Agenda and minutes

Pwyllgor Gwaith - Dydd Mercher, 13eg Tachwedd, 2019 10.00 am

Lleoliad: Ystafell y Weithrediaeth, Canolfan Ddinesig, Glynebwy

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  6011

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Bydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gael os gofynnir am hynny.

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

YMDDIHEURIADAU

 

Derbyniwyd yr ymddiheuriadau dilynol am absenoldeb:-

 

Cynghorydd D. Davies

Rheolwr Gyfarwyddwr

 

CROESO

 

Croesawodd yr Arweinydd y Cynghorydd Wilkins, Cadeirydd Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol i'r cyfarfod. Dywedodd yr Arweinydd y gwahoddwyd y Cadeirydd i roi adborth ar y sylwadau/argymhellion a wnaed yng nghyfarfod Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol yng nghyswllt adroddiadau Strategaeth Rheoli Gwastraff ac Ailgylchu 2018-2025 a'r Achos Busnes Strategol - Datblygu Ail Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Cartrefi (HWRC).

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Deryn datganiadau buddiant a goddefebau.

 

Cofnodion:

Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.

 

 

Materion Cyffredinol

4.

Cynadleddau, Cyrsiau, Digwyddiadau a Gwahoddiadau pdf icon PDF 268 KB

Ystyried adroddiad y Tîm Gwasanaethau Democrataidd.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i bresenoldeb yn y dilynol:-

 

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a Chynhadledd CLAW – 14 Tachwedd 2019

 

PENDERFYNWYD rhoi cymeradwyaeth i'r Cynghorydd G. Collier, Dirprwy Arweinydd/Aelod Gweithredol - Amgylchedd a Clive Rogers, Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol fynychu.

 

Digwyddiad Cyflwyno'r Fyddin - 21 Tachwedd 2019

 

PENDERFYNWYD rhoi cymeradwyaeth i'r Cynghorydd B. Thomas, Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog fynychu.

 

 

Cofnodion

5.

Pwyllgor Gweithredol pdf icon PDF 378 KB

Ystyried cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Medi 2019.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y Pwyllgor Gweithredol a gynhaliwyd ar 26 Medi 2019.

 

PENDERFYNWYD cadarnhau'r cofnodion.

 

 

Eitemau er Penderfyniad - Materion Gwasanaethau Corfforaethol

6.

Blaenraglen Gwaith - 18.12.2019 pdf icon PDF 495 KB

Derbyn y Flaenraglen Gwaith.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad yr Arweinydd/Aelod Gweithredol Gwasanaethau Corfforaethol.

 

Dywedodd yr Aelod Gweithredol y byddai angen gohirio'r adroddiad ar Gludiant a Chymorth - Polisi Codi Tâl tan gyfarfod mis Ionawr.

 

PENDERFYNWYD yn unol â hynny.

 

PENDERFYNWYD YMHELLACH, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a nodi'r flaenraglen gwaith ar gyfer 18 Rhagfyr 2019.

 

7.

Grantiau i Sefydliadau pdf icon PDF 111 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Hysbyswyd aelodau am y grantiau ychwanegol dilynol a gyflwynwyd i gael eu cymeradwyo ers paratoi'r adroddiad:-

 

ABERTYLERI

 

Ward Abertyleri - Cynghorydd N. Daniels

 

1.

Gorymdaith Sul y Cofio

£24

 

Ward Abertyleri - Cynghorydd J. Holt

 

1.

Gorymdaith Sul y Cofio

£24

 

Ward Abertyleri- Cynghorydd M. Cook

 

1.

Gorymdaith Sul y Cofio

£24

 

Ward Cwmtyleri - Cynghorydd T. Sharrem

 

1.

Gorymdaith Sul y Cofio

£24

 

Ward Cwmtyleri- Cynghorydd J. Wilkins

 

1.

Gorymdaith Sul y Cofio

£24

 

Ward Cwmtyleri - Cynghorydd M. Day

 

1.

Gorymdaith Sul y Cofio

£24

 

Ward Llanhiledd - Cynghorydd H. McCarthy

 

1.

Gorymdaith Sul y Cofio

£24

 

Ward Llanhiledd - Cynghorwyr J. Collins a N. Parsons

 

1.

Gorymdaith Sul y Cofio

£48

 

Ward Six Bells – Cynghorydd D. Hancock

 

1.

Gorymdaith Sul y Cofio

£24

Ward Six Bells – Cynghorydd M. Holland

 

1.

Gorymdaith Sul y Cofio

£24

 

BRYNMAWR

Ward Brynmawr - Cynghorydd J. Hill

 

1.

Gorymdaith Sul y Cofio

£62

2.

Cwmni Theatr Gerdd Brynmawr

£100

 

 

 

Ward Brynmawr - Cynghorydd L. Elias

 

1.

Gorymdaith Sul y Cofio

£62

2.

Cwmni Theatr Gerdd Brynmawr

£100

3.

Mini Rygbi Glynebwy

£50

 

Ward Brynmawr - Cynghorydd W. Hodgins

 

 

1.

Gorymdaith Sul y Cofio

£62

GLYNEBWY

Ward Badminton – Cynghorydd G. Paulsen

 

1.

Gorymdaith Sul y Cofio

£95

Ward Badminton – Cynghorydd C. Meredith

 

1.

Gorymdaith Sul y Cofio

£95

Ward Beaufort - Cynghorwyr G. Thomas a S. Healy

 

1.

Gorymdaith Sul y Cofio 

£232.50

Gogledd Glynebwy – Cynghorwyr D. Davies, P. Edwards a R. Summers

 

1.

Gorymdaith Sul y Cofio 

£285

2.

Dyfrgwn Blaenau Gwent

£100

De Glynebwy – Cynghorwyr J. Millard a
K. Pritchard

 

1.

Gorymdaith Sul y Cofio

£190

Ward Rasa – Cynghorydd G. Davies

 

1.

Gorymdaith Sul y Cofio

£116.25

Ward Rasa – Cynghorydd D. Wilkshire

 

1.

Gorymdaith Sul y Cofio

£116.25

 

NANTYGLO A BLAENAU

Ward Nantyglo – Cynghorydd P. Baldwin

 

 

1.

Gorymdaith Sul y Cofio

£110.50

 

Ward Nantyglo – Cynghorwyr J. Mason a K. Rowson

 

1.

Gorymdaith Sul y Cofio

£221

2.

Pensiynwyr Nantyglo

£200

3.

Pensiynwyr Winchestown

£200

4.

Eglwys Santes Anne

£200

5.

Capel Wesleyaidd

£200

6.

Ymddiriedolaeth Mynwent Hermon

£200

7.

Clwb Rygbi Nantyglo

£200

8.

Ysgol Coed y Garn

£200

9.

Ysgol Gymraeg Bro Helyg

£200

10.

Sgwadon 275 ATC Nantyglo a Blaenau

£100

11.

Sgowtiaid Nantyglo a Blaenau

£100

12.

Crefft Ymladd Falcon

£100

13.

PHAB

£100

14.

BGFM

£100

15.

Clwb Pêl-droed Nantyglo

£100

16.

Siop Gymunedol Nantyglo

£100

17.

Hooks & Pins

£100

18.

Goleuadau Nadolig Cyngor Tref Nantyglo a Blaenau

£100

19.

Blaenau Gwent Rhythm & Ukes

£100

20.

Apêl Maer Nantyglo a Blaenau

£100

Ward Blaenau – Cynghorydd J. P. Morgan

 

1.

Gorymdaith Sul y Cofio

£110.50

2.

Apêl Jack Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

£285

Ward Blaenau – Cynghorydd L. Winnett

 

1.

Gorymdaith Sul y Cofio

£110.50

2.

Apêl Jack Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

£285

Ward Blaenau - Cynghorydd G. Collier

 

1.

Gorymdaith Sul y Cofio

£110.50

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo'r  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

Siarter Cytundeb Cyffredin rhwng y Cynghorau Cymuned a Thref a Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent pdf icon PDF 492 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Llywodraethiant a Phartneriaethau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y cyd Swyddogion.

 

Nododd yr Arweinydd y Siarter Cytundeb Cyffredin rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent a phob un o'r pedwar Cyngor Cymuned a Thref a gytunwyd gyda'r holl Gynghorau Tref a Chymuned. Dywedodd yr Arweinydd y byddai'r Siarter yn rhoi dull gweithredu mwy strategol a pherthnasol rhwng Cynghorau Tref a'r Cyngor Bwrdeistref.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef cymeradwyo'r Siarter Cytundeb Cyffredin newydd rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent a'r pedwar Cyngor Cymuned a Thref. Cymeradwywyd y Siarter gan y Cynghorau Cymuned a Thref a'i gadarnhau gan aelodau QLC ym mis Medi 2019.

 

 

9.

Polisi Amser Bant ar gyfer Aelodau Lluoedd wrth Gefn pdf icon PDF 483 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol i gael ei ystyried.

 

Nododd yr Arweinydd yr adroddiad sy'n hunan-esboniadol wrth ceisio cymeradwyaeth ar gyfer polisi newydd ar gyfer yr Awdurdod ar gyfer amser bant i aelodau'r lluoedd wrth gefn. Dywedodd yr Arweinydd fod rhoi cefnogaeth i aelodau'r lluoedd wrth gefn yn elfen bwysig yn y Dyfarniad Arian a roddwyd os caniateir y Polisi.

 

Ychwanegodd yr Arweinydd fod Blaenau Gwent yn sefydliad arweiniol wrth gyflawni Cyfamod y Lluoedd Arfog a dymunai sôn am y Cynghorydd Brian Thomas, Hyrwyddwr Lluoedd Arfog sydd wedi cynrychioli Blaenau Gwent yn dda iawn mewn pob digwyddiad cysylltiedig.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef cefnogi a chymeradwyo'r Polisi Amser Bant ar gyfer Aelodau'r Lluoedd Arfog.

 

 

10.

Adroddiad Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2018/2019 pdf icon PDF 414 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd Aelodau adroddiad y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef nodi'r wybodaeth a gynhwysir ynddo a chyfeirio'r adroddiad at y Pwyllgor Archwilio i gael sicrwydd fod y broses ar gyfer monitro cwynion yn gadarn a bod yr wybodaeth perfformiad a roddwyd yn adlewyrchu'r arferion hyn.

 

Eitemau Penderfyniad - Materion Amgylchedd

11.

Strategaeth Rheoli Gwastraff ac Ailgylchu 2018-25 pdf icon PDF 733 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Cymdogaeth

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Amgylchedd.

 

Siaradodd y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol am yr adroddiad sy'n cyflwyno'r drafft Strategaeth Rheoli Gwastraff ac Ailgylchu i aelodau'r Pwyllgor Gweithredol. Dywedodd y Swyddog y datblygwyd y Strategaeth mewn dau ran gyda'r Strategaeth yn amlinellu'r weledigaeth, cyd-destun, amcanion a dulliau cyflenwi a'r Cynllun Gweithredu yn rhoi'r manylion a'r amserlenni sy'n adlewyrchu'r amcanion a gofynion cyflenwi.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol fod y Strategaeth yn nodi'r weledigaeth hirdymor ar gyfer gwasanaethau rheoli gwastraff ac ailgylchu. Aiff y Strategaeth tu hwnt i dargedau Llywodraeth Cymru gan ddynodi un strategaeth integredig sy'n nodi sut y byddai Blaenau Gwent yn cyflawni ei gweledigaeth, yn gweithio gydag eraill, yn ymgysylltu gyda phreswylwyr a gosod nodau a ffyrdd o weithio Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol wrth galon popeth a wnaiff. Cafodd y weledigaeth ar gyfer gwastraff ac ailgylchu ei hamlinellu ymhellach fel y nodir yn yr adroddiad.

 

Ychwanegodd y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol fod y Pwyllgor Craffu yn cefnogi'r polisi drafft gyda'r argymhelliad y dylai unrhyw newidiadau gwasanaeth yn y dyfodol ddychwelyd i'r Pwyllgor Craffu i gael eu hystyried  cyn eu gweithredu.

 

Nododd y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol y goblygiadau ariannol a'r effaith bosibl ar ofynion cyllid refeniw a hefyd gyllid cyfalaf yn gysylltiedig gyda datblygu a gweithredu'r strategaeth. Dywedodd y Swyddog y byddid yn dod â'r materion cysylltiedig hyn ymlaen wrth benderfynu ar newidiadau gwasanaeth yn y dyfodol.

 

Ar y pwynt hwn rhoddodd yr Arweinydd wahoddiad i Gadeirydd Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol roi sylwadau'r Pwyllgor Craffu. Dywedodd y Cadeirydd y cafodd y ddrafft strategaeth ei hystyried gan y Pwyllgor Craffu ac ategodd yr argymhelliad a wnaed yn nhermau bod unrhyw newidiadau gwasanaeth yn y dyfodol yn cael eu hystyried gan y Pwyllgor Craffu cyn eu gweithredu.

 

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Cymunedol hefyd y bu cais i swyddogion ymchwilio ffyrdd i gasglu gwastraff anifeiliaid anwes.

 

Dywedodd yr Arweinydd iddo eistedd yn yr oriel gyhoeddus adeg y Pwyllgor Craffu ac y bu'n gyfarfod da iawn a gafodd ei gadeirio'n dda gyda'r Cynghorydd Wilkins a gadwodd yr Aelodau ar y trywydd yn dda iawn. Nododd yr Arweinydd y materion a godwyd yng nghyswllt gwastraff anifeiliaid anwes a dywedodd fod hyn yn fater a nodwyd yn Sesiynau Ymgysylltu Golwg Strydoedd. Nodwyd fod y Cyngor yn rhedeg casgliad glanweithdra llwyddiannus felly gellid ymchwilio'r un broses ar gyfer gwastraff anifeiliaid anwes.

 

Cefnogodd y Dirprwy Arweinydd/Aelod Gweithredol Amgylchedd y polisi a fyddai'n helpu mynd i'r afael â chyfraddau ailgylchu i osgoi'r Awdurdod rhag gorfod talu cosbau. Teimlai'r Dirprwy Arweinydd y byddai'n well gwario'r arian a ddefnyddir ar gyfer unrhyw gosbau posibl ar wasanaethau eraill.

 

Cytunodd y Dirprwy Arweinydd ymhellach gyda'r awgrym i ymchwilio casgliadau gwastraff anifeiliaid anwes. Teimlai nad oedd hynny'n dasg amhosibl gan y gellir cyflwyno casgliad tebyg i wastraff glanweithdra.

 

Cytunodd yr Aelodau Gweithredol gyda'r ymchwiliadau i drin gwastraff anifeiliaid anwes ac felly cytunwyd ychwanegu hynny at yr argymhelliad y dylid llunio adroddiad i'w ystyried gan y Pwyllgor Craffu a'r Pwyllgor Gweithredol. Ychwanegodd yr Arweinydd y byddai goblygiad cost, fodd bynnag yn yr achos  ...  view the full Cofnodion text for item 11.

12.

Yr Achos Busnes Strategol - Datblygu Ail Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Cartrefi (HWRC) ym Mharc Busnes De Roseheyworth pdf icon PDF 649 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol i gael ei ystyried.

 

Siaradodd y Rheolwr Gwasanaeth - Gwasanaethau Cymdogaeth am yr adroddiad ac amlinellu'r prif bwyntiau ynddo. Nododd y Rheolwr Gwasanaeth y gefnogaeth a gafwyd gan WRAP i ddatblygu'r Achos Busnes Strategol sy'n ffurfio rhan o'r cais i Lywodraeth Cymru. Roedd arweinwyr y Cyngor wedi cwrdd gyda'r Dirprwy Weinidog ym mis Gorffennaf i amlinellu'r achos busnes a chadarnhau ymrwymiad y Cyngor i gyrraedd y targedau ailgylchu 64% a 70%.

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau erbyn hyn y bu'r Cyngor yn llwyddiannus wrth gael y dyfarniad llawn o gyllid cyfalaf ar gyfer £2.8m a nododd amcangyfrif o gostau'r HWRC newydd sy'n cynnwys gosod goleuadau traffig ar yr A467. Croesawyd hynny gan Aelodau oherwydd nifer y damweiniau ar y gyffordd i Barc Busnes Roseheyworth.

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Gwasanaeth at yr opsiynau a dywedodd fod y Pwyllgor Craffu wedi codi pryderon am barhau digwyddiadau tipio anghyfreithlon pe byddid yn gostwng nifer y dyddiau y mae'r safle ar gael. Felly cytunwyd ar argymhelliad i adroddiad i'w gyflwyno yng nghyfarfod mis Ionawr roi ystyriaeth i gostau refeniw y safle'n bod ar agor ar 5, 6 a 7 diwrnod.

 

Er mwyn cynyddu ffrydiau ailgylchu y dyfodol, dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol y gellid cynnig ystod ehangach o wasanaethau yn yr ail HWRC yn y dyfodol wrth i ni symud tu hwnt i'r targed 70% a byddai'r safle a gynigir yn galluogi'r Cyngor i ddelio gyda'r cyfleoedd newydd hyn ac y byddid yn dod â'r rhain ymlaen ar yr amser priodol. Ychwanegodd y Rheolwr Gwasanaeth y bu trafodaethau am safle ail-ddefnyddio ar gyfer bric-a-brac a chelfi bach gan nad yw'r Cyngor yn cyflawni'n dda yn y maes hwn ar hyn o bryd. Roedd nifer o gyfleoedd i gael eu hymchwilio wrth i'r safle dyfu yn cynnwys canolfan addysg ac mae Hosbis y Cymoedd wedi datgan diddordeb mewn cydweithio yn y maes.

 

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol fod y Pwyllgor Craffu wedi croesawu'r adroddiad a nododd y codwyd pryderon yng nghyswllt costau refeniw ar yr oriau agor felly gofynnwyd am y adroddiad gael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Craffu nesaf i'w ystyried fel mater o frys.

 

Teimlai'r Dirprwy Arweinydd y byddai'r ail HWRC yn mynd i'r afael â phroblemau tipio anghyfreithlon yn ardal Ebwy Fach a thargedau Llywodraeth Cymru. Diolchodd y Dirprwy Arweinydd i WRAP am eu cefnogaeth ac i Lywodraeth Cymru am ddyfarnu'r grant i ddatblygu'r safle.

 

Cefnogodd yr Aelodau Gweithredol ddatblygu'r ail HWRC, sef y weledigaeth ar gyfer y Fwrdeistref, a chytunodd y byddai'n mynd i'r afael â phroblemau tipio anghyfreithlon yng nghwm Ebwy Fach. Byddai'r safle newydd hefyd yn cynorthwyo'r Awdurdod wrth gyrraedd targedau Llywodraeth Cymru.

 

Croesawodd yr Arweinydd ddyfarniad y grant llawn gan Lywodraeth Cymru sy'n adlewyrchu hyder Llywodraeth Cymru yng Nghyngor Blaenau Gwent yng nghyswllt gwastraff ac ailgylchu. Teimlai'r Arweinydd y bu cyfarfodydd diweddar gyda'r Gweinidog yn gadarnhaol iawn ac roedd yn dda cael cydnabyddiaeth am y gwaith a wnaed.

 

Dymunai'r Arweinydd hefyd ddiolch i'r Rheolwr Gwasanaeth - Gwasanaethau Cymdogaeth am  ...  view the full Cofnodion text for item 12.

Eitemau er Penderfyniad - Materion Gwasanaethau Cymdeithasol

13.

Cynnig Gofal Plant Llywodraeth Cymru - Blaenau Gwent a Thorfaen pdf icon PDF 624 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Plant.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Plant.

 

Nododd Aelod Gweithredol Gwasanaethau Cymdeithasol yr adroddiad a thynnu sylw at y cynnydd a wnaed wrth gyflenwi Rhaglen Cynnig Gofal Plant Llywodraeth Cymru. Ychwanegwyd fod argymhelliad gan y Pwyllgor Craffu i'r Aelod Gweithredol ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i fynegi eu pryderon am yr uchafswm mewn rhifau a lleoliadau Dechrau'n Deg ar gyfer Blaenau Gwent gan fod llawer mwy o gymunedau a fyddai'n manteisio o gynlluniau Dechrau'n Deg.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef yr argymhellion o'r Pwyllgor Craffu fel y'u nodwyd.

 

Eitemau Monitro 0 Addysg

14.

Perfformiad Ysgolion 2019 ar gyfer: Diwedd y Cyfnod Sylfaen, Cyfnod Allweddol 2, Cyfnod Allweddol 3, Cyfnod Allweddol 4 (darpariaethol yn unig) pdf icon PDF 553 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

 

Rhoddodd Aelod Gweithredol Addysg drosolwg o'r adroddiad a dywedodd fod hwn yn adroddiad cadarnhaol i'r Awdurdod. Cytunodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg gyda'r sylwadau a dywedodd fod Blaenau Gwent yn perfformio'n debyg i awdurdodau eraill yn rhanbarth De Ddwyrain Cymru. Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod hyn oherwydd ymroddiad penaethiaid, athrawon a staff cymorth ysgolion.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad ac Opsiwn 1, sef derbyn y cynnwys a fformat yr adroddiad, gan nodi'r adborth o'r Pwyllgor Cymru, sy'n gosod y gofyniad i barhau i ddatblygu cynnwys a fformat yn unol â''r newidiadau yn y mesurau Cyfnod Allweddol 4 interim dros y blynyddoedd i ddod.