Agenda and minutes

Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol - Dydd Iau, 17eg Medi, 2020 10.00 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  5100

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y  Cynghorydd G. Collier.

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a wnaed.

Cofnodion:

Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.

 

4.

Amser Cyfarfodydd y Dyfodol

Ystyried amser cyfarfodydd y dyfodol.

 

Cofnodion:

CYTUNODD y Pwyllgor i gynnal cyfarfodydd y dyfodol am 10.00 a.m.

 

5.

Cofnodion Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol pdf icon PDF 251 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol a gynhaliwyd ar 13 Chwefror 2020.

 

(Dylid nodi y cyflwynir y Cofnodion er pwyntiau cywirdeb yn unig).

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol a gynhaliwyd ar 13 Chwefror 2020.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i gadarnhau’r cofnodion.

 

6.

Dalen Weithredu – 13 Chwefror 2020 pdf icon PDF 192 KB

Derbyn y Ddalen Weithredu.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd y ddalen weithredu yn deillio o gyfarfod y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol a gynhaliwyd ar 13 Chwefror 2020.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i nodi’r ddalen weithredu.

 

7.

Blaenraglen Gwaith pdf icon PDF 389 KB

Ystyried adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1: sef cymeradwyo Blaenraglen Gwaith y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol 2020-21.

 

8.

Ymateb Gwasanaethau Cymdeithasol i’r pandemig COVID-19 pdf icon PDF 564 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a gyflwynwyd i roi gwybodaeth i Aelodau i’r pandemig COVID-19 dros y 4 mis diwethaf.

 

Siaradodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol am yr adroddiad a rhoddodd drosolwg o ymateb y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol i COVID-19. Dywedodd bod y Gyfarwyddiaeth yn parhau i ddelio gyda’r feirws ac ar yr un pryd yn ceisio symud yn araf ac yn ddiogel tuag at adferiad, er fod ail don yn bosibl, yn arbennig yn yr ychydig fisoedd nesaf neu’n gynnar y flwyddyn nesaf.

 

Gobeithiai’r Cyfarwyddwr ei bod yn gysur nad yw’r pandemig wedi cyrraedd ei sefyllfa achos gwaethaf yng nghyswllt capasiti ysbytai ac roedd cymorth yn y gymuned wedi medru ymdopi gyda’r achosion dechreuol yn lleol ac yn rhanbarthol y tro cyntaf oherwydd cydweithio gan bob partner. Bu cynnydd mawr mewn rhai awdurdodau cyfagos a chafodd mesurau diogelu mewnol estynedig eu rhoi ar waith. Pwysleisiodd, os nad yw pobl yn parhau i ddilyn rheolau pellter cymdeithasol, hylendid dwylo ac arferion diogelwch eraill yna gall ddod yn fwy cyffredin yn ardal Blaenau Gwent.

 

Diolchodd Aelod i’r holl asiantaethau cysylltiedig, ein hasiantaethau ein hunain ac asiantaethau partner, am eu gwaith gwych, gwerthfawrogid eu gwaith caled yn fawr iawn. Dywedodd y Cadeirydd fod holl Aelodau’r Pwyllgor yn cytuno gyda’r sylwadau hyn a roedd hefyd eisiau mynegi ei gwerthfawrogiad i staff ac asiantaethau partner yn y gymuned.

 

Gwasanaethau Plant

 

Ar wahoddiad y Cadeirydd rhoddodd Pennaeth Gwasanaethau Plant drosolwg o sut mae Gwasanaethau Plant wedi ymdopi yn ystod y cyfnod hwn. Cadwyd gwasanaethau Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth (IAA) a rhoddwyd blaenoriaeth i ymchwiliadau diogelu ar gyfer plant ar y Gofrestr Amddiffyn Plant. Roedd nifer achosion plant yn derbyn gofal wedi gostwng o 214 i 207 a bu hefyd ostyngiad yn nifer y plant mewn gofal  preswyl.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am blant sy’n derbyn gofal a phlant yn gadael gofal ac achosion newydd yn dod i ofal, dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant fod cyfuniad o’r ddau a disgwylid cynnydd yn nifer y plant sy’n derbyn gofal. Yn nhermau plant yn gadael gofal roedd rhai yn dychwelyd at eu rhieni a chafodd rhai eu mabwysiadu. Mae adroddiad llawn yn cael ei baratoi a chaiff ei gyflwyno i’r Pwyllgor hwn ar 5 Tachwedd a fyddai’n cynnwys mwy o wybodaeth fanwl.

 

Holodd Aelod os yw’r gwasanaeth yn rhagweld cynnydd yn nifer yr atgyfeiriadau nawr fod ysgolion wedi ailagor. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant fod Addysg yn un o’r atgyfeirwyr mwyaf ac felly mae’r Gwasanaeth yn rhagweld cynnydd yn nifer yr atgyfeiriadau gan gydweithwyr yn yr adran Addysg, er na fu unrhyw gynnydd mawr mewn atgyfeiriadau hyd yma. Mae hefyd rai mesurau rhagweithiol megis gwasanaethau ataliol yn Teuluoedd yn Gyntaf. Nodwyd y cafodd 4 gweithiwr cymdeithasol eu clustnodi i ysgolion er mwyn cefnogi athrawon a phlant.

 

Mynegodd Aelod siom nad yw’r adroddiad yn sôn am y Trydydd Sector na’r Sector Gwirfoddol. Rhoddodd yr Aelod enghraifft h.y. prydau ysgol am ddim. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant y bu ganddynt ran sylweddol wrth ddiwallu anghenion  ...  view the full Cofnodion text for item 8.