r union ddyraniad. Pedwar maes allweddol yr ICF yw:
· Pobl h?n gydag anghenion cymhleth a chyflyrau hirdymor yn cynnwys dementia · Pobl gydag anableddau dysgu · Plant gydag anghenion cymhleth oherwydd anabledd neu salwch · Gofalwyr, yn cynnwys gofalwyr ifanc
Yng nghyswllt prosiectau a nodwyd fel blaenoriaeth uchel/critigol, holodd y Cadeirydd os yw’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol a phartneriaid rhanbarthol wedi gwneud ymdrechion cadarn i godi pryderon gyda Llywodraeth Cymru am yr effaith niweidiol y byddai dileu’r cyllid yn ei gael ar y prosiectau hyn. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion fod Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a hefyd yr Aelod Gweithredol Gwasanaethau Cymdeithasol fel cynrychiolwyr ar y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol wedi tynnu sylw’n barhaus at y pryderon dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae graddiad risg y prosiectau wedi rhoi dealltwriaeth glir o’r effaith o hyn ymlaen a rhoddwyd yr adroddiad terfynol i’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol ar y graddiad risg a’r pwysau ariannol.
Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am sut y gallai effaith staff yn gadael effeithio ar redeg y gwasanaethau, dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion y bu hyn yn her drwy gydol y prosiectau ICF, ond gyda sicrwydd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cyllid am y flwyddyn ychwanegol, nid oedd nifer sylweddol o staff wedi gadael ond mae hyn yn risg uchel yn gysylltiedig ag unrhyw raglen cyllid grant.
Yng nghyswllt swyddi, holodd Aelod am y gwahaniaeth rhwng swyddi wte (cyfwerth ag amser cyflawn) a swyddi cyfwerth ag amser llawn. Eglurodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion y gwahaniaeth rhwng y ddau; mae nifer o swyddi yn rhai rhan-amser a gall rhai staff sydd â swyddi parhaol rhan-amser o fewn yr awdurdod lleol fod yn gweithio’n llawn-amser drwy wneud yr oriau lan yn defnyddio cyllid ICF.
Gofynnodd Aelod am ddiweddariad ar yr estyniad a gynigir i T? Augusta, Glynebwy. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion y bu oedi i ddechrau oherwydd y pandemig ond y cafodd cynlluniau eu hadolygu a’u bod wedi mynd yn ôl i Cynllunio. Mae gwaith ymchwilio yng nghyswllt y gwaith daear eisoes yn mynd rhagddo.
Mewn ymateb i gwestiwn Aelod am ddyraniad cyllid Blaenau Gwent ar gyfer Gwasanaethau Oedolion a Gwasanaethau Plant, esboniodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion y gall y broses ddyrannu a chynnig fod yn gymhleth gan fod ffrydiau cyllid refeniw a hefyd gyfalaf o fewn cynllun buddsoddiad yr ICF. Ers 2014 bu cylchoedd cynnig bob blwyddyn, os oedd prosiect oedd yn addas ar gyfer ICF ac yn gydnaws â blaenoriaethau strategol yr awdurdod lleol, yna cyflwynir cynnig i’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol. Mae rhai prosiectau yn rhanbarthol felly byddai ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
Adroddiad Blynyddol 2019/20 Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol PDF 584 KB Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a gyflwynodd berfformiad Gwasanaeth Mabwysiadu De Ddwyrain Cymru (SEWAS) a’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol (NAS) ar gyfer 2019/20.
Siaradodd y Rheolwr Gwasanaeth, Gwasanaeth Mabwysiadu De Ddwyrain Cymru am yr adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddo. Mae meysydd allweddol yr adroddiad yn cynnwys:-
· Plant a gafodd eu lleoli ac sy’n aros mabwysiadu; · Galw am leoliadau mabwysiadu a recriwtio mabwysiadwyr; · Deunyddiau taith bywyd; a · Cefnogaeth mabwysiadu.
Ffurfiwyd y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn 2014 gyda chylch gorchwyl i wella recriwtio, amserau aros ar gyfer plant a gwella cefnogaeth opsiynau.
Prinder Mabwysiadwyr
Yng nghyswllt recriwtio mabwysiadwyr, dywedodd nawr y penodwyd Swyddog Recriwtio y dylai’r Awdurdod fod yn rhagweithiol wrth geisio recriwtio mabwysiadwyr, mae angen rhyw fath o hysbysebu i ddenu pobl i ymweld â’r wefan h.y. hysbysiadau ar gylchfannau ffordd ac yn y blaen. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth y gwnaed gwelliannau i’r wefan a bod y cyfuniad o’r cyfryngau cymdeithasol a’r wefan yn denu ymweliadau a soniodd hefyd y cynhaliwyd ymgyrch genedlaethol ym mis Hydref. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant fod gan SEWAS gynllun clir o fynychu digwyddiadau i godi ymwybyddiaeth yn y gymuned drwy gydol y flwyddyn, yn anffodus cafodd llawer o’r digwyddiadau hynny eu canslo oherwydd y pandemig.
Cynigiodd y Cadeirydd y byddid yn ymchwilio mwy o opsiynau hysbysebu ar gyfer recriwtio mabwysiadwyr i ddiwallu anghenion y gwasanaeth ymhellach.
CYTUNODD y Pwyllgor ar y llwybr gweithredu hwn.
Gofynnodd Aelod pa gefnogaeth sydd yn ei lle ar gyfer mabwysiadwyr yng nghyswllt hyfforddiant. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth fod rhaglen hyfforddiant lawn pedwar diwrnod cyn i’r asesiad ddechrau.
Yng nghyswllt y prinder o fabwysiadwyr, holodd Aelod os oes prinder cenedlaethol neu os mai dim ond yn y de ddwyrain y mae prinder. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth fod rhai rhanbarthau’n gwneud yn well nag eraill ond mae llanw a thrai. Roedd rhai ardaloedd, ar ôl cymeradwyo mabwysiadwyr, yn cael oedi wrth baru mabwysiadwyr gyda phlant; nid oedd hyn yn digwydd yn SEWAS sydd yn rhannol oherwydd ansawdd yr asesiadau a wneir i gael y bobl gywir, sy’n helpu i’w paru yn gyflym.
Mynegodd y Cadeirydd a’r Aelodau Craffu eu diolch i’r staff a’u swyddogion am eu holl waith caled a’u dyfalbarhad mewn blwyddyn anodd.
CYTUNODD y Pwyllgor, yn amodol ar yr uchod, i argymell yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef ymchwilio mwy o opsiynau hysbysebu ar gyfer recriwtio mabwysiadwyr er mwyn diwallu anghenion y gwasanaeth.
|
|
Derbyn yr adroddiad.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad Cadeirydd Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol.
Ar ôl trafodaeth fer,
CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef paratoi tri adroddiad ychwanegol a’u cynnwys ym Mlaenraglen Gwaith y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol:
i. Cyflwyno adroddiad yn diweddaru ar y costau cyfreithiol yn gysylltiedig gyda’r gwasanaeth, yr adroddiad i gynnwys astudiaethau achos di-enw; ii. Adroddiad ar ddefnydd ymgynghorwyr a gyda ffocws neilltuol ar y costau a’r buddion yn gysylltiedig gyda’r gwasanaeth; ac iii. Adroddiad yn diweddaru ar blant bregus yn ystod COVID-19 gyda ffocws ar broblemau yn deillio o gau ysgolion, i’w gyflwyno i’r cyfarfod ar 11 Mawrth 2021.
Gan mai hwn fyddai cyfarfod diwethaf y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol yn 2020, manteisiodd yr Aelod Gweithredol Gwasanaethau Cymdeithasol ar y cyfle i ddiolch i’r uwch reolwyr a’r staff am eu cefnogaeth i’r Pwyllgor Craffu yn ei waith, yn arbennig yn y cyfnod heriol ac anodd hwn ac am y ffordd broffesiynol y mae Aelodau yn ymroi i waith pwysig iawn y Pwyllgor Gwasanaethau Cymdeithasol.
|