Lleoliad: Ar MS Teams
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais am hynny.
Cofnodion: Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau am y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.
Cofnodion: Adroddwyd am yr ymddiheuriadau canlynol am absenoldeb:
Y Cynghorydd H. Cunningham, Dirprwy Arweinydd/Aelod Cabinet dros Leoedd a'r Amgylchedd, y Cynghorydd S. Edmunds, Aelod Cabinet dros Bobl ac Addysg; a'r Cyfarwyddwr Corfforaethol Dros Dro Gwasanaethau Cymdeithasol.
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Derbyn unrhyw ddatganiadau buddiant neu oddefebau.
Cofnodion: Ni adroddwyd am unrhyw ddatganiadau o fuddiant neu oddefebau.
|
|
Ystyried penderfyniadau cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 21 Chwefror 2024.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i benderfyniadau Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 21ain Chwefror, 2024.
PENDERFYNWYD derbyn y penderfyniadau fel cofnod cywir o'r trafodion.
|
|
Partneriaethau Llesiant Lleol Blaenau Gwent PDF 155 KB Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, Llywodraethiant a Phartneriaethau.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, Llywodraethu a Phartneriaethau.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad, a bod y Cabinet yn cymeradwyo'r adroddiad a'r atodiadau i'w cymeradwyo gan Bartneriaeth Llesiant Lleol Blaenau Gwent. (Opsiwn 1)
|
|
Rhyddhad Ardrethi Busnes - Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch 2024-25 PDF 146 KB Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad, a bod y Cabinet yn mabwysiadu’r cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch – 2024/25 ar ran y Cyngor, i ategu cynllun rhyddhad ardrethi dewisol y Cyngor. (Opsiwn 2).
|
|
Deddf Llywodraeth Leol 1972 Cynnig i Drosglwyddo Tir Pellach i Abertillery Bluebirds PDF 159 KB Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Adfywio a Chymunedol.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad, a chaniatáu i Abertillery Bluebirds gymryd rheolaeth ar y cae chwaraeon yn Heol Windsor er mwyn hwyluso defnydd gan aelodau iau'r clwb. (Opsiwn 1)
|
|
Rhaglen Gwella Ysgolion PDF 183 KB Ystyried adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Addysg.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg dros dro.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad fel y'i cyflwynwyd. (Opsiwn 2)
|
|
Strategol Addysg Ddigidol PDF 163 KB Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Addysg.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg dros dro.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad, a bod y Cabinet yn cymeradwyo'r Strategaeth. (Opsiwn 1)
|
|
Polisi Derbyn Blaenau Gwent 2025/26 ar gyfer Addysg Feithrin ac Addysg Statudol PDF 133 KB Ystyried adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Addysg.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg dros dro.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a'r Polisi. (Opsiwn 1)
|
|
Ffurflen Flynyddol 2022/23 Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru PDF 158 KB Ystyried adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Addysg.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg dros dro.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad, a chymeradwyo'r wybodaeth y manylwyd arno. (Opsiwn 1)
|