Agenda and minutes

Pwyllgor Gwaith - Dydd Mercher, 14eg Ebrill, 2021 10.00 am

Lleoliad: Ystafell y Weithrediaeth, Canolfan Ddinesig, Glynebwy

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  6011

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

MUNUD O DAWELWCH – EUB DUG CAEREDIN

 

Dywedodd yr Arweinydd y clywsom gyda thristwch mawr ddydd Gwener ddiwethaf am farwolaeth EUB Dug Caeredin. Teimlai’r Arweinydd fod hyn yn nodi diwedd cyfnod hir a phwysig mewn hanes ac ar ran Blaenau Gwent dymunai gynnig cydymdeimlad i’r Frenhines ac aelodau o’r Teulu Brenhinol yn ehangach.

 

Yn absenoldeb cyfarfod ffurfiol o’r Cyngor, gofynnodd yr Arweinydd i’r Pwyllgor Gweithredol nodi munud o dawelwch fel arwydd o farch i EUB Dug Caeredin.                                                      

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan:-

 

Cynghorydd S. Thomas, Cadeirydd Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol

Cynghorydd S. Healy, Cadeirydd Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol

Cynghorydd J. Hill, Cadeirydd Pwyllgor Craffu Adfywio

Cynghorydd G.A. Davies, Is-gadeirydd Pwyllgor Craffu Adfywio

 

CYFLWYNIAD A CHROESO

 

Estynnodd yr Arweinydd groeso i’r Pwyllgor Gweithredol i Luisa Munro-Morris a benodwyd yn ddiweddar yn Bennaeth Gwella Ysgolion a Chynhwysiant. Dywedodd yr Arweinydd ei fod ef a’r Aelod Gweithredol Addysg yn teimlo ei bod yn addas fod y Swyddog yn bresennol i sicrhau ei bod yn teimlo’n rhan o’r tîm yn syth.

 

Llongyfarchodd yr Arweinydd y Swyddog am gyfweliad rhagorol ac roedd yn hynod falch iddi dderbyn y swydd. Teimlai’r Arweinydd yn hyderus y gallai’r Awdurdod fod yn sicr bod y rhaglen gwella ysgolion mewn dwylo diogel. O sgyrsiau gyda’r Aelod Gweithredol Addysg, nododd yr Arweinydd y byddai’r Pennaeth Gwella Ysgolion a Chynhwysiant yn ychwanegu at dîm sydd eisoes yn gryf ac ymroddedig.

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.

 

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau.

 

Cofnodion

4.

Cyfarfod Arbenig o’r Pwyllgor Gwiehtredol pdf icon PDF 205 KB

Ystyried cofnodion y cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Gweithredol a gynhaliwyd ar 24 Mawrth 2021.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Mawrth 2021.

 

PENDERFYNWYD cadarnhau’r cofnodion.

 

Eitemau er Penderfyniad - Materion Gwasanaethau Corfforaethol

5.

Grantiau i Sefydliadau

Derbyn yr adroddiad.

 

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw grantiau i sefydliadau.

 

6.

Adroddiad Monitro Blynyddol 2020 System CCTV Gofod Cyhoeddus pdf icon PDF 431 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau, Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol a’r Prif Swyddog Interim Masnachol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad ar y cyd gan y Prif Swyddog Adnoddau (SIRO CCTV), y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol a’r Prif Swyddog Interim Masnachol.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Adnoddau fod yr adroddiad yn amlinellu drafft Adroddiad Monitro Blynyddol 2020 CCTV Gofod Cyhoeddus yn cwmpasu’r cyfnod 1 Medi 2019 – 31 Rhagfyr 2020. Mae’r adroddiad, a fanylir yn Atodiad 1, y cyntaf o’r hyn fydd yn Adroddiadau Monitro Blynyddol yn unol â Chod Ymarfer y Comisiynydd Camerâu Gwyliadwraeth, i gefnogi datblygiad dull holistig i godi ei safonau a chydymffurfiaeth.

 

Siaradodd y Prif Swyddog am yr adroddiad ymhellach a nododd y cynnydd a wnaed mewn cysylltiad gyda chydymffurfiaeth gyda Chod Ymarfer CCTV y Comisiynydd Camerâu Gwyliadwraeth. Cydnabuwyd y sesiynau ymgysylltu llwyddiannus gydag Aelodau a dywedwyd y caiff adborth o’r cyfarfodydd hyn ei gynnwys yn y Flaenraglen Gwaith.

 

Dywedwyd hefyd y cafodd yr adroddiad ei ystyried gan y Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol oedd yn cefnogi Opsiwn 2 gydag argymhelliad ychwanegol i’w ystyried gan y Pwyllgor Gweithredol. Mae’r Pwyllgor Craffu yn argymell ymhellach fod y Pwyllgor Gweithredol yn ymchwilio’r posibilrwydd o gyllid ychwanegol ar gyfer y system mewn cysylltiad gyda Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu a dod â phapur yn ôl i’r Pwyllgor Craffu i adolygu os yw darpariaeth yn gyfartal ar draws y Fwrdeistref Sirol.

 

Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol fod heriau technegol yn ymwneud â chamerâu yn nhermau cyflymder lawrlwytho a chysylltiadau Wi-Fi. Fodd bynnag, dywedodd nad oedd hyn wedi arwain at unrhyw golled mewn recordiad a bod angen mwy o waith i drin y mater.

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Gyfarwyddwr at drafodaethau blaenorol gyda Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu lle cadarnhawyd na fyddai cyllid ychwanegol ar gael gan nad oedd y system yn cynnwys monitro byw. Teimlid na fedrid cefnogi’r buddsoddiad heb y swyddogaeth yma.

 

Bu cynigion pellach i symud ymlaen â nhw ar sail Gwent gyfan, fodd bynnag bu blaenoriaethau mewn meysydd eraill ers y pandemig ym mis Mawrth 2020. Felly, cynghorodd y Rheolwr Gyfarwyddwr pe byddai’r trafodaethau hyn yn ailddechrau y byddai’r Awdurdod yn cymryd rhan er mwyn canfod datrysiad.

 

Teimlai’r Aelod Gweithredol dros Ddatblygu Economaidd ac Adfywio ei bod yn bwysig fod gan y Cyngor gysylltiadau Wi-Fi digonol ar draws y Fwrdeistref i gefnogi gwella systemau. Teimlai’r Aelod Gweithredol fod gan yr Heddlu a phartneriaid eraill ddiddordeb personol mewn CCTV mewn trefi, yn arbennig mewn camerâu cudd a fyddai’n fwy buddiol mewn rhai achosion.

 

Cefnogodd yr Arweinydd argymhelliad y Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol a chytunodd fod angen i’r Awdurdod gymryd rhan mewn trafodaethau a gynhelir er mwyn bod yn rhan o drefniant gweithio ar draws Gwent. Gobeithiai’r Arweinydd y byddai gan CCTV le blaenllaw ar Flaen-raglen Gwaith y Pwyllgor Craffu dros y 12 mis nesaf gan ei fod yn bwysig i’n cymunedau ac felly mae angen seilwaith i fod yn ei le i sicrhau ein bod yn diogelu a gwella ein cymunedau.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chymeradwyo’r Adroddiad Monitro Blynyddol (yn cynnwys yr atodiadau cefnogi) ac wedyn caiff yr adroddiad ei gyhoeddi a’i anfon  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

Eitemau er Penderfyniad - Materion Addysg

7.

Cynllun Busnes EAS 2021-2022 (Drafft ymgynghori) pdf icon PDF 464 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gyfarwyddwr, EAS.

 

Siaradodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg am yr adroddiad sy’n amlinellu cynnwys llawn drafft Gynllun Busnes EAS 2021-2022 a chyfeiriodd y Pwyllgor Gweithredol at y Nodau Addysg a fanylir yn yr adroddiad.

 

Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg y cafodd yr adroddiad ei gefnogi’n llawn gan y Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu.

 

Nododd yr Aelod Gweithredol dros Addysg yr adroddiad sydd yn hunanesboniadol a chytunodd fod y Nodau Addysg a luniwyd ar y cyd yn union yr hyn mae’r Awdurdod ei angen wrth ddod allan o’r pandemig. Cytunodd yr Arweinydd gyda’r sylwadau a dywedodd fod y rhain yn feysydd lle mae dialog barhaus.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.

 

8.

Polisi Derbyn Addysg Blaenau Gwent ar gyfer Addysg Feithrin a Statudol 2022/23 pdf icon PDF 538 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

 

Siaradodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg am yr adroddiad sy’n rhoi manylion canlyniad yr adolygiad blynyddol a’r broses ymgynghori yn gysylltiedig gyda Pholisi Derbyn Blaenau Gwent ar gyfer Addysg Feithrin a Statudol ac amlinellodd y prif newidiadau a wnaed i’r ddogfen ar gyfer sesiwn academaidd 2022/2023.

 

Croesawodd yr Aelod Gweithredol dros Addysg yr adroddiad ac roedd yn falch gweld y byddem fel awdurdod lleol yn medru gweithio gyda Chymuned Ddysgu Abertyleri o ran derbyniadau.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chytuno ei gyhoeddi erbyn 15 Ebrill 2020.

 

Eitemau er Penderfyniad - Materion Adfywio a Datblygu Economaidd

9.

Diweddariad ar y Cynllun Rheoli Cyrchfan pdf icon PDF 515 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth – Busnes ac Adfywio.

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol drosolwg o’r diweddariad ar y Cynllun Rheoli Cyrchfan a rhoddodd grynodeb o gyd-destun y Cynllun. Dywedodd fod gan Flaenau Gwent gysylltiadau cryf gyda gweithgynhyrchu, fodd bynnag mae hefyd gysylltiadau cryf gyda thwristiaeth ac mae’r Cynllun yn sicrhau y byddai sefydliadau, busnesau a phobl yn cydweithio i gyflawni targedau a gytunwyd. Nododd ymhellach y themâu trawsbynciol a’r pum prif thema a fanylir yn yr adroddiad a dywedodd fod y Pwyllgor Craffu wedi cefnogi’r cynllun.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd na chafodd ardaloedd diwydiannol De Ddwyrain Cymru eu hystyried dros y blynyddoedd fel man ar gyfer twristiaeth neu atyniad i ddod ag ymweld â Chymru, fodd bynnag mae pethau wedi newid erbyn hyn. Ychwanegodd yr Aelod Gweithredol iddo fynychu cyfarfod Parc Rhanbarthol y Cymoedd yn ddiweddar gydag awdurdodau eraill ac mae cyfle yn awr i fanteisio ar asedau hanesyddol a gofodau gwyrdd ein cymoedd.

 

Mae llawer iawn o ofodau gwyrdd yng Nghymru, er y caiff Cymru ei hyrwyddo fel arfer drwy ein llwybrau arfordirol a thraethau hardd. Nodwyd fod hefyd ardaloedd gwyrdd tebyg i Lynnoedd Cwmtyleri a Pharc Bryn Bach sydd ar gael ym Mlaenau Gwent ac sy’n arwain at ofodau gwyrdd eraill ar draws y Cymoedd.

 

Teimlai’r Aelod Gweithredol fod angen wrth symud ymlaen i edrych ar lety a thrafnidiaeth yn y Fwrdeistref yn ogystal ag allan o Flaenau Gwent. Cytunodd yr Arweinydd gyda’r sylwadau a wnaed a chroesawodd yr agwedd trafnidiaeth gan fod hyn yn hanfodol wrth gyflawni nodau’r Cynllun.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Cynllun Rheoli Cyrchfan Blaenau Gwent.

 

10.

Cyllido Torfol Dinesig pdf icon PDF 442 KB

Ystyried adroddiad Cyfawryddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Tîm Cymunedau Cysylltiedig.

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol drosolwg manwl o’r adroddiad a dywedodd y cafodd yr adroddiad ei gefnogi gan y Pwyllgor Craffu oedd yn croesawu fod hon yn ffordd wahanol i gael mynediad i gyllid a chefnogi grwpiau cymunedol lleol.

 

Croesawodd yr Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd y strwythur newydd sy’n rhoi cyfle i grwpiau cymunedol i gydweithio a chael mynediad i gyllid mewn ffordd wahanol. Gobeithid y byddai hyn yn dod â grwpiau ynghyd o bob rhan o’r Fwrdeistref ac yn rhoi rôl allweddol i’r Cyngor wrth weithio gyda grwpiau lleol. Nododd yr Aelod Gweithredol y dialog a gynhaliwyd am gyllido torfol a theimlai ei bod yn ffordd newydd a chadarnhaol i gyrchu cyllid ar gyfer cymunedau.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad ac Opsiwn 2: sef cyflwyno cais am Gyllid Her Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ar gyfer llwyfan cyllido torfol dinesig, gan weithredu fel yr awdurdod arweiniol. Cymeradwywyd hefyd weithredu llwyfan cyllido torfol rhanbarthol, yn cynnwys Blaenau Gwent, i gefnogi datrysiadau i brosiectau a heriau a ddynodwyd yn lleol, yn amodol ar ddyfarnu cyllid.

 

11.

Adroddiad Uwch Ganolfan Peirianneg a MTC pdf icon PDF 683 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Nododd y Cyfarwyddwr Cyffredinol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol yr adroddiad sydd â dwy elfen, yn gyntaf Canolfan Rhagoriaeth Manufacturing Technology Catapult (MTC) y Deyrnas Unedig ar ddyfodol gweithgynhyrchu. Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol, fel rhan o waith gyda Cymoedd Technoleg, y gofynnwyd lle roedd angen i sylfaen sgiliau Blaenau Gwent fod yn gystadleuol dros y 10 mlynedd nesaf Cynhaliwyd arolwg a ddynododd nad yw busnesau bach a chanolig ar hyn o bryd mewn sefyllfa ariannol a fyddai’n annog unrhyw fuddsoddiad sylweddol mewn naill ai hyfforddiant staff neu offer newydd.

 

Fel canlyniad i’r arolwg dywedwyd yr argymhellwyd fod y Ganolfan Uwch Beirianneg yn cynnig amrywiaeth o raglenni ymwybyddiaeth technoleg a fyddai’n galluogi busnesau bach a chanolig i ymchwilio, ar gost isel iawn, fanteision defnyddio amrywiaeth o dechnolegau gyda’r potensial i wella effeithiolrwydd eu busnes, tra hefyd yn datblygu ffrydiau refeniw ychwanegol drwy arallgyfeirio i gynnyrch a gwasanaethau ychwanegol.

 

Gyda’r argymhellion hyn y bydd y timau yng Ngholeg Gwent a’r awdurdod lleol wedi ystyried yn ofalus yr offer a brynwyd ar gyfer y safle a gweledigaeth i ddatblygu Canolfan Uwch Beirianneg a fyddai’n creu amgylchedd a fyddai’n denu mewnfuddsoddwyr technoleg uchel o fewn y sector Uwch Weithgynhyrchu.

 

Roedd Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol yn croesawu ymgyfraniad Coleg Gwent oedd yn dymuno gweithio mewn partneriaeth gyda’r cyfleuster a byddai’n sylfaen i’r cyllid refeniw i gyflawni’r ystod sgiliau sydd eu hangen. Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y caiff hen adeilad Monwel ei drosi yn gyfleuster hyfforddiant gyda’r Cyngor yn berchennog gyda phrydles hir i Goleg Gwent. Cyflwynwyd cynnig i Cymoedd Technoleg i gyllido gwaith cyfalaf a byddai’r costau hynny yn cynnwys offer gan y disgwylir y bydd yn gyfleuster o’r math diweddaraf un.

 

Croesawodd yr Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd yr adroddiad a chyfeiriodd at adroddiad a gyhoeddwyd pan gafodd y Gwaith Dur ei gau lle mai un o’r datganiadau allweddol oedd mai addysg yw’r ffordd allan o dlodi. Teimlai’r Aelod Gweithredol fod y Cyngor yn cyflawni hyn gyda’r adroddiadau a gyflwynwyd. Bu llawer o sôn nad oes gan Flaenau Gwent y sylfaen sgiliau neu galluoedd mewn rhai meysydd, fodd bynnag nid oedd hyn mwyach yn wir, drwy i dimau mewn ysgolion a Choleg Gwent yn cydweithio’n nes nag y buont mewn llawer o flynyddoedd. Byddai’r Ganolfan hon yn rhan o ddarlun mwy ac er fod y sgiliau hyn ar y brig, roedd yn dal i fod angen trydanwyr a gosodwyr brics ac mae gan Goleg Gwent y cyfleusterau hyfforddiant hyn sydd angen eu hyrwyddo.

 

Daeth yr Aelod Gweithredol i ben drwy dweud, wrth i’r Awdurdod symud ymlaen fel partneriaid gyda Cymoedd Technoleg a’r Brifddinas-Ranbarth, rhagwelid y byddai busnesau yn edrych ar draws y cwm i Flaenau Gwent ac roedd yn bleser mawr ganddo gyflwyno’r adroddiad hwn.

 

Cytunodd yr Aelod Gweithredol Addysg gyda’r sylwadau a wnaed a rhannodd y brwdfrydedd am brentisiaethau sydd yn bwysig. Roedd hwn yn gyfle gwych ac yn bartneriaeth rhwng Addysg ac Adfywio sy’n rhoi cyfleoedd cyffrous ar gyfer ein  ...  view the full Cofnodion text for item 11.

Eitemau er Penderfyniad - Materion Gwasanaethau Cymdeithasol

12.

Strategaeth Ddiwygiedig Gostyngiad Diogel yn Nifer y Plant sy’n Derbyn Gofal 2020 - 2025 pdf icon PDF 506 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Siaradodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol yn fanwl am yr adroddiad sy’n darparu strategaeth ddiwygiedig Gostyngiad Diogel yn Nifer y Plant sy’n Derbyn Gofal. Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y bu’r strategaeth ddechreuol yn ei lle am 3 blynedd ac oherwydd y gwaith da mewn gostwng nifer y plant sy’n cael eu rhoi mewn gofal, teimlid y byddai’n fuddiol i ddiwygio ac adolygu’r strategaeth. Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol ymhellach y prif argymhellion ac amcanion a dywedodd y bu’r effaith nid yn unig ar ostwng nifer y plant sydd angen dod i ofal ond hefyd ar y pwysau cyllideb ar Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Cyngor.

 

Dywedwyd yr adroddwyd gorwariant o £2.5m yn 2016/2017 a bod hynny wedi gostwng yn sylweddol i danwariant o £75,494 ym mlwyddyn ariannol 2019/2020, felly gobeithid y byddai parhau â’r Strategaeth yn galluogi Gwasanaethau Plant ymhellach i reoli eu cyllidebau yn y dyfodol.

 

Croesawodd yr Aelod Gweithredol Gwasanaethau Cymdeithasol yr adroddiad a nododd y penderfyniad mawr a gymerwyd yn 2017 pan gynyddodd nifer y plant a ddaeth i ofal. Dywedodd yr Aelod Gweithredol y cafodd y Tîm Ymyl Gofal, a ran-ariannwyd gan Gwasanaethau Cymdeithasol a grant gan Lywodraeth Cymru, ei lunio i fynd i’r afael â’r cynnydd yn nifer y plant sy’n dod i ofal. Roedd y nifer tua 237 ym mis Gorffennaf 2018, fodd bynnag roedd yr Aelod Gweithredol yn falch i ddweud fod y nifer yn 2021 yn 199. Teimlai’r Aelod Gweithredol fod hon yn gryn gamp ac yn adlewyrchu gwaith ardderchog y Tîm dros y blynyddoedd.

 

Nododd yr Aelod Gweithredol waith arall a wnaed mewn partneriaeth gyda chydweithwyr yn Sir Fynwy gyda phlant gydag anghenion mwy cymhleth mewn gofal. Fe welodd y gwaith hwn hefyd ostyngiad mewn nifer o 18 i 12. Mae’r gostyngiadau hyn yn dangos fod ein tîm Gwasanaethau Cymdeithasol wedi ymrwymo’n llawn i ofalu am blant yn ein cymunedau ac yn perfformio’n dda. Dywedodd yr Aelod Gweithredol mor falch yr oedd gyda gwaith rhagorol staff Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Cytunodd yr Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd gyda’r sylwadau a wnaed a chydnabod y gwaith gwych mewn Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.

 

Eitemau er Penderfyniad - Materion yr Amgylchedd

13.

Adroddiad Sefyllfa Ceffylau sy’n Pori’n Anghyfreithlon pdf icon PDF 735 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol..

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymdeithasol..

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad ac Opsiwn 2, sef bod y Pwyllgor Gweithredol yn cefnogi’r broses bresennol ar gyfer symud ceffylau a nodir yn yr adroddiad gyda defnydd contractwyr a’r costau yn gysylltiedig gyda hyn a bod y Cyngor yn ystyried gweithio gyda phartneriaid, ac yn cael caniatâd i ddilyn gorfodaeth yng nghyswllt y Ddeddf Rheoli Ceffylau mewn ardaloedd lle mae problemau sylweddol yn unol ag Amcan 2 y Cynllun Llesiant.

 

Eitemau Monitro - Gwasanaethau Corfforaethol

14.

Monitro’r Gyllideb Refeniw 2020/2021, Rhagolwg Alldro hyd 31 Mawrth 2021 (fel yn 31 Rhagfyr 2020). pdf icon PDF 587 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Siaradodd y Prif Swyddog Adnoddau yn fanwl am yr adroddiad sy’n rhoi rhagolwg sefyllfa all-dro ariannol i’r Pwyllgor Gweithredol ar draws pob portffolio ar gyfer blwyddyn ariannol 2020/2021 yn ôl rhagolwg 31 Rhagfyr 2020. Amlinellodd y Prif Swyddog bwyntiau allweddol yr adroddiad a rhoddodd drosolwg o’r effaith ar y gyllideb fel y manylir yn yr adroddiad.

 

Diolchodd yr Arweinydd i’r Prif Swyddog am y trosolwg o’r adroddiad a gofynnodd am drefnu is-gr?p ar Bwysau Cost i roi ystyriaeth i’r Cynlluniau Gweithredu. Cadarnhaodd y Prif Swyddog Adnoddau fod y tîm yn gweithio ar hyn o bryd ar yr all-dro darpariaethol er mwyn rhoi sefyllfa fwy diweddar i’r is-gr?p ar Bwysau Cost.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a rhoi her briodol i’r deilliannau ariannol a nodwyd yn yr adroddiad.

 

15.

Monitro’r Gyllideb Gyfalaf, Rhagolwg ar gyfer Blwyddyn Ariannol 2020/2021 (fel ar 31 Rhagfyr 2020) pdf icon PDF 434 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Amlinellodd y Prif Swyddog Adnoddau yr adroddiad a chyfeiriodd at y prosiectau oedd wedi adrodd gorwariant sylweddol, fel sy’n dilyn:-

 

Canolfan Ailgylchu Gwastraff Aelwydydd - £204,095

Parc Busnes Rhodfa Falch - £234,710

 

Dywedodd y Prif Swyddog Adnoddau y dynodwyd y ddau orwariant fel bod yn ymwneud â chostau uwch a achoswyd gan bandemig Covid-19. Mae trafodaethau gyda chyrff cyllido yn mynd rhagddynt i ofyn am gyllid ychwanegol.

 

Dywedwyd hefyd fod Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau cefnogaeth ariannol am gostau a gafwyd fel canlyniad i ddifrod llifogydd yn ystod mis Mawrth 2020. Fel canlyniad, disgwylir yn awr y caiff y gorwariant a ragwelwyd yn yr ail chwarter o £24,000 yng nghyswllt gwaith adferiad llifogydd. Felly, ni fyddai angen adnoddau’r Cyngor ei hun ar gyfer y gwaith trwsio ar Heol Aber-big, felly cynigiwyd y byddid ailosod y dyraniad o £405k ym mhrosiect y Bwa Mawr fel y cytunwyd gan y Cyngor ar 23 Gorffennaf 2020.

 

Dywedodd yr Arweinydd y cafodd y materion hyn eu hystyried yng nghyfarfod diwethaf y Cyngor a chafodd y rhaglen cyfalaf ei hail-alinio yn unol â hynny.

 

Cyfeiriodd yr Arweinydd hefyd at Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Cartrefi yn Roseheyworth lle bu oedi oherwydd y pandemig. Fodd bynnag, gobeithid y byddai’r costau ychwanegol hyn yn cael eu dileu oherwydd ei bod ar fin ailagor a gwahoddodd Aelod Gweithredol yr Amgylchedd i roi diweddariad.

 

Roedd Aelod Gweithredol yr Amgylchedd yn falch i ddweud y byddai’r ail Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Cartrefi yn Roseheyworth yn agor ddydd Llun drwy’r system archebu ar-lein. Dywedwyd y gallai preswylwyr naill ai ffonio neu archebu ar-lein a chafodd hynny groeso da iawn hyd yma. Bu rhai problemau ac ymholiadau o ran beth fedrid ei dderbyn, fodd bynnag gobeithid y byddai’r materion hynny yn cael eu trin drwy ddatganiad i’r wasg y byddai’n cael ei gyhoeddi cyn agor.

 

Croesawodd yr Arweinydd y newyddion da a dywedodd ei fod yn brosiect arall yr oedd y weinyddiaeth wedi ymrwymo i’e gyflawni.

 

Cyfeiriodd yr Aelod hefyd at arian ychwanegol ar gyfer gwaith priffyrdd a dywedodd y byddai cyfarfod yn cael ei drefnu yn yr wythnosau nesaf i ddatblygu rhaglen o waith ar ffyrdd a strydoedd preswyl i barhau’r gwaith a ddechreuwyd yn 2017. Gobeithid y gallai cyfres o weithiau ddechrau yn y misoedd nesaf yn dilyn y trafodaethau hyn.

 

PENDERFYNWYD i dderbyn yr adroddiad ac Opsiwn 1; sef darparu’r her briodol i’r deilliannau ariannol yn yr adroddiad, cefnogaeth barhaus i’r gweithdrefnau rheoli ariannol priodol a gytunwyd gan y Cyngor, a’r gweithdrefnau rheoli a monitro’r gyllideb sydd yn eu lle o fewn y Tîm Cyfalaf, i ddiogelu cyllid yr Awdurdod.

 

16.

Defnyddio Cronfeydd wrth Gefn Cyffredin a Chronfeydd wrth Gefn wedi’u Clustnodi 2020/2021 pdf icon PDF 595 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Amlinellodd y Prif Swyddog Adnoddau bwyntiau allweddol yr adroddiad a dweud, er fod y cronfeydd wrth gefn yn cyd-fynd â’r targedau a osodwyd gan yr Awdurdod, ei bod yn hollbwysig fod y Cyngor yn sicrhau lefel addas o gronfeydd wrth gefn i gefnogi ei gynaliadwyedd ariannol o gymharu ag Awdurdodau eraill Cymru, roedd Blaenau Gwent yn dal i fod ag un o’r lefelau isaf o gronfeydd wrth gefn cyffredinol a chronfeydd wrth gefn wedi’u clustnodi.

 

Nododd yr Arweinydd y lefel briodol o gronfeydd wrth gefn a dywedodd fod gan yr Awdurdod beth ffordd i fynd o hyd o gymharu â mwyafrif llethol awdurdodau lleol ledled Cymru. Roedd yn bwysig fod cydnerthedd ariannol ychwanegol tu cefn i’[r Awdurdod ac y byddai pwysau ychwanegol ar lywodraeth leol yn y misoedd a’r blynyddoedd i ddod. Ategodd yr Arweinydd mai safiad a gymerodd yr Awdurdod yn ariannol adeg gosod cyllideb oedd yr un cywir gan ei fod yn ymwneud â budd hirdymor y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad ac

 

·         ystyried y rhagolwg defnydd o gronfeydd wrth gefn cyffredinol a chronfeydd wrth gefn wedi’u clustnodi ar gyfer 2020/2021;

 

·         ystyried yr effaith y byddai amrywiad ffafriol o £0.552m ar gyfer 2020/2021 yn ei gael ar y cyfraniad yn y gyllideb i’r gronfa gyffredinol wrth gefn;

 

·         nodi’r  rhagolwg cynnydd yn y gronfa gyffredinol yn 2020/2021 i £7.151m, sef 5.28% o wariant refeniw net (uwch na’r lefel targed o 4%; a

 

·         parhau i herio gor-wariant y gyllideb a gweithredu cynlluniau gweithredu gwasanaeth addas lle mae angen.

 

Mae cynnal cronfeydd wrth gefn cyffredinol ar lefel ddigonol yn hanfodol wrth i’r Cyngor fedru cyflawni rhwymedigaethau’r dyfodol yn deillio o risgiau na wnaed darpariaeth penodol ar eu cyfer.

 

Eitemau Monitro – Addysg

17.

Adolygiad Thematig Estyn – Ymateb Blaenau Gwent i COVID-19 pdf icon PDF 512 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

 

Siaradodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg am yr adroddiad sy’n ymwneud ag adroddiad adolygiad thematig Estyn sy’n amlinellu naratif ar yr ymateb corfforaethol i sefyllfa COVID-19, yn neilltuol yn cefnogi’r ysgolion yn ystod cyfnod yr argyfwng. Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y rhoddir llythyr yr Adolygiad Thematig yn Atodiad 1 a dywedodd fod y llythyr yn gyffredinol gadarnhaol ac yn cyfeirio at uchafbwyntiau ymarfer nodedig. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod canfyddiadau’r Adolygiad yn rhoi sicrwydd fod y Cyngor/Cyfarwyddiaeth Addysg wedi trin yr ymateb argyfwng yn dda wrth gefnogi ysgolion, ond yn amlwg mae hefyd feysydd i’w dysgu wrth symud ymlaen.

 

Ar wahoddiad yr Arweinydd, rhoddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg yr adborth cadarnhaol a gafwyd o’r cyfarfod a y cyd a gynhaliwyd gyda Rheoleiddwyr y Cyngor.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Estyn fod yr wybodaeth a gyflwynwyd gan Estyn yn adeiladol o ran lle mae’r Gyfarwyddiaeth a’r Cyngor ar hyn o bryd. Roedd yn dda nodi eu bod yn dynodi cydweithio corfforaethol cryf ac yn gweithio ar draws y Cyngor gan fod Fframwaith Llywodraeth Leol ar gyfer Gwasanaethau Addysg (LGES) Estyn yn seiliedig ar waith corfforaethol y Cyngor, nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol nad gwaith y Gyfarwyddiaeth Addysg yn unig yn hyn ond yn bwysig y ffordd y mae’r Cyngor yn cefnogi dysgwyr yn gyffredinol. Mae’r tri maes a ddynododd Estyn i’r Cyngor ganolbwyntio arnynt yn hysbys i swyddogion. Mae cydnabyddiaeth fod y Cyngor yn adnabod ysgolion yn dda a’u bod mewn sefyllfa dda i gefnogi ysgolion sydd angen cefnogaeth. Rhagwelwyd, lle dynodwyd fod ysgolion yn tanberfformio, fod arwyddion calonogol gyda’r potensial i gael eu symud o gategori Estyn yn y dyfodol.

 

Dywedodd yr Aelod Gweithredol Estyn yr adroddiad cadarnhaol a theimlai y cafodd yr ymateb argyfwng ei drin yn dda gyda gwaith effeithlon a chydweithio cryf ar draws yr Awdurdod a gydag ysgolion sy’n dangos y berthynas dda. Dymunai’r Aelod Gweithredol ddiolch i’r Gyfarwyddiaeth Addysg ac adrannau ar draws y Cyngor yn ogystal â staff seiliedig mewn ysgolion a fu’n cydweithi’n effeithlon yn ystod y pandemig er budd ein dysgwyr.

 

Cytunodd yr Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd gyda’r sylwadau a wnaed a dywedodd y bu’r gwaith drwyddo draw yn rhagorol ac y teimlai fod y cysylltiadau hyn gydag ysgolion wedi dod yn gryfach.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.

 

18.

Ffurflen Flynyddol 2019/20 Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru 2019/20 pdf icon PDF 538 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.

 

Eitemau Monitro - Gwasanaethau Cymdeithasol

19.

Ymateb Gwasanaethau Plant i blant agored i niwed yn ystod pandemig COVID-19 pdf icon PDF 525 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Cymdeithasol drosolwg o’r adroddiad sy’n rhoi gwybodaeth ar sut y newidiodd Gwasanaethau Plant y ffordd y darparwyd gwasanaethau drwy gydol pandemig Covid-19.

 

Roedd yr Adran wedi trin y pandemig ar sail ranbarthol ac roedd penaethiaid gwasanaethau Oedolion a Phlant wedi cwrdd ar sail Gwent-gyfan a phenderfynu sut i drin y pandemig. Siaradodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol am yr adroddiad ymhellach a dweud sut y symudwyd ymlaen gyda gweithio rhanbarthol ym Mlaenau Gwent.

 

Yn nhermau’r cyfarfod diweddar a gynhaliwyd gyda Rheoleiddwyr y Cwmni, dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol fod Arolygiaeth Safonau Gofal Cymru yn gadarnhaol am reolwyr a staff a sut yr oeddent wedi parhau i ddarparu gwasanaethau ar gyfer y cymunedau ym Mlaenau Gwent a pha mor dda yr ydym wedi gweithio gyda phartneriaid yn gorfforaethol a hefyd gyda chydweithwyr eraill yn ystod pandemig Covid-19. Roedd gan yr Arolygiaeth sicrwydd a hyder yn y Gwasanaethau Cymdeithasol wrth barhau i ddarparu gwasanaethau yn y dyfodol.

 

Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol fod y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cefnogi’r adroddiad a nododd eu gwerthfawrogiad o staff ar draws y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol am eu gwaith gyda theuluoedd yn ystod y pandemig.

 

Dymunai Aelod Gweithredol Gwasanaethau Cymdeithasol ategu ei ddiolch am y gwaith a wnaed yn ystod y pandemig. Bu’r cydweithio ar draws y Cyngor yn rhagorol a chroesawyd y sylwadau cadarnhaol a gafwyd gan Arolygiaeth Safonau Gofal Cymru.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.

 

20.

Eitem(au) Eithredig

Derbyn ac ystyried yr adroddiad dilynol sydd ym marn y swyddog priodol yn eitem(au) eithriedig gan roi ystyriaeth i’r prawf budd cyhoeddus ac y dylai’r wasg a’r cyhoedd gael eu heithrio o’r cyfarfod (mae’r rheswm dros y penderfyniad am yr eithriad ar gael ar restr a gedwir gan y swyddog priodol).

 

21.

Diweddariad ar gostau cyfreithiol yn gysylltiedig gyda Gwasanaethau Plant

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Cofnodion:

Gan roi ystyriaeth i’r farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol yng nghyswllt y prawf cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gal ei eithrio.

 

PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra cynhelir yr eitem hon o fusnes gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Cymru 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad sy’n cynnwys gwybodaeth yn ymwneud â materion ariannol/busnes personau heblaw’r Awdurdod a chymeradwyo Opsiwn 1.