Lleoliad: via MS Teams (if you wish to view this meeting please contact michelle.hicks@blaenau-gwent.gov.uk)
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.
Cofnodion: Nodwyd na chafwyd unrhyw geisiadau am y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau.
Cofnodion: Adroddwyd yr ymddiheuriadau dilynol am absenoldeb: Stephen Tiley - GAVO Peter Farley - GAVO Steve Morgan – Cyfoeth Naturiol Cymru Sarah King – Blaenau Gwent Scott Morris – Tân ac Achub De Cymru Cynghorydd Jen Morgan, Y.H. – Awdurdod Tân ac Achub Gwent
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Derbyn unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau.
Cofnodion: Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.
|
|
Pwyllgor Craffu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent PDF 193 KB Ystyried penderfyniadau y cyfarfod o Bwyllgor Craffu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent a gynhaliwyd ar 29 Mawrth 2023. (D.S. Cyflwynir y penderfyniadau er pwyntiau cywirdeb yn unig) Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i benderfyniadau’r Pwyllgor a gynhaliwyd ar 29 Mawrth 2023.
CYTUNODD y Pwyllgor i gadarnhau’r penderfyniadau.
|
|
Derbyn y ddalen weithredu..
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i’r Ddalen Weithredu.
CYTUNODD y Pwyllgor i nodi’r Ddalen Weithredu.
|
|
Drafft Gylch Gorchwyl ar gyfer Pwyllgor Craffu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent PDF 130 KB Ystyried adroddiad Sarah King, Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, Llywodraethiant a Phartneriaethau.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, Llywodraethiant a Phartneriaethau (Blaenau Gwent).
CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad a (i) chytuno ar y Drafft Gylch Gorchwyl (Atodiad 1); (ii) cytuno y byddai’r Cadeirydd am y flwyddyn gyntaf (Mehefin 2023-Mai 2024) yn gynrychiolydd a enwebir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, sef y Cynghorydd Tommy Smith (iii) cytuno y byddai’r Is-gadeirydd am y flwyddyn gyntaf (Mehefin 2023 – Mai 2024) yn gynrychiolydd a enwebir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, sef y Cynghorydd S. Williams (iv) cynnal cyfarfodydd ar sail hybrid, gan roi ystyriaeth i’r manylion ym mharagraff 5.3 fel sy’n dilyn, i gael ei adolygu mewn 12 mis. “Argymhellwyd pellach y cynigir cyfarfodydd y Pwyllgor Craffu ar sail hybrid, gyda’r opsiwn i gynnal y cyfarfodydd mewn ardaloedd Awdurdod Lleol eraill. Os cynhelir cyfarfodydd mewn ardaloedd Awdurdodau Lleol eraill, dylid nodi y byddai angen i drefniadau cefnogi y cyfarfod hwnnw ar gyfer defnyddio’r system o fewn yr Awdurdod Lleol hwnnw gael eu darparu gan staff gwasanaethau democrataidd y cyngor hwnnw, gan gydymffurfio â pholisïau cyfarfodydd aml-leoliad y cyngor unigol”. (v) Yn dilyn cytuno ar 6.1 (iv), cytunodd y Pwyllgor ar y lleoliad ar gyfer cyfarfod nesaf Pwyllgor Craffu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent a gynhelir ar 6 Medi 2023.
|
|
Drafft Fframwaith Rheoli Perfformiad Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent PDF 586 KB Ystyried y drafft fframwaith.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i’r Drafft Fframwaith Rheoli Perfformiad.
CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad a chraffu ar y drafft Fframwaith Rheoli Perfformiad a roddir yn Atodiad 1 a rhoi adborth cyn ei drafod gan Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent ar 22 Mehefin 2023.
|