Agenda and minutes

Pwyllgor Craffu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent - Dydd Mercher, 29ain Tachwedd, 2023 2.00 pm

Lleoliad: MS Teams

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais am hynny.

 

Cofnodion:

Nodwyd na chafwyd unrhyw geisiadau am y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd. 

 

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Adroddwyd yr ymddiheuriadau dilynol am absenoldeb:-

 

Peter Farley

Cynghorydd E. Corten

Kathryn Peters

Steve O’Connell

 

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Derbyn unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau.

 

Cofnodion:

4.

Pwyllgor Craffu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent pdf icon PDF 83 KB

Ystyried penderfyniadau Pwyllgor Craffu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent a gynhaliwyd ar 7 Mehefin 2023.

 

(D.S. Mae’r penderfyniadau er pwyntiau cywirdeb yn unig)

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i benderfyniadau’r Pwyllgor a gynhaliwyd ar 7 Mehefin 2023.

 

Dywedodd y cafodd ymddiheurad y Cynghorydd Rose Seabourne ei adael allan o’r penderfyniadau.

 

CYTUNODD y Pwyllgor, gyda’r gwelliant uchod, i gofnodi’r penderfyniadau fel cofnod gywir o drafodion.

 

 

5.

Dalen Weithredu pdf icon PDF 46 KB

Derbyn y Ddalen Weithredu.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i’r Ddalen Weithredu.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i nodi’r Ddalen Weithredu.

 

6.

Adeiladu Gwent Decach: Gwella Tegwch Iechyd a’r Penderfynyddion Cymdeithasol pdf icon PDF 181 KB

Ystyried adroddiad yr Ymgynghorydd mewn Iechyd Cyhoeddus, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad Anna Pennington, Rheolwr Rhaglen Marmot Gwent, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Stuart Bourne, Ymgynghorydd mewn Iechyd Cyhoeddus, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i nodi cynnwys yr adroddiad a’r atodiadau a rhoddodd sylwadau yng nghyswllt y canfyddiadau a’r argymhellion.